Canllawiau

Geirda

Diweddarwyd 19 April 2024

Applies to England and Wales

1. Geirda gan Gyngor Bury

Rydym wedi cael perthynas waith dda â Chofrestrfa Tir EF trwy’r newid o system bapur i system ddigidol. Mae’r cymorth a gawsom ganddynt wedi bod yn wych. Mae’r fantais o gael data digidol yn aruthrol – nawr gallwn gael gafael ar wybodaeth yn gyflym, heb chwilio trwy gofnodion papur.

Mae’r system API wedi newid pethau’n llwyr inni, gan ein galluogi i ddiweddaru pridiannau a phrosesu cofrestriadau newydd yn rhwydd. Oherwydd bod y system yn hawdd i’w defnyddio ac yn effeithlon, mae ein gwaith yn haws i’w reoli, gan ein galluogi i gynnig gwasanaeth cyflymach i’n cwsmeriaid.

Mae’r cyfarfodydd misol a gawn gyda’n Rheolwr Perthynas yn rhoi cyfle inni drafod unrhyw faterion sy’n codi o’n hadroddiadau sicrhau ansawdd. Mae hyn wedi ein helpu i gynnal safonau data uchel cyson, gan nodi meysydd gwella prosesau ar yr un pryd.

Elizabeth Duxbury, Swyddog Pridiannau Tir Lleol, Cyngor Bury