Y Gronfa Twf Lleol (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon): Nodyn technegol
Diweddarwyd 21 Ebrill 2026
Yn berthnasol i Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru
Crynodeb
Mae’r nodyn technegol hwn yn ymwneud â’r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Diben: Mae cyllid ar gael hyd at fis Mawrth 2029 i sbarduno twf a gwella safonau byw ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Y Math o Gronfa: Dyrannol
Cymhwysedd: Fel yr amlinellir mewn Cynlluniau Buddsoddi ar gyfer pob gwlad, ac yn adrannau 3 a 4 isod.
Y cyllid sydd ar gael: £815.3 miliwn o 2026-27 i 2028-29, yn cynnwys:
- Gogledd Iwerddon - £129 miliwn
- Yr Alban - £139.9 miliwn
- Cymru - £546.5 miliwn
Dyddiadau pwysig:
Cyfnod cyllido: 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2029
1. Cyflwyniad
1.1. Yn Adolygiad Gwariant 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddull newydd targedig ar gyfer cyllid twf lleol, yn cynnwys cyfres o ymyriadau i sbarduno twf a chryfhau cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
1.2. Mae’r Gronfa Twf Lleol yn rhan o’r dull hwn, sy’n canolbwyntio ar gefnogi pob gwlad i gyflawni buddsoddiadau hirdymor ar gyfer twf economaidd parhaus. Trwy’r Gronfa hon, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau gweddnewidiol a fydd yn creu swyddi a chyfleoedd parhaol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
1.3. Mae dulliau o weithredu’r Gronfa Twf Lleol sy’n benodol i wledydd yn hanfodol. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am y Gronfa, ac yn yr Alban, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol ac mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda phum Partneriaeth Ranbarthol i gyflwyno’r Gronfa.
2. Amcanion y Gronfa
2.1. Mae’r Gronfa Twf Lleol yn cynnwys cymysgedd o gyllid cyfalaf a refeniw a gynlluniwyd i gefnogi ymdrechion i hybu cynnyrch domestig gros (GDP) ac incwm gwario gwirioneddol aelwydydd (RHDI) er mwyn cyflawni economïau gwell a safonau byw uwch ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy dair thema fuddsoddi gydgysylltiedig:
- Galluogi seilwaith twf lleol
- Cymorth i fusnesau
- Cymorth sgiliau a chyflogaeth
2.2. Amlinellir blaenoriaethau pob gwlad mewn Cynllun Buddsoddi, y cytunir arno gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd Cynllun Buddsoddi pob gwlad yn mynd i’r afael â’r themâu buddsoddi, ond bydd pob gwlad yn cynllunio blaenoriaethau ac amcanion unigol sy’n benodol i’w hanghenion a’i chyfleoedd.
3. Atebolrwydd am gyflwyno’r Gronfa
3.1. Ledled y Deyrnas Unedig, bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn goruchwylio’r Gronfa Twf Lleol yn gyffredinol ac mae’n gyfrifol am adrodd ar y Gronfa i Senedd y Deyrnas Unedig yn gyfnodol. Bydd pob gwlad yn gweithio mewn partneriaeth ag MHCLG i gyflawni’r swyddogaeth hon, a chynnal darlun o gynnydd ledled y Deyrnas Unedig. Bydd proses adolygu blynyddol hefyd yn helpu MHCLG i oruchwylio cynnydd ym mhob gwlad.
3.2. Yn yr Alban, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw’r cyfrifoldeb cyffredinol am y Gronfa. Bwriedir i’r Gronfa gael ei chyflwyno trwy bum Partneriaeth Ranbarthol – Dinas Glasgow, Caeredin a De-ddwyrain yr Alban, Dinasoedd Tay, Swydd Ayr a Dyffryn Forth. Bydd y partneriaid rhanbarthol hyn ar gyfer cyflwyno’r gronfa yn amlinellu blaenoriaethau mewn Cynlluniau Buddsoddi rhanbarthol unigol, y cytunir arnynt gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
3.3. Yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru a’i Swyddog Cyfrifyddu yn cynllunio a goruchwylio’r broses o gyflwyno’r Gronfa. Amlinellir manylion cynlluniau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Buddsoddi y cytunir arno gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn disgrifio sut bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyd cyfnod y rhaglen.
3.4. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a’u Swyddog(ion) Cyfrifyddu yn cynllunio a goruchwylio’r broses o gyflwyno’r Gronfa, heblaw am gyflwyno cymorth sgiliau a chyflogaeth a chyngor busnes yn 2026-27, a fydd yn cael eu rheoli gan MHCLG yn uniongyrchol[troednodyn 1] . Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn disgrifio sut bydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyd cyfnod y rhaglen.
4. Y cyllid ar gyfer pob gwlad
4.1. Mae cwantwm y Gronfa Twf Lleol a ddyrennir i bob gwlad fel a ganlyn*:
| Adnodd (£m) | Cyfalaf (£m) | Cyfanswm (£m) | |||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 26-27 | 27-28 | 28-29 | 25-26 | 26-27 | 27-28 | 28-29 | 25-26 | 26-27 | 27-28 | 28-29 | |
| Yr Alban | £15.8 | £15.5 | £11.0 | £- | £36.3 | £33.9 | £27.4 | £- | £52.1 | £49.4 | £38.4 |
| Cymru | £50.9 | £60.2 | £53.1 | £- | £116.9 | £132.6 | £132.7 | £- | £167.8 | £192.9 | £185.8 |
| Gogledd Iwerddon | £11.8 | £15.5 | £13.2 | £3.8 | £27.4 | £27.5 | £29.8 | £3.8 | £39.2 | £43.0 | £43.0 |
| Cyfanswm y Gronfa | *£78.6** | £91.2 | £77.4 | £3.8 | £180.6 | £194.1 | £189.8 | £3.8 | £259.2 | £285.3 | £267.2 |
1 Dangosir y ffigurau mewn £m ac maen nhw wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf. Efallai na fyddant yn gwneud cyfanswm o ganlyniad i dalgrynnu.
2 Mae’r cwantwm yn cynnwys rhan Gogledd Iwerddon o gyllid sy’n deillio o’r Rhaglen Balchder Bro (Cam 2) a Chronfa Effaith Balchder Bro ar gyfer 2025-26 i 2028-29, a gyflwynir yn rhan o’r Gronfa Twf Lleol.
4.2. Cyhoeddir y dyraniadau ar gyfer Partneriaethau Rhanbarthol yr Alban yn Y Gronfa Twf Lleol (Yr Alban): Nodyn ar fethodoleg dewis lleoedd a dyrannu.
4.3. Amlinellir y dyraniadau yng Nghymru yng Nghynllun Buddsoddi Cymru.
4.4. Bydd yr holl gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei reoli ar raddfa Gogledd Iwerddon.
5. Adrodd a monitro
5.1. Bydd pob arweinydd cronfa atebol yn cynllunio ei drefniadau adrodd a monitro ei hun er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau unigol. Ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mai a mis Tachwedd, gofynnir i arweinwyr cronfa atebol rannu adroddiad cynnydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig (gan ddefnyddio offeryn ar-lein) sy’n disgrifio:
- cynnydd wrth weithredu’r Gronfa Twf Lleol
- gwariant gwirioneddol ar draws tair thema’r Gronfa Twf Lleol yn ystod y cyfnod adrodd, yn seiliedig ar wariant gan sefydliadau sy’n cyflwyno gweithgareddau’r Gronfa
- metrigau gwirioneddol a gyflawnwyd ar draws tair thema’r Gronfa Twf Lleol
- gwariant yr ymrwymwyd iddo ar draws tair thema’r Gronfa Twf Lleol
- rhagolygon gwariant, allbynnau a chanlyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar draws tair thema’r Gronfa Twf Lleol
- rhagolygon gwariant, allbynnau a chanlyniadau ar gyfer cyfnod llawn y gronfa ar draws tair thema’r Gronfa Twf Lleol.
5.2. Yn ogystal, fel bod yr holl lywodraethau a phartneriaid yn gallu deall sut a ble y defnyddir y cyllid, gofynnir i arweinwyr cronfa atebol hefyd sicrhau bod gwybodaeth gryno ar gael am bob un o’r prosiectau a ariennir. Bydd hyn yn cynnwys: enw’r prosiect, y sefydliad sy’n ei gyflawni a pha fath o sefydliad, disgrifiad byr o’r prosiect, cyfanswm y gyllideb, cyfraniad y Gronfa, lleoliad y prosiect, dyddiad dechrau a gorffen, yn ogystal ag amcan y prosiect a’r math o brosiect.
5.3. Bydd y data a ddarperir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio:
- i oruchwylio cynnydd y Gronfa Twf Lleol. Bydd hyn yn galluogi MHCLG i ymgymryd â’i gyfrifoldeb i Senedd y Deyrnas Unedig.
- i roi gwybod i Weinidogion ac adrannau perthnasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, lle bo’n briodol, am gyflwyno’r Gronfa Twf Lleol a’i heffaith ar feysydd polisi a rennir.
- i gefnogi gwerthuso.
5.4. Ochr yn ochr â monitro ac adrodd ffurfiol, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac arweinwyr cronfa atebol hefyd yn cyfarfod bob tri mis i rannu cynnydd.
5.5. Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, bydd proses Adolygiad Blynyddol yn cael ei chynnal i ystyried perfformiad cyflwyno, gan gynnwys gwariant a thanwariant, a’r effaith ar ganlyniadau, materion llywodraethu a sicrwydd, dyraniadau ac unrhyw heriau neu gyfleoedd penodol yn ymwneud â chyflwyno. Gwneir taliadau ar gyfer 2027-28 a 2028-29 yn dilyn canlyniad y broses Adolygiad Blynyddol.
6. Metrigau cynnydd
6.1. Gofynnir i arweinwyr cronfa atebol gasglu data am fetrigau perthnasol y Gronfa Twf Lleol, fel yr amlinellir yn eu Cynlluniau Buddsoddi unigol. Rhoddir rhestr wedi’i chydgrynhoi o allbynnau a chanlyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yma, ond dim ond rhai ohonynt fydd yn berthnasol i bob Cynllun Buddsoddi: Allbynnau a chanlyniadau’r Gronfa Twf Lleol.
6.2. Dylai partneriaid cyflwyno neu ymgeiswyr i’r gronfa gyfeirio at arweinydd cronfa atebol pob gwlad a dogfennau cenedlaethol cysylltiedig, pan fyddant ar gael, ar gyfer manylion llawn pa fetrigau sy’n berthnasol. Fe allai’r rhain gynnwys metrigau sy’n benodol i wlad, yn ogystal ag allbynnau a chanlyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
7. Newidiadau i’r Cynllun Buddsoddi
7.1. Bydd Cynlluniau Buddsoddi yn amlinellu’r gweithgareddau sydd i’w hariannu a bydd pob arweinydd cronfa atebol yn gallu ymateb i newidiadau i’r amgylchedd gweithredu yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2029. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon ariannol yn ddangosol ac y gellir eu newid wrth i gynlluniau gael eu mireinio a’r broses gyflwyno fynd rhagddi.
7.2. Bydd newidiadau’n cael eu cyfleu fel mater o drefn trwy’r dulliau monitro, adrodd ac ymgysylltu rheolaidd a amlinellir yn adran 5. Er mwyn i Gynlluniau Buddsoddi allu ymateb i anghenion, ni fydd angen i newidiadau sydd islaw’r trothwyon a ddiffinnir ym mharagraffau 7.3 i 7.4 gael eu cymeradwyo ymlaen llaw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
7.3. Mae newid sylweddol i’r hyn a gyflwynir yn golygu ailbroffilio cyllid un thema Cronfa Twf Lleol (neu’r hyn sy’n cyfateb iddi) unwaith neu sawl gwaith, sy’n newid cyfanswm y gwariant a gynlluniwyd mewn thema 30% neu fwy. Meincnodir newidiadau yn erbyn y rhagolwg cychwynnol a ddarparwyd yn y Cynlluniau Buddsoddi cytunedig. Bydd angen ystyried effaith unrhyw newidiadau ar fetrigau’r Gronfa. Pan fydd newid sylweddol eisoes wedi cael ei wneud, bydd hynny’n darparu’r meincnod.
7.4. Bydd angen i unrhyw ailbroffilio newydd neu ddadleuol[troednodyn 2] sy’n newid cyfanswm y gwariant a gynlluniwyd mewn thema rhwng 15% a 30% gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd trwy drafodaethau rheolaidd neu adolygiad blynyddol.
7.5. Bydd y trothwyon hyn hefyd yn berthnasol i’r Partneriaethau Rhanbarthol yn yr Alban i optimeiddio cyflwyno. Mater i Lywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon fydd ystyried caniatáu unrhyw hyblygrwydd i’w partneriaid cyflwyno yn rhan o reoli’r Gronfa.
8. Taliadau
8.1. Bydd dyraniad Cronfa Twf Lleol arweinwyr cronfa atebol yn cael ei dalu iddynt bob blwyddyn. Bydd pob arweinydd cronfa atebol yn ystyried trefniadau talu gyda’u partneriaid cyflwyno yn unol â’u systemau a’u prosesau eu hunain.
8.2. Mae’r adran adrodd a monitro yn disgrifio’r broses adolygu blynyddol a fydd yn llywio’r taliad blynyddol i’r arweinwyr cronfa atebol. Fe allai’r broses hon arwain at newidiadau i broffiliau talu, er enghraifft os bydd tanwariant sylweddol yn erbyn y proffil gwreiddiol.
8.3. Bydd unrhyw danwariant a adroddir ar ddiwedd cyfnod y rhaglen ym mis Mawrth 2029 yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
9. Costau cymwys
9.1. Caiff pob un o’r arweinwyr cronfa atebol amlinellu cymhwysedd costau i gyrff cyflawni a sefydliadau sy’n cyflawni prosiectau yn seiliedig ar eu prosesau, arferion gorau, a threfniadau llywodraethu eu hunain.
9.2. Er mwyn sicrhau gwerth am arian ac effaith, bydd angen i bob arweinydd cronfa atebol ystyried a phenderfynu ar y cymysgedd priodol o gyllid o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
9.3. Caiff arweinwyr cronfa atebol ddyrannu rhan o’u Cronfa Twf Lleol i weinyddu’r Gronfa. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf i’r cymunedau a gefnogir, dylai hyn fod yn lleiafswm y gost wirioneddol sy’n ofynnol. Fel canllaw, ni ddylai hyn fod yn fwy na 4% o’r dyraniad cyffredinol, fel arfer.
9.4. Diffinnir costau cyfalaf yn unol â’r arweiniad, y cyfarwyddiadau a’r arferion cyfrifyddu safonol a ddarperir gan bob un o’r arweinwyr cronfa atebol.
9.5. Nid yw’r costau canlynol yn gymwys ar gyfer cymorth:
- lobïo, diddanu, deisebu neu herio penderfyniadau am dâl, sy’n golygu defnyddio’r Gronfa i lobïo (trwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn ymgymryd â gweithgareddau y bwriedir iddynt ddylanwadu ar y Senedd, y llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol, neu sy’n ceisio dylanwadu arnynt, gan gynnwys derbyn cyllid; neu geisio dylanwadu ar weithredu deddfwriaethol neu reoleiddiol
- taliadau am weithgareddau plaid wleidyddol neu weithgareddau o natur grefyddol yn unig
- Treth ar Werth (TAW) adenilladwy gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Mae TAW anadferadwy yn gost gymwys o dan y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- anrhegion, neu daliadau am anrhegion neu roddion
- dirwyon statudol, cosbau neu ddirwyon troseddol
- taliadau am waith neu weithgareddau y mae gan yr awdurdod lleol arweiniol, cyflawnwr y prosiect, y buddiolwr terfynol, neu unrhyw aelod o’u partneriaeth ddyletswydd statudol i ymgymryd â nhw, neu sy’n cael eu hariannu’n llwyr trwy ffynonellau eraill
- hapddigwyddiadau a rhwymedigaethau dibynnol
- difidendau
- drwgddyledion, costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr, neu ddirwyn cwmni i ben
- treuliau mewn perthynas ag ymgyfreitha, diswyddo annheg neu iawndal o fath arall
- costau a gafwyd gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu at gynlluniau pensiwn preifat
10. Asedau cyfalaf
10.1. Os defnyddir y Gronfa Twf Lleol i ddatblygu, creu, prynu neu wella asedau cyfalaf, yn enwedig tir ac eiddo (ond nid yn gyfyngedig iddynt), dylid sefydlu rheolaethau a threfniadau monitro priodol sy’n sicrhau bod yr ased yn cael ei ddefnyddio at y diben y dyfarnwyd cyllid ar ei gyfer am gyfnod rhesymol. Dylai rheolaethau a monitro ganiatáu ar gyfer adennill cyllid gan y derbynnydd os gwerthir asedau neu os rhoddir y gorau i’w defnyddio at ddibenion y darparwyd cyllid ar eu cyfer, yn llawn neu’n rhannol.
11. Sicrwydd
11.1. Cydnabyddwn y bydd gan bob arweinydd cronfa atebol y trefniadau llywodraethu a sicrwydd angenrheidiol i sicrhau y bydd yr holl rwymedigaethau a chydsyniadau cyfreithiol a statudol eraill yn cael eu dilyn, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, rheoli cymorthdaliadau, caffael, cydraddoldeb a diogelu data.
12. Asesu Risg Twyll a Diwydrwydd Dyladwy
12.1. Bydd arweinwyr cronfa atebol hefyd yn sicrhau bod cyrff cyflawni’n rheoli risg twyll a diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â thrydydd partïon sy’n derbyn arian gan y Gronfa Twf Lleol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y bodlonir y safonau gofynnol canlynol:
- dilyn Safonau Swyddogaethol Grantiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu lywodraethau datganoledig ar Asesu Risg Twyll a diwydrwydd dyladwy
- cynnal Asesiadau Risg Twyll a diwydrwydd dyladwy ar lefel sy’n briodol i bob prosiect unigol yn dibynnu ar risg
- sicrhau bod arian y Gronfa Twf Lleol yn cael ei wario yn unol â pholisi a gweithdrefn atal twyll a diwydrwydd dyladwy effeithiol.
13. Brandio a chyhoeddusrwydd
13.1. Ym mhob man, bydd y Gronfa Twf Lleol yn defnyddio brandio ‘Ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig’, ochr yn ochr ag unrhyw frandio a ddefnyddir mewn gwledydd penodol. Disgwyliwn i arweinwyr cronfa atebol ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y bo angen, ar gyfathrebu rhagweithiol ac adweithiol ynglŷn â’r gronfa, i gynyddu ymwybyddiaeth o effaith y Gronfa ar gymunedau ledled y Deyrnas Unedig i’r eithaf.
13.2. Bydd arweinwyr cronfa atebol yn arwain cyfathrebu a chyhoeddusrwydd ar gyfer eu gweithgareddau Cronfa Twf Lleol unigol, gan sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gweld y gweithgarwch hwn yn glir.
14. Gwerthuso
14.1. Caiff arweinwyr cronfa atebol ddefnyddio arian y Gronfa Twf Lleol i dalu am weithgarwch gwerthuso, fel yr amlinellir yn eu Cynllun Buddsoddi cytunedig. Lle y bo’n briodol, dylid ymgynghori â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i chynnwys mewn gweithgarwch gwerthuso.
14.2. Lle bo’n briodol, efallai y gofynnir i arweinwyr cronfa atebol gymryd rhan mewn sesiynau wedi’u hwyluso, gan gynnwys dysgu gan gymheiriaid ac adolygiadau ehangach yn ystod oes y rhaglen.
15. Dolenni perthnasol
15.1. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt perthnasol ar gyfer pob gwlad ar gael trwy’r dolenni canlynol:
15.2. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd Swyddfa Gogledd Iwerddon a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gweithio mewn partneriaeth i gynllunio a chyflwyno’r Gronfa Twf Lleol yng Ngogledd Iwerddon. Bydd Cynllun Buddsoddi ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei lunio gan Swyddfa Gogledd Iwerddon a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn dilyn ymarfer ymgynghori a fydd yn lansio yn y Gwanwyn 2026.
15.3. Gellir anfon unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r dull cyffredinol o gyflwyno’r Gronfa Twf Lleol ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig at LGFSWNI@communities.gov.uk.
-
Amlinellir y trefniadau ar gyfer cyflawni’r prosiectau hyn mewn cytundebau rhwng MHCLG a chyflawnwyr y prosiectau. ↩
-
Ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ystyrir bod newydd neu ddadleuol yn golygu newid i’r Cynllun Buddsoddi i gyflwyno gweithgareddau sydd ymhell y tu hwnt i gwmpas neu fwriad y Gronfa, a/neu y disgwylir iddynt gynnwys risgiau cyfreithiol sylweddol. ↩