Skip to main content
Data tryloywder

Polisi Preifatrwydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Diweddarwyd 11 Mehefin 2026

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) pan fyddwn yn dal neu’n gofyn am wybodaeth bersonol (‘ data personol’) amdanoch chi; sut y gallwch gael gafael ar gopi o’ch data personol; a’r hyn y gallwch ei wneud os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le.

Mae GLlTEF yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ). MoJ yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a gedwir gennym.

Mae GLlTEF yn casglu ac yn prosesu data personol er mwyn gweithredu ei swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gweinyddu Cyfiawnder
  • gorfodi dirwyon troseddol a sifil
  • ymchwil ar gyfer datblygu polisïau ac ystadegau cyfiawnder
  • ac ar gyfer gwelliannau i’r gwasanaethau a ddarperir gennym.

1. Gwybodaeth bersonol

Gwybodaeth sy’n ymwneud â chi fel unigolyn yw data personol. Gall gynnwys eich enw, eich cyfeiriad neu’ch rhif ffôn. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth sensitif am eich lles corfforol a meddyliol, gwybodaeth am blant ac aelodau o’r teulu, manylion am euogfarn troseddol sydd wedi dod i ben neu beidio, tarddiad hiliol ac ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, credoau crefyddol, aelodaeth undeb llafur a chredoau gwleidyddol.

Gwyddom pa mor bwysig yw diogelu preifatrwydd cwsmeriaid a chydymffurfio â chyfreithiau diogelu data. Byddwn yn diogelu eich data personol ac ni fyddwn yn ei ddatgelu ond pan fydd yn gyfreithlon i ni wneud hynny neu gyda’ch caniatâd chi.

2. Mathau o ddata personol rydym yn ei brosesu

Rydym ond yn prosesu data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer gweinyddu cyfiawnder a gwasanaethau cyfiawnder sifil eraill yr ydym yn eu darparu ar eich cyfer. Mae’r data personol y gall GLlTEF ei gasglu yn cynnwys enwau, dyddiadau geni, cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost, rhifau yswiriant gwladol, cenedligrwydd ac ethnigrwydd, gwybodaeth ariannol, cyfeiriadedd rhywiol, gwybodaeth am droseddau neu droseddau honedig a gyflawnwyd a gwybodaeth am iechyd corfforol a meddyliol.

3. Pwrpas prosesu data a’r sail gyfreithlon dros brosesu

Rydym yn gweithio i weinyddu llysoedd troseddol, sifil a theulu yn ogystal â thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr ac yn cefnogi’r farnwriaeth. Rydym hefyd yn gweithio i ddarparu system cyfiawnder troseddol, sifil a theulu sy’n fwy effeithiol, tryloyw ac ymatebol i ddioddefwyr a’r cyhoedd.

Rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol gan unigolion ac rydym yn derbyn data personol gan sefydliadau llywodraeth a chyfiawnder eraill gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu, carchardai a’r gwasanaeth prawf fel bo’r angen gan y gyfraith ar gyfer gweinyddu cyfiawnder.

Os byddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, bydd angen i chi ddarparu eich gwybodaeth bersonol.

Manylion am sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio gan GLlTEF ar gyfer gwasanaethau ar-lein a thelerau ac amodau.

4. Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth

Weithiau mae angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu gyda sefydliadau cyfiawnder a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Byddwn yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data lle bo angen gwneud hyn. Gall y sefydliadau y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda nhw gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • yr heddlu, carchardai a gwasanaethau prawf
  • asiantaethau gorfodi
  • awdurdodau lleol
  • awdurdodau ariannol
  • GIG a Phartneriaid Darparu GLlTEF
  • Cafcass/Cafcass Cymru
  • Swyddfa Gofrestru Gyffredinol
  • Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Cymdeithas y Gyfraith
  • adrannau eraill o’r llywodraeth
  • Darparwyr gwasanaeth trydydd parti GLlTEF fel Dynatrace.

5. Manylion trosglwyddiadau i drydedd wlad a mesurau diogelwch

Weithiau, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth bersonol dramor. Pan fydd angen gwneud hyn, gellir trosglwyddo gwybodaeth i wledydd o fewn a/neu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Bydd unrhyw drosglwyddiadau a wneir yn cydymffurfio’n llwyr â phob agwedd o’r gyfraith diogelu data.

6. Cyfnod cadw’r wybodaeth a gesglir

Byddwn ond yn cadw gwybodaeth yn unol â’r gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i’r data neu’n unol â’n ‘hatodlen cadw a gwaredu cofnodion’ a’r polisi, a adolygir yn rheolaidd. Dim ond am gyhyd ag y bydd angen inni gadw eich gwybodaeth y byddwn yn gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys yr amser pan chi fydd ein cwsmer neu pan fyddwch yn cynrychioli ein cwsmer.

7. Mynediad at wybodaeth bersonol

Gallwch ganfod os oes gennym unrhyw ddata personol amdanoch drwy wneud ‘cais am fynediad at wybodaeth’. I wneud hyn, cysylltwch â’r:

Disclosure Team
Post point 10.24
102 Petty France
London SW1H 9AJ

Ebost: data.access@justice.gov.uk

Os ydych eisiau gwybod pa wybodaeth sydd ar eich cofnod carchar presennol neu flaenorol, gallwch gysylltu gyda:

Branston Registry
Building 16, S & T Store
Burton Road
Branston
Burton-on-Trent Staffordshire DE14 3EG

8. Pan fyddwn yn gofyn am ddata personol gennych

Rydym yn addo eich hysbysu pam y bydd angen eich data personol arnom ac yn gofyn am y data personol sydd ei angen arnom yn unig; ni fyddwn yn casglu gwybodaeth amherthnasol neu ormodol.

  • gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, ble bo’n briodol
  • gallwch gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio
  • diogelu’r wybodaeth a sicrhau nad oes gan unrhyw un heb awdurdod hawl i’w gweld
  • dim ond lle bo’n briodol ac yn angenrheidiol y byddwn yn ei rannu â sefydliadau eraill at ddibenion cyfreithlon neu lle bo’n ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith
  • sicrhau nad ydym yn ei gadw’n hirach na sydd angen
  • sicrhau na fydd eich gwybodaeth bersonol ar gael at ddefnydd masnachol heb eich caniatâd
  • ystyried eich cais i gywiro, roi’r gorau i brosesu neu ddileu data bersonol amdanoch.

9. Cael rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch:

  • cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth
  • amgylchiadau lle gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol heb roi gwybod i chi, er enghraifft, i’n helpu i atal a chanfod troseddau neu gynhyrchu ystadegau dienw
  • ein cyfarwyddiadau i staff ynghylch sut i gasglu, defnyddio neu ddileu eich gwybodaeth bersonol
  • sut rydym yn gwirio bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol
  • sut i wneud cwyn

trwy gysylltu â’r llys sy’n delio â’ch gwybodaeth neu weld yr wybodaeth a ddarparwyd gennych wrth ichi ddefnyddio ein gwasanaethau neu ble’r oedden ni wedi cysylltu â chi.

Gellir cysylltu â swyddog diogelu data y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn:

The Data Protection Officer
Ministry of Justice
3rd Floor, Post Point 3.20
10 South Colonnades
Canary Wharf
London E14 4PU

E-bost: DPO@justice.gov.uk

10. Cwynion

Pan ofynnwn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith. Os ydych yn teimlo bod eich gwybodaeth wedi cael ei thrin yn anghywir, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth am gyngor annibynnol ar ddiogelu data. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 ICO gwefan