Data tryloywder

Gwybodaeth Rheoli hawliadau gwasanaeth ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder (MOJAS)

Diweddarwyd 7 Awst 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

1. Ystadegau Camweinyddu Cyfiawnder:

1.1 Cyflwyniad

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd statudol i benderfynu pa un ai i ddyfarnu iawndal i rhywun sydd wedi dioddef camweinyddu cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, yn unol â’r prawf a nodwyd yn adran 133rDeddf Camweinyddu Cyfiawnder 1988. 

Nid oes hawl awtomatig i iawndal ac un llwybr yn unig yw’r Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder ble gall unigolyn dderbyn iawndal ar gyfer euogfarn ar gam, gydag opsiynau eraill yn cynnwys gwneud hawliad sifil. Mae fwy o wybodaeth am wneud cais am iawndal ar gael yn MOJAS

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o geisiadau a dderbyniwyd a phob penderfyniad a wnaed ar geisiadau yn y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2025. Nid yw data o flynyddoedd blaenorol wedi’i gynnwys gan nad oedd yn cael ei gasglu’n gyson, sy’n golygu nad yw’n cymharu’n uniongyrchol gyda’r cyfnodau diweddaraf. Dylai’r wybodaeth a’r data a gyflwynir yma ac yn y dogfennau atodol (ar gael yma: Gwybodaeth am reoli hawliadau -Gwasanaeth Ceisiadau Camgweinyddu Cyfiawnder iscarriage of Justice application service (MOJAS) - GOV.UK) gael ei hystyried fel gwybodaeth reoli a gyflwynir i roi un fersiwn gydlynol o’r ystadegau hyn.

Bydd rhai ceisiadau o reidrwydd yn dal ar y gweill ar y pwynt y cafodd yr ystadegau eu coladu ar gyfer eu cyhoeddi ac felly ni fydd pob cais a gasglwyd yn y data wedi cwblhau pob cam o’r broses.

1.2 Rhesymeg dros gyhoeddi

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi trosolwg o ystadegau ar geisiadau a dderbyniwyd a phob penderfyniad a wnaed ar gyfer camweinyddu cyfiawnder o Ebrill 2016.  Mae data ar gyfer Ebrill 2024 i Mawrth 2025 wedi’i ychwanegu i’r dilyniant data a gyhoeddwyd yn flaenorol.   

Mae’r adran yn cyhoeddi’r ffigyrau yn dilyn diddordeb y cyhoedd yn ypwnc a cheisiadau a wnaed yn dilyn sylw yn y cyfryngau. Mae cyhoeddi’r ystadegau hyn yn darparu set cydlynol o ddata ar gael i’r cyhoedd. Bydd  

y cyhoeddiad yn rhoi mynediad cyfartal yn unol â’r data y gofynnir amdano gan y cyhoedd a gyda’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau sy’n nodi, “Dylai ystadegau a data fod ar gael i bawb, dim eu rhoi i rai pobl cyn eraill.”

1.3 1.3 Sylw

Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r blynyddoedd ariannol o 2016/17 i 2024/25. Nid yw data o flynyddoedd blaenorol wedi’i gynnwys gan na chasglwyd yn gyson ac nid yw ansawdd y data yn ddigonol ar gyfer ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn cynnwys siwrnai achosion iawndal, y cyfanswm a dalwyd a’r amser a gymerwyd i gyrraedd camau allweddol:

  1. Derbyniwyd cais
  2. Cais wedi’i asesu neu ei wrthod yn ystod brysbennu
  3. Gwnaed penderfyniad i ganiatáu neu i wrthod
  4. Asesiad annibynnol o Quantum
  5. Talwyd dyfarniad

1.4 Crynodeb o ganfyddiadau

Yn 2024/25:

  • Derbyniwyd 103 o geisiadau ar gyfer iawndal. Aeth 27 cais ymlaen i asesiad llawn i’w hystyried yn erbyn meini prawf adran 133 a gwrthodwyd 77 yn ystod brysbennu.

  • O’r sawl a wrthodwyd, gwrthodwyd dros hanner (52%) gan nad oedd euogfarnau neu cafodd yr euogfarn ei dileu. Gweler Tabl 4 ar gyfer dadansoddiad manwl o resymau dros wrthod yn ystod brysbennu.

  • Talwyd £95,250 mewn iawndal nad yw’n cynnwys taliadau interim. Bydd unrhyw daliadau interim a wnaed yn y flwyddyn ariannol hon yn cael eu cynnwys yn y flwyddyn ariannol y gwnaed y taliad terfynol.

  • Yr amser ar gyfartaledd rhwng derbyn ceisiadau a’r canlyniad sy’n hysbys yn 2024/25 yw 39 wythnos. Mae hyn 4 wythnos yn gynt na’r llynedd Gweler Tabl 3

Rhwng 2016 a 2025: 

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi talu £2,475,918 o iawndal o dan y
  • Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder yn y cyfnod rhwng 2016/17 a 2024/25. 
  • Mae’r symiau a dalwyd yn amrywio rhwng £250 a £500,000. Dros y cyfnod, derbyniwyd 694 cais am iawndal ar gyfer camweinyddu cyfiawnder.  
  • O Ebrill 2016 i Mawrth 2025, aeth 162 cais ymlaen i asesiad llawn i gael eu hystyried yn erbyn meini prawf a133 a gwrthodwyd 538 yn ystod brysbennu.

1.5 Nodiadau Esboniadol

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn annog ceiswyr i gynnwys dogfennau perthnasol gyda’u cais, ond yn aml mae ceisiadau yn cael eu derbyn heb unrhyw ddogfennau cefnogol, a gall gymryd rhwng 4 a 12 wythnos i gasglu dogfennau llys er mwyn i’r achos gael ei asesu’n llawn.  

  • Bydd cais yn mynd drwy’r system brysbennu ac yn cael ei asesu gan weithiwr achos yn erbyn meini prawf adran 133 os oedd gan yr ymgeisydd: 

  • Euogfarn droseddol  

  • Cafodd yr euogfarn ei dileu mewn apêl allan o amser  

  • Cafodd y cais ei wneud o fewn 2 flynedd o adeg ddileu euogfarn neu’r adeg cafwyd maddeuant 

  • Caiff cais ei wrthod yn ystod brysbennu os na fydd yn bodloni un o feini prawf adran 133. Mae enghreifftiau yn cynnwys ble mae ymgeisydd wedi’i gael yn ddieuog yn y treial neu achos adran 142 ble mae’r achos yn cael ei ailagor ac mae gwall yn cael ei ddatrys yn y Llys Ynadon. Gall cais hefyd gael ei dynnu’n ôl os yw ceisydd wedi cyrraedd setliad llawn a therfynol mewn man arall ar gyfer yr un materion yn codi o’r un set o amgylchiadau a bydd egwyddorion adferiad dwbl yn berthnasol.   

  • Mae pob cais sy’n mynd drwy’r brysbennu yna’n cael ei asesu gan weithiwr achos fydd yn ystyried a yw unigolyn wedi cael gwrthdroi ei euogfarn neu wedi cael maddeuant ar y sail bod ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oeddent wedi cyflawni’r trosedd, ac nad oedd diffyg datgelu’r ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn gwbl neu’n rhannol briodol iddyn nhw. 

  • Pan fydd ymgeisydd yn cael ei hysbysu y bodlonwyd y prawf,maent yn cael hyd at 3 mis (y gellir ei ymestyn) i gasglu tystiolaeth gefnogol i fesur y colledion sy’n codi o’r camweinyddu cyfiawnder. Penderfynir ar swm yr iawndal gan Asesydd Annibynnol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.