Guidance

Lwfans Ceisio Gwaith: beth sydd angen i chi ddweud wrthym os ydych yn gwneud unrhyw waith (B7LW)

Published 13 March 2017

Yr hyn sydd ei angen i chi ddweud wrthym os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw fath o waith â thâl neu ddi-dâl.

Gall unrhyw oriau rydych chi neu’ch partner yn gweithio newid swm y Lwfans Ceisio Gwaith a chredydau Yswiriant Gwladol a gewch.

Os ydych chi a’ch partner yn cael hawlio ar sail incwm ar y cyd am Lwfans Ceisio Gwaith

Gwnewch yn siwr bod y ddau ohonoch yn darllen ac yn deall y nodiadau hyn. Siaradwch â’ch anogwr gwaith os oes angen help arnoch i ddeall sut y gall gweithio effeithio ar eich cais ar y cyd.

Mae partner yn golygu:

  • l person rydych yn byw gyda hwy sy’n ŵr, gwraig neu bartner sifil i chi, neu
  • l person rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn gwpl priod

Gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith y manylion am eich swydd bob tro y byddwch yn llofnodi eich datganiad. Efallai y byddwch yn gwybod hyn fel ‘llofnodi arno’. Bydd angen i chi hefyd roi unrhyw slipiau cyflog sydd ar gael i’ch anogwr gwaith.

Os ydych fel arfer yn llofnodi eich datganiad a’i hanfon atom drwy’r post, rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen B7W – datganiad o waith a thâl, ar gyfer pob swydd sydd gennych. Cofiwch gynnwys unrhyw slipiau cyflog perthnasol. Gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am ffurflen B7W.

Efallai y bydd eich taliad Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei oedi os na fyddwn yn cael eich gwybodaeth yn brydlon.

Yr hyn y mae angen i ni wybod

Dywedwch wrthym:

  • l y dyddiad rydych chi neu’ch partner yn dechrau gweithio
  • l yr oriau rydych chi neu’ch partner yn gweithio
  • l y cyflog rydych chi neu’ch partner yn ei ennill cyn didyniadau
  • l y cyflog net, a elwir weithiau yn ‘cyflog cymryd adref’, rydych chi neu’ch partner yn ennill ar ôl didyniadau

Dywedwch wrthym pwy sy’n gweithio

A yw’n:

  • l chi
  • l eich partner
  • l y ddau ohonoch

Mae angen i ni wybod enw llawn a rhif Yswiriant Gwladol pwy bynnag sy’n gweithio.

Os oes gennych chi neu’ch partner fwy nag un swydd, mae’n rhaid i chi roi manylion ar wahân ar gyfer pob swydd i ni.

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi sydd gennych chi neu’ch partner

Dywedwch wrthym:

  • l y dyddiad y gwnaethoch chi neu’ch partner ddechrau gweithio
  • l enw pob cyflogwr
  • l cyfeiriad post llawn bob cyflogwr, gan gynnwys y cod post
  • l rhif ffôn pob cyflogwr
  • l teitl eich swydd neu deitl swydd eich partner
  • l pa mor aml rydych chi neu’ch partner yn cael eich talu
  • yr holl ddyddiadau rydych chi neu’ch partner wedi gweithio yn y pythefnos ers i chi lofnodi diwethaf
  • l cyfanswm yr amser mewn oriau a munudau rydych chi neu’ch partner wedi gweithio bob dydd

Dywedwch wrthym am y cyflog rydych chi neu’ch partner yn ei gael

Dywedwch wrthym:

  • l y dyddiad y byddwch chi neu’ch partner yn cael eich talu ar gyfer unrhyw waith a wnaethoch yn y pythefnos ers i chi lofnodi diwethaf
  • l cyfanswm faint rydych chi neu’ch partner wedi cael ei dalu ym mhob wythnos ers i ni weld chi ddiwethaf, gan gynnwys unrhyw oramser, cildyrnau, taliadau bonws a thalebau cinio
  • l faint a ddidynnwyd o gyflog chi neu’ch partner ar gyfer treth incwm, Yswiriant Gwladol a phensiynau galwedigaethol neu bersonol. Rydym yn galw’r rhain yn ‘ddidyniadau’
  • l faint o gyflog (mae hyn yn gyflog net neu gyflog cymryd adref) rydych chi neu’ch partner yn ei gael ar ôl i’r holl ddidyniadau cael eu cymryd i ffwrdd
  • l yr union ddyddiad pan fyddwch chi neu’ch partner yn cael ei dalu
  • l y dyddiadau rydych chi neu’ch partner wedi gweithio i gael y taliad hwn
  • l os gwnaeth y cyflogwr rhoi unrhyw arian ar gyfer unrhyw beth arall i chi neu’ch partner. Os gwnaethant hynny, dywedwch wrthym faint ac am beth oedd yr arian

Os ydych chi wedi gweithio 16 awr neu fwy neu mae eich partner wedi gweithio 24 awr neu fwy mewn wythnos

Efallai na fyddwch yn cael taliad Lwfans Ceisio Gwaith neu gredydau Yswiriant Gwladol os nad ydym wedi llwyddo i gyfartalu eich enillion dros yr wythnosau rydych wedi gweithio, ac efallai y bydd angen i chi wneud cais newydd. Cysylltwch â’ch anogwr gwaith am fwy o wybodaeth.

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio’n rheolaidd

Efallai y byddwn yn gallu lleihau faint o wybodaeth y bydd ei hangen gennych ar bob ymweliad â’r Ganolfan Gwaith trwy gyfartalu eich enillion. Bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych pryd y gallwn wneud hyn. Tan hynny, dylech barhau i roi’r wybodaeth y gofynnwn amdani.

Bydd swm y Lwfans Ceisio Gwaith a gewch gennym yn dibynnu ar faint rydych chi neu’ch partner yn ei ennill yn ystod yr wythnos rydych yn gweithio

Os ydych yn hawlio ar gyfer chi eich hun, gallwch ennill £5 yr wythnos cyn i ni ostwng y taliadau Lwfans Ceisio Gwaith a wnawn i chi.

Os ydych yn hawlio ar eich cyfer chi a’ch partner, gallwch ennill £10 yr wythnos cyn i ni leihau taliadau eich Lwfans Ceisio Gwaith.

Gallwch ennill £20 yr wythnos cyn i ni leihau eich taliadau os ydych yncael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac rydych:

  • l yn rhiant unigol, neu
  • l yn anabl ac mae eich partner dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu
  • l yn ofalwr, neu
  • l yn ymladdwr tân rhan-amser, neu
  • l yn wyliwr y glannau cynorthwyol, neu
  • l yn gweithio’n rhan-amser fel criw bad achub, neu
  • l yn aelod o’r fyddin diriogaethol neu filwr wrth gefn.

Os ydych yn cael Budd Tai neu ostyngiad mewn Treth Gyngor

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y cyngor am yr holl daliadau a gewch, gan gynnwys arian rydych chi neu’ch partner yn ei gael o waith gwirfoddol. I gael mwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai a gostyngiad mewn Treth Cyngor, cysylltwch â’ch cyngor lleol.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf

Edrychwch fod y wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni yn gywir. Os ydych yn llofnodwr drwy’r post, sicrhewch eich bod wedi llofnodi’r ffurflen.

Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi slipiau cyflog i ni ar gyfer y cyflog rydych wedi dweud wrthym amdano.

Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau

Os oes gennych unrhyw newid yn eich amgylchiadau fel yr oriau rydych yn eu gweithio neu swm yr arian sydd gennych, mae angen i chi ddweud wrthym yn syth.

Os nad ydych yn siwr a oes angen i ni wybod am newid neu beidio, dywedwch wrthym beth bynnag. Os nad ydych yn dweud wrthym yn syth, a byddwch yn cael gormod o arian oherwydd hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian yn ôl a gallai eich budd-dal dod i ben neu ei leihau. Gallech hefyd dalu cosb ariannol neu gael eich erlyn.