Correspondence

Gwybodaeth newydd i westeiwyr cynllun Cartrefi i Wcráin

Published 1 March 2023

Annwyl westeiwr

Diolch i chi – a haelioni rhyfeddol degau o filoedd o gartrefi fel rhai chi mewn pob rhan o’r wlad – mae mwy na 110,000 o Wcreinaid bellach yn ddiogel yn y Deyrnas Unedig, ar ôl cyrraedd o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Rydyn ni’n gwybod bod rhoi llety i bobl a gyrhaeddodd fel dieithriaid, ac sydd bellach gobeithio yn ffrindiau, yn faich mawr. Ac rydym mor ddiolchgar i chi a’ch teuluoedd am wneud hyn ac am yr ymrwymiad sydd ei angen i gynnig hyn.

Mae nifer yr ymgeiswyr a nifer y teuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig sy’n barod i agor eu cartrefi i’r rhai sy’n ceisio lloches yn rhyfeddol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu cydweithio â chynghorau, elusennau, y gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid eraill i wneud y cynllun hwn mor llwyddiannus—sef, yn ein barn ni, un o’r cynlluniau fisa sy’n tyfu gyflymaf a mwyaf yn ein hanes. Ond y gwir arwyr yw chi y noddwyr ac yn anad dim pobl Wcráin.

Bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi Wcráin yn gadarn. Mae’r Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig at gefnogi’r rhai sy’n ffoi o ryfel ac i’ch helpu chi, fel rhan hanfodol o’r system gymorth honno.

Wrth i ni nesáu at ben-blwydd cyntaf y cynllun Cartrefi i’r Wcráin rwy’n ysgrifennu atoch chi heddiw i nodi manylion ychydig o ddiweddariadau pellach a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar. Fel y mae gyda’r drefn arferol, bydd manylion llawn y cynllun ac atebion i’r cwestiynau ar gael ar gov.​uk yma: https://www.gov.uk/government/collections/homes-for-ukraine-sponsor-guides

Os ydych yn byw yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer gwesteiwyr a noddwyr (https://gov.wales/homes-ukraine-guidance-sponsors).

Mae gwefan Llywodraeth yr Alban yn darparu canllawiau i westeiwyr yn yr Alban yma: https://www.gov.scot/publications/ukraine-super-sponsor-scheme-guidance-for-hosts/ gan gynnwys rôl a disgwyliadau gwesteiwyr wrth gefnogi gwesteion a sut gall gwesteiwyr gael cymorth pellach.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae arweiniad pellach ar gael yn https://www.nidirect.gov.uk/

Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau’r gweinyddiaethau datganoledig i’r rhai sy’n byw yn Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Newidiadau i daliadau ‘diolch’

Rydym yn gwybod bod rhoi llety i bobl yn ymrwymiad sylweddol. Heb haelioni ac ymrwymiad noddwyr fel chi, ni fyddem wedi gallu rhoi lloches i gynifer o bobl mewn angen. Gwyddom fod noddwyr yn ddyngar ac yn garedig, ond rydym hefyd wedi sicrhau bod taliadau ‘diolch’ ar gael i noddwyr i helpu i dalu am gostau ychwanegol.

I gydnabod haelioni ein noddwyr a gan fod cymaint o noddwyr wedi dweud wrthym eu bod yn awyddus i barhau gyda’r drefn noddi ar ôl y cyfnod deuddeg mis blaenorol, gallwn gadarnhau yn awr y byddwch yn parhau i dderbyn taliad ‘diolch’ am hyd at ddwy flynedd ar ôl i westai gyrraedd y DU am y tro cyntaf.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynnydd yn swm y taliadau ‘diolch’ i westeion sy’n byw eu hail flwyddyn yn y DU, o £350 i £500 y mis.

Roedd llawer ohonoch wedi dweud wrthym y byddai’r gydnabyddiaeth ychwanegol hon yn eich helpu i barhau i roi llety, neu y byddai’n annog lletywyr newydd i ystyried rhoi llety i unigolyn neu deulu o’r Wcráin, gan gynnwys drwy ailbaru â gwesteion sydd eisoes yn y DU sydd angen noddwr newydd.

Gwyddom fod pethau’n anodd i lawer o deuluoedd ac, er na ddylech fod yn codi rhent ar eich gwesteion, efallai y byddwch yn penderfynu gofyn iddynt gyfrannu swm rhesymol tuag at filiau’r cartref. Mae pob Wcreiniad sy’n cyrraedd o dan Cartrefi i’r Wcráin yn gymwys i weithio yma ac mae ganddynt yr hawl i dderbyn budd-daliadau tra eu bod yn y DU.

Os hoffech chi roi llety i westai arall

Os yw eich trefniant rhoi llety presennol yn dod i ben neu eisoes wedi dod i ben, ac yr hoffech barhau i roi llety, cysylltwch â’ch cyngor. Gallwch hefyd ddangos eich diddordeb mewn rhoi llety ar-lein yn Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy: ttps://ukrainehostoffers.service.gov.scot/, yn yr Alban drwy https://www.gov.uk/register-interest-homes-ukraine, neu os ydych yn byw yng Nghymru drwy https://gov.wales/offerhome. Os byddwch yn ‘ail-baru’ i roi llety i westai arall neu deulu newydd, byddwch yn gymwys i hawlio taliadau ‘diolch’.

Os ydych am roi’r gorau i roi llety

Er ein bod yn gwybod bod llawer o noddwyr yn awyddus i barhau i roi llety, rydym hefyd yn gwybod nad yw hyn yn bosibl i bawb. Os na allwch barhau i roi llety, rydym yn eich annog i roi cymaint o rybudd â phosibl i’ch gwesteion a’ch cyngor, yn ddelfrydol rhybudd o ddau fis. Hefyd, gwnewch bob ymdrech i gefnogi eich gwesteion i ddatblygu cynllun ar gyfer symud o’ch cartref chi.

I’r rhai yn Lloegr, neu sy’n dymuno rhentu yn Lloegr, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ychydig o wybodaeth ar gyfer gwesteion o Wcráin sy’n dymuno rhentu llety yn breifat:
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/942503/6.6642_MHCLG_How_to_Rent_v5.pdf

Mae canllawiau hefyd ar gyfer Wcreiniaid sy’n byw yng Nghymru ar gael gan Lywodraeth Cymru: https://rentsmart.gov.wales/Uploads/Downloads/00/00/00/02/DownloadFileEN_FILE/RSW-Tenants-Guide-Disclaimer.pdf

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae New Scots Welcome gan Lywodraeth yr Alban, sydd ar gael yn Wcreneg yn darparu gwybodaeth am opsiynau tai, gan gynnwys rhentu: https://www.gov.scot/publications/welcome-pack-new-scots/pages/3/ Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael yn: https://www.mygov.scot/browse/housing-local-services/renting-property

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gall eich gwesteion gael rhagor o wybodaeth am rentu a thai cymdeithasol yn https://www.nidirect.gov.uk/

Os yw’ch gwesteion yn barod i rentu ond maent yn wynebu heriau, dylent gysylltu â’r cyngor i gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal. Mae cysylltiadau penodol ar gyfer y rhai sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon wedi’u darparu isod.

Gall pob Wcreiniad a gyrhaeddodd o dan Cartrefi i’r Wcráin gael eu ‘ail-baru’ gyda lletywr newydd hefyd, os oes rhaid i’w nawdd gwreiddiol ddod i ben. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn rhoi llety, anogwch nhw i gysylltu â’u cyngor lleol. Mae’n bosibl y gallwch chi helpu’ch gwesteion i ailbaru â lletywr newydd, er enghraifft rhywun yr ydych chi’n eisoes ei adnabod, grwpiau ffydd lleol, ysgolion, grwpiau cymunedol, neu elusennau. Gall gwesteion sydd eisoes yn byw yma symud i ardal cyngor newydd ar gyfer ail baru os ydynt yn dymuno ei wneud.

Rhowch wybod i’ch cyngor os yw’ch gwestai wedi dod o hyd i letywr newydd neu os yw wedi dychwelyd i’r Wcráin neu wedi gadael y DU am gyfnod dros bedair wythnos. Mae hyn yn bwysig gan y gallai fod goblygiadau i’r taliadau diolch a gewch. Ac os oes gennych bryderon am lety a diogelwch eich gwesteion yn y dyfodol, cysylltwch â’ch cyngor a gofynnwch am help.

I’r rhai sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, dyma’r prif gysylltiadau:

Mae rhagor o ganllawiau ar gael drwy https://www.nidirect.gov.uk/

Maethu

Fel rhywun sydd wedi mynegi diddordeb mewn, neu sydd wedi agor eu cartref yn hael i westai o’r Wcrain, roeddem am amlygu cyfleoedd ehangach i ddarparu gofal i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth, gan gynnwys plant Prydeinig sydd angen maethu neu blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ddod yn ofalwr maeth cofrestredig neu ddarparwr llety â chymorth, cysylltwch â’ch gwasanaeth maethu lleol.

Diolch

Unwaith eto, rwyf am fynegi fy niolch calon i chi. Wrth i genhedloedd ar draws y byd yn gweithio i gefnogi Wcráin, mae pobl y DU wedi sefyll gyda’i gilydd i gefnogi pobl Wcráin a chynnig llety a chroeso diogel iddyn nhw.

Michael Gove

Yr Ysgrifennydd Gwladol
Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau