Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm: beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym os ydych yn gwneud unrhyw waith

Diweddarwyd 15 September 2023

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw waith tra rydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA).

Rydym yn defnyddio ‘partner’ i olygu y naill o’r canlynol:

  • person rydych yn byw gyda hwy sy’n ŵr, gwraig neu bartner sifil i chi

  • person rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn gwpl priod

Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu ei stopio os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid yn syth.

Fel arfer, ni allwch gael JSA yn seiliedig ar incwm os:

  • rydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd

  • mae eich partner yn gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd

Efallai y byddwch yn dal i allu cael JSA yn seiliedig ar incwm os ydych chi neu’ch partner yn gweithio mwy o oriau mewn swyddi penodol.

Efallai y bydd swm y JSA yn seiliedig ar incwm a gewch yn cael ei leihau os:

  • rydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos

  • mae eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos

Beth i’w wneud os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw waith

Rydym angen gwybod am unrhyw waith rydych chi a’ch partner yn ei wneud.

Os ydych yn mynychu apwyntiadau rheolaidd yn y ganolfan gwaith

Bydd angen i chi:

  • fynd ar slipiau cyflog i’r apwyntiad

  • llenwi ffurflen yn eich apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith i ddweud wrthym am unrhyw waith a wnaed yn ystod y 2 wythnos diwethaf

Os nad ydych yn mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith

Bydd angen i chi ofyn i’ch anogwr gwaith anfon ffurflen ‘datganiad o waith’ atoch a ffurflen B7 ar gyfer pob swydd. Llenwch y ffurflenni a’u hanfon yn ôl i’r ganolfan gwaith gyda’r slipiau cyflog.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflenni am unrhyw waith rydych chi a’ch partner wedi’i wneud, bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • os ydych chi, eich partner neu’r ddau ohonoch wedi gwneud unrhyw waith

  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn pob cyflogwr

  • y dyddiadau a weithiwyd

  • nifer yr oriau a’r munudau a weithiwyd bob wythnos

  • pa mor aml y cawsoch chi neu’ch partner eich talu

  • y dyddiad neu’r dyddiadau y cawsoch chi neu’ch partner eich talu

  • faint rydych chi neu’ch partner wedi’i ennill cyn unrhyw ddidyniadau

  • swm y didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn, tanysgrifiadau undeb a thaliadau cynhaliaeth plant

  • os cawsoch chi neu’ch partner eich talu unrhyw arian am unrhyw beth arall, ac os felly, faint ac ar gyfer beth oedd yr arian (er enghraifft tocynnau bws neu drên neu dreuliau gwaith)

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio’n rheolaidd

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio’n rheolaidd, bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych a allwch leihau faint o wybodaeth y mae angen i chi ei darparu bob tro.

Sut mae enillion yn effeithio ar JSA yn seiliedig ar incwm

Bydd swm y Lwfans Ceisio Gwaith a gewch yn dibynnu ar faint rydych chi neu’ch partner yn ei ennill yn ystod yr wythnos rydych yn gweithio.

Os nad ydych yn gwneud cais dros bartner

Fel arfer gallwch ennill hyd at £5 yr wythnos cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm. Bydd enillion dros £5, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn lleihau eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, bydd eich JSA yn seiliedig ar incwm yn cael ei leihau £45.25.

Os ydych chi’n rhiant sengl, gallwch ennill hyd at £20 yr wythnos cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Os ydych yn gwneud cais i chi eich hun a’ch partner

Fel arfer gallwch chi a’ch partner ennill hyd at £10 yr wythnos rhyngoch chi cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm. Bydd enillion dros £10, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn lleihau eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos a’ch partner yn ennill £30.25 yr wythnos, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, bydd eich JSA yn seiliedig ar incwm yn cael ei leihau £70.50.

Os ydych chi neu’ch partner yn anabl neu’n ofalwr

Gallwch chi a’ch partner ennill hyd at £20 yr wythnos rhyngoch chi cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn cael swm ychwanegol, a elwir yn bremiwm anabledd, wedi ei ychwanegu at eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Gallwch chi a’ch partner hefyd ennill hyd at £20 yr wythnos rhyngoch chi cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm, os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r naill neu’r llall ohonoch yn cael swm ychwanegol, a elwir yn bremiwm gofalwr, wedi’i ychwanegu at eich JSA yn seiliedig ar incwm

  • mae’r naill neu’r llall ohonoch yn cael Lwfans Gofalwr, neu’n cael eich trin fel yn cael Lwfans Gofalwr

Bydd enillion dros £20, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn lleihau eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos a’ch partner yn ennill £30.25, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, bydd eich JSA yn seiliedig ar incwm yn cael ei leihau £60.50.

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio mewn swyddi penodol

Gallwch chi a’ch partner ennill hyd at £20 yr wythnos rhyngoch chi cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA yn seiliedig ar incwm os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn:

  • diffoddwr tân rhan amser

  • gwylwyr y glannau wrth gefn ar gyfer gwasanaethau achub arfordirol

  • yn aelod criw bad achub rhan-amser neu’n ymwneud â lansio bad achub

  • aelod o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd wrth gefn

Bydd enillion dros £20, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn lleihau eich JSA yn seiliedig ar incwm.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos a’ch partner yn ennill £30.25, ar ôl didyniadau ar gyfer pethau fel treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, bydd eich JSA yn seiliedig ar incwm yn cael ei leihau £60.50.

Pan nad oes terfyn ar yr oriau y gallwch weithio

Efallai y byddwch yn dal i allu cael JSA yn seiliedig ar incwm os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, neu os yw’ch partner yn gweithio 20 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio fel gwarchodwr plant yng nghartref y gwarchodwr plant

  • rydych yn gweithio i elusen neu fudiad gwirfoddol neu’n wirfoddolwr a’r unig daliad a gewch yw am dreuliau

  • rydych ar gynllun hyfforddiant ac yn cael lwfans hyfforddiant

  • rydych chi’n ddiffoddwr tân rhan amser

  • rydych chi’n gweithio fel gwylwyr y glannau wrth gefn ar gyfer gwasanaethau achub arfordirol

  • rydych yn gweithio fel aelod criw bad achub rhan-amser neu’n ymwneud â lansio bad achub

  • rydych yn aelod o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd wrth gefn

  • rydych yn gynghorydd lleol

  • rydych yn cael eich talu i fod yn rhiant maeth

  • rydych yn cael eich talu i ddarparu gofal seibiant

  • rydych yn gofalu am gyn-blentyn o dan drefniadau gofal parhaus

  • rydych yn cael arian i gymryd rhan mewn chwaraeon

  • rydych ar raglen profiad gwaith

  • rydych ar gynllun gweithgaredd gwaith gorfodol

  • rydych ar gynllun i gynorthwyo pobl i gael gwaith