Cadw adar gwyllt: cofrestru cywion a fagwyd yn gaeth a rhifau modrwy
Ffurflen i geidwad adar gofrestru cywion a fagwyd yn gaeth a chadarnhau bod modrwyon caeedig neu ficrosglodion wedi cael eu gosod.
Dogfennau
Manylion
O dan Adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’n rhaid i adar gwyllt a gedwir yn gaeth gael eu cofrestru â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae hyn yn gymwys i bob rhywogaeth o adar a restrir yn Atodlen 4 o’r Ddeddf.
Rhaid i’r aderyn gael ei gofrestru yn y cyfeiriad lle mae’n cael ei gadw, a rhaid i’r aderyn gael nod adnabod unigryw.
Darperir y ffurflen hon i geidwaid adar gwyllt wneud y canlynol:
- cofrestru cywion sydd wedi cael eu magu’n gaeth ac sy’n dod o’r un nythaid
- datgan bod modrwyon caeedig neu ficrosglodion wedi cael eu gosod ar y cywion
- rhoi manylion y rhifau a’r llythrennau ar y modrwyon caeedig, neu rifau’r microsglodyn
Dim ond i gofrestru cywion y dylid defnyddio’r ffurflen hon.
Updates to this page
-
Welsh translation added for the form REG08, 'Application to declare ringing and registration of Schedule 4 Birds' ('Cais i Ddatgan Modrwyo a Chofrestru Adar Atodlen 4').
-
Document updated with new email address
-
Updated form
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
First published.