Canllawiau

Cyllid Grant CThEF - arweiniad ar wneud cais

Diweddarwyd 24 August 2023

CThEF yw adran treth, taliadau a thollau’r DU. Rydym yn casglu’r arian sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU ac sy’n rhoi cymorth ariannol i bobl. Mae gennym 5 amcan strategol.

Rydym am roi gwasanaeth diduedd a chywir i’n cwsmeriaid sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill a’r llall. Rydym hefyd yn awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael pethau’n iawn. Mae Siarter CThEF yn egluro’r hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn a ddisgwyliwn ni.

Mae CThEF wedi sicrhau £5.5 miliwn ar gyfer rhaglen dair blynedd o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2027 (£1.835 miliwn y flwyddyn) i ariannu sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol (VCS). Bydd yr arian hwn yn helpu’r sefydliadau hyn i roi cyngor a chymorth i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt i ddeall a chydymffurfio â’u hymrwymiadau treth ac i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol.

Rydym yn chwilio am sefydliadau VCS i helpu cwsmeriaid i greu perthynas â CThEF, neu ailgydio yn y berthynas honno, sy’n eu galluogi i gydweithio â ni’n uniongyrchol yn y dyfodol.

Bydd disgwyl hefyd i sefydliadau gefnogi CThEF gydag ymchwil a mewnwelediad i nodi a lleihau rhwystrau a gwella profiadau i gwsmeriaid rydym yn ei chael yn anodd eu cyrraedd ac a allai fod mewn amgylchiadau bregus.

Rydym yn gwahodd ceisiadau am £30,000-£600,000 o gyllid y flwyddyn, gyda’r trothwy mwyaf wedi’i osod ar 50% o drosiant eich sefydliad (yn ôl y cyfrifon archwiliedig diwethaf).

Nodau cyllid CThEF

Rydym am i sefydliadau ddarparu cymorth aml-sianel, annibynnol yn rhad ac am ddim. Dylai’r ceisiadau ategu egwyddorion CThEF o ran rhoi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt, a dylent gynnwys dau neu fwy o’r gweithgareddau canlynol:

  • helpu pobl i gydymffurfio â’u materion treth
  • cefnogi cwsmeriaid ag anghenion cymhleth (gan gynnwys y rhai a gyfeiriwyd atom gan ein Tîm Cymorth Ychwanegol)
  • rhoi cymorth i bobl i allu defnyddio ffyrdd digidol o gael mynediad at wasanaethau CThEF

Helpu pobl i gydymffurfio â’u materion treth

Rydym yn gwneud hyn drwy’r canlynol:

  • rhoi cyngor a chymorth uniongyrchol i gwsmeriaid CThEF y mae angen help ychwanegol arnynt ac sy’n methu â fforddio talu am y cyngor a’r cymorth hynny
  • meithrin ffydd a hyder fel y gall cwsmeriaid ymdrin yn uniongyrchol â CThEF yn y dyfodol

Dylai hyn gwmpasu sbectrwm llawn gwaith CThEF, er enghraifft:

  • rhoi gwybod i ni am ffynonellau incwm neu newidiadau mewn amgylchiadau
  • rhoi cymorth i gwsmeriaid gyda rhwymedigaethau a hawliadau treth
  • cynorthwyo cwsmeriaid pan fyddwn yn ceisio gwybodaeth neu dystiolaeth bellach
  • cymorth gyda gwasanaeth dyled a chaledi CThEF

Cymorth i gwsmeriaid ag anghenion cymhleth

Rydym yn rhoi cymorth i gwsmeriaid ag anghenion cymhleth:

  • drwy roi gwybodaeth a chyngor arbenigol ar ymholiadau treth cymhleth gan gynnwys atgyfeiriadau gan dimau Cymorth Ychwanegol CThEF, adrannau eraill y llywodraeth neu sefydliadau VCS eraill.
  • gall hyn hefyd gynnwys cwsmeriaid sydd angen cynrychiolaeth trydydd parti, fformatau cyfathrebu hygyrch a chyfieithu, addasiadau corfforol a logistaidd

Cymorth digidol

Rydym yn rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd angen cymorth digidol i feithrin eu gallu i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF drostynt eu hunain, a hynny drwy:

  • magu hyder a ffydd cwsmeriaid wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol
  • darparu cymorth cynhwysiant digidol ochr yn ochr â chyngor treth
  • cadw cwsmeriaid mewn sianeli digidol pan fyddant yn cael anawsterau

Pwy rydym am i chi eu cefnogi

Rydym am i sefydliadau VCS gefnogi CThEF wrth helpu’r cwsmeriaid hynny sydd anoddaf i ni eu cyrraedd ar hyn o bryd, neu sy’n methu neu sydd ddim am gydweithio â ni’n uniongyrchol, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth wneud hynny.

Mae’n rhaid i’ch sefydliad allu dangos y gallwch ddarparu gwasanaethau cymorth gyda threth a gwasanaethau cymorth cysylltiedig, gan gynnwys cynnig cymorth gyda gwasanaethau digidol CThEF i amrywiaeth o gwsmeriaid CThEF heb gynrychiolaeth, gan gynnwys:

  • y rheiny ag anableddau corfforol, iechyd meddwl, gwybyddol, dysgu neu synhwyraidd
  • y rheiny sydd ar incwm isel neu mewn dyled ac yn wynebu caledi ariannol
  • cwsmeriaid sy’n cael anawsterau cyfathrebu, megis rhwystrau ieithyddol
  • cwsmeriaid sy’n cael anawsterau sy’n gysylltiedig ag oedran
  • cwsmeriaid sy’n brin o hyder ac yn poeni cryn dipyn am wneud camgymeriadau, neu sy’n newydd i wasanaethau CThEF
  • cwsmeriaid mewn trallod eithafol oherwydd digwyddiadau bywyd fel profedigaeth, salwch difrifol, tor-perthynas neu gam-drin domestig neu economaidd

Bydd yn rhaid i’ch cynnig ddangos sut y gallwch helpu cwsmeriaid yn un neu fwy o’r grwpiau hyn.

Ble mae angen cymorth

Rydym eisiau gwasanaethau hygyrch yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Gall hyn fod naill ai drwy sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ledled y DU neu allgymorth cymunedol ar gyfer ardaloedd difreintiedig neu anghysbell.

Dylai’ch sefydliad allu dangos sut y byddwch yn cyrraedd cwsmeriaid a pha dystiolaeth a galw sydd am y gwasanaeth yn eich cymunedau.

Sut y byddwch yn rhoi cymorth i gwsmeriaid CThEF

Dylai sefydliadau amlinellu sut maent am gyflwyno cynllun cymorth CThEF. Dylai hyn gynnwys pa wasanaethau y byddant yn eu darparu, nifer y cwsmeriaid y bydd y cynllun yn eu cynorthwyo a pha ganlyniadau a manteision a ddaw yn sgil y cynllun.

Dylai sefydliadau esbonio sut y byddant yn hyrwyddo’r gwasanaeth i ryngweithio â’r cwsmeriaid y mae CThEF yn eu cael anoddaf i’w cyrraedd, gan gynnwys drwy unrhyw rwydweithiau, neu drwy gydweithio â sefydliadau eraill.

Dangos llwyddiant

Mae’n bwysig bod eich sefydliad yn gallu dangos sut rydych yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus i’ch cleientiaid – hynny yw, ein cwsmeriaid. Dylech allu darparu gwybodaeth a data clir am ganlyniadau, effaith eich gweithgareddau a sut maent yn bodloni amcanion strategol CThEF ac yn cefnogi ymrwymiadau Siarter CThEF. Dylech hefyd roi manylion am sut rydych yn bwriadu monitro a gwerthuso’r rhaglen.

Rheoli risgiau

Dylai’ch sefydliad nodi unrhyw risgiau a ragwelir a allai beryglu’r rhaglen, a sut y byddwch yn eu lliniaru. Rydym am ddeall sut y byddwch yn ymateb i newidiadau yn y boblogaeth cwsmeriaid a’r hinsawdd economaidd-gymdeithasol ehangach, a sut y byddwch yn addasu eich gwasanaethau i ategu’r newidiadau hynny.

Costau

Rydym yn awyddus i’n buddsoddiad ddwyn ffrwyth. Felly, bydd yn rhaid i chi ddangos bod eich gwasanaethau’n cynnig gwerth da am arian a darparu dadansoddiad manwl o gostau eich cynnig, a hynny ar gyfer pob un o’r tair blwyddyn o gyllid.

Meini prawf cymhwystra

Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn bodloni’r holl feini prawf hyn er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am gyllid grant gan CThEF.

Mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn un o’r canlynol:

  • elusen gofrestredig
  • sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol
  • menter gymdeithasol
  • cymdeithas gydfuddiannol
  • cwmni cydweithredol

Meini prawf ychwanegol:

Mae’n rhaid i’ch sefydliad feddu ar dair blynedd o gofnodion ariannol.

Mae’n rhaid i drosiant eich sefydliad fod yn £60,000 y flwyddyn o leiaf.

Nid oes unrhyw gyfarwyddwr yn eich sefydliad wedi’i ddiarddel yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Nid oes unrhyw gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, trysorydd na neb mewn swydd â chyfrifoldeb ariannol, wedi cael euogfarn berthnasol, megis twyll, yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae gofyn bod gennych brosesau a systemau ariannol cadarn a chynhwysfawr sy’n eich galluogi i gadw golwg ar faint o gyllid sy’n cael ei wario yn ystod y flwyddyn, ac i ddangos eich bod wedi neilltuo’r cyllid i’r gweithgaredd penodol a nodwyd yn eich cais.

Ni fydd unrhyw elfen o’r gweithgareddau a ariennir gan y grant hwn yn wleidyddol ei bwriad, ei defnydd na’i chyflwyniad.

Ni fydd modd defnyddio’r grant i gefnogi nac i hyrwyddo gweithgareddau crefyddol.

Rydych yn gallu adnabod a helpu cwsmeriaid sydd â phroblemau yn ymwneud â gwasanaethau CThEF.

Sylwer: Bydd unrhyw geisiadau sy’n cael eu gwerthuso yn cael eu dilysu yn erbyn y meini prawf cymhwystra. Bydd gwybodaeth ariannol/gwybodaeth weithredol ychwanegol hefyd yn cael ei dilysu fel rhan o’n proses diwydrwydd dyladwy. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i wiriadau o ffynonellau data ehangach a gofyn am dystiolaeth bellach gennych chi. Mae CThEF yn cadw’r hawl i beidio â chymeradwyo’ch [cais am dendr] os na fyddwch yn cyflwyno tystiolaeth bellach cyn unrhyw ddyddiad cau a nodir, a/neu os yw gwiriadau diwydrwydd dyladwy pellach yn nodi diffyg cydymffurfio â’r meini prawf cymhwystra a amlinellir uchod.

Amserlen

Dyma amserlen y cylch cyllido:

  • sesiwn holi ac ateb byw gyda Thîm Cyllid Grant CThEF yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Gorffennaf a’r wythnos sy’n dechrau 7 ar Awst
  • eich cyfle i wneud cais yw rhwng 24 Gorffennaf 2023 a 21 Awst 2023
  • bydd gwerthusiad yn digwydd rhwng 22 Awst 2023 a 29 Medi 2023
  • anfonir hysbysiad at ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus erbyn diwedd mis Hydref 2023
  • bydd cytundebau grant yn eu lle a bydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Ebrill 2024

Sut i wneud cais

Bydd yr hysbyseb a’r cais ar gael o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ymlaen, a bydd eich cyfle i wneud cais yn dod i ben am 11.59pm ar ddydd Llun 21 Awst 2023.

Os ydych yn ffyddiog y gall eich sefydliad ddarparu’r gwasanaeth hwn a’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra fel y nodir uchod, bydd manylion pellach ar sut i wneud cais ar gael drwy’r gwasanaeth [dod o hyd i grant] (https://www.find-government-grants.service.gov.uk/) o 24 Gorffennaf ymlaen.

Gan fod y broses gwneud cais yn gystadleuol, ni fydd y tîm yn gallu rhoi cyngor unigol ar sut i lenwi ceisiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arweiniad hwn neu’r broses werthuso, defnyddiwch eventbrite i gadw lle yn un o’n sesiynau holi ac ateb ar 26 Gorffennaf ac 8 Awst 2023. Bydd manylion yr holl gwestiynau ac atebion ar gael ar wefan EventBrite.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am y broses gwneud cais anfonwch e-bost atom. Er gwybodaeth, bydd y mewnflwch ar gael i dderbyn ymholiadau o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Dim ond un cais fesul sefydliad y byddwn yn ei dderbyn.

Mae’r hysbyseb a’r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg. Anfonwch e-bost atom os hoffech gopi.

Telerau ar gyfer dyfarnu cyllid

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn destun adolygiadau diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr a chwiliadau cronfa ddata eraill, gan gynnwys dangosyddion risg twyll.

Bydd y telerau ar gyfer dyfarnu cyllid yn cael eu nodi mewn cytundeb grant sy’n cydymffurfio â safonau Swyddfa’r Cabinet. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon copi o’r cytundeb atoch ar ddiwedd y broses ddethol. Bydd yn rhaid i chi ddarllen y cytundeb hwn, gwneud yn siŵr ei fod yn gywir, ei lofnodi a’i ddychwelyd er mwyn cael y cyllid.

Bydd y cytundeb grant yn nodi’r amserlen y cytunwyd arni ar gyfer anfonebu a thalu, a bydd y cyllid yn cael ei dalu bob chwarter fel ôl–ddyledion.

Sut y byddwn yn eich helpu

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • neilltuo rheolwr cyfrif i chi o Dîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Rhanddeiliaid CThEF. Gallwch droi ato i drafod hynt eich gweithgareddau sy’n cael eu hariannu
  • trafod eich canlyniadau a’ch methodoleg mesur arfaethedig, a chytuno arnynt gyda chi
  • adolygu’r data a gasglwch drwy gomisiynu ystadegau chwarterol gennych, yn ogystal ag adroddiadau canol a diwedd blwyddyn i ddangos yr hyn rydych yn ei gyflawni a’ch canlyniadau disgwyliedig
  • monitro anfonebau yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt, a chydweithio â chi i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb y cytunwyd arni

Bydd CThEF yn trefnu i ymweld â sefydliadau o bryd i’w gilydd drwy gydol y prosiect i ddadansoddi’r gwariant grant a chadarnhau eich bod yn gwario’r arian yn unol â’r cais gwreiddiol. Sylwer y bydd CThEF yn cadw’r hawl i dynnu arian yn ôl a/neu adfachu cyllid os canfyddir bod sefydliadau’n torri’r cytundeb grant ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.

Nid yw CThEF o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn unrhyw gais neu ddyfarnu cyllid ac ni fydd yn atebol am unrhyw gostau a achosir gan unrhyw ymgeisydd wrth gyflwyno cais, gan gynnwys os bydd y cais am gyllid yn cael ei derfynu, ei atal neu ei ddiwygio gan CThEF.