Guidance

Sut i gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2015

Updated 6 April 2020

  • Dynion wedi’u geni rhwng 6 Ebrill 1945 a 5 Ebrill 1950
  • Merched wedi’u geni rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Hydref 1952

Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng y dyddiadau uchod ond ddim yn derbyn nac yn disgwyl cael Pensiwn sylfaeonol y Wladwriaeth llawn, yna effallai y gallwch wella’r swm a gewch drwy dalu hyd at chwe mlynedd ychwanegol o gyfraniadau Yswirant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol (byddwn yn galw’r rhain yn ‘gyfraniadau gwirfoddol yn y ffeithlen hon) am flynyddoedd yn mynd yn ôl i 1975.

Mae hyn yn ychwanegol i’r cyfle efallai sydd gennych eisoes i dalu cyfraniadau gwirfoddol am rhywfaint o’r 6 blynedd ddiwethaf.

Mae’r ffeithlen hon yn dweud wrthych am eich opsiynau.

Nid yw talu cyfraniadau gwirfoddol yn iawn i bawb – mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dylech gael gwybod mwy o wybodaeth a chyngor cyn gwneud unrhyw daliadau. Mae Adrannau 5-7 yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

1. Beth yw cyfraniadau gwirfoddol?

Pan rydych yn gweithio rydych yn talu rhan o’ch enillion i’r llywodraeth, pan fyddwch yn ymddeol efallai y cewch rhywfaint o incwm rheolaidd o’r Pensiwn y Wladwriaeth. Gelwir yr arian rydych yn dalu yn gyfraniadau Yswirant Gwladol. Mewn rhai amgylchiadau efallai byddwch yn cael eich trin fel pe baech wedi talu neu eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os nad oes gennych ddigon o gyfraniadau mewn blwyddyn dreth, efallai y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol i wella eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

2. Cyfle i dalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Efallai y gallwch dalu hyd at chwe mlynedd ychwanegol o gyfraniadau gwirfoddol i gwmpasu blynyddoedd yn mynd yn ôl i 1975, os ydych:

  • wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2015, ac
  • eisoes gyda 20 mlynedd cymhwyso, yn cynnwys unrhyw flynyddoedd llawn o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref

2.1 Beth yw blwyddyn gymhwyso?

Blwyddyn gymhwyso yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu, wedi cael eich trin fel pe baech wedi talu, neu wedi cael eich credydu gyda, digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol iddynt gyfri tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol tra’r rydych yn gweithio. Neu gallwch gael eich credydu gyda chyfraniadau, er enghraifft, tra’n gofalu am eraill neu’n hawlio budd-daliadau penodol.

2.2 Beth yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref?

Roedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn diogelu cofnod Yswiriant Gwladol gofalwyr am yr amser roeddynt yn gofalu am blant o dan 16, neu am berson sal neu anabl, am o leiaf 35 awr yr wythnos; ac, o 2003, gofalwyr maeth wedi eu cymeradwyo. O 6 Ebrill 2010 mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref wedi cael ei ddisodli gan gredyd Yswiriant Gwladol wythnosol i gyfri tuag at Bensiwn y Wladwriaeth.

2.3 A allaf dalu cyfraniadau gwirfoddol am unrhyw flynyddoedd roeddwn wedi talu’r gyfradd gwraig briod?

Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol am unrhyw flwyddyn dreth lle rydych wedi dewis talu’r gyfradd ostyngedig gwraig briod am yr holl flwyddyn dreth honno.

2.4 Faint fydd y cyfraniadau gwirfoddol yn gostio?

Y gost wythnosol yw £15.30 yn 2020/21, neu £795.60 y flwyddyn am bob blwyddyn gyflawn rydych yn ei brynu. Gallai’r gost newid pob blwyddyn.

Efallai na fyddwch angen talu am flwyddyn gyfan os ydych wedi talu rhywfain o gyfraniadau neu gyda rhywfaint o gredydau ar gyfer y flwyddyn dreth rydych eisiau talu.

2.5 A oes yna derfyn amser ar gyfer talu cyfraniadau gwirfoddol ychwane gol o dan y cyfle hwn?

Mae gennych hyd at chwe mlynedd o’r dyddiad y cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth i dalu cyfraniadau gwirfddol o dan y cyfle hwn.

2.6 Faint rhagor o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a allwn gael?

Bydd pob blwyddyn ychwanegol rydych yn dal yn cynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gan 1/30 o’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn. Y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn yw £134.25 yr wythnos o fis Ebrill 2020 ac mae 1/30 o gynnydd tua £4.48 yr wythnos. Ni all cyfraniadau gwirfoddol gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth uwchben y gyfradd lawn.

2.7 O ba bryd fyddai fy Mhensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu?

Bydd eich cyfraniadau gwirfoddol yn cynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o pryd y bydd eich taliad yn cael ei dderbyn. Mae hyn yn golygu na fydd y cynnydd yn cael ei ôl-ddyddio i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

3. Pethau i’w hystyried cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Newidiodd rheolau Pensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebill 2010. Mae un o’r newidiadau yn golygu na fyddwch angen dim ond 30 o flynyddoedd cymhwyso ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn. Mae’r rhan fwyaf o’r rheolau wedi newid ar gyfer derbyn Budd-daliadau Profedigaeth, a all fod yn daladwy i’ch priod neu bartner sifil pan fyddwch yn marw.

Mae Budd-daliadau Profedigaeth wedi cael eu disodli gan Daliad Cymorth Profedigaeth ers Ebrill 2017. Ni fydd cyfraniadau gwrifoddol yn cael eu defnyddio i gymhwyso am y budd-dal hwn.

Ni fydd pawb a all dalu cyfraniadau gwirfoddol yn cael budd o’u talu.

Dyma rhai enghreifftiau o amgylchiadau a allai olygu y buasech yn ennill ychydig neu ddim wrth dalu cyfraniadau gwirfoddol:

  • Gallai Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gwell ostwng unrhyw fudd-daliadau yn berthnasol i incwm, er enghraifft Credyd Pensiwn neu Budd-dal Tai, rydych chi neu eich partner yn gael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol
  • Gallai Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gwell olygu eich bod yn talu mwy o dreth, oherwydd bod Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy
  • Efallai y gallwch ddefnyddio cyfraniadau gan eich diweddar briod neu bartner sifil, neu gyn briod neu bartner sifil i wella eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth – felly efallai na fyddwch angen talu rhagor o gyfraniadau gwirfoddol
  • Mae Lwfans Profediageth a Lwfans Rhiant Gweddw wedi cael eu disodli gan Daliad Cymorth Profediagaeth ar gyfer hawlwyr newydd o fis Ebrill 2017. Ni fydd Cyfraniadau Gwirfoddol yn cael eu defnyddio i fod yn gymwys i’r budd-dal newydd hwn

Rydych angen gwirio p’un ai y byddwch yn well neu’n waeth allan os buasech yn talu cyfraniadau gwirfoddol.

Gallai eich penderfyniad i dalu cyfraniadau gael ei effeithio hefyd gan:

  • eich disgwyliad einioes
  • y dyddiad rydych chi a’ch, lle yn briodol, eich diweddar neu gyn briod neu bartner sifil yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladriaeth, a’r
  • y nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych

Os nad ydych wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gael asesiad Pensiwn y Wladwriaeth dros dro.

Mae Adran 5 yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Mae’n bwysig ystyried eich amgylchiadau eich hun yn ofalus cyn i chi dalu. Nid oes hawl awtomatig i gael ad-daliad os, ar ôl talu, rydych yn penderfynu eich bod wedi gwneud y dewis anghywir.

4. Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth cyffredinol ar Bensiwn sylfaenol y wladwriaeth a budd-daliadau yn GOV.UK.

5. Beth i’w wneud nesaf

5.1 Os ydych yn byw yn y DU

Os ydych yn byw yn y DU a’ch bod yn credu y gallech elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0453 (neu os ydych am siarad Saesneg ffoniwch 0800 731 0469).

5.2 Os ydych yn byw dramor

Os ydych yn byw dramor ac yn meddwl y byddai o fudd i chi dalu cyfraniadau gwirfoddol gallwch gysylltu â Chanolfan Pensiwn Newcastle (Grŵp Rhyngwladol) ar +44 191 218 7777.

6. Cysylltu â ni

Os byddwch yn ein ffonio sicrhewch fod gennych:

  • eich enw llawn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad geni, a
  • (ar gyfer cyfeiriadau yn y DU) eich cod post

Byddwn yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM ar eich rhan i gael gwybod am y bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau faint o flynyddoedd o gyfraniadau gwirfoddol efallai y gallwch brynu ac esbonio’r broses ar gyfer eu talu, os mai dyna beth rydych yn benderfnu i’w wneud

7. Cael help annibynnol

Efallai y byddwch yn dymuno cael rhywfaint o gyngor annibynnol. Mae llawer o sefydliadau yn cynnig cyngor am ddim, neu gallech gael cyngor gan cynghorydd ariannol annibynnol, ond nodwch efallai bydd rhaid i chi dalu am hyn.

Gallwch gael hyd i Ran 6 o’r tudalennau Cynllunio ar gyfer eich incwm ymddeol yn GOV.UK o help.

Os ydych yn penderfynu defnyddio cynghorydd ariannol, gwnewch yn siŵr pob amser bod y cwmni rydych yn ddefnyddio wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Arweiniad Ariannol neu wedi ei gofrestru fel bod gennych fynediad i’w gweithdrefnau cwynion a chynllun iawndal os aiff pethau o le.

Gallwch gael hyd i’r Cofrestr Gwasanaethau Ariannol yn register.fca.org.uk

8. Wrth ofyn am gyngor neu wybodaeth bellach, dylech gael wrth law

  • eich enw llawn a chyfeiriad ar hyn o bryd
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad blaenorol a’r dyddiadau rydych wedi byw yno (gan gynnwys unrhyw amser wedi ei dreulio yn byw dramor)
  • os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, byddwch angen enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • manylion o unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu derbyn neu’n gwneud cais amdanynt, a
  • manyliono unrhyw Fudd-dal Plant rydych wedi dderbyn yn y gorffennol, fel ein bod yn gallu gwirio os cafodd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ei roi ar eich cofnod

9. Gwybodaeth bwysig am y ffeithlen hon

Rydym wedi gwneud ein gorau i wneud yn siŵr bod y wybodaeth yn y ffeithlen hon yn gywir ar mis Ebrill 2020. Mae’n bosibl bod rhywfaint o’r wybodaeth wedi ei orsymleiddo neu efallai wedi mynd yn llai cywir dros amser., er enghraifft oherwydd newid yn y gyfraith.