Guidance

Taflen 01- Cyflwyniad i RAIB

Published 1 October 2012

1. Beth yw RAIB?

Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yw’r corff annibynnol i ymchwilio i ddamweiniau rheilffordd ar gyfer y DU.

Mae RAIB yn ymwneud ag ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau ar:

  • rwydweithiau rheilffordd cenedlaethol ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon
  • twnnel y Sianel (ar y cyd â’r corff cyfatebol yn Ffrainc)
  • systemau tanddaearol Llundain a Glasgow a systemau metro eraill
  • tramffyrdd
  • rheilffyrdd treftadaeth (gan gynnwys systemau leiniau bach cul sydd dros 350mm o led)
  • systemau sy’n cael eu gyrru ar geblau o 1km neu fwy

Diben ymchwiliad RAIB yw gwella diogelwch ar reilffyrdd, ac atal damweiniau eraill rhag digwydd.

Mae RAIB yn cyflawni hyn trwy ddynodi achos damweiniau ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill a wnaeth gyfrannu at y digwyddiad neu a wnaeth y canlyniadau’n waeth, fel ffactorau technegol neu weithredol neu rai’n deillio o systemau rheoli.

Mae ymchwiliadau RAIB yn hollol annibynnol ac maent yn canolbwyntio’n unig ar wella diogelwch. Nid yw RAIB yn rhannu bai neu atebolrwydd nac yn gorfodi’r gyfraith nac yn erlyn.

2. Pam y ffurfiwyd RAIB?

Argymhellwyd ffurfio corff i ymchwilio’n annibynnol i ddamweiniau rheilffordd gyda’r nod o wella diogelwch yn adroddiad ymchwiliad yr Arglwydd Cullen ar ddamwain rheilffordd Ladbroke Grove ym 1999.

Sefydlwyd RAIB gan Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003. Rhoddodd y Ddeddf yr hawl i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddarparu’n fanwl mewn rheoliadau - Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005 - am bwerau a dyletswyddau RAIB, cwmpas ei waith a’i ymwneud â phobl eraill a chyrff sy’n ymwneud â damweiniau rheilffyrdd. Y Rheoliadau oedd yn galluogi RAIB i ddod yn weithredol.

Trwy sefydlu RAIB mae’r DU hefyd yn cyflawni ei dyletswydd i ddarparu corff ymchwilio annibynnol i ddamweiniau rheilffyrdd dan Gyfarwyddeb Diogelwch Rheilffyrdd Ewrop (2004/49/EC).

3. Sut mae RAIB wedi ei drefnu?

Mae RAIB yn annibynnol ar y diwydiant rheilffyrdd, rheoleiddwyr diogelwch a chyrff erlyn. Yn yr un modd â’r Canghennau Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr a Morol (AAIB a MAlB) mae RAIB yn rhan o’r Adran Drafnidiaeth, ond mae’n swyddogaeth annibynnol: mae’r Prif Arolygydd yn rhoi adroddiadau ar ymchwiliadau i ddamweiniau yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

4. Ble mae canolfannau RAIB?

Mae gan RAIB ganolfannau gweithredol yn Derby a Woking. Mae’r lleoliadau hyn yn galluogi Ymchwilwyr RAIB i ymateb mor gyflym â phosibl i ddamweiniau sy’n digwydd yn unrhyw ran o’r DU.

5. Pa ddamweiniau y mae RAIB yn ymchwilio iddynt?

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i RAIB ymchwilio i bob damwain rheilffordd sy’n ymwneud â direilio neu wrthdrawiad sy’n arwain, neu a all arwain at:

  • farwolaeth un unigolyn o leiaf
  • anaf difrifol i bump neu ragor o bob
  • ddifrod sylweddol i gerbydau, yr isadeiledd neu’r amgylchedd

Gall RAIB hefyd ymchwilio i ddigwyddiadau eraill sydd ag oblygiadau i ddiogelwch ar y rheilffyrdd, gan gynnwys y rhai a allai, mewn amgylchiadau ychydig yn wahanol, fod wedi arwain at ddamwain.

6. Pwy sy’n hysbysu RAIB am ddamwain?

Pan fydd damwain yn digwydd, mae’r ddyletswydd i hysbysu RAIB ar gyrff y diwydiant rheilffyrdd (rheolwyr isadeiledd rheilffordd, gweithredwyr rheilffyrdd neu’r rhai sy’n cynnal a chadw) y mae eu staff neu eu heiddo yn rhan o’r ddamwain neu ddigwyddiad.

7. Sut mae RAIB yn ymateb i’r hysbysiad?

Os bydd damwain neu ddigwyddiad yn digwydd, bydd RAIB yn penderfynu ar ei ymateb, a bydd y canlynol yn dylanwadu arno:

  • a yw’r ymchwiliad yn orfodol dan y gyfraith
  • a oes tystiolaeth bwysig yn y fan a’r lle
  • a yw’n rhan o duedd
  • y problemau diogelwch dan sylw

Bydd yr ymateb yn amrywio o anfon Arolygwyr i’r safle ar unwaith, presenoldeb a dilyn wedi i’r isadeiledd gael ei glirio (ee depot cynnal a chadw), hyd at oruchwylio cyfarwyddo eraill wrth iddynt gynnal ymchwiliad.

Gall RAIB benodi eraill i’w cynorthwyo i ymchwilio, gan gynnwys Asiantau Achrededig, a all gynorthwyo i gofnodi tystiolaeth ar safle’r ddamwain, a gwasanaethau arbenigol.

Ceir gwybodaeth fanylach am Asiantau Achrededig yn Nhaflen 03 - An introduction to Accredited Agents. Lawrlwythwch o www.gov.uk/raib

8. Pwy sy’n cynnal ymchwiliadau RAIB?

Er mwyn cynnal ei ymchwiliadau mae RAIB wedi penodi a hyfforddi Arolygwyr a recriwtiwyd o’r diwydiant rheilffyrdd a chyrff ymchwilio eraill. Maent yn brofiadol,mae ganddynt gymysgedd eang o sgiliau ar draws y diwydiant rheilffyrdd ac maent wedi eu hyfforddi mewn technegau ymchwilio. Mae gan holl arolygwyr RAIB gerdyn gwarant.

9. Beth sy’n digwydd ar leoliad y ddamwain?

Après un accident, plusieurs enquêtes peuvent être Yn dilyn damwain, efallai y bydd nifer o ymchwiliadau yn cael eu cychwyn gan gyrff gwahanol. Mae amcanion yr ymchwiliadau hyn yn wahanol.

Mae RAIB yn cynnig ffocws ac arweiniad i’r ymchwiliad technegol i achosion a chanlyniadau’r ddamwain. Ond nid yw rôl yr heddlu, Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ariannol (COFPS) yn yr Alban, na’r Awdurdod Diogelwch [footnote 1] yn cael ei newid gan fodolaeth RAIB. Gall yr asiantaethau hyn ymchwilio i ddarganfod os torrwyd y gyfraith.

Mae ymchwiliadau RAIB fel arfer yn golygu bod Arolygwyr yn ymweld â lleoliad y ddamwain, yn asesu beth a ddigwyddodd ac yn casglu’r dystiolaeth sy’n angenrheidiol i ddarganfod achos y ddamwain.

Fel rhan o’r gwaith o gasglu tystiolaeth o’r lleoliad, gall Arolygwyr RAIB gymryd datganiadau gan bobl oedd yn dystion i’r ddamwain.

10. Pa dystiolaeth y mae RAIB yn chwilio amdani?

Gall tystiolaeth am achos y ddamwain ddeillio o nifer o wahanol ffynonellau gan gynnwys y trenau, y traciau, y system signalau a rhannau eraill o’r isadeiledd, neu ddogfennau cynnal a chadw, dylunio a hyfforddi.

Gall hefyd fod ar ffurfiau gwahanol, gan gynnwys offer wedi’i ddifrodi, data o offer monitro ar drenau ac yn y system signalau, neu gofnodion parthed gweithgareddau a chynnal a chadw.

11. Pwy sy’n gyfrifol am dystiolaeth?

Bydd RAIB yn rhannu tystiolaeth ddiriaethol a dogfennol parthed yr ymchwiliad â chyrff eraill – gan gynnwys yr heddlu, COPFS a’r Awdurdod Diogelwch [footnote 1]. Ond, ni fydd yn datgelu tystiolaeth a gafwyd gan bobl sydd wedi rhoi datganiadau tystion i’r arolygwyr i unrhyw un.

Gellir cael gwybodaeth fanylach am y modd y mae RAIB yn gwarchod manylion am dystion a’u datganiadau yn Nhaflen 02 - Eich Datganiad Tyst. Lawrlwythwch o www.gov.uk/raib

12. Beth yw pwerau RAIB?

Mae pwerau RAIB a’i Arolygwyr – a’r fframwaith ar gyfer rhoi adroddiadau ar ddamweiniau ac ymchwilio iddynt – yn cael eu nodi yn y Ddeddf Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003 ac yn y Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005.

Mae gan Arolygwyr RAIB y pŵer i:

  • gael mynediad i eiddo, tir neu gerbydau’r rheilffyrdd
  • atafaelu unrhyw beth sy’n ymwneud â’r ddamwain a gwneud cofnodion
  • gofyn am fynediad at gofnodion a gwybodaeth a’u datgelu
  • ei gwneud yn ofynnol i bobl ateb cwestiynau a rhoi gwybodaeth am unrhyw beth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad

13. Sut mae RAIB yn gadael i bobl wybod am fanylion eu hymchwiliadau?

Mae RAIB yn cyhoeddi adroddiadau ar bob damwain y mae’n ymchwilio iddi. Gallant fod yn adroddiadau ffurfiol ar yr union ddamwain neu ddigwyddiad, neu mewn cyhoeddiadau cyfnodol pan nad oes materion diogelwch sy’n gofyn am sylw ar frys.

Gall RAIB gynhyrchu adroddiad interim yn ystod ymchwiliad pan fydd am gyfleu gwybodaeth yn gynnar a all fod yn ddefnyddiol i eraill. Bydd y cyhoeddiadau hyn ar gael i bawb ar wefan RAIB.

Yn ychwanegol, gall RAIB gyhoeddi cyngor diogelwch yn fuan ar ôl y ddamwain neu ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad os bydd yn darganfod, yn ystod yr ymchwiliad, bod rhaid gwneud rhywbeth ar frys i wneud y rheilffyrdd yn ddiogelach.

14. Sut y mae’r adroddiadau’n effeithio ar y diwydiant rheilffyrdd?

Fel arfer, mae adroddiadau RAIB yn gwneud argymhellion ar y camau y maent yn credu sy’n angenrheidiol i wella diogelwch ar y rheilffyrdd. Rhaid cyfeirio’r argymhellion hyn, yn ôl y gyfraith, at yr awdurdodau diogelwch perthnasol a chyrff cyhoeddus eraill fel sy’n briodol er nad nhw efallai, fydd yn gweithredu arnynt yn y pen draw.

Cyfrifoldeb yr awdurdodau diogelwch yw sicrhau bod argymhellion RAIB yn cael eu hystyried gan yr un a fydd yn gweithredu yn y pen draw a’u bod yn gweithredu’n briodol. Gall argymhellion RAIB gael eu cyfeirio at gwmnïau rheilffyrdd, cyrff y llywodraeth ac unrhyw un arall sydd â rôl sy’n effeithio ar y ffordd y mae rheilffyrdd yn cael eu rhedeg.

15. Sut gallaf gysylltu â RAIB?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am RAIB neu ei ymchwiliadau, cysylltwch â RAIB gan ddefnyddio’r wybodaeth isod.

Gellir dod o hyd i Gyfarwyddyd ar y Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005 ar www.gov.uk/raib

  1. Yr Awdurdodau Diogelwch yn y DU yw: y Swyddfa rheilffyrdd a ffyrdd (ORR); Adran Gogledd Iwerddon (NID); a’r Comisiwn Rhynglywodraethol (IGC).  2