Ffurflen

Gofyn i CThEM drosglwyddo lwfansau Treth Incwm sydd dros ben

Defnyddiwch ffurflen 575(T) i ofyn i Gyllid a Thollau EM drosglwyddo unrhyw Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall heb eu defnyddio i'ch priod neu bartner sifil.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein (mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Gwneud cais drwy’r post

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Nodiadau ar gyfer llenwi ffurflen 575(T)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

I roi gwybod i CThEM eich bod am drosglwyddo Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall sydd heb eu defnyddio i’ch priod neu bartner sifil, gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod er mwyn gallu dilyn hynt eich ffurflen.

Er mwyn llenwi’r ffurflen bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad y briodas neu ffurfio’r bartneriaeth sifil
  • cyfeirnod CThEM eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar unrhyw lythyr neu ffurflen y mae wedi ei gael o’i swyddfa CThEM)
  • rhif Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar slip cyflog, P60 neu Ffurflen Dreth eich priod neu bartner sifil)
  • manylion eich incwm a didyniadau ar gyfer y flwyddyn dreth hon
  • manylion y lwfansau yr ydych am hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth hon
Cyhoeddwyd ar 3 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 July 2020 + show all updates
  1. We have updated the link to apply online.

  2. The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2020.

  3. The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2019 to 2020.

  4. The English and Welsh postal versions have been updated to remove paragraph for claiming higher personal allowance when born before 6 April 1948.

  5. Apply by post PDF has been updated to reflect changes effective from 2018.

  6. This guidance has been updated to reflect changes effective from 6 April 2017.

  7. An online forms service is now available.

  8. Replaced print and post iform with flat PDF.

  9. The Income Tax: notice of transfer of surplus Income Tax allowances (575(T)) has been updated for 2016 to 2017.

  10. New interactive form now available

  11. Welsh translation to form 575(T) added to the page.

  12. First published.