Sut i lenwi atodlen D36
Diweddarwyd 12 Awst 2026
Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon
Dylech lenwi atodlen D36 i roi gwybod i CThEF am unrhyw dir, adeiladau, coed neu isdyfiant sydd wedi’u cynnwys yn y digwyddiad trethadwy rydych chi’n rhoi gwybod i ni amdano yn un o’r gyfres o ffurflenni IHT100 (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy ddylai Asiantaeth y Swyddfa Brisio gysylltu â nhw
Dylech lenwi manylion y person yr hoffech i ni gysylltu ag ef.
Fel arfer, byddwn yn gofyn i Wasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS) i’n helpu ni gyda phrisio tir ac adeiladau. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu â’r person sydd wedi’i restru yn adran un yn uniongyrchol er mwyn trefnu archwiliad o’r eiddo a thrafod y gwerth.
Pa fanylion y mae angen i chi eu rhoi ar gyfer pob eiddo
Mae’n rhaid i chi rifo pob eitem o eiddo fel y gallwn adnabod y rhain ar y ffurflen. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un ffurflen i roi gwybod i ni am nifer fawr o eiddo. Os oes gennych brisiad proffesiynol, dylech atodi copi ohono.
Dylech roi’r manylion canlynol ar gyfer pob eiddo.
Disgrifiad llawn o’r eiddo
Mae’n rhaid i chi roi’r cyfeiriad a disgrifiad llawn o’r eiddo, gan gynnwys y cod post. Os nad oes gan yr eiddo gyfeiriad neu rif, dylech atodi cynllun yn dangos ffiniau’r eiddo yn glir.
Os yw’r eiddo wedi’i berchen ar y cyd, dylech gynnwys cyfran y trosglwyddwr yn y disgrifiad.
Y ddeiliadaeth
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a oedd yr eiddo wedi’i brydlesu neu a oedd rhywun yn berchen arno’n llwyr.
Manylion y brydles
Dylech ysgrifennu ‘gwag’ yng ngholofn D os nad oedd yr eiddo wedi’i feddiannu ar ddyddiad y digwyddiad.
Os oedd yr eiddo wedi’i brydlesu, mae’n rhaid i chi roi copi o’r brydles, is-brydles neu’r cytundeb tenantiaeth busnes neu amaethyddol.
Os nad yw’r brydles yn nodi hyn, neu os nad oes cytundeb ysgrifenedig, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- dyddiad dechrau’r brydles neu’r denantiaeth
- am ba hyd y cafodd yr eiddo ei osod
- faint yw’r rhent
- darpariaethau ar gyfer adolygiadau o’r rhent
- pwy sy’n gyfrifol am y gwariant sy’n gysylltiedig â’r eiddo
- enw’r tenant
Os ydych yn didynnu rhyddhad
Mae’n rhaid i chi roi gwerth yr eiddo sy’n gymwys i gael rhyddhad os ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol:
- Rhyddhad Amaethyddol
- rhyddhad coetiroedd
- esemptiad o ran treftadaeth
Os yw’r eiddo’n flaenorol wedi cael budd o esemptiad o ran treftadaeth neu gronfa cynnal a chadw gymeradwy (yn agor tudalen Saesneg) ac rydych yn ei ddidynnu eto, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am fanylion y digwyddiad blaenorol.
Dylech gynnwys y manylion canlynol yn y blwch ‘gwybodaeth ychwanegol’ ar ffurflen IHT100f:
- enw’r person fu farw’n gynharach neu a wnaeth y rhodd gynharach
- dyddiad y farwolaeth neu ddyddiad y rhodd gynharach
- unrhyw gyfeirnodau Treth Etifeddiant sy’n ymwneud â’r digwyddiad blaenorol
Dylech nodi’r cyfanswm a gariwyd ymlaen o dan golofn E yn y blychau perthnasol ar gyfer eiddo a rhyddhad yn un o’r gyfres o ffurflenni IHT100.
Gwerth ar y farchnad agored ar ddyddiad y digwyddiad
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r pris y bydd yr eiddo hwnnw efallai’n gwerthu amdano ar y farchnad agored.
Os oedd yr eiddo wedi’i berchen ar y cyd, rhowch werth y gyfran sydd wedi’i chynnwys yn y digwyddiad. Mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych wedi cyfrifo hwn.
Dylech nodi’r cyfanswm a gariwyd ymlaen o dan golofn F yn y blychau perthnasol ar gyfer eiddo a rhyddhad yn un o’r gyfres o ffurflenni IHT100.
Os oedd yr eiddo yn destun unrhyw ddifrod
Gall difrod sylweddol effeithio ar werth yr eiddo.
Dylech roi gwybod i ni am y canlynol:
- manylion y difrod
- a yw’r holl ddifrod, neu rywfaint ohono, wedi’i gwmpasu gan bolisi yswiriant neu hawl arall i weithredu
- os ydych yn bwriadu hawlio — atodwch gopïau o’r arolwg adeileddol a gohebiaeth â’r yswirwyr neu’r aseswyr colledion
Peidiwch â chynnwys difrod i addurniadau mewnol ac allanol.
Os yw’r eiddo wedi’i werthu neu bydd yr eiddo’n cael ei werthu o fewn 12 mis
Os yw’r eiddo wedi’i werthu o fewn amser rhesymol ar ôl y digwyddiad, gall pris y gwerthiant fod yn ddangosydd da o’i werth ar ddyddiad y digwyddiad. Dylech ddefnyddio colofn N i roi gwybod i ni a hoffech ddefnyddio’r pris gwerthu fel gwerth yr eiddo.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni:
- os yw’r eiddo wedi’i werthu’n barod — gan gynnwys dyddiad pan gafodd y contractau eu cyfnewid (neu yn yr Alban, pan ddaeth y llythyrau enwebu (‘missives’) i ben)
- os yw’r eiddo ar werth ar y farchnad
- os yw’r eiddo am gael ei werthu yn nes ymlaen
Bydd angen i ni hefyd wybod y canlynol:
- y pris y gofynnir amdano neu’r pris gwerthu — peidiwch â didynnu costau gwerthu’r eiddo
- a oeddech wedi gwerthu’r eiddo i ddieithryn neu berthynas, ffrind neu gydweithiwr busnes
- a yw’r pris gwerthu’n cynnwys gosodiadau a ffitiadau, er enghraifft carpedi neu lenni — rhowch wybod i ni beth oedd pris yr eitemau hyn
Gwerthiannau neu warediadau eraill o goed neu isdyfiant
Dylech roi gwybod i ni beth yw dyddiad y gwerthiant a’r pris gwerthu gros (cyn didynnu unrhyw dreuliau).
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni beth yw’r gwerth ar y farchnad agored os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- mae’n wahanol i’r pris gwerthu
- roedd yn warediad ‘heb gydnabyddiaeth’ — hynny yw, nid oedd y person a oedd yn cael yr eiddo wedi talu unrhyw arian parod neu iawndal, fel yn achos rhodd
Mae’n rhaid i chi esbonio’r sefyllfa os oedd y gwerthiant neu’r gwarediad yn llai na’r ‘cydnabyddiaeth lawn’.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Dylech ddefnyddio’r ffigurau yn yr atodlen hon i’ch helpu i lenwi’r gyfres o ffurflenni IHT100 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen hon ochr yn ochr â’r ffurflen gyflawn o’r gyfres IHT100. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt.
Cael help
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon.