Hysbysiad preifatrwydd Cynlluniau Technegol Cig
Cyhoeddwyd 6 Tachwedd 2025
Mae’r hysbysiad hwn yn dweud wrthych am gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig er mwyn rheoli Cynlluniau Technegol Cig.
1. Diben prosesu
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i weinyddu a gorfodi’r fframwaith rheoleiddio a elwir ar y cyd yn Gynlluniau Technegol Cig. Mae hyn yn cynnwys:
- Cynllun Labelu Cig Eidion
- Dosbarthu Carcasau Cig Eidion
- Graddio Carcasau Moch
- Dosbarthu Carcasau Defaid
- Adrodd am brisiau pwysau marw ar gyfer cig eidion
- Adrodd am brisiau pwysau marw ar gyfer moch
- Adrodd am brisiau pwysau marw ar gyfer defaid
2. Pam y gallwn brosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon dros brosesu yw ‘tasg gyhoeddus’. Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan Erthygl 6 (1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus.
Caiff unrhyw brosesu o’r fath ei ategu gan sail gyfreithiol glir a dim ond pan fo’n hanfodol er mwyn cyflawni’r dasg honno y bydd yn digwydd.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan y canlynol:
- Rheoliad (CE) a Gymathwyd Rhif 1760/2000
- Rheoliad y Comisiwn (CE) a Gymathwyd Rhif 1825/2000 (fel y’i diwygiwyd)
- Rheoliad y Comisiwn (CE) a Gymathwyd Rhif 566/2008
- Rheoliad y Comisiwn (UE) a Gymathwyd Rhif 1308/2013 (fel y’i diwygiwyd)
-
Rheoliad (UE) a Gymathwyd Rhif 2017/625
-
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) a Gymathwyd Rhif 2017/1184
- Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) a Gymathwyd 2017/1182
-
Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo 2010 (fel y’u diwygiwyd)
-
Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011) (fel y’u diwygiwyd)
- Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Lloegr) 2018
- Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018
- Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Lloegr) 2025
- Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025
3. Pa ddata personol rydym yn eu prosesu
Y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:
- cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a rhif cymeradwyo’r lladd-dy
- enw a chyfeiriad llawn y gweithredwr
- os mai partneriaeth yw’r gweithredwr neu os oes ganddo gydberchnogion, enwau a chyfeiriadau llawn pob partner yn y bartneriaeth neu berchnogion y busnes
- os mai corff corfforedig yw’r gweithredwr, rhif cofrestru’r corff corfforedig
- enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a gweithle’r unigolion sy’n gwneud cais am drwydded ddosbarthu
Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.
4. Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill
Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.
5. Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio
Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol
Byddwn yn cadw eich data am saith mlynedd.
Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.
7. Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol
Os yw’ch lladd-dy yng Nghymru, gall data personol a ddarperir i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.
Gall data personol hefyd gael eu rhannu ag Adran Gyfreithiol y Llywodraeth mewn achosion lle nad yw cosbau ariannol wedi’u talu ac mae angen eu hadennill.
Os bydd arolygydd yn canfod achos posibl o dorri rheoliadau neu drosedd nad yw’n rhan o gylch gwaith yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, mae’n bosibl y byddwn yn anfon gwybodaeth bersonol ymlaen i’r Asiantaeth Safonau Bwyd neu gyrff gorfodi eraill.
8. Eich hawliau
Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
9. Sut i wneud cwyn
Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu sut i wneud cwyn.