Canllawiau statudol

Cynllun Iaith Gymraeg Cofrestrfa Tir EM

Cyhoeddwyd 27 April 2016

1. Cyflwyniad

1.1

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.

1.2

Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg hwn (y cynllun) yn gosod allan y gofynion angenrheidiol i alluogi Cofrestrfa Tir EM i gydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’n disgrifio sut y byddwn yn gweithredu, cyn belled ag y bo’n briodol yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, sef wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

1.3

Mae’r cynllun hwn yn ymdrin â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru. Yn y cynllun hwn, ystyr cyhoedd yw unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr a phobl eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd yn dod o dan ystyr y term ‘cyhoedd’. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw pobl sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bobl gyfreithiol, yn dod o dan ystyr y gair cyhoedd pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

1.4

Paratowyd y cynllun hwn yn unol ag Adran 21 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth i rym ar 25 Mawrth 2010 ac mae’n disodli’n cynlluniau blaenorol dyddiedig 20 Mawrth 1998, 29 Ionawr 2002 a 4 Chwefror 2005.

1.5

Sefydlwyd Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg o fewn Cofrestrfa Tir EM yn dilyn cyflawniad Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ei ddiben yw cyfeirio, rheoli a gweithredu polisi Cofrestrfa Tir EM o ran yr iaith Gymraeg. Cadeirydd y Grŵp yw Rheolwr Ardal Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru sy’n adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Cofrestrfa Tir EM.

1.6

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion am weithrediad y cynllun, cysylltwch â Chydlynydd y Gymraeg.

2. Cefndir

2.1

Sefydlwyd Cofrestrfa Tir EM, adran y llywodraeth ar wahân er 1862, yn asiantaeth weithredol yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Arglwydd Ganghellor ym mis Gorffennaf 1990 ac yn gronfa fasnachu ym 1993. Mae’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â chofrestru teitl tir yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn gyfrifol am gofrestru Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.

2.2

Darperir gwasanaethau Cofrestrfa Tir EM drwy rwydwaith o swyddfeydd lleol. Lleolir Prif Swyddfa Cofrestrfa Tir EM yn Llundain. Mae gwasanaethau technoleg gwybodaeth wedi eu lleoli yn Plymouth. Caiff Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol eu gweinyddu o Plymouth. Mae gan gwsmeriaid busnes fynediad electronig i ystod o wasanaethau cofrestru ar-lein. Mae gan y cyhoedd fynediad electronig i ystod mwy cyfyng o wasanaethau cofrestru.

2.3

Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Llansamlet, Abertawe, sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cofrestru tir yng Nghymru.

2.4

Mae’r gwasanaethau y mae Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n eu darparu i’r cyhoedd, fel rheol trwy eu cynrychiolwyr proffesiynol, yn cynnwys gwasanaethau cyn-cwblhau, ceisiadau i gofrestru tir am y tro cyntaf, ceisiadau i gofrestru trafodion yn ymwneud â thir cofrestredig ac ymholiadau cyffredinol. Gall anghydfodau ynglŷn â thir cofrestredig gael eu datrys yn weinyddol trwy gytundeb neu trwy gyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EM a all wrando ar y mater ei hunan neu gyfeirio un o’r partïon i gychwyn achos llys.

3. Cynllunio a chyflwyno gwasanaeth

Polisïau, deddfwriaeth, gwasanaethau a mentrau

3.1

Bydd ein polisïau, mentrau a gwasanaethau’n gyson â’r cynllun hwn. Byddant yn ystyried y Gymraeg a byddant, lle bynnag y bo’n bosibl, yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd bob dydd.

3.2

Pan fo’n bosibl, bydd ein dogfennau ymgynghorol yn trafod y berthynas rhwng y Gymraeg a’r polisïau, mentrau a gwasanaethau sydd o dan sylw.

3.3

Pan fyddwn yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu neu gyflwyno polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd o dan arweiniad sefydliadau eraill, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gyson â’r cynllun hwn.

3.4

Ein harfer fydd sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg.

3.5

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd parti’n gyson â rhannau perthnasol y cynllun hwn, pan fydd y cytundebau neu’r trefniadau hynny’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Wrth wneud hyn, fe fyddwn yn sicrhau bod trydydd partïon yn darparu’r gwasanaeth hwnnw yn unol â’r cynllun hwn.

3.6

Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg o’r un ansawdd a chânt eu darparu yn ôl yr un amserlen.

4. Ymdrin â siaradwyr Cymraeg

4.1 Gohebiaeth ysgrifenedig

4.1.1

Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn paratoi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). Bydd ein hamserau targed ar gyfer ateb yr un â’r amserau targed ar gyfer ateb i lythyrau a ysgrifennwyd yn Saesneg.

4.1.2

Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn ddwyieithog, byddwn yn cadarnhau eu dewis iaith ac yn ateb yn yr iaith honno.

4.1.3

Pan fyddwn yn dechrau gohebu gydag unigolyn, grŵp neu sefydliad, byddwn yn gwneud hynny’n Gymraeg pan fyddwn yn gwybod y byddai’n well ganddynt ohebu yn Gymraeg.

4.1.4

Bydd yr uchod yn berthnasol i ohebiaeth ebost yn ogystal â gohebiaeth ar bapur.

4.1.5

Mae cylchlythyron a anfonir at y cyhoedd ac ymarferyddion yng Nghymru ar ffurf ddwyieithog.

4.1.6

Mae papur pennawd Cofrestrfa Tir EM yn nodi ei bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

4.2 Gohebu dros y ffôn

4.2.1

Byddwn yn sicrhau y gall y cyhoedd siarad yn Gymraeg neu’n Saesneg wrth ddelio â ni dros y ffôn.

4.2.2

Caiff galwadau yn ymwneud â cheisiadau sy’n effeithio ar eiddo yng Nghymru eu hateb gyda chyfarchiad dwyieithog.

4.2.3

Mae’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid a leolir yng Nghofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n rhan o ganolfan gyswllt rithwir fwy sy’n delio gydag ymholiadau cyffredinol ar draws Cymru a Lloegr. Ceir llinell Gymraeg benodedig i ddelio â chwsmeriaid sydd am gynnal eu hymholiadau yn Gymraeg, a chaiff y gwasanaeth hwn ei hysbysebu.

4.3 Cyfarfodydd cyhoeddus

4.3.1

Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

4.3.2

Mae Cofrestrfa Tir EM yn trefnu digwyddiadau corfforaethol ac yn darparu seminarau technegol ar gyfer cwsmeriaid sy’n ymarferyddion, a rhoddir cyhoeddusrwydd i’r gwasanaethau Cymraeg yn ystod y digwyddiadau hyn. Manteisir ar y cyfle hefyd i ofyn i’r gwrandawyr a ydynt yn defnyddio’r gwasanaethau ac a oes ganddynt sylwadau amdanynt. Bydd o leiaf un aelod o staff Cofrestrfa Tir EM sy’n arwain y seminar yn medru’r Gymraeg.

4.4 Cyfarfodydd eraill â’r cyhoedd yng Nghymru

4.4.1

Pan fyddwn yn trefnu neu’n mynychu cyfarfodydd preifat â’r cyhoedd, byddwn yn canfod eu dewis iaith ar y cyfle cyntaf a byddwn yn sicrhau bod aelod o staff cymwys sy’n siarad Cymraeg yn delio â’r rhai sy’n nodi mai Cymraeg yw eu dewis iaith.

4.5 Cysylltiadau eraill â’r cyhoedd yng Nghymru

4.5.1

Mae siaradwyr Cymraeg ar gael yn y Ganolfan Gwybodaeth Cwsmeriaid i ddelio ag aelodau o’r cyhoedd sydd am gynnal eu busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.

4.5.2

Dangosir arwyddion yn amlwg yn y Ganolfan Gwybodaeth Cwsmeriaid i nodi bod gwasanaeth Cymraeg ar gael ac mae’r holl arwyddion mewn mannau cyhoeddus yn ddwyieithog.

5. Ein hwyneb cyhoeddus

5.1 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebion

5.1.1

Caiff yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, arddangosfeydd a deunydd hysbysebu a ddefnyddir yng Nghymru (er mwyn targedu’r cyhoedd yn gyffredinol) eu cynhyrchu’n gwbl ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os oes rhaid cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd a bydd y ddwy ar gael ar yr un pryd ac yr un mor hygyrch.

5.1.2

Bydd hysbysebion a gyhoeddir mewn papurau newydd Saesneg (neu ddeunydd tebyg) a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog, neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (gyda’r ddwy fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd).

5.1.3

Pan fydd angen staff i ofalu am stondinau ac arddangosfeydd, byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg cymwys yn bresennol, fel y bo’n briodol.

5.2 Cyhoeddiadau

5.2.1

Mae Cofrestrfa Tir EM yn cyhoeddi pob deunydd esboniadol ac ymarfer ar gyfer y cyhoedd ac ymarferyddion yng Nghymru yn ddwyieithog gan ffafrio fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen. Os cyhoeddir fersiynau ar wahân, byddant ar gael ar yr un pryd ac yr un mor hygyrch ar bapur neu ar ffurf electronig.

5.2.2

Mae ffurflenni a bennwyd gan ddeddfwriaeth eilaidd ar gael fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

5.2.3

Lle bydd Cofrestrfa Tir EM yn gwerthu unrhyw gyhoeddiad, bydd pris dogfen ddwyieithog yr un â phris cyhoeddiad un iaith.

5.3 Gwefannau

5.3.1

Bydd ein gwefannau’n cynnwys tudalennau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pan fyddwn yn cynnwys cyhoeddiadau Saesneg ar ein gwefannau, bydd y fersiynau Cymraeg yn cael eu cynnwys ar yr un pryd, os ydynt ar gael.

5.3.2

Lle bo’n briodol, byddwn yn darparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol ar ein gwefannau.

5.3.3

Wrth ddylunio gwefannau newydd, neu wrth ailddatblygu gwefannau cyfredol, byddwn yn ystyried Canllawiau Dylunio Dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg ac unrhyw ganllawiau tebyg a gyhoeddir gan y Comisiynydd ynglŷn â dylunio gwefannau.

5.4 Y Gofrestr

5.4.1

Caiff cofrestri tir yng Nghymru eu hargraffu ar dempled cofrestr dwyieithog.

5.4.2

Gwneir cofnodion ar y gofrestr yn iaith y ddogfen wreiddiol.

5.5 Hunaniaeth gorfforaethol

5.5.1

Mae Cofrestrfa Tir EM yn mabwysiadu ac yn cyflwyno delwedd gorfforaethol ddwyieithog lawn yng Nghymru. Mae enw Cofrestrfa Tir EM, ei chyfeiriad a’i delwedd weledol yn gydradd o ran maint ac ansawdd yn Gymraeg a Saesneg ac maent yn ymddangos ar benawdau llythyron, papurau ffacs, slipiau cyfarch, cardiau busnes, bathodynnau adnabod, cyhoeddiadau, cerbydau a nwyddau a deunyddiau eraill.

5.5.2

Mae arddangosfeydd a ddefnyddir mewn digwyddiadau corfforaethol a seminarau ymarferyddion yng Nghymru yn ddwyieithog.

5.6 Arwyddion

5.6.1

Mae’r holl arwyddion yn y mannau lle ceir mynediad i’r cyhoedd yng Nghofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n ddwyieithog. Mae’r arwyddion yn gyfartal o ran ffurf, maint, ansawdd ac amlygrwydd.

5.7 Hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff

5.7.1

Mae hysbysebion a hysbysiadau cyffredinol mewn papurau newydd neu gyfryngau eraill yng Nghymru’n ddwyieithog ac yn gyfartal o ran ffurf, maint ac amlygrwydd.

5.7.2

Caiff hysbysebion am swyddi yng Nghofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru eu cyhoeddi’n ddwyieithog mewn papurau newydd neu gyfryngau eraill yng Nghymru. Mae’r hysbysebion yn gydradd o ran ffurf, maint ac amlygrwydd.

5.8 Datganiadau i’r wasg a chyswllt â’r cyfryngau

5.8.1

Mae datganiadau i’r wasg yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar Gymru a Lloegr neu Gymru yn unig yn cael eu hanfon i’r cyfryngau yng Nghymru yn ddwyieithog.

5.8.2

Byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael i gynnal cyfweliadau gyda’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg.

6. Gweithredu’r cynllun

6.1 Staffio

6.1.1

Mae gan Gofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru ddigon o staff Cymraeg eu hiaith cymwys i ddarparu gwasanaeth llawn yn Gymraeg. Rydym yn adolygu’r nifer o staff sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth yn gyson, er mwyn sicrhau bod digon o staff ar gael. Mae geiriaduron a chyfeirlyfrau Cymraeg eraill ar gael yn y llyfrgell.

6.1.2

Byddwn yn cadw cofnod o’r nifer o staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

6.2 Recriwtio

6.2.1

Pan fyddwn yn recriwtio staff byddwn yn dilyn y wybodaeth a gesglir wrth ddilyn y gweithdrefnau a ddisgrifir o dan Staffio uchod.

6.2.2

Lle bernir bod rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, bydd hyn yn cael ei ddatgan yng nghymwyseddau a hysbysebion swydd.

6.2.3

Darperir pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais electronig yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer pob swydd yn Swyddfa Cymru. Darperir pecynnau papur yn Gymraeg a Saesneg ar gais.

6.2.4

Mae cyrsiau sefydlu ar gyfer staff newydd yng Nghofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n cyfeirio’n benodol at ofynion y cynllun.

6.3 Hyfforddiant iaith

6.3.1

Mae Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n datblygu medrau ei staff presennol sy’n siarad Cymraeg ac yn annog staff nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu’r iaith. Mae Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru’n ariannu pob cwrs hyfforddiant Cymraeg allanol a fynychir gan aelodau o staff yn unol â pholisi Addysg Bellach Cofrestrfa Tir EM.

6.3.2

Byddwn yn datblygu gallu ein staff sy’n siarad Cymraeg i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddarparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg, pryd bynnag y bo’n ymarferol.

6.4 Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

6.4.1

Byddwn yn darparu ar gyfer yr angen i gynnig gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg ac yn gweithredu’n unol â’r cynllun hwn wrth i ni ddatblygu, dylunio a phrynu cynnyrch a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

6.4.2

Wrth i ni ddatblygu a phrynu systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu byddwn yn ystyried Canllawiau Dylunio Dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg.

6.5 Gweithio mewn partneriaeth

6.5.1

Pan fyddwn yn gweithredu fel arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth ffurfiol, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.

6.5.2

Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol y mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd ein mewnbwn ni’n cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio â’r cynllun hwn.

6.5.3

Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gwneud hynny yn unol â’r cynllun hwn.

6.6 Trefniadau mewnol

6.6.1

Mae gan y mesurau yn y cynllun hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn Cofrestrfa Tir EM. Bydd gweithredu’n unol â’r cynllun yn fater o gydymffurfiaeth.

6.6.2

Mae Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg yn gyfrifol am gyfeirio, rheoli, gweithredu ac arolygu polisi Cofrestrfa Tir EM ynglŷn â’r iaith Gymraeg.

6.6.3

Mae Cydlynydd y Gymraeg yn gyfrifol am weithredu’r cynllun o ddydd i ddydd ac mae’n adrodd i Gadeirydd y Grŵp Llywio, sydd, yn ei dro, yn adrodd i’r Uwch Dîm Arwain yng Nghofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru a Bwrdd Cofrestrfa Tir EM.

6.6.4

Mae’r cynllun yn eitem trafod yn holl gyfarfodydd Uwch Dîm Arwain Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru.

6.6.5

Rydym wedi paratoi cynllun gweithredu manwl y cytunwyd arno gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae hwn yn nodi sut byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn. Daw’r cynllun gweithredu yn weithredol ar y dyddiad y daw’r cynllun i rym.

6.6.6

Cyhoeddir y cynllun i’n staff, ac i’r cyhoedd yng Nghymru. Caiff ei gyhoeddi ar ein gwefan mewn man amlwg.

6.6.7

Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r cynllun hwn i’n staff yn gyson ac yn esbonio sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.

6.6.8

Byddwn yn ymgymryd ag unrhyw fath o gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, nad yw wedi ei ddisgrifio’n benodol yn y cynllun hwn, mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol a ymgorfforir yn y cynllun.

6.7 Monitro

6.7.1

Byddwn yn monitro’r cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun hwn yn erbyn targedau a nodir yn y cynllun gweithredu a ddaw gyda’r cynllun hwn. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun hwn i Fwrdd Cofrestrfa Tir EM a Chomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol.

6.7.2

Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Cofrestrfa Tir EM yn cynnwys diweddariad blynyddol ar y cynllun a’r gwasanaethau Cymraeg a ddarperir.

6.7.3

Ein targed yw sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â nod ac amcanion y cynllun hwn. Byddwn yn darparu adroddiad ar weithrediad y cynllun yn dilyn cais gan Gomisiynydd y Gymraeg.

6.8 Adolygu ac addasu’r cynllun

6.8.1

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn o fewn pedair blynedd o’i roi ar waith.

6.8.2

Yn ogystal, o bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i ni adolygu’r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau iddo oherwydd newidiadau i swyddogaethau neu amgylchiadau, neu am unrhyw reswm arall.

6.8.3

Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.

7. Cysylltu

Cynllun iaith Gymraeg

Eleri Sparnon Jones
Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru
Tŷ Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Llansamlet
Abertawe
SA7 9FQ

Ebost eleri.jones@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 9567

8. Atodiad

Prif dargedau ar gyfer cyflawni’r cynllun

Targed Dyddiad cwblhau Cynnydd
1 Llinell ffôn Gymraeg
Hysbysebu llinell ffôn Gymraeg y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid.
Targed parhaol Yn cael ei hysbysebu’n rheolaidd mewn cyhoeddiadau dwyieithog ac ar y wefan. Yn derbyn galwadau cyson.
2 Ffurflenni cais Cymraeg
Ffurflenni cais a phecynnau gwybodaeth Cymraeg i fod ar gael ar gyfer pob swydd yn Swyddfa Cymru.
Targed parhaol Dim swyddi gwag ar hyn o bryd ond bydd ffurflenni cais a phecynnau gwybodaeth ar gael pan fo angen.
3 Cynghori/ atgoffa staff
Darparu cyngor cyson i staff ar sut i ymdrin â gohebiaeth Gymraeg/ galwadau ffôn/ceisiadau am gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb.
Targed parhaol Wedi ei gyflawni ac fe’i gwneir yn rheolaidd. Crëwyd tîm Cymraeg yn Swyddfa Cymru yn Ebrill 2015 i ddelio â phob gohebiaeth Gymraeg.
4 Ymgyrchoedd hysbysebu
Rhoi cyfarwyddyd i staff ar ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd/ hysbysebu yng Nghymru.
Targed parhaol Dim ymgyrchoedd ar hyn o bryd.
5 Asesu gweithleoedd
Asesu gweithleoedd yn gyson i sicrhau bod digon o staff Cymraeg eu hiaith ar gael i gynnig y gwasanaethau.
Targed parhaol Wedi ei gyflawni ac fe’i gwneir yn rheolaidd. Crëwyd tîm Cymraeg yn Swyddfa Cymru yn Ebrill 2015 i ddelio â phob gohebiaeth Gymraeg.
6 Gwefan
Cymryd camau i gynyddu cynnwys Cymraeg y wefan.
Targed parhaol Symudodd gwefan Cofrestrfa Tir EM i GOV.UK ar 20 Awst 2014. Mae deunydd Cymraeg megis ffurflenni, cyfarwyddiadau ymarfer, adroddiadau blynyddol a datganiadau i’r wasg ar gael ar y safle. Fodd bynnag, nid oes gan Gofrestrfa Tir EM reolaeth lawn am y deunydd Cymraeg sy’n ymddangos ar y wefan ac rydym wedi cael gwybod gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth na fydd ein holl dudalennau Cymraeg blaenorol yn ymddangos ar GOV.UK ac na fydd unrhyw gynnwys prif ffrwd ar gael yn Gymraeg.
7 Adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg a Bwrdd Cofrestrfa Tir EM
Darparu adroddiad blynyddol ar weithrediad y cynllun i Gomisiynydd y Gymraeg a Bwrdd Cofrestrfa Tir EM.
Medi 2012 ac yn flynyddol wedi hynny. Wedi ei gyflawni a’r targed i aros yn un parhaol.
8 Gwelliannau system
Trafodaethau eisoes wedi dechrau i gytuno ar amserlen gyda Systemau Gwybodaeth i gychwyn gweithrediad y canlynol, sy’n amodol ar allu systemau a blaenoriaethau’r asiantaeth:
* Dogfen Gwybodaeth am Deitl Ddwyieithog
* Taflen Cwblhad Cofrestriad Ddwyieithog
* Canlyniadau Chwiliad o’r Map Mynegai Cymraeg
Erbyn diwedd 2015 Gwnaed ceisiadau pellach am Ddogfen Gwybodaeth am Deitl a Thaflen Cwblhad Cofrestriad dwyieithog yn Ebrill 2015.
9 E-wasanaethau
Bydd Business Gateway ar gael erbyn diwedd 2009 a Throsglwyddo Electronig yn 2011. Cyflwynir y ddarpariaeth Gymraeg pan ddaw e-wasanaethau i rym yn eu cyfanrwydd.
Bydd Cofrestrfa Tir EM yn cynnal trosolwg o’i phrif system TG dros y 2-3 blynedd nesaf. Caiff anghenion y Gymraeg eu cynnwys fel rhan o’r Ymdriniaeth Ddylunio Sylfaenol. Mae Cofrestrfa Tir EM yn cynnig ystod o e-wasanaethau ar hyn o bryd ar gyfer cwsmeriaid proffesiynol trwy ei gwasanaethau “Porthol” a “Business Gateway” er mwyn caniatáu i amrywiaeth o drafodion gael eu cyflwyno’n electronig. Datblygwyd y gwasanaethau hyn nifer o flynyddoedd yn ôl ac nid oes darpariaeth Gymraeg ar gael ynddynt. Bwriedir i’r gwasanaethau hyn gael eu disodli dros gyfnod o amser gan raglen “Digidol yn Ddiofyn” Cofrestrfa Tir EM. Mae’r rhaglen hon mewn cyfnod “ymchwilio” cynnar iawn ar hyn o bryd, lle y mae Cofrestrfa Tir EM yn gweithio gyda Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth i ystyried sut y dylid cyflwyno’r gwasanaethau hyn. Mae’r angen i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn Gymraeg a Saesneg yn un o ofynion sylfaenol y gwneuthuriad.