Amodau a thelerau ar gyfer defnyddio Cyfrifon Cadw'r Swyddfa Eiddo Deallusol
Diweddarwyd 5 Tachwedd 2025
1. Pwy ydym ni
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn rhedeg y gwasanaethau hyn. Mae ein swyddfeydd yn
Concept House
Ffordd Caerdydd
Casnewydd
De Cymru
NP10 8QQ
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
2. Cyfrifon Cadw’r Swyddfa Eiddo Deallusol
2.1 Mae’r Gwasanaethau hyn yn caniatáu i gwsmeriaid:
2.1.1 wneud cais i agor cyfrif cadw yn y Swyddfa Eiddo Deallusol;
2.1.2 talu ariannau ‘ychwanegu’ i’r cyfrif cadw; a
2.1.3 defnyddio’r arian yn y cyfrif cadw i dalu am ffïoedd a gwasanaethau’r Swyddfa Eiddo Deallusol.
3. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau Cyfrif Cadw, rydych yn derbyn y telerau hyn
3.1 Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau cyfrif cadw rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.
4. Diffiniadau
4.1 Lle defnyddir y geiriau sydd i’w gweld isod yn y ddogfen hon, dyma fydd eu diffiniadau:
- ‘ffi cyfrif’ yw’r term a ddefnyddir ar gyfer taliad i’r Swyddfa Eiddo Deallusol pan fydd cwsmer yn dewis defnyddio arian o gyfrif cadw i wneud y taliad hwnnw.
- ‘balans dyddiol’ yw’r term am y balans o arian sydd ar gael i’w ddefnyddio yn y cyfrif cadw ar ddyddiad penodol.
- ‘cyfrif cadw’ yw cyfrif unigryw sy’n dal arian cwsmeriaid cyn i’r cwsmer ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau neu ffioedd.
- ‘IPO’ neu ‘ni’ yw Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn enw gweithredol ar y Swyddfa Batentau.
- ‘Ffurflen DP1’ yw’r ffurflen gan y Swyddfa Eiddo Deallusol y mae gofyn i gwsmeriaid ei defnyddio wrth wneud cais am gyfrif cadw, sydd â’r teitl “Cais i agor cyfrif cadw (DP1)”.
- ‘Ffurflen DP2’ yw’r ffurflen gan y Swyddfa Eiddo Deallusol y mae gofyn i gwsmeriaid ei llenwi wrth wneud Taliadau Ychwanegu i’w cyfrif cadw, sydd â’r teitl “Ffurflen Taliadau Ychwanegu Cyfrif Cadw (DP2)”.
- ‘Gwasanaethau’ yw’r gwasanaethau cyfrif cadw sydd wedi eu nodi yng nghymal 2.
- ‘Taliad ychwanegol’ yw’r term a ddefnyddir pan fydd cwsmeriaid yn gwneud taliadau i gynyddu balans yr arian yn eu cyfrif cadw.
- ‘chi’ yw cyfeiriad atoch chi fel defnyddiwr unigol y Gwasanaethau (a dehonglir ‘eich’ yn unol â hynny).
5. Cyfrif Cadw - Gwneud cais a gofalu am y cyfrif
5.1 Gallwch agor cyfrif cadw gyda ni, a bwriad hyn yw helpu defnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaethau’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn rheolaidd. I wneud cais am gyfrif cadw:
5.1.1 Bydd angen i chi ofyn am Ffurflen DP1 drwy anfon ebost i customeraccounts@ipo.gov.uk
5.1.2 Dylech anfon pob cyfathrebiad sy’n ymwneud â’ch cyfrif cadw i customeraccounts@ipo.gov.uk
5.1.3 Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais Ffurlfen DP1, yn cynnwys cadarnhad o’ch taliad cychwynnol a wnewch drwy drosglwyddiad banc, a’i hanfon atom ni.
5.1.4 Mae’n rhaid i chi dalu o leiaf £200 i mewn, ond nid oes terfyn uchaf i’r maint y gallwch ei dalu.
5.1.5 Gallwch hefyd agor mwy nag un cyfrif drwy lenwi ffurflen gais ar wahân i bob un.
5.1.6 Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pan fyddwn wedi agor eich cyfrif ac yn dweud beth yw eich rhif cyfrif. Yna gallwch ddechrau defnyddio eich cyfrif. Dylech ddyfynu eich rhif cyfrif ar unrhyw ffurflenni neu geisiadau am wasanaeth a anfonwch atom neu pryd bynnag y gallwch gysylltu â ni ynghylch eich cyfrif(on).
5.2 Gallai eich rhif cyfrif cadw gael ei gyflwyno yn y fformat DXXXXXXX neu DXXXXX. Rydym yn gofyn eich bod yn dyfynu hwn yn eich cyfathrebiad gyda ni.
5.3 Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen os ydych eisiau gwneud newidiadau i’ch cyfrif, er enghraifft enw’r cyfrif neu gyfeiriad daliwr y cyfrif, neu i gyfuno cyfrifon. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r rhesymau am y newid.
5.4 Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen os ydych chi eisiau cau eich cyfrif. Bydd unrhyw arian sydd ar ôl yn cael ei ddychwelyd atoch chi.
5.5 Rydym yn cadw’r hawl i gau unrhyw gyfrifon cadw os nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio o fewn cyfnod o 12 mis. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ein bod yn bwriadu ei gau a byddwn yn dychwelyd unrhyw falans sy’n weddill atoch o fewn 10 diwrnod gwaith i gau’r cyfrif cadw. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen os nad ydych eisiau i ni wneud hynny. Cadwn yr hawl i gau cyfrif unrhyw bryd.
5.6 Bydd unrhyw arian sy’n ddyledus i chi o’r cyfrif cadw’n cael ei dalu i’r cyfrif banc y daeth ohono’n wreiddiol. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen tystiolaeth ychwanegol i sicrhau bod arian yn cael ei ddychwelyd i’r person/sefydliad priodol.
5.7 Byddwch yn sicrhau bod y cyfrif cadw’n cael ei ddiogelu bob amser rhag unrhyw ddefnydd neu addasiad diawdurdod a bod y wybodaeth yn y cyfrif cadw’n cael ei diogelu bob amser rhag cael ei datgelu i unrhyw barti diawdurdod.
5.8 Rydych yn cytuno i beidio defnyddio’r cyfrif cadw na’r Gwasanaethau hyn mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol.
5.9 Os byddwn yn drwgdybio bod mynediad diawdurdod wedi digwydd i’r cyfrif neu at wybodaeth oddi mewn iddo, cadwn yr hawl i rwystro mynediad i’r cyfrif a’r Gwasanaethau hyn. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi i adael i chi wybod yr hyn rydym wedi’i wneud, ac yn gweithio gyda chi i chwilio am ateb.
6. Cyfrif Cadw - Ychwanegu at eich balans
6.1 Rydych yn gyfrifol am wirio balans eich cyfrif cadw ac am wneud yn siŵr bod digon o arian ar gael i dalu am unrhyw ffioedd sy’n ddyledus neu wasanaethau eraill a wnewch.
6.2 Mae’n rhaid ychwanegu arian i gyfrifon cadw drwy wneud taliad yn unol â Ffurflen DP2 ac ochr yn ochr â Ffurflen DP2.
6.3 Rhaid gwneud taliadau ychwanegu drwy drosglwyddiad banc yn unig, a dim ond rhif eich Cyfrif Cadw y dylech chi ei roi.
6.4 Os nad oes digon o falans yn eich cyfrif cadw, gallai achosi i’ch trafodyn neu drafodion fethu. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod trosglwyddiadau Ychwanegu’n cael eu gwneud mewn pryd.
6.5 Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i’ch cyfrif cadw o fewn 3 diwrnod gwaith wedi i’n banc ei dderbyn. Er y bydd yn cael ei brosesu’n gynharach ar brydiau o bosib, nid ydym yn gwarantu hynny.
6.6 Os na fyddwch yn darparu Ffurflen DP2 gyflawn neu’n rhoi cyfeirnodau talu cywir, gallai achosi i’r arian gymryd mwy na 3 diwrnod gwaith i gael ei ddyrannu i’ch cyfrif cadw.
6.7 I osgoi newid unrhyw ddyddiadau ffeilio effeithiol, mae’n hanfodol bod gan eich cyfrif ddigon o falans i bob trafodyn sy’n digwydd.
7. Cyfrif Cadw - Datganiadau
7.1 Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a oes angen datganiad wythnosol neu fisol arnoch chi pan fyddwch yn agor eich cyfrif. Bydd y cyfeiriadau yn y cymal 7 hwn at “cyfnod” yn golygu’r cyfnod wythnosol neu fisol y mae eich datganiad yn cyfeirio ato i adlewyrchu eich gofyniad a gadarnhawyd i ni.Os bydd eich gofynion yn newid, mae angen i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen yn customeraccounts@ipo.gov.uk
7.2 Mae’n rhaid i chi gadarnhau a ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost dyddiol am eich balans.
7.3 Rydych yn cadarnhau y byddwch yn gwneud gwiriadau digonol ar y datganiadau a ddarperir i sicrhau y cyfrifir yn gywir am yr holl wasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt.
7.4 Rydych yn cadarnhau y byddwch yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os byddwch yn gweld unrhyw wahaniaethau yn eich datganiad(au) drwy anfon e-bost i customeraccounts@ipo.gov.uk
7.5 Byddwn yn anfon datganiadau allan yn fuan yn y cyfnod ar ôl i’r trafodion ddigwydd, i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif.
7.6 Bydd y datganiad yn dangos y balans wedi’i ddwyn ymlaen o’r cyfnod diwethaf, trafodion y cyfnod hwn, a balans cau’r cyfrif. Rydych yn cadarnhau y byddwch yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os nad oes digon o wybodaeth yn cael ei darparu i chi yn eich datganiad er mwyn i chi allu cwblhau’r gwiriadau a ddisgrifir yng nghymal 7.3 uchod.
7.7 Byddwn yn anfon datganiad atoch hyd yn oed os na chafwyd unrhyw fusnes yn y cyfnod. Bydd y datganiad yn dangos y balansau agor a chau. Ni fyddwn yn anfon datganiad atoch os na chafwyd trafodion yn y cyfnod ac mae’r balans yn Ddim.
8. Cyfrif Cadw – Ffioedd Cyfrif
8.1 Byddwn yn codi ffi am drafodion i’ch cyfrif pan fyddwn ni’n eu prosesu nhw.Trwy ddefnyddio’r Gwasanaethau a chwblhau eich trafodion, neu drwy gyflwyno cyfarwyddiadau ysgrifenedig i ni, rydych yn rhoi’r awdurdod i ni i godi ffioedd cyfrif ar eich cyfrif cadw. Byddwn yn debydu eich cyfrif cadw o unrhyw ffioedd cyfrif sy’n berthnasol i drafodion a gwblhawyd yn ddigidol gennych gan ddefnyddio’r Gwasanaethau (yn cynnwys drwy ein gwasanaethau presennol a’n gwasanaethau One IPO) neu pan fyddwn yn derbyn eich cyfarwyddiadau ysgrifenedig.
8.2 Bydd trafodion digidol yn cael eu defnyddio ar eich cyfrif cadw wrth iddyn nhw gwblhau, a bydd ffioedd sy’n berthnasol i gyfarwyddiadau ysgrifenedig yn cael eu codi wrth iddyn nhw gael eu prosesu gennym ni.
8.3 Ni fyddwn yn caniatáu i chi ordynnu arian o’ch cyfrif.
8.4 Bydd ffioedd cyfrif (debydau) yn cael eu codi ar eich cyfrif cadw yn y drefn yr ydym yn prosesu trafodion digidol, ffurflenni neu geisiadau am wasanaeth yn llwyddiannus, neu unrhyw eitemau eraill fel eitemau cywiro, e.e. hawliadau neu dudalennau ychwanegol.
8.5 Os oes angen ad-dalu trafodyn i chi, byddwn yn rhoi hwn yn eich cyfrif fel credyd.Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth rydym wedi’i wneud.
8.6 Os byddwn yn canfod achosion o dalu rhy ychydig yn ystod y prosesu, byddwn yn debydu’r rhain yn erbyn eich cyfrif er mwyn i’r trafodyn gwblhau. Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth rydym wedi’i wneud.
8.7 Bydd ffioedd cyfrif yn cael eu codi ar y cyfrif cadw a ddyfynwyd. Os oes gennych fwy nag un cyfrif, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn dyfynu rhif y cyfrif cadw priodol.
8.8 Byddwn yn anfon anfoneb wedi’i thalu neu dderbynneb i gadarnhau unrhyw ffioedd a godwyd ar eich cyfrif neu’n anfon anfoneb i gadarnhau unrhyw archebion eraill. Byddwn hefyd yn ysgrifennu i roi gwybod i chi am unrhyw ad-daliadau sydd wedi eu credydu neu addasiadau eraill. Ni fyddwn yn ysgrifennu i gadarnhau ychwanegu arian i’ch cyfrif cadw; bydd y rhain yn ymddangos ar eich datganiadau rheolaidd.
8.9 Os bydd angen talu ffi gyda ffurflen er mwyn cael dyddiad ffeilio, ni fyddwn yn rhoi dyddiad ffeilio iddi oni bai bod digon o arian yn eich cyfrif. Yr unig ffurflenni sydd â ffi y gallwn roi dyddiadau ffeilio iddynt heb daliadau ffi yw ceisiadau am nod masnach a cheisiadau am batentau (heblaw NP1s), lle caniateir amser i dalu’r ffi yn nes ymlaen.
8.10 Byddwn yn trin unrhyw gyfarwyddiadau gan eich sefydliad sy’n cynnwys enw a rhif y cyfrif cadw perthnasol fel cyfarwyddyd dilys i gredydu neu godi ffi ar y cyfrif cadw a ddyfynnir.
8.11 Nid oes llog yn daladwy ar unrhyw arian sy’n sefyll mewn credyd mewn unrhyw gyfrif cadw.
9. Sut y gallem ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
9.1 Yr unig bryd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yw mewn perthynas â’r Gwasanaethau hyn fel y maent wedi eu nodi yn ein Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer data personol a brosesir ar gyfer gweinyddu’r Hawliau Eiddo Deallusol , fel y maent wedi eu hategu gan gymalau 9.1.1 i 9.1.3. Pan fyddwch yn defnyddio’r Gwasanaethau hyn:
9.1.1 byddwn yn casglu data personol yn cynnwys eich enw ac, os ydych yn defnyddio’r Gwasanaethau fel unigolyn yn hytrach nag ar ran sefydliad, mae angen eich cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a manylion ariannol yn Ffurflen DP1 a Ffurflen DP2;
9.1.2 dyma ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol mewn perthynas â’r Gwasanaethau:
(a) pan fyddwch yn defnyddio’r Gwasanaethau fel unigolyn, bod y prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract, neu er mwyn cymryd camau cyn mynd i gontract, yr ydych yn barti iddo (o ganlyniad i’ch derbyniad o’r amodau a thelerau hyn), fel y nodir yn Erthygl 6(1)(b) o GDPR y DU; a
(b) lle’r ydych yn defnyddio’r Gwasanaethau ar ran sefydliad, bod y prosesu’n angenrheidiol i berfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth weithredu awdurdod swyddogol sydd wedi’i roi i ni, fel y nodir yn Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU;
9.1.3 byddwn yn defnyddio eich:
(a) manylion cysylltu (er enghraifft rhifau ffôn a chyfeiriadau, yn cynnwys cyfeiriad(au) e-bost) i gysylltu â chi mewn perthynas â’r Gwasanaethau, er enghraifft am eich cais am gyfrif cadw neu i roi datganiadau neu e-byst balans dyddiol i chi; a
(b) manylion ariannol i ganiatáu i ni godi ffioedd cyfrif, dilysu trafodion a rhoi ad-daliadau i chi;
9.2 Byddwn yn cadw’r data personol a gasglwn amdanoch chi mewn cysylltiad â’r Gwasanaethau yn unol â’n polisi cadwraeth.
9.3 I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yn cynnwys yr hawliau sydd gennych, am faint o amser y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol, a sut i gysylltu â ni os oes gennych ymholiad neu gŵyn am y ffordd y defnyddir eich gwybodaeth, gwelwch ein hysbysiad preiftarwydd.
9.4 Ymdrinnir â’r holl wybodaeth bersonol yn unol â’r ddeddfwriaeth eiddo deallusol berthnasol, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
10. Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn
10.1 Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i’r amodau a thelerau hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif cadw.
10.2 Trwy barhau i ddefnyddio’r cyfrifon cadw wedi i ni anfon e-bost atoch chi am y newidiadau i’r amodau a thelerau, rydych yn dangos eich bod yn cytuno i’r newidiadau a wnaed.
11. Deddf llywodraethu ac awdurdodaeth
11.1 Bydd yr amodau a thelerau hyn ac unrhyw anghytundeb neu hawliad sy’n codi allan ohonynt neu mewn cysylltiad â nhw neu eu pwnc neu ffurfiant (yn cynnwys dadleuon neu hawliadau nad ydynt yn y contract) wedi eu llywodraethu gan, a’u deall yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
11.2 Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth nad yw’n anghynhwysol dros unrhyw hawl sy’n codi o, neu sy’n gysylltiedig â’r amodau a thelerau hyn a/neu amodau a thelerau’r Gwasanaethau. Mae hyn yn golygu gall yr holl hawliadau sy’n ymwneud â’r amodau a thelerau hyn a/neu’r Gwasanaethau gael eu setlo gan farnwr (neu nifer o farnwyr) mewn llys yn Lloegr. Fodd bynnag, cadwn yr hawl i ddod ag achos yn eich erbyn chi am dorri’r amodau a thelerau hyn yn y wlad lle’r ydych yn preswylio neu unrhyw wlad berthnasol arall.
Diweddarwyd Gorffennaf 2025