Canllawiau

Penderfyniad ar grant ar gyfer taliadau diolch i gartrefi sy'n noddwyr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin (2022-23) Rhifau 50/DLU17BR221164-85 (Cymru)

Cyhoeddwyd 23 November 2022

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (“yr Ysgrifennydd Gwladol”) wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan Adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, yn gwneud y penderfyniad canlynol:

Enwi

1. Gellir enwi’r penderfyniad hwn yn grant diolch i noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin Rhifau 50/DLU17BR221164-85.

Diben y grant

2. Prif ddiben y [grant ar gyfer taliadau diolch i gartrefi sy’n noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin] yw helpu awdurdodau lleol i wneud taliadau diolch misol gwerth £350 yn uniongyrchol i gartrefi sy’n noddi o dan y cynllun am 12 mis, neu am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU. Mae’r taliadau hyn yn ddewisol ar gyfer y cartref sy’n noddi ac maent yn daladwy o’r dyddiad cyrraedd â lletywr.

3. Cynhelir proses gysoni ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022-23.

Penderfyniad

4. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu pa awdurdodau y telir grant iddynt a swm y grant sydd i’w dalu fel y nodir yn Atodiad A i’r penderfyniad hwn.

5. Telir y grant mewn ôl-daliadau yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys a wneir gan awdurdod lleol i noddwyr cymwys sydd wedi bodloni’r gofynion cymeradwyo fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Gwneir taliadau bob chwarter am flwyddyn ac am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU.

Amodau’r grant

6. Yn unol ag adran 51(1) (b) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol yn Atodiad B.

Cydsyniad Trysorlys EF

7. Cyn gwneud y penderfyniad hwn mewn perthynas ag awdurdodau lleol, cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol gydsyniad Trysorlys EF.

Llofnodwyd drwy awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol.

Atodiad A: dyraniadau grant

Fe’i hatodir fel dogfen ar wahân.

Atodiad B: Amodau’r grant

Yn unol ag adran 51(1) (b) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

1. Dim ond yn unol â’r amgylchiadau a nodir yng nghanllawiau Cartrefi i Wcráin i gynghorau (Atodiad C) y gwneir taliadau i noddwyr ac ni ddylid eu rhyddhau nes y bydd:

a. Ar gyfer noddwyr gwesteion sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin:

  • ymweliad ag eiddo’r cartref sy’n noddi, gan yr awdurdod lleol, wedi’i gwblhau
  • yr awdurdod lleol wedi cadarnhau bod y llety yn addas, bod y gwestai yn iach ac nad oes unrhyw bryderon difrifol o ran diogelu na llesiant.

b. Ar gyfer noddwyr plant a phobl ifanc dan oed sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad ac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad:

  • yr holl wiriadau diogelwch ac archwiliadau o’r llety wedi’u cwblhau gan gynnwys yr asesiad o addasrwydd noddwr a arweinir gan y cyngor a nes y bydd y cyngor wedi cadarnhau bod y trefniant yn addas yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn y canllawiau
  • y cyngor wedi cwblhau’r ymweliad ar ôl cyrraedd cyntaf, yn unol â’r gofynion a nodir yn y cynllun a’r canllawiau ar faethu preifat, gan gadarnhau addasrwydd y trefniadau byw a nodi unrhyw anghenion llesiant uniongyrchol.

2. Rhaid i awdurdod sy’n derbyn sicrhau bod taliadau diolch i gartrefi sy’n noddi cymwys sy’n gofyn amdanynt yn cael eu gwneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

3. Os bydd swm y grant a delir i awdurdod yn unol ag Atodiad A yn fwy na’r pwysau gwirioneddol sydd ar yr awdurdod (yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys i gartrefi sy’n noddi cymwys yn eu hardal), ad-delir y gwahaniaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol. At hynny, os rhoddir gwybod i’r Adran Ffyniant Bro, Cymunedau a Thai fod awdurdod wedi torri amodau’r grant uchod, mae’n cadw’r hawl i adennill arian. Cynhelir proses gysoni ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022-23.

Atodiad C: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i gynghorau