Ffurflen

Mewnforio ac allforio: gwarantu gohirio taliad i CThEM (C1201)

Defnyddiwch ffurflen C1201 i warantu gohirio taliad i Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Dogfennau

Manylion

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i warantu taliad gohirio tollau sy’n ddyledus i CThEM drwy’ch cyfrif gohirio tollau. Mae’n rhaid i’ch sefydliad ariannol llenwi a chyflwyno’r ffurflen hon.

Os ydych yn gwneud cais am gyfrif gohirio tollau i’w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr, byddwn yn rhoi gwybod a oes angen i chi gael gwarant gan eich sefydliad ariannol yn ystod y broses ymgeisio.

Ni ddylech gyflwyno ffurflen C1201 oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny fel rhan o’n hasesiad o’ch cais am gyfrif gohirio tollau.

Bydd angen i’ch Gwarantwr llenwi ffurflen C1201 neu C1201A (ar gyfer diwygiad) ac yna bydd rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Prudential o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.

Ffurflenni ac arweiniad perthynol

Mewnforio ac allforio: trefniadau gohirio - cais am gymeradwyaeth (C1200)
Defnyddiwch ffurflen C1200 i wneud cais i ohirio taliad o dollau, trethi, ardollau, codiadau ac adneuon.

Mewnforio ac allforio: cywiriad i ffurflen C1201 - gwarantu gohirio (C1201A)
Defnyddiwch ffurflen C1201A os ydych yn warantwr a bod angen i chi roi gwybod i CThEM am gywiriad i ffurflen C1201 ynglŷn â gohirio taliad.

Mewnforio ac allforio: gwarantu taliad sy’n ddyledus drwy ddefnyddio’r System Ddiogel Talu Ecseis (C1201TAPS)
Defnyddiwch ffurflen C1201TAPS i warantu taliad sy’n ddyledus i CThEM drwy ddefnyddio’r System Ddiogel Talu Ecseis.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 March 2021 + show all updates
  1. Information about applying for a duty deferment account has been updated.

  2. Welsh version of the form C1201 has been added to this page.

  3. First published.