Dull Gweithredu Cymryd Rhan o Bell GLlTEF
Diweddarwyd 16 Mai 2025
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
1. Uchelgais
Ein nod yw cefnogi pobl i gael mynediad at gyfiawnder pan fydd ei angen arnynt a gwella sut maent yn gwneud hynny drwy ein gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system gyfiawnder, gan ddod o hyd i ffyrdd o wella’n barhaus sut rydym yn gwella ein gwasanaethau, a darparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen ar ein pobl i gyflawni eu rolau.
Fel rhan o gyflawni’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i gefnogi, galluogi a chyflawni’r ddarpariaeth i bobl arsylwi a chymryd rhan mewn gwrandawiadau llys a thribiwnlys o bell, heb yr angen i fod yn bresennol yn gorfforol yn yr un ystafell â chyfranogwyr eraill. Drwy alluogi arsylwi gwrandawiadau o bell hefyd, rydym yn cynnal egwyddor cyfiawnder agored.
Penderfyniad barnwrol yw cynnal gwrandawiad o bell neu alluogi cyfranogwyr i fynychu o bell. Mae barnwyr yn gwneud y penderfyniad hwn fesul gwrandawiad, ac yn ystyried a yw ymuno â gwrandawiad o bell er budd cyfiawnder. Rydym yn cefnogi’r farnwriaeth i gynnal unrhyw wrandawiad gyda’u cyfuniad dewisol o gyfranogwyr o bell a rhai sy’n bresennol yn gorfforol, fel nad yw gweinyddu cyfiawnder yn cael ei gyfyngu gan leoliad ffisegol.
Mae galluogi cymryd rhan o bell yn bwysig i ddarparu mynediad mwy cynhwysol at gyfiawnder, gan sicrhau amrywiaeth o fuddion i ddefnyddwyr cyhoeddus a phroffesiynol llysoedd neu dribiwnlysoedd, yn ogystal â defnyddio ein hystad yn fwy effeithlon a llywio blaenoriaethau ehangach y llywodraeth fel ein nodau cynaliadwyedd.
2. Dull gweithredu
Ein dull gweithredu yw canolbwyntio’n bennaf ar wneud y mwyaf o fuddion gwrandawiadau o bell. Mae hyn yn cydnabod na fydd cymryd rhan o bell yn addas ym mhob gwrandawiad, nac i bob defnyddiwr - yn enwedig y rhai nad oes ganddynt fynediad at offer digidol, sgiliau digidol na mynediad i bethau fel band eang.
Fodd bynnag, lle mae cymryd rhan o bell yn addas, gall ddarparu amrywiaeth o fuddion i’r system gyfiawnder, defnyddwyr cyhoeddus a phroffesiynol llysoedd a thribiwnlysoedd, a’n partneriaid cyfiawnder. Mae’r manteision a gynigir gan gymryd rhan o bell yn cynnwys:
- darparu dewis arall diogel a hygyrch yn lle mynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb, yn enwedig i gyfranogwyr agored i niwed a allai fod yn well ganddynt beidio â mynychu wyneb yn wyneb, neu na allant wneud hynny
- helpu i feithrin hyblygrwydd a chydnerthedd, gan ganiatáu i wrandawiadau barhau pan allai fod wedi’u gohirio oherwydd amgylchiadau annisgwyl, fel salwch, tywydd garw, cau adeiladau neu broblemau teithio
- lleihau’r angen i drosglwyddo carcharorion sydd yn broses gostus a hirfaith
- cynyddu hyblygrwydd ac arbedion economaidd i weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, cyfieithwyr, a chyfranogwyr gwrandawiadau eraill oherwydd llai o amser teithio
3. Cyd-destun
Rydym wedi ymrwymo i uwchraddio technoleg llysoedd a thribiwnlysoedd trwy gynyddu’r capasiti ar gyfer gwrandawiadau o bell a gwrandawiadau hybrid fel rhan o’n Rhaglen Ddiwygio. Rydym wedi moderneiddio’r system gyfiawnder trwy optimeiddio ystad y llysoedd a’r tribiwnlysoedd a chryfhau ein gallu technolegol i ddarparu cymryd rhan o bell.
Trawsnewidiodd ehangu cyflym cymryd rhan o bell mewn ymateb i’r pandemig sut mae llysoedd a thribiwnlysoedd yn gweithredu mewn modd radical, gan gyflymu newidiadau a oedd wedi’u cynllunio ers sawl blwyddyn. Sefydlodd y twf digynsail hwn mewn cymryd rhan o bell ef fel offeryn allweddol wrth alluogi cyflawni cyfiawnder a dangosodd ei werth i ddefnyddwyr ar draws y system gyfiawnder.
3.1 Ble rydym ni nawr
Credwn fod y sefyllfa bresennol yn gyfle delfrydol i sefydlu dull cymryd rhan o bell sy’n amlinellu’r rhesymeg dros wrando achosion yn y ffordd hon a’r manteision yr ydym yn bwriadu eu cyflawni i’r system gyfiawnder. Rydym hefyd eisiau nodi sut y byddwn yn defnyddio gwrandawiadau o bell fel offeryn i gyflawni ein blaenoriaethau strategol, a rhai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r llywodraeth ehangach.
3.2 Dadansoddiad o’r sefyllfa bresennol
Mae cyfraddau cyffredinol cymryd rhan o bell wedi cynyddu o’i gymharu â’r defnydd cyn y pandemig:
- Er enghraifft, ym mis Ionawr 2020, roedd 10% o holl wrandawiadau Llys y Goron yn cynnwys cymryd rhan o bell. Ar anterth y pandemig ym mis Mai 2020 cododd hyn i 69%. Ers i gyfyngiadau’r pandemig gael eu dileu wedi hynny a mynediad di-rwystr i lysoedd a thribiwnlysoedd ddod yn rhywbeth arferol, mae’r defnydd wedi gostwng.
- Gellir gweld hyn mewn data a gynhyrchwyd gan brosiect a ddadansoddodd restrau dyddiol Llys y Goron i bennu cyfran y gwrandawiadau a ddefnyddiodd cymryd rhan o bell rhwng Chwefror 2023 a Chwefror 2024. Dangosodd y canlyniadau fod y defnydd o gymryd rhan o bell wedi cynyddu 14% o’i gymharu â 2020, gyda chyfartaledd o 24% o wrandawiadau yn cynnwys cymryd rhan o bell. Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos, er bod nifer y gwrandawiadau sy’n cynnwys cymryd rhan o bell wedi gostwng, eu bod wedi setlo ar lefel sy’n parhau i fod yn sylweddol uwch na’r niferoedd cyn y pandemig.
- Mae cefnogaeth sylweddol i barhau i ddefnyddio cymryd rhan o bell ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyngor y Bar fod 38% o fargyfreithwyr wedi nodi bod amlder presennol gwrandawiadau o bell yn briodol, tra bod 49% yn credu y dylid defnyddio gwrandawiadau o bell yn amlach. Mae’r datblygiadau hyn yn dangos bod cymryd rhan o bell bellach yn nodwedd integredig yn y system gyfiawnder.
3.3 Casglu data dibynadwy ar wrandawiadau o bell:
- nid ydym yn casglu data cyson yn rheolaidd ar draws awdurdodaethau am y dull o wrando ar achosion
- Bydd gwella ein gallu casglu data yn caniatáu inni gasglu mewnwelediadau newydd ar berfformiad gwrandawiadau o bell, gan gryfhau ein dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth o wella gwasanaethau
mae gwella casglu data a chyhoeddi data am wrandawiadau o bell yn rhan bwysig o gyflawni argymhellion yn adroddiad Cyngor y Bar ar gymryd rhan o bell
3.4 Mae cymryd rhan o bell yn cael ei roi ar waith yn anghyson ledled Cymru a Lloegr a adlewyrchir gan:
- amrywiad sylweddol yn y ffordd y mae gwahanol awdurdodaethau, rhanbarthau a llysoedd yn dewis defnyddio cymryd rhan o bell. Er enghraifft, ym mis Chwefror 2024 yn Llys y Goron, roedd gan ranbarth Llundain 33% o wrandawiadau yn digwydd gyda chymryd rhan o bell, tra yng Nghymru dim ond 9% oedd yn gwneud hynny.
- dadansoddiad sy’n dangos bod tribiwnlysoedd wedi dangos cynnydd sylweddol yn y defnydd o wrandawiadau o bell, o’i gymharu â’n dealltwriaeth o awdurdodaethau eraill, gyda thribiwnlysoedd penodol yn cynnal y rhan fwyaf o’u gwrandawiadau o bell.
Mae’n bwysig nodi y gallai’r penderfyniadau barnwrol hyn fod wedi cael eu dylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y capasiti technolegol yn y llys neu’r tribiwnlys, y gefnogaeth weinyddol sydd ar gael a ph’un a allai defnyddwyr fod heb gysylltiad band eang digonol neu sgiliau digidol. Yn ogystal, mae’n werth nodi nad oes gennym ddata dibynadwy sy’n rhoi mewnwelediad ar y tueddiadau hyn.
Sylwch fod y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar Lys y Goron oherwydd dyna lle mae gennym ein data mwyaf cadarn. Mae Llysoedd Sifil, Llysoedd Teulu a Thribiwnlysoedd hefyd yn defnyddio cymryd rhan o bell yn weithredol, ond mae gennym ddata mwy cyfyngedig ar eu defnydd.
Gellid mynd i’r afael â’r heriau a gyflwynir gan y sefyllfa cymryd rhan o bell bresennol trwy wneud defnydd cliriach a mwy strategol o wrandawiadau o bell er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion i’n partneriaid cyfiawnder, y llywodraeth ehangach, a’n defnyddwyr.
4. Casgliad
Mae cymryd rhan o bell yn ehangu ein gallu i ddarparu mynediad at gyfiawnder i’n defnyddwyr, o alluogi diffynyddion i fynychu eu gwrandawiad tra byddant yn y ddalfa i dystion agored i niwed yn rhoi tystiolaeth o amgylchedd mwy cyfforddus. Mae’r gallu hwn yn ganolog i’n hystad a’n gweithlu fod yn hyblyg ac yn gydnerth, fel y gwelwyd drwy gydol y pandemig, yn enwedig wrth i ni barhau i fynd i’r afael â’r llwyth achosion sy’n weddill.
Wrth i ni symud tuag at ddefnydd mwy strategol o wrandawiadau o bell i gefnogi amcanion ehangach y llywodraeth o amgylch cynyddu capasiti’r ystad i’r eithaf, cefnogi ein partneriaid cyfiawnder yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a thu hwnt, rydym yn ymrwymo i archwilio sut rydym yn mesur cynnydd yn y maes hwn.
Yn gyntaf, ein nod yw gweithredu platfform cymryd rhan o bell yn yr awdurdodaethau troseddol, sifil, teulu a thribiwnlys a fydd yn galluogi profiad mwy cyson ar gyfer gwrandawiadau o bell, yn gwella ein gallu casglu data, ac yn dod o hyd i fanteision pellach i’n defnyddwyr.
Yn ail, rydym yn bwriadu comisiynu ymchwil academaidd i wrandawiadau o bell, gyda’r nod o gasglu mewnwelediadau a fydd yn ein helpu i wneud y canlynol:
- cynhyrchu dogfennaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo’r farnwriaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch p’un a yw gwrandawiad o bell yn addas neu’n anaddas
- helpu llysoedd, tribiwnlysoedd a barnwyr i ystyried y mathau o ddefnyddwyr y gallai gwrandawiadau o bell fod yn addas ar eu cyfer neu beidio, gan gynnwys ffactorau fel dewis y cyhoedd, mynediad at gyngor neu gymorth, cymryd rhan yn y gwrandawiad, iechyd/capasiti, a hygyrchedd
- archwilio’r amrywiadau mewn mathau o wrandawiadau neu achosion, megis hyd, cymhlethdod (mathau o dystiolaeth, cymhlethdod cyfreithiol, difrifoldeb, nifer y cyfranogwyr, cymhlethdod oherwydd natur ac anghenion y cyfranogwyr), a all effeithio ar addasrwydd gwrandawiadau o bell
- ymchwilio i effaith anfantais ddigidol ar wrandawiadau o bell, gan gynnwys diffyg sgiliau, cysylltiad rhyngrwyd neu galedwedd
5. Y camau nesaf
Gyda gwell dealltwriaeth o wrandawiadau o bell, wedi’i gyfoethogi gan ddata meintiol ac ansoddol cadarn, byddwn yn gallu gosod canllawiau ar gyfer sut y dylem gefnogi’r farnwriaeth i gyflwyno gwrandawiadau o bell. Byddwn yn ystyried beth allwn ei wneud nesaf i sicrhau profiad cyson ar gyfer gwrandawiadau o bell er mwyn sicrhau hygyrchedd, mynediad at gyfiawnder, a phroses briodol. Byddwn yn archwilio a ddylem sicrhau bod gan bob adeilad llys a thribiwnlys y dechnoleg briodol i alluogi cymryd rhan o bell (gan gynyddu o 70% i 100%). Unwaith y byddwn yn deall pa fathau o wrandawiadau sydd fwyaf cydnaws â chymryd rhan o bell, gallwn gefnogi’r farnwriaeth i asesu’n well pa fathau o achosion y gellir eu cynnal o bell yn ddiofyn.