Guidance

Guidance letter for the certificate of appointment (Welsh accessible version)

Updated 19 May 2021

Applies to England and Wales

Tystysgrif Penodi Person Awdurdodediggan Ymddiriedolwr neu Gorff Llywodraethu Adeilad Cofrestredig - Canllawiau ar gyfer yr Ymgeisydd

(Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi’r ffurflen AP1 )

Beth yw Person Awdurdodedig?

Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth i briodasau rhwng dyn a menyw gael eu gweinyddu mewn adeilad sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Yn lle hynny, gall ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad cofrestredig awdurdodi person i fynychu priodasau a llofnodi’r amserlen briodasau ar gyfer priodasau a fyddai’n cael eu gweinyddu yn yr adeilad hwnnw. Bydd enw a chyfeiriad y person awdurdodedig yn cael eu hardystio i’r Cofrestrydd Cyffredinol a chofrestrydd arolygu yr ardal gofrestru y lleolir yr adeilad ynddo. Rhaid bod yr adeilad wedi’i gofrestru am o leiaf 12 mis cyn y gellir penodi person awdurdodedig.

Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth hefyd i briodas cyplau o’r un rhyw gael ei gweinyddu mewn adeilad sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Erbyn hyn, gall ymddiriedolwyr neu’r corff llywodraethu benodi personau awdurdodedig i fynyhcu priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o’r un rhyw yn unig, neu’r ddau.

Beth yw cyfrifoldebau Person Awdurdodedig?

Mae cyfrifoldebau person awdurdodedig yn cynnwys:

  • sicrhau bod rhagarweiniadau cyfreithiol unrhyw briodasau i’w gweinyddu yn yr adeilad wedi’u cwblhau gan y cwpl cyn i’r briodas ddigwydd
  • sicrhau bod pob priodas yn cael ei gweinyddu yn unol â deddfwriaeth a bod y manylion yn cael eu cofnodi yn gywir ar yr amserlen briodasau
  • dychwelyd yr amserlen briodasau wedi’i llofnodi i’r cofrestrydd arolygu o fewn yr amserlen gyfreithiol h.y. o fewn 21 diwrnod ar ôl y briodas.

Dylech fod yn ymwybodol y gallai methu â chydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol hyn arwain at amheuon ynghylch dilysrwydd y briodas a pheri gofid mawr i’r rhai dan sylw. Ceir manylion llawn am gyfrifoldebau a dyletswyddau person awdurdodedig yn y llyfryn “Canllaw i Bersonau Awdurdodedig”.

Fel arall, gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost at GRO yn: GROCasework@gro.gov.uk. Dylai fod copi o’r canllaw eisoes ar gael yn yr adeilad cofrestredig os yw person awdurdodedig wedi’i benodi i’r adeilad o’r blaen. Rhaid i’r person awdurdodedig fod yn gyfarwydd â’r canllaw er mwyn i holl ddarpariaethau deddfwriaeth priodas gael eu gwneud yn iawn ac yn gywir.

Sut ydw i’n dod yn Berson Awdurdodedig?

Bydd person awdurdodedig ond yn cael ei benodi gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad sydd wedi’i gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau yn unol â darpariaethau Deddf Priodasau 1949. Rhaid iddynt gwblhau tystysgrif penodi (Ffurflen AP1).

Cwblhau Tystysgrif Benodi

Dylai’r dystysgrif benodi gael ei chwblhau gan ymddiriedolwyr neu aelodau corff llywodraethu’r adeilad. Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i bob penodiad person awdurdodedig gael ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Felly, ni ddylai unrhyw berson weithredu fel person awdurdodedig nes bod penodiad wedi’i ardystio i’r Cofrestrydd Cyffredinol a’i fod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) fod manylion y penodiad wedi’u cofnodi.

Rhaid i bersonau awdurdodedig a benodir ar hyn o bryd i fynychu priodasau rhwng dyn a menyw beidio â mynychu na llofnodi amserlen briodas ar gyfer priodas unrhyw gwpl o’r un rhyw hyd nes y bydd yr adeilad wedi’i gofrestru ar gyfer y diben hwnnw a’u bod hefyd wedi’u penodi gan yr ymddiriedolwyr i wneud hynny.

Dylid anfon y dystysgrif wedi’i chwblhau at GRO drwy anfon e-bost:

GROCasework@gro.gov.uk

neu drwy’r post:

Swyddfa Gofrestru Gyffredinol,
Blwch Post 476,
Southport,
Glannau Mersi
PR8 2WJ.

Rhowch 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais yn GRO i’r broses gofnodi penodiad ddigwydd. Unwaith y bydd y penodiad wedi’i gofnodi, bydd y person awdurdoedig yn cael gwybod yn ysgrifenedig a bydd y dystysgrif benodi yn cael ei hanfon at gofrestrydd arolygu yr ardal lle mae’r adeilad wedi’i leoli. O.N. – Lle bo’n berthnasol, ni fydd y person sy’n gadael y swydd bellach yn gallu cyflawni dyletswyddau person awdurdoedig heb gael ei ailbenodi.

Adran 1 – Manylion Adeilad Cofrestredig

1.1 Rhif priodas – Mae’r rhif wedi’i gofnodi ar y Tystysgrif Gofrestru.

1.2 Enw’r adeilad – Rhowch enw’r adeilad fel y mae’n ymddangos ar y Dystysgrif Gofrestru. Os bydd yr wybodaeth a roddir yn eich cais yn wahanol i’r cofnodion a gedwir yma yn GRO, efallai y bydd yn rhaid i ni ymchwilio i’r newid cyn y gallwn ddechrau cofnodi eich apwyntiad.

1.3 Ardal gofrestru – Unwaith y byddwn wedi cofnodi’r penodiad, anfonir y dystysgrif at Gofrestrydd Arolygu yr ardal gofrestru lle mae’r adeilad wedi’i leoli.

Adran 2 – Ymddiriedolwyr/Aelodau’r Corff Llywodraethu

Nodwch a ydych yn dymuno penodi’r person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o’r un rhyw yn unig, neu’r ddau. Rhaid i chi dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG.

2.1 Y person awdurdodedig sy’n gyfrifol am gadw cofrestrau priodasau wedi’u cwblhau yn ddiogel ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n gysylltiedig â phriodasau.

2.2 Dyddiad penodi – Rhaid i berson awdurdodedig beidio â gweithredu hyd nes y bydd wedi’i ardystio’n briodol ac wedi’i awdurdodi ar gyfer y diben hwnnw gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu’r adeilad a dylai aros am gadarnhad gan GRO cyn ymgymryd â’i ddyletswyddau.

2.3  Dyddiad unrhyw briodas ar ddod – Rhowch wybod i ni am ddyddiad unrhyw briodas i’w gweinyddu yn yr adeilad lle mae angen i’r person awdurdoedig wedi’i enwi fod yn bresennol. Ni ddylent, o dan unrhyw amgylchiadau, fynychu a llofnodi amserlen briodas ar gyfer unrhyw briodas nes cael cadarnhad gan GRO bod eu penodiad wedi’i gofnodi.

Manylion a llofnodion ymddiriedolwyr – Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i ddau ymddiriedolwr neu aelod o gorff llywodraethu’r adeilad lofnodi tystysgrif benodi. Os bydd y penodiad mewn adeilad Catholig, yna rhaid i un llofnodwr fod yn Esgob neu Ficer Cyffredinol yr Esgobaeth lle mae’r adeilad wedi’i leoli.

Adran 3 – Manylion Personau Awdurdodedig

3.1 Gellir ond yn cael un Person Awdurdodedig Cyfrifol yn yr adeilad cofrestredig ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, efallai y bydd mwy nag un person awdurdodedig. Y “Person Awdurdodedig Cyfrifol” fydd pwynt cyswllt cyntaf y GRO.

Os bydd person awdurdodedig yn gadael ei swydd, mae’n ofyniad cyfreithiol i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i’r GRO. Os mai’r person hwn yw’r person awdurdoedig cyfrifol, rhaid i’r ymddiriedolwyr benodi olynydd drwy gwblhau tystysgrif benodi newydd. Gall yr olynydd fod yn berson awdurdoedig presennol neu gall fod yn benodiad newydd. Nid oes angen i’r person awdurdoedig cyfrifol fod yn weinidog nac yn offeiriad a gall fod yn unrhywun sy’n gysylltiedig â’r adeilad cofrestredig.

Dylech nodi o leiaf un rhif ffôn ar gyfer y person awdurdodedig rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â nhw.

3.2 Cyfeiriad e-bost – Dylech nodi cyfeiriad e-bost dilys (os yn berthnasol). Byddwn ni ond yn defnyddio y cyfeiriad hwn at ddibenion sy’n ymwneud â dyletswyddau person awdurdodedig ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw sefydliad arall. Os bydd y person awdurdodedig yn newid ei gyfeiriad e-bost neu unrhyw fanylion cyswllt eraill, rhowch wybod i GRO drwy lenwi’r ffurflen Newid Manylion Cyswllt (Ffurflen AP2).

Adran 4 – i’w llenwi gan y Person Awdurdodedig

Nid yw Deddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 yn caniatáu i berson gael ei orfodi i gael ei awdurdodi i fod yn bresennol mewn priodasau cyplau o’r un rhyw os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Felly, dylai’r person awdurdodedig nodi a yw’n cytuno i gyflawni dyletswyddau person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o’r un rhyw yn unig, neu’r ddau. Rhaid iddynt dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG ac yna llofnodi a dyddio’r dystysgrif.

Adran 5 – Datganiad Person Awdurdodedig

Dylai’r person awdurdodedig ddarllen y canllawiau hyn cyn llofnodi a dyddio’r dystysgrif i gadarnhau ei fod yn fodlon i GRO gysylltu ag ef ynghylch dibenion eu penodiad.