Data tryloywder

Gwybodaeth Rheoli hawliadau gwasanaeth ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder (MOJAS)

Cyhoeddwyd 23 Ebrill 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Cyflwyniad

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd statudol i benderfynu a ddylid dyfarnu iawndal i rywun sydd wedi dioddef camweinyddiad cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, yn unol â’r prawf a nodir yn adran 133 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.

Nid oes hawl awtomatig i gael iawndal ac mae’r Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder (MOJAS) yn un ffordd yn unig y gall unigolyn gael iawndal am euogfarn anghyfiawn, gydag opsiynau eraill yn cynnwys gwneud hawliad sifil. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais i MOJAS am iawndal ar gael yma.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r ceisiadau MOJAS a dderbyniwyd a’r holl benderfyniadau a wnaed ar geisiadau yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2026. Dylid ystyried yr wybodaeth a’r data a gyflwynir yn y ddogfen hon fel gwybodaeth reoli a gyflwynir i roi un fersiwn gydlynol o’r ystadegau hyn.

Roedd yn anochel fod rhai ceisiadau’n dal i fynd rhagddynt ar yr adeg y casglwyd yr ystadegau i’w cyhoeddi, ac felly ni fydd pob cais a gasglwyd fel rhan o’r data wedi cwblhau pob cam o’r broses.

Y rhesymeg dros gyhoeddi

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o ystadegau ar geisiadau a dderbyniwyd gan MOJAS a’r holl benderfyniadau a wnaed mewn perthynas â cheisiadau camweinyddu cyfiawnder o fis Ebrill 2016 ymlaen. Mae’r data a gasglwyd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026 wedi’i ychwanegu at y gyfres ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Mae’r adran yn rhyddhau’r ffigurau yn dilyn diddordeb y cyhoedd yn y pwnc a cheisiadau a wnaed yn dilyn sylw yn y cyfryngau. Mae cyhoeddi’r ystadegau hyn yn darparu set gydlynol o ddata sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd y ddogfen yn darparu mynediad cyfartal yn unol â’r data y gofynnir amdano gan y cyhoedd a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau sy’n datgan, “Dylai ystadegau a data fod ar gael yn gyfartal i bawb, yn hytrach nag i rai pobl cyn eraill”.

Beth gaiff ei gynnwys

Mae’r adroddiad yn ymwneud â blynyddoedd ariannol rhwng 2016/17 a 2025/26. Nid yw data o flynyddoedd cynharach wedi cael eu cynnwys gan na chawsant eu casglu’n gyson, ac nid yw ansawdd y data’n ddigonol i’w cyhoeddi. Mae’r adroddiad yn ymdrin â thaith achosion iawndal, y cyfanswm a dalwyd, a’r amser a gymerwyd i gyrraedd camau allweddol:

  1. Derbyniwyd cais
  2. Cais wedi’i asesu neu ei wrthod yn ystod brysbennu
  3. Gwnaed penderfyniad i ganiatáu neu i wrthod
  4. Asesiad annibynnol o Quantum
  5. Talwyd dyfarniad

Crynodeb o’r canfyddiadau

2025/26:

  • Daeth 70 o geisiadau i law am iawndal, a chafodd 58 o geisiadau eu gwrthod yn ystod y broses brysbennu.
  • O’r ceisiadau a wrthodwyd, cafodd dros draean (38%) eu gwrthod naill ai gan nad oedd euogfarn wedi’i gwneud neu ni chafodd yr euogfarn ei diddymu; mae hyn yn cymharu â 52% y llynedd. Gweler tabl 4 am ddadansoddiad manwl o’r rhesymau dros wrthod ceisiadau yn ystod y broses brysbennu.
  • Aeth 22 o geisiadau ymlaen i gael eu hasesu yn llawn i’w ystyried yn erbyn meini prawf adran 133. Cafodd chwe chais eu cymeradwyo a gwrthodwyd iawndal i 16 am beidio â bod yn gymwys o dan adran 133.
  • Talwyd cyfanswm o £160,000 mewn iawndal, nad yw’n cynnwys taliadau interim na chostau cyfreithiol. Bydd unrhyw daliadau interim a wneir yn y flwyddyn ariannol hon yn cael eu cynnwys yn y flwyddyn ariannol y gwneir y taliad terfynol ynddi.
  • Yn 2025/26, yr amser cyfartalog (cymedrig) rhwng y cais yn dod i law a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi yw 35 wythnos. Roedd hyn 11 wythnos yn gynt na’r flwyddyn flaenorol (Gweler tabl 3).

Rhwng 2016 a 2026

  • Talodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder £2,635,918 o iawndal o dan y Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder yn y cyfnod rhwng 2016/17 a 2025/26.
  • Mae’r swm a dalwyd yn amrywio rhwng £250 a £500,000. Dros y cyfnod, derbyniwyd 766 o geisiadau am iawndal am achosion o gamweinyddu cyfiawnder.
  • Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2026, aeth 184 o geisiadau ymlaen i gael eu hasesu yn llawn i’w ystyried yn erbyn meini prawf adran 133, a chafodd 598 ohonynt eu gwrthod yn ystod y broses brysbennu.

Nodiadau Esboniadol

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn annog ymgeiswyr i gynnwys dogfennau perthnasol gyda’u cais, ond yn aml derbynnir ceisiadau heb unrhyw ddogfennau ategol, a gall gymryd rhwng 4 a 12 wythnos i gasglu dogfennau llys fel y gellir asesu’r achos yn llawn.
  • Dyma pryd fydd cais yn cael ei frysbennu ac yn cael ei asesu gan weithiwr achos yn erbyn meini prawf adran 133:

    • Os oes gan yr ymgeisydd euogfarn droseddol
    • Os oes gan yr ymgeisydd euogfarn wedi’i diddymu y tu allan i gyfnod yr apêl; a
    • Bod y cais wedi’i wneud o fewn 2 flynedd ar ôl i euogfarn yr ymgeisydd gael ei diddymu neu ei maddau
  • Caiff cais ei wrthod yn ystod y broses brysbennu os nad yw’n bodloni un o’r meini prawf uchod.  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, achos adran 142 lle mae’r achos yn cael ei ailagor a bod camgymeriad yn cael ei gywiro yn y Llys Ynadon. Gellir tynnu cais yn ôl hefyd os yw ymgeisydd wedi cael setliad llawn a therfynol yn rhywle arall ar gyfer yr un materion sy’n codi o’r un set o amgylchiadau, a bydd egwyddorion adenilliad dwbl yn berthnasol.
  • Mae pob cais sy’n pasio’r broses frysbennu wedyn yn cael ei asesu gan weithiwr achos yn erbyn y meini prawf cyfreithiol ar gyfer iawndal o dan adran 133. Ni ellir rhoi iawndal oni bai fod euogfarn person wedi’i gwrthdroi neu ei maddau ar y sail bod ffaith newydd neu ffaith sydd newydd ei darganfod yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oedd wedi cyflawni’r drosedd, ac nad oedd peidio â datgelu’r ffaith newydd neu’r ffaith sydd newydd ei darganfod wedi’i phriodoli’n llwyr neu’n rhannol iddo.
  • Pan hysbysir ymgeisydd bod y prawf wedi’i fodloni, rhoddir hyd at 3 mis iddo (y gellir ei ymestyn) i gasglu tystiolaeth ategol i fesur y colledion sy’n deillio o’r achos o gamweinyddu cyfiawnder. Pennir swm yr iawndal wedyn gan Asesydd Annibynnol a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  
  • Cafodd y capiau iawndal eu cynyddu 30% ym mis Hydref 2025, sy’n golygu mai uchafswm yr iawndal y gellir ei dalu yw £650,000 i unigolion sydd wedi’u carcharu am hyd at 10 mlynedd a £1,300,000 i unigolion sydd wedi’u carcharu am 10 mlynedd a mwy.