Ffurflen

Datgan buddiannau mewn eiddo ac incwm ar y cyd

Os ydych yn berchen eiddo ar y cyd â'ch priod neu bartner sifil, ac am newid sut mae'r incwm ohono'n cael ei rannu at ddibenion treth, defnyddiwch Ffurflen 17 (Treth Incwm).

Dogfennau

Datgan buddiannau mewn eiddo ac incwm ar y cyd (Ffurflen 17)

Manylion

Os ydych yn byw gyda phriod neu bartner sifil ac mae gennych incwm o eiddo rydych yn berchen arno ar y cyd, cewch, fel arfer, eich trethu ar raniad cyfartal o’r incwm rhyngoch.

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych am newid sut y rhennir yr incwm i’ch cyfran wirioneddol o berchnogaeth.

Bydd yn rhaid i chi hefyd roi tystiolaeth bod eich buddiannau yn yr eiddo yn anghyfartal, er enghraifft, datganiad neu weithred.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth ynghyd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 31 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 April 2016 + show all updates
  1. Welsh translation and Welsh I-form have been added to this page.

  2. First published.