Guidance

Pencampwr y Gymraeg ym Maes Amddiffyn bywgraffiad a datganiad

Updated 1 November 2023

Ganed Fiona Scott yng Nghaerfaddon, Gwlad yr Haf.  Symudodd i bentref bach o’r enw Trecŵn, ger Abergwaun, Dyfed pan oedd hi’n 4 oed ac roedd hi’n byw yno nes oedd hi’n 9 oed pan symudodd ei rhieni i’r Alban fel rhan o’u gwaith gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.  Oherwydd ei chariad cynnar at Gymru yn ystod ei phlentyndod, dewisodd Fiona ymgymryd â’i gradd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin lle gellid dilyn cyrsiau gradd yn Gymraeg ac roedd hanes Cymru yn rhan o’r maes llafur. 

Ymunodd Fiona â’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1993 fel gradd weinyddol, yn gweithio i ddechrau yn yr adran recriwtio ar gyfer Swyddogion Milwrol sydd wedi ymddeol.   Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn ardal Caerfaddon a Bryste yn bennaf, gan gynnwys rheoli prosiectau, rheoli newid ac arbenigedd masnachol, cyn symud i weithio ym maes Llongau Tanfor Niwclear yn 2003.   Ar hyn o bryd, mae Fiona yn Brif Swyddog Gwybodaeth y Fenter Amddiffyn Niwclear ac mae’n gweithio yn yr Asiantaeth Darparu Llongau Tanfor ym Mryste.

Datganiad Fiona Scott

Pleser o’r mwyaf i mi yw cael fy mhenodi’n Hyrwyddwr y Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn.   Mae’r rôl hon yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynhwysiant ac i weithredu’n ddwyieithog yng Nghymru.  Ymhellach, mae’n cryfhau ein hatebolrwydd fel sefydliad cyhoeddus i sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Yn fy rôl fel Hyrwyddwr y Gymraeg, rwyf yn benderfynol o roi cyhoeddusrwydd i Gynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn, a chynrychioli’r cymunedau Cymraeg sy’n gweithio i ni, ac yn gweithio gyda ni, fel ein bod yn parhau i fod yn sefydliad dwyieithog effeithiol.