Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofrestrfa Tir EM 2016 i 2017

Ein perfformiad o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 a gwybodaeth am drawsnewid digidol ein gwasanaethau, platfformau TG a’r gofrestr.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofrestrfa Tir EM 2016 i 2017

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customersupport@mail.landregistry.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Arweinwyr y byd

Yn Chwefror 2017, gwnaed ymrwymiad yn y Papur Gwyn Tai ‘Fixing our broken housing market’ i Gofrestrfa Tir EM fod y gofrestrfa tir orau yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata, ac anelu at gyflawni cofrestru cynhwysfawr erbyn 2030.

Cofrestru cynhwysfawr

Byddwn yn dechrau gweithio tuag at sicrhau cofrestriad digidol cynhwysfawr o ehangdir yng Nghymru a Lloegr erbyn 2030. Bydd hyn yn cefnogi datblygiad cartrefi newydd, sefydlogrwydd ariannol, casglu trethi, gorfodi’r gyfraith a diogelu diogelwch cenedlaethol.

Mae rhan o hyn yn golygu gweithio’n greadigol gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, i sicrhau bod ein cofrestr ddigidol yn gallu cyflawni hyn.

Trawsnewid digidol

Mae trawsnewid digidol ein gwasanaeth, platfformau TG a’r gofrestr yn hanfodol i lwyddiant ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn dechrau arloesi gyda’r Arolwg Ordnans trwy rannu eu deallusrwydd daear-ofodol i gefnogi twf yn y sectorau technoleg eiddo, technoleg cyfraith a thechnoleg ariannol.

‘Y Stryd Ddigidol’

Ein cynllun peilot ar gyfer cofrestru digidol, sy’n cael ei lansio yn ystod haf 2017, yw ‘Y Stryd Ddigidol’. Bydd y peilot yn ein galluogi i archwilio’n ddiogel i dechnolegau newydd fel Blockchain a Deallusrwydd Artiffisial, a sut y gellid defnyddio’r rhain i wella’r broses gyffredinol o gofrestru tir a phrynu neu werthu cartrefi.

Data Agored

Byddwn yn hybu rhannu data ar draws y llywodraeth. Cytunwyd ar hyn i raddau helaeth mewn ymateb i ymgyngoriadau a galw gan ein cwsmeriaid am ragor o ddata i fod ar gael yn rhwydd. Un o’r enghreifftiau allweddol o hyn yn 2016/17 oedd y Mynegai Prisiau Tai (HPI) cyntaf a lansiwyd ar 14 Mehefin 2016.

Wedi ei gyhoeddi gan Gofrestrfa Tir EM ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cofrestri’r Alban a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, disodlodd Mynegai’r DU y mynegeion blaenorol a gyhoeddwyd ar wahân. Mae hwn bellach yn ymdrin â’r farchnad dai yn llawn.

Ystadau

Rydym wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i ailystyried ein portffolio ystadau, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o leoedd presennol a rhyddhau lleoedd eraill, yn unol â’r nod o ddulliau gweithio mwy clyfar. Disgwylir i Parkside Court, Telford, gael ei werthu, gyda Chofrestrfa Tir EM yn ail-leoli ei swyddfeydd yn yr un ardal. Ein bwriad yw trosglwyddo Meithrinfa Caerlŷr a Chalfont Drive, llain ddeheuol, i’r Homes & Communities Agency ar gyfer cynllun ailddatblygu tai posibl.

Staffio

Recriwtiwyd cyfanswm o 584 o aelodau staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a ‘graddiodd’ ein carfan gyntaf o 80 o brentisiaid yn hydref 2016.

Cyhoeddwyd ar 18 July 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 September 2017 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.