Adroddiad blynyddol HMPPS ar y ddedfryd o Garchar er Diogelwch y Cyhoedd 2025 i 26
Dyma’r trydydd adroddiad blynyddol ar y ddedfryd o garchar er diogelwch y cyhoedd (IPP) sy’n cynnwys cynllun gweithredu diwygiedig.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r camau a gymerwyd ar draws HMPPS yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 26 i gefnogi’r rheini sy’n bwrw’r ddedfryd o garchar er diogelwch y cyhoedd i weithio tuag at gael eu rhyddhau’n ddiogel, a’r rheini yn y gymuned tuag at derfynu eu trwydded.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu IPP diwygiedig y bydd HMPPS yn ei roi ar waith ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 27.
Mae newidiadau pellach yn cynnwys:
- Treialu Rôl Eiriolwyr IPP newydd sydd wedi’i chynllunio i ddarparu cymorth mwy personol i’r rheini sy’n bwrw dedfrydau IPP
- Targed newydd i fonitro ac i gynyddu tryloywder o ran defnyddio Paneli Cynnydd IPP
- Mwy o gamau gweithredu rhywedd-benodol i gynyddu’r cymorth i fenywod sy’n bwrw dedfrydau IPP