Canllawiau

Atodiad A: Dyraniadau cyllid awdurdodau lleol Cartrefi ar gyfer yr Wcrain Hydref i Ragfyr 2023 (Cymru)

Cyhoeddwyd 19 April 2024

Awdurdod Lleol Nifer y gwesteion a Gyrhaeddodd Chw3 Nifer y taliadau ‘Diolch’ a wnaed Chw3 Tariff a ddyrannwyd (£) Taliadau Diolch a ddyrannwyd (£) Cyfanswm a ddyrannwyd (£)
CYFANSWM Cymru 171 3769 1,062,500 1,657,100 2,719,600
Llywodraeth Cymru -1 680 - 47,300 312,100 264,800
Blaenau Gwent 0 48 0 21,150 21,150
Pen-y-bont ar Ogwr 1 -20 - 35,500 4,700 - 30,800
Caerffili 2 411 - 20,400 170,100 149,700
Caerdydd 44 89 377,600 46,600 424,200
Sir Gaerfyrddin 7 165 41,300 83,100 124,400
Ceredigion 8 84 47,200 37,200 84,400
Conwy 1 144 - 17,100 61,650 44,550
Sir Ddinbych 8 80 42,600 40,000 82,600
Sir y Fflint 13 112 95,100 31,550 126,650
Gwynedd 7 94 41,300 51,650 92,950
Ynys Môn 2 42 11,800 14,100 25,900
Merthyr Tudful 0 43 0 21,350 21,350
Sir Fynwy 8 10 65,600 20,750 86,350
Castell-nedd Port Talbot 3 75 17,700 30,750 48,450
Casnewydd 18 463 110,800 182,000 292,800
Sir Benfro 14 106 82,600 50,150 132,750
Powys -1 234 - 33,500 81,150 47,650
Rhondda Cynon Taf 9 150 71,500 66,450 137,950
Abertawe 19 577 153,500 229,700 383,200
Torfaen 3 77 17,700 35,800 53,500
Bro Morgannwg 4 1 28,200 24,650 52,850
Wrecsam 2 104 11,800 40,450 52,250

Mae’r holl ddyraniadau tariff yng Nghymru yn cael eu talu mewn digwyddiadau cyllidol yn hytrach na yn chwarterol. Bydd y symiau hyn yn cael eu talu gan DLUHC i Lywodraeth Cymru yn gynnar yn 2025 er mwyn dosbarthu i gynghorau.

Darperir cyllid ar gyfer taliadau diolch i noddwyr unigol yng Nghymru bob chwarter mewn ôl-daliadau. Telir hwn yn uniongyrchol i gynghorau yng Nghymru gan ddefnyddio pŵer cymorth ariannol (a.50/51) Deddf Marchnad Fewnol y DU.

Gall nifer y taliadau diolch fod yn llai na nifer y cartrefi sy’n noddi oherwydd oedi cyn i awdurdodau wneud taliadau diolch, neu noddwyr yn gwrthod taliadau diolch.

Mae holl gynghorau Cymru wedi’u cynnwys yn nyraniadau cyllid Chwarter 3.

Mae’r tabl dyraniadau yn dangos na dderbyniodd dau gyngor dariff am y chwarter. Mae hyn o ganlyniad i beidio â chael unrhyw ddyfodiaid newydd yn eu hardal yn ystod Chwarter 3.

Lle mae gan gynghorau ddyraniad negyddol, mae’r cynghorau hyn wedi addasu eu hawliadau i gyfrif am hawliadau a wnaed mewn camgymeriad yn y chwarteri blaenorol.

Mae £264,800 wedi’i gynnwys yn y tabl dyraniadau uchod, a fydd yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd o dan Gynllun Uwch-Noddwr Cymru ar gyfer Chwarter 3.

Yn ogystal â’r dyraniadau a nodir uchod, rydym wedi dyrannu cyfanswm o £16,037 i Gymru mewn cyllid ar gyfer plant dan oed cymwys a gafodd eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol o ganlyniad i fethiant nawdd neu bryder diogelu, yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd.

Ni fydd y data yn y cyhoeddiad hwn yn cyfateb i’r data wythnosol a gyhoeddir ar Gynllun Noddi Wcráin. Mae hyn oherwydd bod y data’n cael ei gasglu dros gyfnod gwahanol o amser, ac mae’r data hwn yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol gan gynghorau tra bod data Cynllun Noddi Wcráin yn wybodaeth reoli gan systemau gweithredol.