Safleoedd trafod a storio ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid: cais
Ffurflen i wneud cais am gymeradwyaeth i weithredu safle trafod neu storio ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Dogfennau
Manylion
Mae’r ffurflen hon yn rhan o’r canllaw ar drafod a storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar safle llosgi.
Rhaid i safleoedd gael eu cymeradwyo cyn y gallant dderbyn neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae hyn yn gymwys i’r canlynol:
-
trin a storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin
-
storio cynhyrchion sy’n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Fel rhan o’r broses gymeradwyo, caiff eich cyfleuster ei archwilio.
Dylai cwsmeriaid yn Lloegr ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA Customer Service Centre Worcester.
Dylai cwsmeriaid yng Nghymru ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i swyddfa APHA yng Nghaernarfon.
Dylai cwsmeriaid yn yr Alban ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w Swyddfa Gwasanaeth Maes APHA leol.