Skip to main content
Canllawiau

Hepatitis E

Cyhoeddwyd 9 Ionawr 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Beth yw Hepatitis E?

Haint sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis E (sydd hefyd yn cael ei alw’n HEV) yw hepatitis E. Gall HEV heintio pobl ac anifeiliaid.

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, menywod beichiog, pobl â chyflwr iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, clefyd yr afu/iau a’r arennau) a phobl hŷn.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am symptomau Hepatitis E a sut mae’n eich gwneud yn sâl ar dudalen we’r GIG ynghylch Hepatitis neu dudalen we UKHSA ynghylch Hepatitis E

Fideo: Yr ASB yn esbonio Hepatitis E

Dyma fideo gan yr ASB yn esbonio Hepatitis E.

Sut gallwch chi ddal Hepatitis E

Yn y DU, mae Hepatitis E wedi’i gysylltu â bwyta cig heb ei goginio’n ddigonol, yn enwedig porc a chynhyrchion porc.

Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall HEV fod yn gyffredin mewn ardaloedd â glanweithdra gwael. Wrth deithio i rannau o’r byd sydd â glanweithdra gwael, gallwch leihau eich risg o haint HEV trwy gymryd rhagofalon, gan gynnwys mesurau hylendid da o ran bwyd a dŵr.

Sut gallwch chi leihau’r risg o Hepatitis E

Rydym yn cynghori’n benodol y dylid coginio’n drylwyr bob darn cyfan o borc, cynhyrchion porc (er enghraifft bacwn, selsig) ac afu/iau porc hyd nes:

  • eu bod yn stemio’n boeth drwyddynt draw 
  • bod pob rhan o’r cig yn binc, a hynny wrth dorri i’r rhan fwyaf trwchus ohono 
  • bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir

Er mwyn lleihau’r risg o Hepatitis E, mae’n bwysig:

  • coginio bwyd yn gywir drwy ddilyn y canllawiau ar amser a thymheredd
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr cyn, yn ystod, ac ar ôl paratoi bwyd
  • atal croeshalogi, a allai arwain at facteria’n pasio o fwydydd amrwd i fwydydd sy’n barod i’w bwyta trwy bethau fel bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio, cyllyll, arwynebau budr a byrddau torri
  • oeri eich bwyd o dan 5°C – bydd hyn yn atal neu’n arafu twf bacteria yn sylweddol
  • gwneud yn siŵr bod mannau paratoi bwyd yn lân i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu

Mae feirysau yn fach iawn ac yn aml yn asiantau pathogenig heintus iawn sy’n achosi clefydau.

Rydym yn amcangyfrif bod 18% o achsosion gwenwyn bwyd y Deyrnas Unedig (DU) o ganlyniad i feirysau a gludir gan fwyd, sy’n gyfran sylweddol.

Mae feirysau yn gallu cael eu lledaenu rhwng unigolion (rheiny sy’n cynnal y feirws) mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys drwy hylifau corfforol, y llwybr gastroberfeddol a thrwy’r aer.

Mae feirysau’n dibynnu ar gelloedd y rheiny sy’n cynnal y feirws (organebau byw) yn cydweithio er mwyn lluosi. Gall rhai feirysau oroesi ac aros yn heintus mewn bwyd a’r amgylchedd am gyfnodau hir. Gall rhai feirysau oroesi amodau caled fel:

  • tymereddau uchel 
  • tymereddau isel  
  • amgylchedd asidig neu alcalïaidd 
  • cysylltiad ag uwch fioled

Beth mae’r ASB yn ei wneud i’ch diogelu rhag hepatitis E

Tan yn ddiweddar, dim ond drwy deithio dramor i leoedd â glanweithdra gwael y byddai pobl o’r DU fel arfer yn cael eu heintio â Hepatitis E. Erbyn hyn, rydym ni’n gwybod bod gan fwy o bobl nad ydynt wedi teithio dramor Hepatitis E, yn enwedig cleifion sydd â system imiwnedd nad yw’n gweithio cystal. Rydym yn amau bod yr achosion hyn o ganlyniad i unigolion yn dod i gysylltiad â feirws Hepatitis E heintus mewn porc a chynhyrchion porc.

Er ei bod yn bosib nodi feirws Hepatitis E mewn bwyd, nid oes modd i ni wybod a yw’n heintus ac yn gallu ein gwneud yn sâl. Rydym ni’n parhau i ymchwilio i sut y gall feirws Hepatitis E sy’n cael ei gludo gan fwyd effeithio ar ddefnyddwyr y DU.

Un maes hollbwysig y mae gofyn i ni gasglu rhagor o dystiolaeth arno yw datblygu gwell dulliau o ganfod y feirws. Mae hyn er mwyn i ni allu asesu risg feirws Hepatitis E yn well yn y gadwyn fwyd. Yna, byddwn yn gallu cymryd camau i leihau’r perygol ei fod yn cyrraedd ein platiau bwyd.

Erbyn hyn, rydym yn gwybod bod coginio trylwyr yn lladd bacteria a feirysau, ond nid ydym ni’n sicr pa mor effeithiol yw gwahanol arferion coginio o ran dileu feirysau fel Hepatitis E o fwyd. 

Byddwn yn cynnal gwaith pellach er mwyn deall faint o wres sydd ei angen ac am ba hyd er mwyn cael gwared â Hepatitis E mewn bwyd. Bydd hyn yn ein galluogi i roi cyngor clir ar ba dymheredd y dylid coginio bwyd ac am ba hyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i borc a chynhyrchion porc.