Canllawiau

Cyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol

Diweddarwyd 19 April 2024

Applies to England and Wales

Mae’r cyflenwyr meddalwedd canlynol yn cefnogi awdurdodau lleol gyda’r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn argymell nac yn cymeradwyo unrhyw un cynnyrch neu wasanaeth dros un arall ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod, cost neu draul mewn cysylltiad â defnyddio’r feddalwedd hon.

Cysylltwch â’r cyflenwr meddalwedd ar gyfer y canlynol:

  • sicrhau bod y cynnyrch meddalwedd yn cwrdd â’ch anghenion penodol
  • darparu cefnogaeth
  • gofyn am ragor o wybodaeth am y meddalwedd

1. Cyflenwyr meddalwedd sydd wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF

Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF. Maent yn cefnogi awdurdodau lleol yn ystod gweithgarwch mudo pridiannau tir lleol ac mewn gwasanaeth byw.

 Gall y cyflenwyr meddalwedd hyn ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:

  • detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
  • mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
  • integreiddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol

2. Cyflenwyr meddalwedd sy’n gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol

Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn yn gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol i gefnogi gweithgarwch mudo pridiannau tir lleol ac mewn gwasanaeth byw. Nid oes gan Gofrestrfa Tir EF gontract gyda’r cyflenwyr hyn ond mae’n cydweithio â nhw a’r awdurdod lleol i ddarparu’r gwasanaethau gofynnol.

Gall Civica roi detholiadau data i awdurdod lleol o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol.

Gall Ocella Software Systems a StatMap ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:

  • detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
  • mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
  • Integreiddio API o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol

3. Datrysiadau meddalwedd sydd ag o leiaf un awdurdod lleol wedi ei integreiddio i API Cofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw

Mae gan y datrysiadau meddalwedd pridiannau tir lleol hyn o leiaf un awdurdod lleol yn defnyddio API integreiddio mewn gwasanaeth byw. Mae hyn yn galluogi awdurdod lleol i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Gofrestrfa Tir EF a’r awdurdod lleol fod wedi cwblhau’r mudo i symud eu cofrestr pridiannau tir lleol i wasanaeth byw. Ar y pwynt hwnnw, mae integreiddio API y cyflenwr yn mynd yn fyw.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio Rhyngwyneb Defnyddiwr (GUI) Cofrestrfa Tir EF fel dewis arall i’r API neu ar y cyd â’r API hefyd. Rhaglen GOV.UK ar y we yw GUI ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau ar-lein.

Gallwch ddarllen y rhestr lawn o gyflenwyr gan gynnwys cyflenwyr darparu gwasanaethau mudo.

4. Cefnogaeth i awdurdodau lleol

Darllenwch Local Land Charges Migration Hub am wybodaeth am sut gall awdurdodau lleol symud eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i gofrestr ddigidol Cofrestrfa Tir EF.

5. Cysylltu

Anfonwch ebost at dîm y rhaglen: llcproject@landregistry.gov.uk