Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF yn lansio peilot data eiddo newydd

Diweddarwyd 18 Rhagfyr 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Cofrestrfa Tir EF yn lansio peilot data eiddo newydd

Mae peilot newydd i ymchwilio i sut y gall gwella cyrchu setiau data eiddo allweddol a gedwir gan awdurdodau lleol fod o fudd i’r broses o brynu a gwerthu tai yn dechrau heddiw (dydd Llun 2 Mehefin). Bydd y peilot 10 mis yn archwilio effaith darparu’r setiau data rheoliadau adeiladu a phriffyrdd yn ddigidol, ochr yn ochr â’r gwasanaeth pridiannau tir lleol cenedlaethol.

Mae’r fenter hon yn rhan o gynlluniau’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i wella’r broses o brynu a gwerthu tai. Mae ymchwil yn dangos bod y setiau data hyn yn achosi rhai o’r oediadau hiraf mewn chwiliadau eiddo. Bydd gwella cyrchu’r data hwn yn cynorthwyo i gyflymu trafodion ac yn lleihau nifer y gwerthiannau sy’n mynd i’r gwellt.

Bydd hyd at saith awdurdod lleol ledled Cymru a Lloegr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y peilot. Byddant yn adlewyrchu amodau lleol amrywiol, megis lleoliadau trefol a gwledig, a gwahanol lefelau o ddigideiddio. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda Chofrestrfa Tir EF, a fydd yn darparu cefnogaeth gydol y peilot. Rydym am ddeall sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar brynwyr a gwerthwyr tai hefyd, felly byddwn yn gweithio’n agos gyda grŵp o ddefnyddwyr sydd ar gam chwilio lleol wrth brynu eiddo.

Dywedodd Rhonda Griffiths, Pennaeth Rhaglen a Pholisi y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol:

“Mae’r cynllun peilot hwn yn gam pellach tuag at farchnad eiddo sy’n gyflymach ac yn fwy effeithlon. Trwy ryddhau mwy o ddata hanfodol, a’i wneud yn hygyrch yn gynharach yn y broses drafodion, gallwn leihau ansicrwydd a chefnogi gwneud penderfyniadau gwell.

“Ni ellir cyflawni marchnad eiddo sy’n cael ei gyrru gan ddata’r 21ain ganrif ar ei phen ei hun; mae’n hanfodol bod pawb yn chwarae eu rhan. Bydd hyn yn gwneud y broses brynu a gwerthu hyd yn oed yn fwy tryloyw i bawb.”

Bydd y peilota’n dod i ben ym Mawrth 2026, a bydd Cofrestrfa Tir EF a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gwerthuso’r canlyniadau i lywio polisïau’r llywodraeth yn y dyfodol.