Key principles of Prevent (accessible Welsh translation)
Published 23 February 2026
Prif Egwyddorion Prevent
Dyma egwyddorion allweddol Prevent isod:
1. Mae Prevent yn amcannu i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth[footnote 1]. Dylid gwneud atgyfeiriad os oes pryder y gallai person fod ar lwybr a allai arwain at derfysgaeth. Dylai’r bobl sy’n gwneud atgyfeiriadau ddefnyddio beirniadaeth broffesiynol, wedi’i chefnogi gan hyfforddiant priodol a’r ffurflen atgyfeirio genedlaethol, NRF[footnote 2]. Yn debyg i unrhyw fecanwaith ddiogelu, mae’n llawer gwell derbyn atgyfeiriadau sy’n troi allan i fod yn rhai nad oes angen pryderu yn eu cylch nag i rywun sydd angen cymorth go iawn gael eu methu.
2. Prevent yw’r unig raglen sy’n cynnig rheolaeth a chymorth amlasiantaeth gyda risg o radicaliaeth. Mae’n cynnig ymyriadau i dynnu pobl oddi ar lwybr a allai arwain at derfysgaeth, a gall gyflenwi a rhedeg ochr yn ochr â phrosesau diogelu eraill. Pan ystyrir bod gwasanaethau eraill yn dapraru cymorth cynhwysfawr ac nad oes angen ymyrraeth ychwanegol, dylai Prevent ddarparu rheolaeth achos o hyd, gydag asesiad risg rheolaidd o radicaleiddio.
3. Er bod ideoleg yn ystyriaeth bwysig, nid yw ideoleg glir a hawdd ei hadnabod yn orfodol er mwyn gwneud neu fabwysiadu atgyfeiriad Prevent. Fel y nododd y Comisiynydd Prevent Annibynnol, ‘nid yw glynu at ideoleg eithafol yn amod angenrheidiol na digonol yn y gyfraith ar gyfer myendiad i Prevent neu Channel’[footnote 3]. Am ei bod yn rhaglen ymyrraeth gynnar, mae’n rhaid i Prevent ystyried rhagduedd i ideoleg derfysgol neu gyfranogaeth mewn terfysgaeth, yn hytrach na chyfyngu Prevent i achosion lle mae ideoleg derfysgol wedi cydio yn barod[footnote 4]. I rai pobl, efallai y bydd angen treulio amser ac adeiladu ymddiriedaeth â phobl broffesiynol cyn i ideoleg ddod yn glir. Mae’n bwysig ystyried y gallai mudiadau sy’n dod i’r amlwg esblygu i fod yn gyfatebol â’r diffiniad o derfysgaeth, ac aros yn effro i fygythiadau posibl newydd.
4. Mae pob achos yn unigryw a dylid ystyried amrediad o ystyriaethau a ffactorau er mwyn ffurfio darlun mwy eglur. Mae’r ffactorau hyn wedi eu nodi yn y ffurflen atgyfeirio genedlaethol (NRF). Gallai elfennau agored i niwed person fod yn berthnasol neu’n amherthnasol i’w rhagduedd i radicaliaeth ac i’r agwedd ymyrraeth gynnar sy’n angenrheidiol i’w tynnu nhw oddi wrth radicaleiddiad. Er enghraifft, dylid ystyried elfennau agored i niwed, fel iechyd meddwl gwael neu niwroamrywiaeth, yn ffactorau cyd-destunol sydd – neu sydd ddim – yn effeithio efallai ar risg rhywun. Pan mae pryderon Prevent yn bresennol, NI CHEIR disytyru’r rhain neu eu beio ar iechyd meddwl neu niwroamrywiaeth y person Efallai fod gan y gwasanaethau iechyd meddwl ran i’w chwarae mewn cefnogi pobl sydd ar Prevent, ond nid yw rheoli risg o radicaleiddiad yn rhan o’u cylch gwaith. Yn wahanol i wasanaethau diogelu neu iechyd meddwl, bydd Prevent yn asesu’r risg o derfysgaeth ac yn ystyried y niwed gan y person, yn ogystal ag i’r person.
5. Os ystyrir bod person mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, dylid gwneud neu fabwysiadu atgyfeiriad Prevent i Channel. Os nad oes pryder bod person mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, dydyn nhw ddim yn gymwys i gael cymorth Prevent. Ar gyfer atgyfeiriadau sy’n cael eu hasesu fel rhai nad ydynt yn berthnasol i dderbyn cymorth Prevent, dylid ystyried gwasanaethau cefnogi lleol amgen.
Gwneud atgyfeiriad
6. Wrth benderfynu a ydynt am wneud atgyfeiriad ai peidio, dylai gweithwyr proffesiynol rheng flaen ystyried a ydynt yn credu bod y person y maent yn pryderu yn eu cylch ar lwybr a allai arwain at derfysgaeth. I gael rhagor o wybodaeth am derfysgaeth a radicaliaeth, gwnewch y canlynol:
- Cwblhau hyfforddiant dyletswydd Prevent ar-lein gan GOV.UK sy’n rhad ac am ddim a/neu geisio hyfforddiant wyneb yn wyneb gan eich arweinydd Prevent lleol neu berson cyfatebol.
- Ceisio cyngor cyffredinol gan eich arweinydd Prevent lleol neu berson cyfatebol.
7. Dylid defnyddio’r weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu. Mae hyn yn cynnwys trafod eich pryder yn y sefydliad, gyda’r person sy’n gyfrifol am ddiogelu, megis yr arweinydd diogelu dynodedig (DSL). Mae gwirio cyn rhannu pryder yn ffordd o sicrhau eich bod wedi casglu cymaint o wybodaeth berthnasol ag y gallwch cyn gwneud eich atgyfeiriad.
8. Dylid cyflwyno atgyfeiriadau ar y ffurflen atgyfeirio genedlaethol, NRF sydd ar gael gan eich awdurdod lleol neu heddlu lleol. Mae’r NRF yn helpu pobl broffesiynol i esbonio eu pryder ac mae’n cynnwys ffactorau i’w hystyried yn rhan o atgyfeiriad. Mae hefyd yn helpu swyddogion arbenigol yr heddlu i asesu atgyfeiriadau’n gyson.
9. Dylai swyddogion arbenigol yr heddlu ddefnyddio’r Fframwaith Asesiad Prevent (PAF) i danategu’r penderfyniad a ddylai atgyfeiriad gael ei symud yn ei flaen. Mae’r PAF wedi bod mewn defnydd yn genedlaethol ers Ionawr 2025 ac mae’n ystyried amrywiol ffactorau, yn cynnwys ideoleg, ond nid oes unrhyw un ffactor unigol wedi ei fandadu fel un gorfodol er mwyn i atgyfeiriad gael ei ystyried a’i fabwysiadu i dderbyn cymorth Prevent.
10. I aelodau’r cyhoedd sydd â phryderon y gallai bod rhywun yn cael ei radicaleiddio i derfysgaeth neu i gefnogi terfysgaeth, mae’r wefan ACT Early yn cynnig cyngor ac arweiniad, yn cynnwys nodi arwyddion o radicaleiddio i chwilio amdanynt, astudiaethau achos a gwybodaeth ynglŷn â sut i rannu’r pryderon hynny.
Rolau a chyfrifoldebau
11. Dylai gweithwyr proffesiynol rheng flaen (y rhai sy’n atebol i’r Ddyletswydd Prevent, e.e. athrawon, staff GIG) wneud atgyfeiriad gan ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio cenedlaethol os ydyn nhw’n credu efallai fod rhywun mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Nid oes gofyn iddyn nhw benderfynu ar yr ideoleg neu’r math o bryder. Dylent ymgynghori ag arweinydd diogelu eu sefydliad a dilyn y weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu.
12. Dylai ymarferwyr Prevent (e.e. arweinwyr Prevent awdurdod lleol neu swyddog addysg Prevent) ddarparu cyngor, hyfforddiant ac arweiniad i bobl broffesiynol rheng flaen ar y broses Prevent, neu ar yr hyn ydyw terfysgaeth a radicaleiddio. Ni ddylent benderfynu a ddylid gwneud atgyfeiriad i mewn i’r system.
13. Mae swyddogion heddlu arbenigol fel Swyddogion Achos Gwrth Derfysgaeth (CTCOs), yn gyfrifol am benderfynu a yw rhywun dan risg o radicaleiddiad ac a ddylid eu hystyried i dderbyn cymorth drwy Prevent. Dylai eu penderfyniadau hwy gael eu tanategu gan Fframwaith Asesu Prevent a dylai eu beirniadaeth broffesiynol gael ei hysbysu gan hyfforddiant rheolaidd a pherthnasol. Mae Fframwaith Asesu Prevent (PAF) wedi bod mewn defnydd yn genedlaethol ers Ionawr 2025 ac nid oes gofyn cael ideoleg glir i symud atgyfeiriad yn ei flaen. Maen nhw’n gyfrifol am benderyfnu pa gategori ‘math o bryder’ y dylid cofnodi atgyfeiriad oddi tano.
14. Mae Cadeiryddion Channel yn goruchwylio panel Channel, sy’n gyfrifol am benderfynu a yw achos i gael ei fabwysiadu ar gyfer asesiad a chefnogaeth Prevent parhaus. Dylent sefydlu perthnasoedd cryf gyda phartneriaid Channel i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol, presenoldeb mewn cyfarfodydd panel a gweithredu cynlluniau cymorth. Dylent sicrhau bod rhagdybiaethau person yn cael eu hasesu’n gywir gan y panel gan ddefnyddio’r fframwaith PAF, a bod y cynllun cymorth yn ystyried anghenion ehangach y person.
Dolenni defnyddiol
Mae arweiniad dyletswydd Prevent i Gymru a Lloegr ac arweiniad dyletswydd Prevent i’r Alban yn ganllawiau statudol sy’n darparu cyngor, yn cynnwys cyngor ar sut a phryd i wneud atgyfeiriad.
Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent yn hyfforddiant rhad ac am ddim sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am Prevent, yn cynnwys ffactorau y dylid eu hystyried pan mae pryderon y gallai rhywun fod dan risg o radicaliaeth.
Hyfforddiant wyneb yn wyneb - bydd eich arweinydd Prevent lleol neu berson cyfatebol yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut yw’r ffordd orau i chi gael gafael ar hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Mae arweiniad am ddyletswydd Channel yn rhoi arweiniad ar fanylion dyletswyddau Channel statudol ar gyfer yr heddlu, cadeiryddion Channel ac eraill a allai fynychu panelau Channel. Mae’n esbonio pam mae gan rai pobl ragduedd o bosib i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a pha gymorth allai gael ei ddarparu i’w diogelu nhw, a sut mae atgyfeiriadau’n cael eu hasesu yn unol â throthwyon Prevent.
Mae pecyn cymorth dyletswydd Prevent yn cefnogi darpariaeth y ddyletswydd Prevent gan awduroddau lleol yng Nghymru a Lloegr drwy ddarparu gwybodaeth ac awgrymiadau ymarferol i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae’n cynnwys esiamplau o arferion da a gorau wrth roi arweiniad dyletswydd Prevent ar waith.
Adnoddau penodol i’r Alban
Diogelu pobl sydd â rhagduedd i radicaleiddiad - Arweiniad PMAP i’r Alban.
Getting it right for every child (GIRFEC) - gov.scot - mae’r egwyddorion arweiniol yn GIRFEC yn darparu fframwaith cyson i’r Alban ac iaith a rennir i hyrwyddo, cefnogi a diogelu lles plant a phobl ifanc. Mae’n cael ei ymwreiddio’n lleol a’i groesawu’n gadarnhaol gan sefydliadau, gwasanaethau ac ymarferwyr ar draws Partneriaethau Cynllunio’r Gwasanaethau Plant.
Egwyddorion GIRFE - Getting it right for everyone (GIRFE) - gov.scot - Agwedd amlasiantaethol tuag at wasanaethau a chymorth iechyd a gofal cymdeithasol o ofal i oedolion ifanc i ofal diwedd oes.
Bil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Corfforaethiad) (Yr Alban): taflen - gov.scot - Yn darparu manylion am yr hawliau y mae gan blant a phobl ifanc yr hawl iddynt o dan Fil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Corfforaethiad) (Yr Alban)
Adnoddau penodol i Gymru
Cadw dysgwyr yn ddiogel - yn darparu arweiniad i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau i ddiogelu plant o dan Ddeddf Addysg 2002 ac yn ymwneud yn uniongyrchol â’r dyletswyddau a gweithdrefnau diogelu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
Cadw’n ddiogel ar-lein - yn darparu mynediad at yr adnoddau, arweiniad a gwybodaeth i ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd, ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein fel eithafiaeth a radicaliaeth ar-lein.
Adnoddau penodol i addysg
Y ddyletswydd Prevent: diogelu dysgwyr sy’n agored i gael eu radicaleiddio - Arweiniad i bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg sydd â chyfrifoldebau diogelu.
Rheoli’r risg o radicaliaeth yn eich lleoliad addysg – Arweiniad i helpu lleoliadau addysg i ystyried dangosyddion risg a phenderfynu pa ymateb sy’n briodol a chymesur.
Cadw plant yn ddiogel mewn addysg 2025 - Arweiniad statudol i ysgolion a cholegau wrth wneud eu dyletswyddau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
Adnoddau penodol i iechyd
Dyletswydd Prevent mewn gofal iechyd: arweiniad a hyfforddiant i ymarferwyr - Adnoddau hyfforddi ac arweiniad ar ddyletswydd Prevent i’r rhai sy’n gweithio mewn gofal iechyd.
-
Mae diffiniad cyfredol y DU wedi ei nodi yn adran 1 Deddf Terfysgaeth 2000 (TACT 2000). I grynhoi, mae hon yn diffinio terfysgaeth fel hyn: ‘defnyddio bygythiad neu drais difrifol yn erbyn person, neu ddifrod difrifol i eiddo lle mae’r weithred honno:
- wedi ei llunio i ddylanwadu ar y llywodraeth neu sefydliad llywodraethol rhyngwladol neu i godi ofn ar y cyhoedd neu adran o’r cyhoedd; ac
- at ddibenion symud achos gwleidyddol, crefyddol, hiliol neu ideolegol yn ei flaen.’
Yn ogystal â ‘defnyddio neu fygwth defnyddio trais difrifol’, gallai lawrlwytho neu ledaenu deunyddiau fod yn drosedd terfysgaeth o dan adran 58 y TACT 2000. Yn ôl adran 57 y TACT 2000, “mae person yn cyflawni trosedd os oes ganddyn nhw rywbeth yn eu heiddio dan amgylchiadau sy’n achosi drwgdybiaeth rhesymol bod eu meddiannaeth ohono am reswm sy’n gysylltiedig â chomisiynu, paratoi neu gychwyn gweithred o derfygsaeth”. ↩
-
Dylai pobl sy’n atgyferio yn Yr Alban gyfeirio at Heddlu’r Alban i gael y Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol Albanaidd. ↩
-
Adroddiad y Comisiynydd Prevent Annibynnol - Lessons for Prevent Paragraff 1.27 ↩
-
Mae’r trothwy cyfreithiol ar gyfer atgyfeirio i asiantaeth amlasiantaeth rhaglen Channel wedi ei nodi yn adran 36(3) Deddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015: “Gall prif swyddog heddlu neu awdurdod lleol atgyfeirio unigolyn at banel dim ond os oes sail resymol i gredu bod yr unigolyn yn agored i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth.” ↩