Canllawiau

Canllawiau ar weithredu swyddogaethau Marchnad Fewnol y DU, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut fydd Swyddfa’r Farchnad Fewnol yn cyflawni ei swyddogaethau i gefnogi gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y Deyrnas Unedig.

Dogfennau

Manylion

Mae’r canllawiau hyn yn egluro rôl Swyddfa’r Farchnad Fewnol sydd wedi’i chreu er mwyn darparu cyngor, monitro ac adrodd annibynnol, i gefnogi gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU yn dilyn dychwelyd y pwerau o’r UE i Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Ymgynghorodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar ganllawiau ar ei swyddogaethau mewn perthynas â marchnad fewnol y DU. Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol wedi’i sefydlu o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i gyflawni’r swyddogaethau hyn.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 8 wythnos, o 27 Mai 2021 i 22 Gorffennaf 2021. Am ragor o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad, ewch i’r dudalen Canllawiau Drafft ar Weithredu Swyddogaethau Marchnad Fewnol y DU, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Cyhoeddwyd ar 21 September 2021