Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru: cymhwyso'r Bil Rheilffyrdd yng Nghymru
Yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru o ran sut y bydd Great British Railways a Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio ar redeg y rheilffyrdd yng Nghymru.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, fel sy’n ofynnol gan y Bil Rheilffyrdd.
Fel y nodir yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol, mae’r Memorandwm hwn yn nodi fframwaith ar gyfer sut y bydd llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio i gyflawni rheilffyrdd mwy integredig, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr – gyda rolau, cyfrifoldebau a llywodraethu tryloyw sydd:
- yn cryfhau cydweithio rhwng Trafnidiaeth Cymru a Great British Rail (GBR)
- yn hwyluso penderfyniadau lleol sydd wedi’u grymuso
- yn darparu llwyfan ar gyfer cynllunio system mwy cydlynol a chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr y rheilffyrdd