Ystadegau Swyddogol

Cwmnïau corfforedig yn y Deyrnas Unedig Ionawr i Mawrth 2017

Cyhoeddwyd 27 April 2017

Pwyntiau allweddol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2016

  • Yn y Deyrnas Unedig rhwng Ionawr a Mawrth 2017, cafwyd 170, 143 o gorfforiadau cwmnïau a 108,919 o ddiddymiadau.
  • Ar ddiwedd y cyfnod, 3,896,755 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr gyfan. 3,648,478 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr effeithiol. Mae’r gofrestr gyfan a’r gofrestr effeithiol wedi parhau i dyfu ers dechrau 2012.
  • Er gwaethaf tueddiadau tymhorol, mae nifer y corfforiadau a diddymiadau hefyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2012.
  • Bu cynnydd yn y nifer o ymgorfforiadau rhwng chwarter olaf 2016 ac yn chwarter cyntaf 2017, yn gyson â thueddiadau yn y blynyddoedd blaenorol.
  • Cynyddodd nifer y cwmnïau a ddiddymwyd ar ddechrau 2016 yn sylweddol, o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd ym mis Hydref 2015. Ers hynny, mae’r nifer o diddymiadau wedi gostwng, er eu bod yn parhau i fod yn gyson uwch na chyn y newidiadau deddfwriaethol.

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y darperir yr adroddiad ystadegol llawn. Os hoffech weld cyfieithiad Cymraeg o fersiynau o’r adroddiad hwn yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at: statistics@companieshouse.gov.uk. Ystadegau blaenorol

Gallwch ddarllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig (yn Saesneg) neu gellir gweld datganiadau ystadegau o flynyddoedd blaenorol ar wefan yr Archifau Gwladol.