Canllawiau

Holiadur Peilot Data Eiddo

Diweddarwyd 18 Rhagfyr 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cynnal peilot ar ran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Bydd y peilot yn archwilio effaith digideiddio a gwella cyrchu data rheoliadau adeiladu a phriffyrdd a gedwir gan awdurdodau lleol.

1. Mae angen eich mewnbwn arnom

I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol lenwi holiaduron erbyn 14 Tachwedd 2025. Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn ein helpu i ddeall yn well sut mae eich setiau data rheoliadau adeiladu a phriffyrdd yn cael eu storio a’u cyrchu.

Rydym yn deall y gallai llenwi’r holiaduron olygu bod angen mewnbwn gan gydweithwyr mewn gwahanol adrannau. Gofynnwn ichi rannu’r cyswllt i’r dudalen hon gydag aelodau perthnasol y tîm i sicrhau bod pob adran o’r holiaduron yn cael eu llenwi’n gywir. Byddwn yn coladu’r holl ymatebion pan gânt eu cyflwyno.

2. Yr hyn fydd yn digwydd nesaf

Bydd ein tîm yn cysylltu â chi os na chawn holiadur wedi ei lenwi. Pan gawn yr holl holiaduron, byddwn yn llunio’r canfyddiadau, i lywio’r argymhellion byddwn yn eu cyflwyno i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

3. Ynglŷn â’r peilot data eiddo

Bydd y peilot yn asesu sut y gallai cyrchu digidol i ddata rheoli adeiladu a phriffyrdd wella’r broses o brynu a gwerthu tai. Gallai manteision posibl gynnwys:

  • trafodion eiddo cyflymach

  • cyfraddau gwerthiannau sy’n mynd i’r gwellt is (sy’n effeithio ar fwy nag 8% o brynwyr eiddo ar hyn o bryd)

  • rheoli data yn fwy effeithlon

  • llai o ymholiadau gan gwsmeriaid

  • profiad gwell i gwsmeriaid

Bydd eich cyfranogiad yn cynorthwyo i lunio polisi a gwelliannau yn y dyfodol o ran cyrchu data eiddo ledled Cymru a Lloegr.

Cysylltu â ni: lapropertydatapilot@landregistry.gov.uk