Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y DU a Gweriniaeth Moldofa: cyfnewid cyfatebol o drwyddedau gyrru
Cyhoeddwyd 23 Gorffennaf 2025
Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfnewid cyfatebol o drwyddedau gyrru rhwng Llywodraeth Gweriniaeth Moldofa a llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon wedi’i lofnodi gan:
- ochr Moldofa gan y Llysgennad Ruslan Bolbocean
- ochr y DU gan Lilian Greenwood, Gweinidog dros Ddyfodol Ffyrdd, yr Adran Drafnidiaeth (DfT)
Dros yr wythnosau diwethaf, mae timau technegol o’r ddwy wlad wedi cwblhau mecanweithiau cydlynu a fydd yn galluogi proses gyfnewid esmwyth.
O ganlyniad, o 1 Awst 2025 ymlaen, bydd Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) y DU yn dechrau derbyn ceisiadau i gyfnewid trwyddedau gan ddinasyddion Gweriniaeth Moldofa.
Yn unol â darpariaethau’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae Gweriniaeth Moldofa wedi’i chynnwys yn rhestr y gwledydd y bydd y Deyrnas Unedig yn cymhwyso gweithdrefn symlach ar eu cyfer ar gyfer cyfnewid trwyddedau gyrru.
Felly, bydd dinasyddion Moldofa sy’n byw yn y Deyrnas Unedig sy’n bodloni’r amodau a nodir yn neddfwriaeth y DU yn gallu gwneud cais i gyfnewid eu trwydded yrru Moldofa am yr un gyfwerth yn y DU heb orfod pasio prawf gyrru theori nac ymarferol.
Dim ond aelod-wladwriaethau’r UE a 22 o wledydd eraill y tu allan i’r UE sy’n elwa o weithdrefn gyfnewid trwydded yrru symlach gyda’r DU.
I elwa o hyn, ac yn unol â chyfraith berthnasol y DU, rhaid cyflwyno’r cais am gyfnewid trwydded o fewn 5 mlynedd o’r dyddiad y daeth y deiliad yn breswylydd yn y DU. Ni ddylai’r ymgeisydd fod wedi bod yn byw yn y DU am fwy na 5 mlynedd ar adeg y cais am gyfnewid, rhagofyniad sy’n berthnasol i bob gwlad ddynodedig.
Bydd Gweriniaeth Moldofa hefyd yn derbyn cyfnewid trwyddedau gyrru a gyhoeddwyd yn y DU, gan gynnwys y rhai a ddelir gan ddinasyddion Moldofa a gafodd yr hawl i yrru tra’n byw yn y DU.
Mae llofnodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn cynrychioli neges gref o gefnogaeth gan y Deyrnas Unedig i Weriniaeth Moldofa ac yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniad gwerthfawr y mae dinasyddion Moldofa yn ei wneud i gymdeithas Prydain.