Corporate report

Brîff gwybodaeth: Defnyddwyr cynlluniau arbed treth i wneud taliadau ymlaen llaw

Updated 3 November 2014

O 17 Gorffennaf 2014 ymlaen, mae’n rhaid i unigolion a busnesau sy’n ymwneud â chynlluniau arbed treth, dalu’r swm o dreth y mae anghydfod yn ei gylch i CThEM ymlaen llaw, tra bod yr anghydfod hwnnw’n cael ei ddatrys. Cafodd y grym newydd hwn, o’r enw ‘Taliadau Cyflymedig’ ei roi ar waith fel rhan o Ddeddf Cyllid 2014. Mae Taliadau Cyflymedig yn gwaredu’r fantais llif arian sydd gan y rheiny sy’n ceisio gwyrdroi’r rheolau yn fwriadol drwy arbed treth, dros y mwyafrif o drethdalwyr sy’n talu eu treth ymlaen llaw. Mae’r brîff hwn yn esbonio pam fod y gofyn newydd hwn yn bwysig a sut rydym yn gweithredu Taliadau Cyflymedig.

1. Pam fod y newid yn bwysig?

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu’r swm cywir o dreth ar amser, ond mae nifer fechan o unigolion a busnesau yn ceisio arbed talu’r hyn sydd arnynt drwy gyfrwng cynlluniau arbed treth. Nid yw’r rhan fwyaf o’r cynlluniau hyn yn gweithio ond hyd yn hyn, bu’n bosib i bobl ddal gafael i’r dreth y mae anghydfod yn ei chylch, tan i’w hachos gael ei ddatrys. Mewn ambell achos, gall hyn fod am gyfnod sylweddol o amser, yn aml am nifer o flynyddoedd.

Mae hyn wedi rhoi mantais llif arian i’r rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth, dros bobl sy’n talu eu treth ymlaen llaw. Mae’r llywodraeth wedi penderfynu cael gwared ar y cymhelliad llif arian i ddefnyddio’r cynlluniau hyn, drwy fynnu bod mwy o bobl yn talu’r dreth y mae anghydfod yn ei chylch ymlaen llaw. Mae hyn yn sicrhau bod y sawl sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth yn yr un sefyllfa â’r mwyafrif helaeth o drethdalwyr eraill.

2. Sut fydd yn gweithio?

Rydym yn gweithredu Taliadau Cyflymedig ar gynlluniau sydd: wedi eu hysbysu’n ffurfiol i CThEM drwy gyfrwng y rheolau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) wedi eu gwrthweithio gan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR) yn debyg i’r rheiny sydd eisoes wedi eu trechu yn y llysoedd.

Mae’r defnydd o Daliadau Cyflymedig ond yn gymwys ar gyfer y defnydd o gynlluniau arbed treth y mae gennym anghydfod yn eu cylch sydd, yn gyffredinol, yn dod o dan chwe chategori eang: cynlluniau ‘colledion i’r ochr’ (sideways loss) cynlluniau treth dir y tollau stamp (SDLT) cynlluniau hunangyflogaeth cynlluniau didynnu colledion artiffisial cynlluniau enillion cyfalaf cynlluniau cyflogaeth

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod CThEM wedi agor ymholiad, neu wedi cynnal asesiad, i mewn i achos trethdalwr cyn ein bod yn gallu anfon hysbysiad ar gyfer Taliad Cyflymedig.

Yn yr wythnosau cyn bod trethdalwr yn derbyn hysbysiad i dalu, rydym yn ysgrifennu atynt i’w hysbysu ei fod ar ddod. Rydym hefyd yn cysylltu â hyrwyddwyr cynlluniau oddeutu chwe wythnos cyn bod hysbysiadau’n cael eu hanfon, er mwyn iddynt allu paratoi i gefnogi eu cleientiaid.

Mae gan y sawl sy’n derbyn hysbysiadau ac yn dymuno setlo eu ceisiadau yn hytrach na thalu’r hysbysiad ar gyfer Taliad Cyflymedig, y cyfle i wneud hynny. Rydym am unioni’r achosion hyn cyn gynted â phosib.

Nid yw Taliadau Cyflymedig yn effeithio ar y mwyafrif helaeth o bobl, sydd ddim yn ceisio arbed treth. Nid yw hefyd yn effeithio ar drethdalwyr sy’n cytuno i dalu’r dreth sydd arnynt.
Nid yw’r system newydd yn effeithio ar hawl unrhyw un i fwrw ymlaen â’i anghydfod gyda ni os yw’n teimlo bod ganddo/ganddi hawl cyfreithiol i’r fantais treth a roddir gan y cynllun arbed. Byddwn yn ad-dalu’r dreth ynghyd â llog i’r sawl sy’n ennill eu hachosion. Rydym yn ennill 80 y cant o achosion arbed treth y mae trethdalwyr yn penderfynu mynd â hwy gerbron y llysoedd, ac mae nifer yn fwy yn setlo gyda ni cyn i’r achos fynd i gyfraith.

Mae Taliadau Cyflymedig, yn syml, yn newid pwy sy’n dal gafael ar y dreth y mae anghydfod yn ei chylch, tra bod dadlau ynghylch achos trethdalwr. Y dreth y mae’n ei thalu ymlaen llaw yw’r un swm y byddai eisoes wedi ei thalu pe na fyddai wedi defnyddio’r cynllun arbed treth yn y lle cyntaf.

3. Ar bwy fydd hyn yn effeithio?

Disgwyliwn y bydd oddeutu 43,000 o drethdalwyr sy’n rhan o gynlluniau arbed treth, sy’n destun anghydfod gan CThEM ar hyn o bryd, yn derbyn hysbysiadau i dalu. Byddwn yn anfon hysbysiadau at oddeutu 33,000 o unigolion a 10,000 o fusnesau. Incwm cyfartalog unigolyn y mae’n bosib y bydd yn derbyn hysbysiad, yw £262,000. Mae ambell achos yn ymwneud ag unigolion cyfoethog sy’n ceisio arbed dros £10 miliwn mewn treth drwy gyfrwng cynlluniau arbed treth.

Nid yw Taliadau Cyflymedig yn effeithio ar fuddsoddiadau gwirioneddol, gan gynnwys buddsoddiadau mewn ffilmiau. Mae’n rhaid i ambell gynllun buddsoddi ddatgelu ei weithgareddau i ni o dan y rheolau DOTAS, ond os ydynt yn fuddsoddiadau gwirioneddol, ychydig iawn o dreth fydd mewn anghydfod, neu ddim treth o gwbl. Os felly, ni fydd gofyn am Daliad Cyflymedig. Nodwedd glir nifer o’r cynlluniau rydym yn eu herio yw bod y rhyddhad treth sy’n cael ei hawlio lawer yn uwch na’r buddsoddiad gwirioneddol a wnaed gan y trethdalwr. Bu’r ‘Rhyddhad Treth Ffilm’ newydd, a gyflwynwyd yn 2007, yn llwyddiannus iawn wrth ddenu buddsoddiad o’r tu-allan, ac ni hysbyswyd ynghylch unrhyw weithgaredd arbed treth wrth ddefnyddio’r rhyddhad.

4. Beth sy’n digwydd nawr?

Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi ei gosod, rydym wedi dechrau anfon hysbysiadau ar gyfer Taliadau Cyflymedig. Ar 15 Gorffennaf gwnaethom gyhoeddi rhestr o gynlluniau arbed DOTAS y mae’n bosib y bydd yn ofynnol ar y sawl sy’n eu defnyddio i wneud taliad cyflymedig o dreth. Mae hwn yn rhoi rhybudd cyntaf i ddefnyddwyr cynlluniau arbed treth ei bod yn bosib y byddai angen iddynt baratoi ar gyfer derbyn hysbysiad.

Disgwyliwn anfon y nifer helaeth o hysbysiadau at y rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth, yn ystod 2014-15 a 2015-16. Maent yn cael eu hanfon fesul cyfnodau, dros y ddwy flynedd. Rydym yn rhoi cymorth i’r rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth a’n derbyn hysbysiadau, pan fod arnynt angen trafod eu hachosion, neu eu bod am setlo eu cais yn hytrach na thalu’r hysbysiad am Daliad Cyflymedig.

Rydym yn annog y rheiny sy’n gofidio am dalu’r hysbysiad i ddod ymlaen â thrafod sut y gallent setlo eu hachos gyda ni. Mewn achosion o galedi ariannol gwirioneddol, rydym yn ystyried trefniadau eraill ar gyfer talu, yn yr un modd ag y byddwn yn gwneud ag unrhyw ddyledion. Y flaenoriaeth mewn achosion o galedi ariannol gwirioneddol yw trefnu amserlen dalu, fel bod y ddyled yn cael ei thalu cyn gynted â phosib.

5. I gael mwy o wybodaeth

Mae gwybodaeth fanwl ynghylch sut rydym yn gweinyddu Taliadau Cyflymedig, i’w chael yma. Dylai unrhyw un sy’n dymuno setlo achos o arbed treth gysylltu â CThEM ar unwaith ar 03000 530435.