Guidance

Independent Inquiry into Grooming Gangs: draft terms of reference (Welsh)

Updated 11 December 2025

1. Trosolwg

1.1 Mae’r Ymchwiliad Annibynnol ar Gangiau sy’n Meithrin Perhynas Amrhiodol (yr Ymchwiliad) wedi’i sefydlu i gydnabod y niwed dwfn a brofwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol.

1.2 Mae’r Ymchwiliad hwn yn ymateb i Argymhelliad 2 Archwiliad Cenedlaethol y Farwnes Casey o Blackstock ar Gamfanteisio’n Rhywiol a Cham-drin Plant mewn Grŵp (Mehefin 2025) (yr “Archwiliad Cenedlaethol”), a oedd yn galw am ymchwiliad cyfyngedig, wedi’i dargedu ac yn gymesur i achosion o fethiannau neu rwystro gan wasanaethau statudol mewn ardaloedd lleol perthnasol. Bydd yn nodi methiannau yn ymarferol ac yn dal i gyfrif yr unigolion a’r sefydliadau sy’n gyfrifol am y methiannau hynny. Dylai ysgogi newid ystyrlon mewn systemau diogelu ar lefel leol a chenedlaethol, gan sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu rhoi wrth wraidd diwygio.

1.3 Caiff yr Ymchwiliad ei gynnal yng Nghymru a Lloegr a dylai weithio mewn cydweithrediad agos â’r ymgyrch heddlu cenedlaethol (Operation Beaconport) a argymhellir yn adroddiad yr Archwilio Cenedlaethol, a gyda’i gilydd dylent: darparu dull mwy egnïol o gywiro camgymeriadau’r gorffennol, dod â mwy o droseddwyr i gyfiawnder, dal asiantaethau i gyfrif a chyflawni cyfiawnder i ddioddefwyr a goroeswyr. Dylai gweithrediad yr heddlu cenedlaethol sicrhau y bydd mwy o droseddwyr yn wynebu cyfiawnder; Dylai’r ymchwiliad cenedlaethol sicrhau y bydd asiantaethau yn cael eu dal i gyfrif am fethiannau yn y gorffennol.

2. Ffocws ar Ddioddefwyr a Goroeswyr

2.1 Rhaid i ddioddefwyr a goroeswyr fod ar flaen y gad o ran dull yr Ymchwiliad, gydag ymgysylltiad a chefnogaeth sy’n seiliedig ar drawma wedi’i ddarparu’n briodol, a rhoi sylw parhaus i gyflawni canlyniadau sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion ac yn ymateb iddynt yn gywir o fewn yr amserlenni gofynnol.   

2.2 Rhaid i’r Ymchwiliad fod yn glir ac yn dryloyw. Rhaid iddo ddatblygu siarter ynghylch sut y gall dioddefwyr a goroeswyr gymryd rhan, a sut bydd eu barn, eu profiadau a’u tystiolaeth yn cael eu defnyddio i lywio a llunio natur gwaith yr Ymchwiliad.

2.3 Rhaid i ymgysylltu fod yn gynhwysol ac yn gynrychioladol, gan gydnabod nad yw dioddefwyr a goroeswyr yn grŵp homogenaidd a gallant fod â phrofiadau a nodweddion amrywiol. Rhaid i ymgysylltu ymdrechu i gynnwys dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr.

3. Gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol

3.1 Mae ‘camfanteisio’n rhywiol ar blant gan grŵp’ (‘CRhB gan grŵp’) yn is-set o gam-drin plant yn rhywiol sy’n cynnwys dau neu fwy o droseddwyr sy’n gysylltiedig drwy gymdeithasau ffurfiol neu anffurfiol sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant neu’n hwyluso camfanteisio’n rhywiol ar blant. Gall y cyfranogiad hwn fod ar sawl ffurf, gan gynnwys cyflwyno plant i eraill at ddibenion ecsbloetio, masnachu plentyn at gamfanteisio’n rhywiol, cymryd taliad am weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, neu ganiatáu i fangre gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau o’r fath.

3.2 Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau bod gwaith yr Ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar CRhB gan grŵp a gyflawnwyd gan ‘gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol’, fel y disgrifir yn yr Archwiliad Cenedlaethol.

4. Pwrpas ac Amcanion

4.1 Gan adeiladu ar waith yr Archwiliad Cenedlaethol, bydd yr Ymchwiliad hwn yn nodi ac yn goleuo methiannau mewn arferion hanesyddol a chyfredol wrth fynd i’r afael â gangiau sy’n meithrin perthynas amrhiodol, mewn ardaloedd lleol ledled y wlad, yn ogystal â rôl llywodraeth genedlaethol.  Bydd yr ymchwiliadau hyn yn cynnwys methiannau mewn perthynas â dioddefwyr nad ydynt fel arfer yn preswylio yn yr ardal berthnasol, er enghraifft lle y cawson nhw eu masnachu.

4.2 Dylai’r Ymchwiliad nodi methiannau systemig, sefydliadol ac unigol, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella ar lefel genedlaethol a lleol fel sy’n briodol.

4.3 Dylai’r Ymchwiliad archwilio sut roedd ethnigrwydd, crefydd neu ddiwylliant yn chwarae rhan mewn ymatebion ar lefel leol a chenedlaethol, yn ogystal â materion gwadu eraill, fel y trafodwyd yn yr Archwiliad Cenedlaethol. Bydd hefyd yn ystyried cefndir (gan gynnwys ethnigrwydd, crefydd a diwylliant) troseddwyr a dioddefwyr.

4.4 Er mwyn cyflawni ei bwrpas, bydd yr Ymchwiliad yn dilyn yr amcanion canlynol sy’n canolbwyntio trwy ymchwiliadau lleol ac adolygiad cenedlaethol.

4.5 Ymchwiliadau lleol

4.5.1 Amcan yr ymchwiliadau lleol yw nodi methiannau mewn systemau a gweithdrefnau, a methiannau gan arweinwyr unigol, wrth amddiffyn plant rhag gangiau sy’n meithrin perthynas amrhiodol o fewn ardaloedd lleol, a gwneud argymhellion ar gyfer newid a gwella ar unwaith a hirdymor lle bod angen.

4.5.2 Yn benodol, gall yr Ymchwiliad ystyried (fel y penderfynwyd gan y Cadeirydd):

  • Natur, digonolrwydd a phrydlondeb ymatebion sefydliadol (uniongyrchol a hirdymor) i achosion a amheuir neu wedi’u cadarnhau o gangiau sy’n meithrin perthynas amrhiodol;
  • Colli cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth, amddiffyn a chydweithredu effeithiol;
  • Yr ymateb i, a’r effaith ar, unigolion a adroddodd droseddau gangiau sy’n meithrin perthynas amrhiodol, gan gynnwys dioddefwyr, goroeswyr, a gweithwyr proffesiynol;
  • P’un a oedd ethnigrwydd, crefydd neu ddiwylliant wedi chwarae rhan yn yr ymateb; a
  • I ba raddau y mae methiannau a nodwyd wedi arwain at newidiadau mewn ymarfer, polisi neu ddeddfwriaeth, ac a yw’r newidiadau hynny wedi bod yn effeithiol.

4.5.3 Mewn unrhyw ardal leol, gall hyn gynnwys archwilio gweithredoedd y gwasanaethau neu’r asiantaethau canlynol (fel y penderfynir gan y Cadeirydd):

  • partneriaethau diogelu lleol (a’u rhagflaenwyr);
  • partneriaethau diogelwch cymunedol;
  • awdurdodau lleol (gan gynnwys gwaith cymdeithasol plant a gwasanaethau teuluoedd);
  • heddluoedd;
  • y system cyfiawnder troseddol ehangach (gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron);
  • gwasanaethau iechyd ac iechyd rhywiol;
  • lleoliadau addysg;
  • gwasanaethau ieuenctid a chymunedol gan gynnwys timau troseddau ieuenctid; a
  • sefydliadau gwirfoddol neu’r trydydd sector, fel sefydliadau cymorth i ddioddefwyr.

4.5.4 Dylai’r Ymchwiliad atgyfeiriadau at gyrff proffesiynol perthnasol, fel bo’n briodol, lle amheuir methiannau i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau.

4.6 Adolygiad cenedlaethol

4.6.1 Nodi argymhellion ar lefel genedlaethol ar gyfer newid yng Nghymru a Lloegr, sy’n deillio o adolygiadau lleol, wedi’u llywio gan y rhai sydd eisoes wedi mynd i’r afael â nhw gan yr Archwiliad Cenedlaethol, yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, neu ymrwymiadau eraill y llywodraeth.

4.6.2 Nodi achosion lle, yn seiliedig ar adroddiadau o ymchwiliadau lleol, mae mecanweithiau atebolrwydd gwleidyddol neu sefydliadol wedi methu, a chynnig argymhellion gweithredadwy i fynd i’r afael â’r methiannau hyn a’u cywiro.

5. Cwmpas

5.1 Bydd yr Ymchwiliad yn ymdrin â Chymru a Lloegr. Os yw’r Ymchwiliad yn nodi unrhyw ddeunydd sy’n ymwneud â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, bydd yn eu trosglwyddo i’r awdurdodau perthnasol lle bynnag mae hynny’n bosibl.

5.2 Ni fydd yr Ymchwiliad yn mynd i’r afael â honiadau sy’n ymwneud â digwyddiadau yn y Tiriogaethau Tramor neu Dibyniaethau’r Goron. Fodd bynnag, bydd unrhyw honiadau o’r fath a dderbynnir gan yr Ymchwiliad yn cael eu cyfeirio at y cyrff gorfodi’r gyfraith perthnasol yn yr awdurdodaethau hynny.

5.3 Nid yw ecsbloetio o reidrwydd yn digwydd mewn un lleoliad. Bydd unrhyw honiadau o ecsbloetio a cham-drin sy’n croesi ffiniau awdurdodaeth yn cael eu trosglwyddo i’r awdurdodau perthnasol lle bynnag y bo modd.

5.4 At ddibenion yr Ymchwiliad hwn ystyr “plentyn” yw unrhyw un o dan 18 oed. Fodd bynnag, bydd yr Ymchwiliad yn ystyried materion mewn perthynas â chamfanteisio ar unigolion dros 18 oed, os dechreuodd y cam-drin hwnnw pan oedd yr unigolyn yn blentyn.

5.5 Dylai’r Ymchwiliad archwilio materion sy’n codi rhwng 1 Ionawr 2000 a dyddiad sefydlu’r Ymchwiliad, XX.

5.6 Ni fydd yr Ymchwiliad yn ceisio bod yn gynhwysfawr, gan na fydd yn ymchwilio i bob ardal leol lle mae gangiau sy’n meithrin perthynas amrhiodol wedi gweithredu, na phob achos ym mhob ardal leol. Yn lle hynny, bydd yn ystyried ardaloedd a gwasanaethau lle mae tystiolaeth benodol o fethiannau yn y gorffennol, gan weithio’n agos gydag Operation Beaconport.

5.7 Bydd yr Ymchwiliad yn ystyried pa ardaloedd lleol i’w hadolygu. Bydd y meini prawf a ddefnyddir i ddewis ardaloedd lleol yn cael eu cytuno rhwng y Llywodraeth a’r Ymchwiliad o fewn tri mis i’r dyddiad sefydlu ffurfiol.  Gall y Cadeirydd benderfynu ar gyfer unrhyw ardal leol bod angen gwrandawiadau cyhoeddus, ond mewn ardaloedd eraill efallai na fydd eu hangen a dylent fod yn sensitif i’r effaith ar ddioddefwyr a goroeswyr.

6. Llywodraethiant

6.1 Bydd yr Ymchwiliad yn cael ei arwain gan Gadeirydd a dau Banelydd, a benodir gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005.

6.2 Gall y Cadeirydd hefyd benodi Aseswyr neu gynghorwyr i gynorthwyo gwaith yr Ymchwiliad.

6.3 Yn ogystal â’u rolau a’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, dylai’r Cadeirydd yn benodol:

  • goruchwylio perthynas yr Ymchwiliad ag Ymgyrch yr Heddlu Cenedlaethol (Operation Beaconport);
  • gweithio gydag Operation Beaconport i lunio mecanwaith i ganiatáu rhannu gwybodaeth rhagweithiol rhwng Operation Beaconport a’r Ymchwiliad;
  • ystyried sut y bydd dioddefwyr a thystiolaeth goroeswyr yn llywio gwaith yr Ymchwiliad, trwy ymgysylltu ystyrlon ac ymarfer sy’n seiliedig ar drawma; a
  • ceisio cyflawni’r defnydd mwyaf effeithlon o amser ac adnoddau, gan gadw’r gost i’r lleiafswm posibl, ac arwain at gasgliadau o fewn yr amser byrraf posibl.

6.4 Wrth ymgymryd â’i waith, gall yr Ymchwiliad, lle bo angen ac yn briodol, ymgysylltu â materion sy’n croestorri ag ymchwiliadau troseddol parhaus. Dylai’r Ymchwiliad gymryd pob cam angenrheidiol i osgoi rhagfarnu ymchwiliadau o’r fath, gan gynnwys cysylltu â chyrff gorfodi’r gyfraith perthnasol. Mae gwaith yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal o dan awdurdod ei Gylch Gorchwyl ac nid yw’n bwriadu ymyrryd ag achosion troseddol neu ddisodli. Os nad yw’r Ymchwiliad yn gallu mynd ar drywydd o fewn yr amserlenni a sefydlwyd gan y Cylch Gorchwyl hyn oherwydd achos troseddol parhaus, dylid nodi hyn yn yr adroddiad perthnasol, ond ni ddylai oedi cyflwyno’r adroddiad hwnnw yn amserol.

6.5 O fewn chwe mis i ddechrau’r Ymchwiliad, dylai Operation Beaconport a’r Ymchwiliad gyhoeddi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) ar y cyd. Dylai’r ddogfen hon nodi’r egwyddorion, y protocolau a’r mecanweithiau ar gyfer cydweithio rhwng yr Ymchwiliad a chydweithwyr plismona.

6.6 Bydd yr Ymchwiliad yn gweithredu am ddim mwy na thair blynedd, o fewn cyllideb o £65 miliwn. O fewn chwe mis ar ôl ei benodi, dylai’r Cadeirydd benderfynu beth y mae’n rhaid ei gyflawni o fewn yr amserlen a’r gyllideb hon (a dyddiadau ar gyfer y cyflawniadau hynny) ac adrodd yr asesiad hwn i’r Ysgrifennydd Cartref.  Gellir diwygio’r Cylch Gorchwyl hyn i adlewyrchu’r amserlen waith honno.

6.7 Rhaid adolygu’r Cylch Gorchwyl hyn yn flynyddol rhwng yr Ysgrifennydd Cartref a’r Cadeirydd, gydag ymgynghori â Gweinidogion Cymru fel y bo’n briodol, gan gynnwys i adolygu’r cynnydd a sicrhau bod yr Ymchwiliad yn gallu cyflawni o fewn y gyllideb ac o ran amser. Os yw amserlenni neu gyllideb mewn perygl, mae gan y Cadeirydd ddyletswydd i roi cynigion i’r Ysgrifennydd Cartref i unioni hynny.

7. Argymhellion ac adroddiadau

7.1 Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer pob ardal leol a adolygir yn unol â’r amserlen y cytunwyd arnynt ac sy’n cyd-fynd â’r amcanion a nodir uchod. Dylai’r adroddiadau lleol hyn fod ar gael i’r cyhoedd.

7.2 Dylai’r Ymchwiliad fynd ymlaen yn ddigon cyflym i sicrhau y gellir gweithredu ei argymhellion yn gyflym ac yn effeithiol.

7.3 Cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd, dylai’r Ymchwiliad syntheseiddio canfyddiadau’r ymchwiliadau lleol, a chynhyrchu adroddiad terfynol a fydd yn cynnwys yr adolygiad cenedlaethol a ddisgrifir uchod yn adran 4.6. Dylid cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref a’i gyhoeddi wedyn.

7.4 Dylai argymhellion lleol a chenedlaethol gael eu llywio trwy ymgynghori â’r awdurdodau mwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am eu gweithredu.

7.5 Dylid rhannu unrhyw adroddiadau o’r Ymchwiliad neu ddiweddariadau angenrheidiol hefyd â Phrif Weinidog Cymru fel sy’n briodol.