Skip to main content
Ffurflen

Cadw adar gwyllt: cofrestru adar Atodlen 4

Ffurflen i geidwad adar gofrestru aderyn gwyllt a fewnforiwyd o darddiad anhysbys, neu aderyn nad oes ganddo ddogfen gofrestru.

Dogfennau

REG01 form: Cadw adar gwyllt - cofrestru adar Atodlen 4

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

O dan Adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’n rhaid i adar gwyllt a gedwir yn gaeth gael eu cofrestru â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae hyn yn gymwys i bob rhywogaeth o adar a restrir yn Atodlen 4 o’r Ddeddf.

Rhaid i’r aderyn gael ei gofrestru yn y cyfeiriad lle mae’n cael ei gadw, a rhaid i’r aderyn gael marc adnabod unigryw megis modrwy goes gaeedig neu ficrosglodyn.

Mae’r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt Mewn Perygl (CITES) yn rheoleiddio prosesau mewnforio, (ail)allforio, gwerthu neu symud anifeiliaid gwyllt a phlanhigion mewn perygl. Caiff y rhain eu rhestru yn Atodiadau A, B, C a D o Reoliad yr UE 750/2013

Dylid defnyddio’r ffurflen gais hon i gofrestru’r canlynol:

  • adar gwyllt sydd wedi cael eu mewnforio i’r DU ond nad yw’r ceidwad yn gwybod o ble y daeth yr aderyn yn wreiddiol
  • hebogiaid tramor a chudyllod bach gyda thystysgrif Erthygl 10 a roddwyd gan wlad arall yn yr UE yn unol â rheoliadau CITES.
  • adar sydd wedi’u cofrestru, ond mae’r ddogfen gofrestru las ar goll

Nid yw tystysgrif Erthygl 10 yn ddilys ar gyfer cofrestru yn y DU. Rhaid i adar, heblaw am hebogiaid tramor a chudyllod bach, gael eu cofrestru â dogfen gofrestru las.

Gweler y canllawiau ar sut i gofrestru aderyn ysgyflaethus caeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Ebrill 2009
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Added the Welsh version of the form.

  2. Updated form

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon