Canllawiau i gynhyrchwyr cynradd a gweithredwyr busnesau bwyd ar gynhyrchu anifeiliaid hela gwyllt mewn modd hylan
Cyhoeddwyd 18 Gorffennaf 2022
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Hanes diwygio
| Rhif y diwygiad | Dyddiad | Diben y diwygiad | Diwygiwyd gan | |
|---|---|---|---|---|
| 3 | Hydref 2024 | Mân ddiwygiadau o’r canllawiau, gan gynnwys: Cael gwared ar gyfeiriadau at ddarparwyr penodol sy’n cynnig hyfforddiant hela yn yr adran “Gofynion hyfforddiant mewn Iechyd a Hylendid”. Mân ddiwygiadau eraill i’r geiriad. |
Tîm Polisi Hylendid Cig | |
| 2 | 25 Gorffennaf 2022 | Adolygiad cyflawn sy’n cynnwys: dileu’r adran ar Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy cynnwys adran i nodi bod Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn uniongyrchol gymwys yng Ngogledd Iwerddon, a bod Cyfraith yr UE wedi’i diwygio i gyflwyno ‘canolfannau casglu ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt’ egluro eithriadau sy’n gymwys i gynhyrchu cynradd cynnwys adran sy’n cyfeirio masnachwyr at brosesau mewnforio ac allforio oherwydd newidiadau ers 1 Ionawr 2021 |
Tîm Polisi Hylendid Cig a Milfeddygol | |
| 1 | Tachwedd 2015 | Diweddariad | Paul Stubbington | |
| 0 | Mehefin 2014 | Adolygu’n gyfan gwbl | Simon Tudor |
Crynodeb
Diben
Darparu canllawiau ar ofynion diogelwch a hylendid bwyd sy’n gymwys yn yr amryw sefyllfaoedd lle bo anifeiliaid hela gwyllt (wild game) yn cael eu hela a’u cyflenwi i’w bwyta gan bobl.
Statws cyfreithiol
Bwriad y canllawiau hyn yw egluro sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio mewn perthynas â chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt (wild game meat) i’w bwyta gan bobl ynghyd â dulliau y gellid eu defnyddio i roi hyder o ran diogelwch bwyd, ond nad ydynt yn ofyniad cyfreithiol.
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?
Mae’r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt hyn wedi’u bwriadu ar gyfer: - Cynhyrchwyr cynradd (hynny yw, helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu) - Gweithredwyr busnesau bwyd - Swyddogion Gorfodi: Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA)
I ba wledydd yn y Deyrnas Unedig (DU) y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Lloegr
Dyddiad adolygu
Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Hydref 2026.
1. Cyflwyniad
Mae’r gofynion diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer sicrhau bod bwydydd yn cael eu cynhyrchu’n ddiogel, gan gynnwys anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, wedi’u nodi mewn deddfwriaeth berthnasol. Fodd bynnag, o blith y gofynion hyn, gall y rheiny sy’n berthnasol i berson neu fusnes penodol fod yn wahanol gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol, gydag amryw eithriadau i’r rheolau wedi’u nodi yn y rheoliadau hyn hefyd. Bydd y canllawiau hyn yn esbonio sut mae’r gofynion rheoleiddio hyn yn gymwys i anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta gan bobl.
Mae’r angen i gymhwyso llawer o’r gofynion hyn yn dibynnu a ydych yn gynhyrchydd cynradd (hynny yw yn heliwr, yn aelod o barti hela ac ati) a/neu’n weithredwr busnes bwyd (hynny yw, yn paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad) ac a ydych yn cyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol (a ddiffinnir fel ‘defnyddiwr terfynol y bwyd na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o unrhyw weithrediad neu weithgaredd busnes bwyd’), i fanwerthwr neu i sefydliad trin helgig cymeradwy (AGHE). [troednodyn 1] Bydd y canllawiau hefyd yn egluro o dan ba amgylchiadau y gallai fod angen i chi gael eich cymeradwyo fel AGHE.
1.1 Cynulleidfa darged
Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer: - cynhyrchwyr cynradd (hynny yw, helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu) - unigolion sy’n cynnal archwiliad cychwynnol o anifeiliaid hela gwyllt - unigolion sy’n cludo anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt - gweithredwyr busnesau bwyd sy’n trin, paratoi a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt (hynny yw AGHEs, ffatrïoedd torri cig, cigyddion, bwytai, siopau fferm ac ati)
1.2 Diben y canllawiau
Nod y canllawiau hyn yw egluro sut mae’r gofynion cyfreithiol yn gymwys mewn amryw sefyllfaoedd lle cyflenwir anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’w bwyta gan bobl. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i drin, archwilio, paratoi, storio, cludo a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’w bwyta gan bobl. Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio; gweler ein ‘geirfa’ am ragor o wybodaeth
1.3 Statws cyfreithiol y canllawiau
Mae’r ddogfen ganllaw hon wedi’i diweddaru a’i chyhoeddi ers i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a diwedd y Cyfnod Pontio. Mae cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE wedi’u diweddaru, felly, i adlewyrchu cyfraith a gymathwyd, sef cyfraith ddomestig y cyfeiriwyd ati’n flaenorol fel Cyfraith yr UE a Ddargedwir (neu REUL) ond heb gymhwyso nodweddion dadansoddol cyfraith yr UE ati (goruchafiaeth, egwyddorion cyffredinol cyfraith a hawliau’r UE a ddargadwyd o dan adran 4 o Ddeddf yr Uned Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ar ôl diwedd 2023). Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’i rhestru o dan Atodiad 2 i Fframwaith Windsor, felly mae rheolau cyfredol yr UE yn dal i fod yn gymwys, a dim ond i nwyddau a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon y mae cyfraith a gymathwyd yn gymwys.
Mae Cyfraith yr UE a Gymathwyd wedi’i nodi yng nghanllawiau’r ASB gan ddefnyddio’r fformatau canlynol:
Rheoliad a Gymathwyd (UE) Rhif xxx/xxxx neu Reoliad (UE) Rhif xxx/xxxx (REUL).
Datblygwyd y canllawiau hyn i roi:
Canllawiau ar y gofynion cyfreithiol ar gyfer cydymffurfio â’r canlynol:
Rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, a nodir yn:
Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon
Rheolau cyffredinol mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir eu bwyta gan bobl, a nodir yn:
Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 1069/2009 ym Mhrydain Fawr Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009 yng Ngogledd Iwerddon
Gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd, a nodir yn:
Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 852/2004 ym Mhrydain Fawr Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 yng Ngogledd Iwerddon
Rheolau ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion a gweithredoedd cysylltiedig, a nodir yn:
Rheoliad a Gymathwyd (UE) Rhif 2017/625 ym Mhrydain Fawr Rheoliad (UE) Rhif 2017/625 yng Ngogledd Iwerddon
Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, gan gynnwys olrhain bwyd a bwyd anifeiliaid>/b>, a nodir yn:
Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 ym Mhrydain Fawr Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 yng Ngogledd Iwerddon
Canllawiau arferion gorau.
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddilyn canllawiau arferion gorau.
Ni all y canllawiau hyn ar y gofynion cyfreithiol drin a thrafod pob sefyllfa, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol eich hun i weld sut y mae’n gymwys i’ch sefyllfa chi. Efallai y bydd busnesau sydd ag ymholiadau penodol am geisio cyngor gan eu hasiantaeth orfodi leol, sef fel arfer adran Safonau Masnach / Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.
Bydd dilyn y nodiadau canllaw hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r gyfraith. Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddilyn canllawiau arferion gorau. Nodir yr holl ganllawiau ar arferion gorau mewn blychau gyda’r pennawd “Arferion Gorau” fel y gwelir isod:
Arferion gorau
Mae’r holl ganllawiau arferion gorau wedi’u nodi’n glir yn y ddogfen hon yn y fformat hwn.
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am unrhyw ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys sydd wedi dyddio. Byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad arfaethedig nesaf o’r canllawiau. Anfonwch unrhyw adborth i wildgameguidance@food.gov.uk.
2. Cynhyrchwyr Cynradd: Gofynion ac Eithriadau
Mae’r rheoliadau hylendid bwyd yn ystyried bod hela anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta gan bobl yn weithgaredd cynhyrchu cynradd. Diffinnir cynhyrchu cynradd fel cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion cynradd, gan gynnwys cynaeafu, godro a chynhyrchu anifeiliaid sy’n cael eu ffermio cyn eu lladd. Mae cynhyrchu cynradd hefyd yn cynnwys hela, pysgota a chynaeafu cynhyrchion gwyllt.
Caiff unigolyn sy’n saethu anifeiliaid hela ar ei ben ei hun, neu fel aelod gweithredol o barti hela neu ystâd saethu sy’n trefnu saethu anifeiliaid hela gwyllt, ei ystyried yn gynhyrchydd cynradd. O’r herwydd, mae helwyr, aelodau partïon hela ac ystadau sy’n trefnu saethu oll yn gynhyrchwyr cynradd.
Mae cynhyrchion anifeiliaid hela gwyllt cynradd yn gynhyrchion sy’n deillio o hela. Mae’r cynhyrchion cynradd yn y sector anifeiliaid hela gwyllt yn cynnwys:
- anifeiliaid hela gwyllt mawr sy’n cynnwys mamaliaid tir sy’n anifeiliaid hela gwyllt (ceirw gwyllt, baeddod gwyllt)
- anifeiliaid hela gwyllt bach sy’n cynnwys adar hela gwyllt a lagomorffiaid hela gwyllt (cwningod, ysgyfarnogod a chnofilod)
Mae’r gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid o hylendid bwyd a’r gofynion y mae’n rhaid i bob busnes bwyd sy’n ymdrin ag anifeiliaid hela gwyllt gydymffurfio â nhw. Ategir y rheoliadau hyn gan egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd. Fodd bynnag, mae eithriadau wedi’u cynnwys yn y rheoliadau hyn sydd wedi’u hanelu at gynhyrchwyr cynradd (helwyr a phobl sy’n cymryd rhan weithredol yn y broses hela).
Bydd p’un a yw unrhyw un o’r eithriadau yn gymwys i chi yn dibynnu ar y canlynol:
- a ydych chi’n cadw’r holl anifeiliaid hela gwyllt rydych chi’n eu hela at eich defnydd domestig preifat eich hun
- a ydych yn cyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt rydych yn eu hela fel cynnyrch cynradd neu’n eu paratoi i’w cyflenwi fel helgig gwyllt
- i bwy rydych chi’n dewis cyflenwi eich anifeiliaid hela gwyllt a/neu helgig gwyllt (hynny yw, a gyflenwir yn uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu, neu i AGHEs, ac ati)
Cynhyrchwyr Cynradd: Tabl Gofynion ac Eithriadau
Cynhyrchwyd y fersiwn wreiddiol o’r tabl hwn gan swyddfa Cymdeithas Ceirw Prydain yn yr Alban, ac mae Safonau Bwyd yr Alban a’r ASB yn ddiolchgar i Gymdeithas Ceirw Prydain am gael ei ddefnyddio. Mae cyfeiriadau at “853/2004” ac “852/2004” yn y tabl hwn yn ymwneud â:
- Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004 a Rheoliad a gymathwyd (CE) 852/2004 yng Nghymru a Lloegr -Rheoliad (CE) 853/2004 a Rheoliad (CE) 852/2004 yng Ngogledd Iwerddon
| Natur y cyflenwi | Cyfyngiadau ar gyflenwi | Rheoliadau Hylendid Bwyd Cymwys a’r Awdurdod Cymwys | Statws ‘Person hyfforddedig’ | Cofrestru Busnes Bwyd gyda’r Awdurdod Lleol | Cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) | Cadw Cofnodion Swyddogol ac Olrheiniadwyedd | ||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Cadw anifeiliaid hela gwyllt ar gyfer defnydd domestig preifat | Anifeiliaid hela gwyllt sy’n cael eu cadw naill ai ar gyfer eich defnydd domestig preifat eich hun neu sydd i’w cyflenwi i deulu a ffrindiau yn unig ar gyfer eu defnydd domestig preifat eu hunain. Rhaid i deulu a ffrindiau yr ydych yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt iddynt beidio â chyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt i unrhyw un arall. | Wedi’i eithrio o gwmpas y Rheoliadau Hylendid Bwyd (852/2004 ac 853/2004). | Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog. | Nid oes angen cofrestru fel busnes bwyd. | Nid oes angen System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS) sy’n seiliedig ar Egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). | Nac ydy, wedi’i eithrio o gwmpas y Gyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002). | ||||||||||||||||
| Cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd i’r defnyddiwr terfynol a/neu i fanwerthwyr lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol | Rhaid i’r cyflenwi fod yn symiau bach o anifeiliaid hela gwyllt (cynnyrch cynradd) gan y cynhyrchydd. Rhaid i’r cyflenwi fod yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliad lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol (er enghraifft cigyddion, bwytai). Ni chaiff y cynhyrchydd gyflewni sefydliadau manwerthu lleol (sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol) sydd ymhellach na’ch awdurdod lleol eich hun, awdurdod lleol cyfagos neu 50 km/30 milltir o ffin eich awdurdod lleol. |
Wedi’i eithrio o gwmpas y Rheoliadau Hylendid Bwyd (852/2004 ac 853/2004). Eich awdurdod lleol yw’r Awdurdod Cymwys. |
Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog. | Nid oes angen cofrestru fel busnes bwyd ond fe’ch anogir i gysylltu â’ch awdurdod lleol i sicrhau y cewch chi ddefnyddio’r eithriad hwn. | Nid oes angen FSMS sy’n seiliedig ar Egwyddorion HACCP ond rydych chi’n dal yn glwm wrth y rhwymedigaeth i gyflenwi bwyd diogel, a dylai fod gennych chi systemau ar waith i reoli risgiau diogelwch bwyd. | Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002) yn gymwys. | Cyflenwi helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol | Rhaid i’r cyflenwi fod yn symiau bach o gynhyrchion helgig gwyllt. Rhaid cyflenwi’r helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol (hynny yw cigyddion, bwytai). Ni ellir cyflenwi i sefydliadau manwerthu lleol sydd ymhellach na’ch awdurdod lleol eich hun, awdurdod lleol cyfagos neu 50 km/30 milltir o ffin eich awdurdod lleol. |
Mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys. Wedi’i eithrio o 853/2004. Eich awdurdod lleol yw’r Awdurdod Cymwys. |
Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog. | Oes, mae angen cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. | Rhaid i chi fod â system rheoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP. | Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (178/2002) yn gymwys. | Cyflenwi helgig gwyllt i sefydliadau trin anifeiliaid hela cymeradwy (AGHEs) | Amherthnasol. | Mae Rheoliadau 852/2004 ac 853/2004 yn gymwys. Awdurdod Cymwys: Awdurdod lleol (Cyflenwr) a’r ASB (mewn AGHE). |
Angen statws ‘Person hyfforddedig’. | Oes, mae angen cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. | Rhaid i chi fod ag FSMS sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP. Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â’r meini prawf a nodir yng nghynllun HACCP y sefydliad derbyn (receiving establishment). | Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002) yn gymwys. |
2.1 Cynhyrchu Cynradd ar gyfer Defnydd Domestig Preifat
Os ydych chi’n hela, yn paratoi, yn trin neu’n storio anifeiliaid hela gwyllt at eich defnydd domestig preifat eich hun, rydych chi wedi’ch eithrio o egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, fel y nodir yn Erthygl 1(3), yn ogystal ag o’r gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, fel y nodir yn Erthygl 1(2)(a) ac Erthygl 1(3)(a) yn y drefn honno.
Mae defnydd domestig preifat yn cyfeirio at baratoi, trin, storio a bwyta anifeiliaid hela gwyllt yn bersonol, gydag unrhyw gyflenwi wedi’i gyfyngu i deulu a ffrindiau ar gyfer eu defnydd domestig preifat eu hunain yn unig. Nid yw’n ofynnol i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol ond fe’ch anogir i gysylltu â’ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn.
Crynodeb o’r eithriad:
- rydych chi wedi eich eithrio o gwmpas y rheoliadau uchod
- nid yw’n ofynnol i chi fod wedi’ch cofrestru na’ch cymeradwyo
I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i’r anifeiliaid hela gwyllt rydych chi’n eu hela gael eu cadw at eich defnydd domestig preifat eich hun, neu eich teulu a’ch ffrindiau, yn unig.
2.2 Cyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt yn Uniongyrchol gan y Cynhyrchydd i’r Defnyddiwr Terfynol a/neu i Sefydliadau Manwerthu Lleol sy’n cyflenwi i’r Defnyddiwr Terfynol
Os ydych yn gynhyrchydd cynradd (er enghraifft, heliwr, ystâd saethu) sy’n cyflenwi’ch holl anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol (hynny yw, cigyddion, bwytai neu siopau fferm):
- Rhaid i chi gadw at reolau egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwydgan gynnwys y rhwymedigaeth gyfreithiol i gyflenwi bwyd diogel ac i gydymffurfio ag egwyddorion a gofynion olrheiniadwyedd.
- Rydych chi wedi’ch eithrio rhag y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, fel y nodir yn Erthygl 1(2)(a) ac Erthygl 1(3)(a), yn y drefn honno.
- Nid oes angen i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Fodd bynnag, fe’ch anogir i gysylltu â’ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn.
- Rhaid i’ch cyflenwad o anifeiliaid hela gwyllt fod yn symiau bach, yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol.
- Mae’r diffiniadau o anifeiliaid hela gwyllt, defnyddiwr terfynol, lleol, manwerthu a symiau bach i’w gweld yn y Rhestr Termau
2.3 Cyflenwi Helgig Gwyllt yn uniongyrchol i’r Defnyddiwr Terfynol a/neu i Sefydliadau Manwerthu Lleol sy’n cyflenwi i’r Defnyddiwr Terfynol
Mae anifeiliaid hela gwyllt yn troi’n helgig gwyllt pan fyddant yn cael eu paratoi ymhellach (er enghraifft diberfeddu, blingo a/neu blycio). Os ydych chi’n hela, yn trin, a/neu’n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i gyflenwi helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol a/neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol:
- Rhaid i chi gadw at egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd ac at y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd. O ran egwyddor mae hyn yn golygu:
- bod â system rheoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar Egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol)
- bod â strwythurau a gweithrediadau digonol ar waith ar gyfer prosesu anifeiliaid hela gwyllt
- bod â chyfleusterau digonol ar waith ar gyfer storio priodol, gan gynnwys y gallu i gynnal y gadwyn oer ar gyfer cyrff anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt
- Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion uchod i ddarparu bwyd diogel a gallu parhau i olrhain.
- Rhaid i chi fod â chyfleusterau hylan i gludo’r helgig gwyllt i’r defnyddiwr terfynol neu i’r manwerthwr lleol.
- Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.
- Rhaid i helwyr sy’n cyflenwi helgig gwyllt gyda’r bwriad o’i roi ar y farchnad i’w fwyta gan bobl gael hyfforddiant iechyd a hylendid gan ddarparwr hyfforddiant cydnabyddedig. Gweler yr adran ar hyfforddiant.
- Rydych wedi’ch eithrio o’r gofynion o dan y rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid. Fodd bynnag er mwyn i’r eithriad hwn fod yn berthnasol:
- mae angen i’r helgig gwyllt a gyflenwir fod yn symiau bach (gweler y diffiniad yn y Rhestr Termau) yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol
- rhaid i’r helgig gwyllt gael ei baratoi gan berson hyfforddedig sydd wedi cael hyfforddiant
- nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r manwerthwr rydych chi’n cyflenwi’ch helgig gwyllt iddo yn cyflenwi i fanwerthwyr eraill ac nid defnyddwyr terfynol yn unig
3. Eithriad ‘Cyflenwi Manwerthwr i Fanwerthwr’
Mae’r rheoliadau hylendid bwyd yn caniatáu i fanwerthwr gyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill yn unig, heb yr angen am gymeradwyaeth fel AGHE. Rhaid i’r cyflenwi fod yn ymylol, yn lleol ac yn gyfyngedig. Diffinnir y termau hyn ym Mholisi Cymeradwyo Gweithredol yr ASB fel hyn.
Mae ‘ymylol’ yn golygu cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid i fanwerthwyr eraill hyd at chwarter cyfanswm y bwyd a werthir, wedi’i gyfrifo yn ôl pwysau neu yn ôl gwerth os yw mesur yn ôl pwysau yn anymarferol ar gyfer yr ystod o gynhyrchion. Er mwyn bodloni’r maen prawf hwn, mae’n rhaid i chi, fel y manwerthwr, werthu o leiaf 75% o’r holl fwyd rydych chi’n ei gyflenwi yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol trwy eich siop fanwerthu eich hun. Rhaid i unrhyw anifeiliaid hela gwyllt neu helgig gwyllt rydych chi’n eu gwerthu, ac eithrio trwy eich siop fanwerthu eich hun, gael eu gwerthu i fanwerthwyr eraill, fel siopau cigyddion a bwytai.
Mae ‘lleol’ yn golygu bod yn rhaid i fanwerthwyr eraill y cyflenwir iddynt fod yn yr un sir, mewn siroedd cyfagos (drws nesaf) neu’r rheiny nad ydynt fwy na 30 milltir/50 cilomedr o ffin sir y manwerthwr, p’un bynnag sydd fwyaf – ond byth y tu hwnt i’r DU, ac eithrio cyflenwi o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon. Gall y siroedd hynny yng Ngogledd Iwerddon sy’n ffinio â Gweriniaeth Iwerddon gyflenwi i’r sir gyfagos yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae ‘cyfyngedig’ yn golygu bod cyflenwi helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill wedi’i gyfyngu gan y gofynion i fod yn ymylol ac yn lleol fel yr uchod.
4. Cyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i AGHEs
Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau sy’n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad yn digwydd mewn AGHE.
O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r rheiny sy’n ymwneud â phob cam o’r prosesau cynhyrchu a dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt i AGHEs (er enghraifft helwyr, ystadau saethu, prynwyr helgig, cludwyr a bwtrïoedd ac ati) gydymffurfio â chyfrifoldebau’r gweithredwyr busnesau bwyd trwy wneud y canlynol:
- cydymffurfio â’r gofynion perthnasol mewn deddfwriaeth berthnasol. Nid yw’r eithriadau a nodir yn y rheoliadau hylendid bwyd yn gymwys i chi
- cofrestru fel gweithredwr busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol
- bodloni’r gyfraith diogelwch bwyd a gofynion olrheiniadwyedd y ddeddfwriaeth berthnasol
- cludo anifeiliaid hela gwyllt yn hylan ac yn ddiogel. Gweler yr adran ar Gludo i gael rhagor o wybodaeth
4.1 Trin Anifeiliaid Hela Gwyllt Mawr i’w Cyflenwi i AGHEs
Mae’r gofynion penodol ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt mawr i’w rhoi ar y farchnad trwy AGHEs wedi’u nodi yn y rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid.
Mae’r camau y dylid eu dilyn wrth hela anifeiliaid hela gwyllt mawr i’w cyflenwi i AGHE wedi’u nodi isod:
- Ar ôl lladd, rhaid cael gwared ar stumogau a choluddion (offal gwyrdd) anifeiliaid hela gwyllt mawr cyn gynted â phosib (eu diberfeddu), ac, os oes angen, eu gwaedu. Gall y stumog, y coluddion a rhannau eraill o’r corff, gan gynnwys y pen, naill ai gael eu gwaredu’n ddiogel ar y safle lladd, neu mewn bwtri, ar yr amod nad yw hyn yn cyfaddawdu’r angen iddynt gael eu symud yn brydlon.
- Yna mae’n rhaid i ‘berson hyfforddedig’ gynnal archwiliad o’r corff ac o unrhyw organau perfeddol (viscera) sy’n cael eu tynnu i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd. Rhaid i’r archwiliad hwn gael ei gynnal cyn gynted â phosib ar ôl y lladd.
- Yn dilyn yr archwiliad y soniwyd amdano uchod, ac ar yr amod na chanfuwyd unrhyw nodweddion annormal, na welwyd unrhyw ymddygiad annormal cyn lladd, ac nad oes amheuaeth o halogiad amgylcheddol, rhaid i’r person hyfforddedig gyhoeddi ac atodi datganiad wedi’i rifo y mae’n rhaid iddo gynnwys y dyddiad, yr amser a’r man lladd. Cyflawnir hyn fel arfer trwy dagio neu labelu er mwyn eu cysylltu â’i gilydd. Cyfeiriwch at Atodiad A am enghraifft o’r datganiad. Yn y sefyllfa hon, nid oes angen i’r pen na’r organau perfeddol fynd gyda’r corff, ac eithrio y rhywogaethau hynny sy’n agored i Trichinosis (er enghraifft baeddod gwyllt ac unrhyw rywogaethau moch eraill), y mae’n rhaid i’w pennau a’r llengig fynd gyda’r corff i’r AGHE.
- Ar ôl archwilio’r corff, os yw’r person hyfforddedig yn amau bod yna nodweddion annormal, rhaid i’r pen (nid yr ysgithrau na’r cyrn) a’r holl organau perfeddol, heblaw am y stumog a’r coluddion, fynd gyda’r corff i’r AGHE. Yn y sefyllfa hon, rhaid i’r heliwr roi gwybod i’r awdurdod cymwys (Milfeddyg Swyddogol yr ASB) am yr annormaleddau sydd wedi eu hatal rhag cyhoeddi’r “datganiad heliwr”. Os ydych chi’n amau y gallai clefyd hysbysadwy fod wedi effeithio ar anifail, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gan ddefnyddio’r ddolen hon.
- Os nad oes person hyfforddedig ar gael i gynnal yr archwiliad uchod, rhaid i’r pen (nid yr ysgithrau na’r cyrn) a’r holl organau perfeddol heblaw am y stumog a’r coluddion fynd gyda’r corff i’r AGHE.
- Os yw’r pen, yr organau perfeddol a rhannau eraill o’r corff yn mynd gyda’r anifeiliaid hela gwyllt i AGHE, mae angen cynnal cydberthynas (correlation) ddigonol.
- Rhaid dechrau oeri o fewn cyfnod rhesymol ar ôl lladd a chael tymheredd trwy’r cig o ddim mwy na 7°C. Fodd bynnag, ni ddylid rhewi’r carcas. Lle bo amodau hinsoddol yn caniatáu, nid oes angen oeri gweithredol. Dylai’r ffactorau hyn gael eu hymgorffori yng ngofynion rheoli diogelwch bwyd y sefydliad derbyn.
- Yna, dylid cludo’r carcas i AGHE cyn gynted â phosib ar ôl yr archwiliad. Wrth gludo i’r AGHE, rhaid osgoi pentyrru (gosod carcasau ar ben ei gilydd) er mwyn helpu’r broses oeri. Ar ôl cyrraedd AGHE, bydd yr anifeiliaid hela gwyllt mawr yn cael eu harchwilio’n ffurfiol gan y Milfeddyg Swyddogol neu’r Arolygydd Hylendid Cig (MHI) cyn gosod marc iechyd ar y carcas.
4.2 Trin Anifeiliaid Hela Gwyllt Bach i’w Cyflenwi i AGHEs
Nodir y gofynion penodol ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt bach i’w rhoi ar y farchnad trwy AGHEs mewn deddfwriaeth.
Mae’r camau y dylid eu dilyn wrth hela anifeiliaid hela gwyllt bach i’w cyflenwi i AGHE wedi’u nodi isod:
- Rhaid i’r person hyfforddedig gynnal archwiliad i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd. Rhaid i’r archwiliad gael ei gynnal cyn gynted â phosib ar ôl lladd.
- Os canfyddir nodweddion annormal yn ystod yr archwiliad, ymddygiad annormal cyn lladd, neu os amheuir bod yna halogiad amgylcheddol, rhaid i’r person hyfforddedig roi gwybod i’r awdurdod cymwys.
- Gellir rhoi cig o anifeiliaid hela gwyllt bach ar y farchnad ar yr amod bod y corff yn cael ei archwilio gan berson hyfforddedig a’i gludo i AGHE cyn gynted â phosib ar ôl yr archwiliad. Fe’ch anogir i gyflwyno datganiad heliwr ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt bach. Fodd bynnag, nid yw’n ofyniad cyfreithiol. Gweler Atodiad A am ddatganiad ‘person hyfforddedig’ awgrymedig.
- Rhaid dechrau oeri o fewn cyfnod rhesymol ar ôl lladd a sicrhau tymheredd trwy’r cig o ddim mwy na 4°C. Lle bo amodau hinsoddol yn caniatáu, nid oes angen oeri gweithredol.
- Rhaid cynnal neu gwblhau’r broses ddiberfeddu heb oedi gormodol ar ôl cyrraedd yr AGHE, oni bai bod yr awdurdod cymwys (yr ASB) yn caniatáu fel arall.
Rhaid i anifeiliaid hela gwyllt bach a gludir i AGHE gael eu cyflwyno i’w harchwilio gan yr ASB (Awdurdod Cymwys).
Arferion gorau
Ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt bach, yr arfer orau yw y byddai datganiad ‘person hyfforddedig’ yn cyd-fynd â’r helgig a gyflenwir i AGHE. Ar gyfer helwyr sy’n cyflenwi i fanwerthwr neu ddefnyddiwr terfynol, ystyrir mai’r arfer orau yw bod y person hyfforddedig yn cwblhau ac yn atodi datganiad i garcasau anifeiliaid hela mawr.
4.3 Trin Offal i’w Fwyta gan Bobl
Diffinnir offal fel cig ffres heblaw cig y carcas, gan gynnwys organau perfeddol a gwaed.
Rhaid i anifeiliaid hela gwyllt mawr gael eu cyflwyno gyda datganiad heliwr, ac nid oes angen i’r offal fynd gyda’r carcas yn absenoldeb annormaleddau a ddatgenir gan yr heliwr. Pan fydd datganiad heliwr yn nodi bod annormaleddau wedi’u canfod mewn anifeiliaid hela mawr, rhaid i’r offal cydberthynol fynd gyda’r carcas. Os na fydd datganiad yr heliwr yn mynd gydag anifeiliaid hela gwyllt mawr, rhaid i weithredwr y busnes bwyd gyflwyno’r offal i’w arolygu gan y Milfeddyg Swyddogol/MHI. Mae’n rhaid i anifeiliaid hela gwyllt mawr a’r offal sy’n cyd-fynd â nhw gael eu nodi’n glir i ddangos eu bod yn cydberthyn; gwneir hyn fel arfer trwy dagio neu labelu er mwyn eu cysylltu â’i gilydd. Os nad oes cydberthynas glir rhwng yr offal a’r corff, ni ellir eu cyflenwi i’w bwyta gan bobl.
Pan fwriedir i’r offal o anifeiliaid hela gwyllt mawr gael ei fwyta gan bobl, rhaid i gyflenwr yr AGHE allu dangos, mewn ffordd sy’n bodloni’r sefydliad sy’n derbyn, ei fod wedi cael ei drin yn hylan ac y gellir profi cydberthynas lawn rhwng rhannau’r corff ac anifeiliaid hela gwyllt mawr a’u holrhain. Y sefydliad derbyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnyrch y mae’n ei dderbyn yn bodloni’r gofynion a nodir yn ei gynllun HACCP ei hun. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod gan y cyflenwr y seilwaith angenrheidiol i sicrhau bod y gadwyn oer yn cael ei chynnal yn ôl yr angen, a bod modd atal croeshalogi.
5. Gofynion Hyfforddiant mewn Iechyd a Hylendid
Pan gaiff anifeiliaid hela gwyllt eu hela gyda’r bwriad o’u rhoi ar y farchnad, rhaid i o leiaf un aelod gweithredol o’r tîm hela fodloni’r gofynion hyfforddi – a nodir yn Atodiad III, Pennod I, Adran IV gan y rheolau hylendid penodol ar gyfer busnesau – sef bod yn ‘berson hyfforddedig’ â digon o wybodaeth i gynnal archwiliad cychwynnol o anifeiliaid hela gwyllt.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu i foddhad yr awdurdod cymwys (yr ASB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a bydd yn cwmpasu’r meysydd canlynol o leiaf:
- anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad arferol anifeiliaid hela gwyllt
- ymddygiad annormal a newidiadau patholegol mewn anifeiliaid hela gwyllt oherwydd afiechydon, halogiad amgylcheddol neu ffactorau eraill a allai effeithio ar iechyd pobl ar ôl bwyta’r cig
- rheolau hylendid a thechnegau cywir ar gyfer trin, cludo a diberfeddu anifeiliaid hela gwyllt ar ôl eu lladd
- deddfwriaeth a darpariaethau gweinyddol ar yr amodau o ran hylendid ac iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid sy’n llywodraethu rhoi anifeiliaid hela gwyllt ar y farchnad
Mae clefydau hysbysadwy yn glefydau anifeiliaid y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi roi gwybod amdanynt i APHA, hyd yn oed os ydych ond yn amau bod clefyd ar anifail. Os ydych yn amau bod clefyd hysbysadwy ar anifail hela gwyllt, rhaid i chi gysylltu ag APHA. Gellir dod o hyd i wybodaeth am glefydau hysbysadwy a manylion cyswllt ar wefan GOV.UK.
Mae yna sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth ar sut i ddod yn ‘berson hyfforddedig’. Rydym yn argymell y dylai unigolion sy’n dymuno dod yn ‘berson hyfforddedig’ wneud gwaith ymchwil wrth ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant addas.
Mae’n ofynnol i chi ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant sy’n trafod y meysydd a nodwyd uchod (fel yr amlinellir yn Atodiad III, Pennod I, Adran IV yn y rheolau hylendid penodol i fusnesau) ac sy’n cynnig elfen ymarferol fel rhan o’i raglen hyfforddi.
6. Storio Anifeiliaid Hela Gwyllt
Nid yw’r term ‘bwtri hela’ (game larder) wedi’i ddiffinio mewn deddfwriaeth hylendid. Serch hynny, yn y DU caiff ei ystyried yn gyffredinol yn gyfleuster a ddefnyddir i storio anifeiliaid hela gwyllt ar ôl eu hela, fel gwaith cynhyrchu cynradd cysylltiedig. Mae’r gweithgareddau canlynol a wneir mewn bwtrïoedd helgig yn cael eu hystyried yn rhan o gynhyrchu cynradd:
- unrhyw weithgaredd paratoi carcas angenrheidiol sy’n rhan o arfer hela arferol (er enghraifft gwaedu, diberfeddu). Yn aml, mae’n well gwneud hyn yn y bwtri helgig yn hytrach nag yn y cae
- storio anifeiliaid hela gwyllt
I’r perwyl hwn, dylai bwtrïoedd helgig:
- fod â chapasiti digonol i drin yr anifeiliaid hela gwyllt sy’n mynd drwy’r bwtri helgig mewn modd hylan, yn ogystal â’r gallu i storio, trin a chael gwared ar wastraff a sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ôl yr angen
- bod wedi’u hawyru’n ddigonol neu wedi’u hoeri gan gadw cofnod o’r tymheredd
- bod wedi’u diogelu rhag halogiad gan gynnwys rhag anifeiliaid a phlâu
- cynnwys cyfleusterau ac offer sy’n cael eu cadw’n lân a, lle bo angen ar ôl eu glanhau, sy’n cael eu diheintio mewn modd priodol
- defnyddio dŵr yfed i atal halogiad
- atal cyflwyno a lledaenu clefydau heintus y gellir eu trosglwyddo i bobl trwy fwyd a rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys am amheuaeth o glefydau o’r fath
- sicrhau bod pawb sy’n trin anifeiliaid hela gwyllt a helgig yn iach ac wedi cael hyfforddiant ar risgiau diogelwch bwyd
- storio a thrin gwastraff a sylweddau peryglus er mwyn atal halogiad
Mae enghreifftiau o arferion gorau ac arferion nad ystyrir eu bod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer bwtri helgig a mannau storio i’w gweld ar ein gwefan.
6.1 Newidiadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) o ran Canolfannau Casglu sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon
O dan drefniadau Fframwaith Windsor ar gyfer Gogledd Iwerddon, mae diwygiadau i ddeddfwriaeth berthnasol yr UE yn uniongyrchol gymwys ar gyfer nwyddau a gynhyrchir neu a roddir ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd Cyfraith yr UE ei diwygio yn 2021 i gyflwyno canolfannau casglu ar gyfer helgig gwyllt. Mae newidiadau’r UE yn Adran IV yn darparu cysyniad cyfreithiol newydd o ‘ganolfannau casglu’.
Mae diwygiad yr UE yn diffinio canolfannau casglu anifeiliaid hela gwyllt fel sefydliad a ddefnyddir i storio cyrff ac organau perfeddol (viscera) anifeiliaid hela gwyllt cyn eu cludo i sefydliad trin helgig.
Gall y ganolfan casglu anifeiliaid hela gwyllt fod naill ai:
- wedi’i chofrestru gyda’r awdurdod cymwys fel busnes bwyd sy’n ymgymryd â chynhyrchu cynradd fel y cyfeirir ato yn Erthygl 4(2)(a) pan fydd ond yn derbyn cyrff fel canolfan gasglu gyntaf, neu
- wedi’i chymeradwyo gan yr awdurdod cymwys fel busnes bwyd yn unol ag Erthygl 4(2) wrth dderbyn cyrff o ganolfannau casglu eraill
Boed wedi’i chofrestru neu wedi’i chymeradwyo, mae rheolau hylendid perthnasol yn gymwys.
7. Cludo Anifeiliaid Hela Gwyllt a Helgig Gwyllt
Dylid cynnal safonau hylendid bwyd ar bob cam o gynhyrchu a chludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt er mwyn rhoi hyder o ran diogelwch bwyd. Mae rheoli risgiau diogelwch bwyd yn dechrau ar y cam cynhyrchu cynradd (hynny yw, hela) a rhaid cynnal arferion hylendid da wrth gludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt ar hyd y gadwyn cyflenwi bwyd.
Nodir y gofynion hylendid sy’n gymwys i gludo anifeiliaid hela gwyllt o’r man cynhyrchu (hynny yw, y safle lladd) i sefydliad yn Atodiad I o dan y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd. Oni bai eich bod wedi’ch eithrio o’r gofynion cyffredinol hyn (hynny yw, o dan yr eithriadau a nodir yn Adran 2.1 ac Adran 2.2) rhaid i chi gadw at y gofynion hylendid sylfaenol yn Atodiad I. Rhaid i’r rheiny sy’n cludo anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt gadw at yr egwyddorion a’r gofynion o ran olrheiniadwyedd.
Os ydych yn cludo anifeiliaid hela gwyllt i AGHE, bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol a chydymffurfio hefyd â’r gofynion cysylltiedig a nodir yn Adran IV o Atodiad III yn y rheolau hylendid penodol sy’n berthnasol i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt. Mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid hela gwyllt gael eu cludo i’r AGHE cyn gynted â phosib ar ôl i’r person hyfforddedig gynnal yr archwiliad.
Yn ystod y broses o gynhyrchu a chludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, ni ddylid ymyrryd â’r gadwyn oer er mwyn atal twf bacteria pathogenig. Dyma’r tymheredd y mae’n rhaid ei gynnal wrth gludo:
- 7°C ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt mawr a helgig gwyllt mawr (ac eithrio offal)
- 4°C ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt bach a helgig gwyllt bach
- 3°C ar gyfer offal
Wrth gludo, peidiwch â phentyrru, stacio na gwneud tomen o anifeiliaid hela gwyllt ar unrhyw gam gan y bydd hyn yn hwyluso croeshalogi ac yn ei gwneud hi’n anodd oeri’r anifeiliaid hela gwyllt.
Gallwch chi weld enghreifftiau da a gwael o gludo a storio yn y lluniau hyn.
8. Egwyddorion a Gofynion Olrheiniadwyedd
Olrheiniadwyedd yw’r gallu i olrhain a dilyn bwyd, bwyd anifeiliaid, anifail sy’n cynhyrchu bwyd neu sylwedd y bwriedir iddo, neu y disgwylir iddo gael ei ymgorffori mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid, a hynny ar bob cam o’r prosesau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu.
Mae rheolau olrheiniadwyedd yn helpu i gadw golwg ar fwyd yn y gadwyn gyflenwi. Maen nhw’n sicrhau bod unrhyw fwyd anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad neu’n cael ei alw’n ôl o’r farchnad yn effeithlon ac yn gywir os oes unrhyw broblemau diogelwch bwyd.
Mae’r egwyddorion a’r gofynion ar gyfer olrhain bwyd yn gymwys i bob cam o’r gadwyn cyflenwi bwyd ac maen nhw’n rhan o’r cyfrifoldeb cyfreithiol i reoli risgiau diogelwch bwyd. Mae’n ofynnol i gynhyrchwyr cynradd (gan gynnwys y rhai sy’n cludo neu’n storio anifeiliaid hela gwyllt), gweithredwyr busnesau bwyd a manwerthwyr fodloni’r rheolau olrheniadwyedd hyn.
Wrth i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt symud drwy’r gadwyn gyflenwi, yr egwyddor sylfaenol yw y dylai fod cofnod “un cam ymlaen, un cam yn ôl” ar bob cam (hynny yw, dylid nodi’r ffynhonnell a’r gyrchfan, a chadw cofnod o’r rhain).
Mae angen i gofnodion olrheiniadwyedd fod yn gyfredol a dylid eu cadw o leiaf hyd nes y gellir tybio’n rhesymol bod y bwyd wedi’i fwyta. Dylent fod ar gael i awdurdodau cymwys ar gais. Mae angen i’r cofnodion gynnwys:
- disgrifiad o’r bwyd
- cyfaint/maint
- enw a chyfeiriad y gweithredwr busnes bwyd sy’n dosbarthu’r bwyd
- enw a chyfeiriad y cludwr (consigner) (os yw’n wahanol)
- enw a chyfeiriad y gweithredwr busnes bwyd sy’n cael y bwyd
- enw a chyfeiriad y sawl sy’n derbyn (consignee) (os yw’n wahanol)
- rhif adnabod y lot, y swp neu’r llwyth
- dyddiad dosbarthu
Nid yw gofynion olrheiniadwyedd yn gymwys i’r rhai sy’n hela anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta’n breifat yn y cartref (gweler eithriadau). Fodd bynnag, mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynradd sy’n cyflenwi symiau bach o anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol gydymffurfio â’r egwyddorion a’r gofynion cyffredinol ar gyfer olrheiniadwyedd a nodir mewn cyfraith bwyd.
9. Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
Ystyr ‘sgil-gynhyrchion anifeiliaid’ (ABP) yw cyrff cyfan neu rannau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a geir o anifeiliaid, nad yw’n fwriad iddynt gael eu bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelloedd, embryonau a semen.
Gall ABPs fod yn un o dri chategori, yn seiliedig ar y risgiau y maent yn eu peri. Mae ABP Categori 1 ac ABP Categori 2 wedi’u dosbarthu’n risg uchel ac mae ABP Categori 3 wedi’u dosbarthu’n risg isel. Mae ABP Categori 1 a Chategori 2 yn cynnwys deunydd risg uchel a rhaid eu trin yn hynod ofalus. Dylech chi sicrhau felly fod gennych chi wybodaeth ddigonol i gategoreiddio, trin a chael gwared ar wahanol ABPs yn briodol.
I gael canllawiau pellach ar gategoreiddio, trin a gwaredu ABPs, dylech chi ymgynghori â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.
Mae ABPs a gynhyrchir o anifeiliaid hela gwyllt fel rhan o arferion hela arferol (er enghraifft, gwaed ac offal gwyrdd), ac nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl lladd, y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABP.
Mae angen i bob ABP a gynhyrchir, ac eithrio’r rhai sy’n rhan o arfer hela arferol ac nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl lladd, gael eu categoreiddio’n gywir, eu trin a’u gwaredu’n ddiogel (gan gynnwys cadw cofnodion at ddibenion olrheiniadwyedd) yn unol â chanllawiau uchod Llywodraeth y DU. Unwaith y caiff cynnyrch ei nodi’n ABP, rhaid ei storio ar wahân i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y bwriedir i bobl eu bwyta, ac ni ellir ei ddargyfeirio yn ôl i’r gadwyn cyflenwi bwyd.
Os ydych am ddefnyddio ABPs, rhaid i chi geisio cymeradwyaeth neu gofrestriad gan APHA. Bydd natur eich busnes a’r ABPs rydych yn eu trin yn pennu a oes angen i chi gael eich cymeradwyo neu’ch cofrestru. I gael canllawiau pellach, gweler yr adran berthnasol yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.
Os ydych yn dymuno gweithgynhyrchu a chyflenwi bwyd anifeiliaid anwes o sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo gan yr ASB, darllenwch ganllawiau’r ASB, Cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid anwes yn yr un lle.
Arferion gorau
Er nad yw’n orfodol, yr arfer orau yw y dylai ABPs a gynhyrchir, ac sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABP (er enghraifft perfedd), naill ai gael eu:
- llosgi neu eu rendro mewn ffatri gymeradwy
- claddu ar ddaliad lle cafodd yr anifail hela gwyllt ei saethu neu fel arall ei lladd
- rhoi mewn bagiau dwbl a’u gosod fel gwastraff mewn biniau tirlenwi i atal risgiau halogi amgylcheddol
10. Profi am Drichinella mewn Baeddod Gwyllt a Rhywogaethau eraill sy’n Dueddol o Gael Trichinosis
Parasit yw Trichinella sy’n gallu effeithio ar lawer o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys pobl, gan achosi clefyd a elwir yn ‘trichinosis’. Gall pobl gael eu heintio trwy fwyta cig amrwd, cig heb ei goginio’n iawn neu gig wedi’i brosesu o foch, baeddod gwyllt, ceffylau neu helgig sy’n cynnwys mwydod larfal microsgopig (a elwir yn ‘trichinae’) ym meinwe’r cyhyrau. Ymysg pobl, mae’r symptomau sy’n gysylltiedig â haint yn aml yn cynnwys dolur rhydd, crampiau yn yr abdomen ac anhwylder. Wrth i’r clefyd ddatblygu, gall y symptomau gynnwys twymyn, poen yn y cyhyrau a chur pen. Mewn achosion difrifol, gellir effeithio ar organau hanfodol gan arwain at lid yr ymennydd, niwmonia neu hyd yn oed farwolaeth.
Mae’n bosib y gallai’r bwyd y mae baeddod gwyllt, neu anifeiliaid eraill gan gynnwys rhywogaethau moch gwyllt, yn chwilio amdano fod wedi’i heintio â Trichinela. Mae’n debygol y bydd anifeiliaid sy’n bwyta’r bwyd hwn yn cael eu heintio hefyd.
Mae baeddod gwyllt a dderbynnir mewn AGHEs yn destun prawf trichinella gorfodol fel arfer. Os bydd sampl yn profi’n bositif am Trichinella, bydd y labordy profi yn hysbysu’r ASB a’r heliwr. Yna, bydd y carcas yn cael ei olrhain a’i wrthod am ei fod yn anaddas i’w fwyta gan bobl.
Arferion gorau
Er nad yw’n orfodol, yr arfer orau yw profi baeddod gwyllt sydd i’w bwyta’n bersonol gennych chi eich hun neu sydd i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr neu fanwerthwyr lleol, a hynny er mwyn rhoi hyder mewn diogelwch bwyd. Dylai helwyr sy’n samplu baeddod gwyllt anfon y sampl i labordy priodol i’w brofi. Cyn hela, gellir archebu cynwysyddion ar gyfer storio a chludo samplau ynghyd ag amlenni rhadbost gyda’r cyfeiriad arnynt ar gyfer postio samplau am ddim gan APHA.
Mae APHA wedi datblygu canllawiau i helwyr ar brofi trichinella mewn baeddod gwyllt ar wefan APHA (PDF) sy’n esbonio sut y dylid cymryd samplau o faeddod gwyllt a manylion am sut i gael pecyn samplu/anfon cyn hela.
11. Anifeiliaid Hela wedi’u Saethu â Phlwm
Gallai anifeiliaid hela gwyllt gynnwys plwm am fod helwyr yn defnyddio pelenni neu fwledi plwm. Os yw anifeiliaid hela gwyllt yn cael eu prosesu mewn AGHE, bydd y plwm a rhannau o’r cig yr effeithir arnynt yn cael eu tynnu, er y gall symiau bach aros yn y cig.
Os ydych chi’n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta at eich defnydd domestig eich hun neu os ydych chi’n fanwerthwr sy’n cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt, dylech hefyd gael gwared ar gymaint â phosib o blwm a’r cig o’i amgylch.
Gall bwyta anifeiliaid hela sydd wedi’u saethu â phlwm yn rheolaidd beri i chi ddod i gysylltiad â lefelau o blwm a allai fod yn niweidiol. Dylai’r rhai sy’n bwyta anifeiliaid hela sydd wedi’u saethu â phlwm fod yn ymwybodol o’r effeithiau negyddol ar iechyd a cheisio lleihau cysylltiad â’r cynnyrch dan sylw.
Arferion gorau
Gall dod i gysylltiad â phlwm niweidio’r ymennydd a’r system nerfol. Mae lleihau faint o anifeiliaid hela wedi’u saethu â phlwm sy’n cael eu bwyta yn arbennig o bwysig i blant, menywod beichiog a menywod sy’n gobeithio beichiogi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ASB, Canllawiau ar anifeiliaid hela a gaiff eu saethu â phlwm.
12. Mewnforion ac Allforion
Ers 1 Ionawr 2021, mae rheolau a phrosesau newydd yn gywmwys i fasnachwyr (mewnforwyr ac allforwyr) ym Mhrydain Fawr.
Mewnforion
Allforion
Mae Canolfan Masnach Ryngwladol – Caerliwelydd (CITC) yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cyhoeddi Tystysgrifau Iechyd Allforio (EHC) ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n cael eu hallforio i bartneriaid masnachu.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaethau hyn drwy’r dolenni isod:
- Gwasanaeth Tystysgrifau Iechyd Allforio Ar-lein (EHC)
- Sylwch mai Defra sy’n berchen ar y canllawiau hyn ac efallai y bydd lleoliad y canllawiau’n newid. Mae masnachwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth ddiweddaraf.
13. Cysylltiadau, Cymeradwyaethau a Chofrestru
Cyffredinol
Os oes angen eglurhad pellach neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gofynion cyfreithiol ar hylendid bwyd sy’n gymwys i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, cysylltwch â thîm Polisi Hylendid Cig yr ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: wildgameguidance@food.gov.uk.
Cymeradwyaeth
I geisio cymeradwyaeth ar gyfer AGHE, cysylltwch â thîm cymeradwyo’r ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost canlynol:
- Cymru a Lloegr: approvals@food.gov.uk
- Gogledd Iwerddon: nioperationalpolicy@food.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo, darllenwch y dudalen ynghylch y broses gymeradwyo ar wefan yr ASB.
Cofrestru
Os ydych yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’r gadwyn fwyd ac nad ydych yn dod o dan yr eithriadau perthnasol, bydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. I ddarganfod a yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i chi ai peidio, ac i gofrestru fel busnes bwyd, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. I gael y manylion cyswllt perthnasol, ewch i’r dudalen cysylltu â ni ar ein gwefan.
Ffynonellau Gwybodaeth Ychwanegol am Anifeiliaid Hela Gwyllt
Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt, yn ogystal â sefydliadau sy’n gallu darparu cyngor ac arweiniad ar ystod o bynciau gan gynnwys ceirw, drylliau a rheoli plâu.
Mae Atodiad B yn cynnwys rhestr o ffynonellau defnyddiol, fodd bynnag, gan nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, rydym yn argymell y dylai unigolion sy’n ceisio cyngor o’r fath ymgymryd â’u hymchwil eu hunain.
14. Atodiadau
Pob atodiad ar gyfer y canllawiau ar anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys templedi, llyfryddiaeth, acronymau a geirfa.
Atodiad A – Gwybodaeth Datganiad Heliwr (Templedi Enghreifftiol)
Anifeiliaid Hela Gwyllt Mawr
Rhif Tag:
Dyddiad/Amser lladd:
Lleoliad/Ystâd:
Rhyw: G B
Rhywogaeth:
Arall:
Pwysau: (kg)
Rwy’n datgan yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004 (fel y’i diwygiwyd) na welwyd unrhyw ymddygiad annormal cyn lladd ac nad oes unrhyw arwydd o halogiad amgylcheddol. Rwyf wedi arolygu’r pen, y plu/ffwr a’r organau perfeddol, heb sylwi ar annormaleddau.
Nodiadau:
Rhif y Person Hyfforddedig:
Cymhwyster y Person Hyfforddedig:
Manylion Cyswllt:
Enw:
Llofnod:
Anifeiliaid Hela Gwyllt Bach
Dyddiad/Amser lladd:
Lleoliad/Ystâd:
Nifer yn y swp:
Rhywogaeth:
Sylwadau:
Cymhwyster y Person Hyfforddedig:
Rhif y Person Hyfforddedig:
Manylion Cyswllt:
Enw:
Llofnod:
Atodiad B – Llyfryddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch edrych ar y gwefannau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
-
[Anifeiliaid Hela Gwyllt Safonau Bwyd yr Alban](https://www.foodstandards.gov.scot/business-and-industry/safety-and-regulation/approval-of-meat-plants/meat-products) - Asiantaeth Natur yr Alban (Treftadaeth Genedlaethol yr Alban gynt)
- Y Cod Ymarfer Saethu
- Coleg Brenhinol Llawfeddygon Milfeddygol
- Cynghrair Cefn Gwlad
- Cynghrair Helgig Prydain
- Cymdeithas Ceirw Prydain
- Cymdeithas Genedlaethol Delwyr Helgig
- Cymdeithas Milfeddygon Ceirw Prydain
- Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC)
- Cymwysterau Rheoli Ceirw
- Y Fenter Ceirw
- Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon Gwlad yn Ewrop (FACE-UK)
- Helwriaeth Iwerddon
- Sefydliad Cenedlaethol Ciperiaid Anifeiliaid Hela
Atodiad C – Acronymau
| Talfyriad | Teitl/Enw Llawn |
|---|---|
| ABP | Sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
| AGHE | Sefydliadau trin helgig cymeradwy |
| ALl | Awdurdod lleol |
| APHA | Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion |
| ASB | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd |
| DAERA | Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig |
| DU | Y Deyrnas Unedig |
| FBO | Gweithredwr busnes bwyd |
| FSMS | System rheoli diogelwch bwyd |
| HACCP | Dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol |
| MHI | Arolygwr hylendid cig |
| ND | Clefyd hysbysadwy |
| OV | Milfeddyg swyddogol |
| REUL | Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Retained) |
Atodiad D – Rhestr Termau
- Anifeiliaid hela gwyllt: mae’r term hwn yn golygu adar gwyllt sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl yn ogystal â charnolion gwyllt, lagomorffiaid a mamaliaid tir eraill sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl. Mae’r rhain yn cynnwys mamaliaid sy’n byw yn rhydd mewn tiriogaeth gaeedig sy’n debyg i rai anifeiliaid hela gwyllt:
- Mae “anifeiliaid hela gwyllt bach” yn golygu adar hela gwyllt a lagomorffau sy’n byw yn rhydd yn y gwyllt;
-
Mae “anifeiliaid hela gwyllt mawr” yn golygu mamaliaid tir gwyllt sy’n byw yn rhydd yn y gwyllt nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o anifeiliaid hela gwyllt bach.
- Anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio: mae’r term hwn wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau hylendid bwyd fel ratidau sy’n cael eu ffermio a mamaliaid tir sy’n cael eu ffermio heblaw anifeiliaid buchol, moch, geifr a defaid ac anifeiliaid carngaled (solipeds) domestig. Mae anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio yn cynnwys ceirw a baeddod a gynhyrchir gan ffermio. Rhaid i’r holl gig o anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio a’u rhoi ar y farchnad gael eu cynhyrchu mewn lladd-dai cymeradwy.
- Arferion hela arferol: mae’r term hwn yn cynnwys gweithredoedd a gyflawnir yn rheolaidd wrth hela, gan gynnwys gwaedu a chael gwared ar berfedd.
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA): asiantaeth Llywodraeth y DU sy’n rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r ‘Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion’ ac mae’n gyfrifol am iechyd anifeiliaid a phlanhigion yn y DU. Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
- Awdurdod Cymwys: mae’r term hwn yn golygu’r awdurdod sy’n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau hylendid bwyd perthnasol ac y gweithredir rheolaethau swyddogol ar fwyd a gweithgareddau swyddogol eraill, yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2).
- Carcas: mae’r term hwn yn golygu corff anifail ar ôl ei ladd a’i drin (diberfeddu, blingo a/neu blycio).
- Clefydau hysbysadwy: ystyr y term hwn yw clefydau anifeiliaid y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi roi gwybod amdanynt i APHA, hyd yn oed os ydych ond yn amau bod clefyd ar anifail. Os ydych yn amau bod gan anifail hela gwyllt glefyd hysbysadwy, rhaid i chi gysylltu ag APHA. Darllenwch fwy o wybodaeth am glefydau hysbysadwy a dewch o hyd i’r manylion cyswllt angenrheidiol.
- Cofrestru: mae’r term hwn yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd – a nodir yn Erthygl 6 yn y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd – gofrestru safleoedd sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd gyda’r awdurdod cymwys perthnasol, sef eich awdurdod lleol.
- Croeshalogi: mae’r term hwn yn golygu’r weithred lle caiff bacteria neu ficro-organebau eraill eu trosglwyddo’n anfwriadol o un sylwedd neu wrthrych i’r llall, gydag effaith niweidiol.
- Cyflenwi cyfyngedig: mae’r term hwn yn golygu bod cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill wedi’i gyfyngu gan y gofynion i fod yn ymylol ac yn lleol.
- Cyflenwi lleol: ystyr y term hwn yw cyflenwi o fewn yr un awdurdod lleol, mewn awdurdodau lleol cyfagos (drws nesaf i’w gilydd) neu’r rheiny nad ydynt fwy na 30 milltir/50 cilomedr o ffin awdurdod lleol y cyflenwr, p’un bynnag sydd fwyaf – ond byth y tu hwnt i’r DU, ac eithrio cyflenwi o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon.
- Cymeradwyaeth: mae’r term hwn yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd – yn Erthygl 4 yn y rheolau hylendid penodol sy’n berthnasol i fusnesau – roi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ar y farchnad dim ond os ydynt wedi’u cynhyrchu mewn sefydliadau a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys.
- Cynhyrchion cynradd: mae’r term hwn yn golygu cynhyrchion cynhyrchu cynradd gan gynnwys cynhyrchion y pridd, ffermio stoc, hela a physgota.
- Cynhyrchu cynradd: mae’r term hwn yn golygu cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion cynradd, gan gynnwys cynaeafu, godro a chynhyrchu anifeiliaid sy’n cael eu ffermio cyn eu lladd. Mae cynhyrchu cynradd hefyd yn cynnwys hela a physgota a chynaeafu cynhyrchion gwyllt.
- Defnyddiwr terfynol: mae’r term hwn yn golygu defnyddiwr terfynol y bwyd, na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o unrhyw waith neu weithgaredd busnes bwyd.
- Diberfeddu: mae’r term hwn yn golygu’r broses o dynnu organau perfeddol o gyrff anifeiliaid hela gwyllt. Cyfeirir at hyn hefyd weithiau fel ‘gralloching’ yn Saesneg.
- Gweithredwr busnes bwyd: mae’r term hwn yn golygu’r personau naturiol neu gyfreithiol sy’n gyfrifol am sicrhau bod gofynion cyfraith bwyd yn cael eu bodloni y tu mewn i’r busnes bwyd o dan eu rheolaeth.
- HACCP: mae’r term hwn yn golygu Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol. Mae HACCP yn system sy’n eich helpu i adnabod peryglon bwyd posib a chyflwyno gweithdrefnau i sicrhau eich bod yn cael gwared ar y peryglon hynny, neu eu lleihau i lefel dderbyniol.
- Helgig gwyllt: y diffiniad ar gyfer y term hwn yw’r rhannau bwytadwy o anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys gwaed.
- Lagomorffiaid: mae’r term hwn yn cynnwys cwningod, ysgyfarnogod a chnofilod.
- Manwerthu: mae’r term hwn yn golygu ymdrin â a/neu brosesu bwyd a’i storio yn y man gwerthu neu gyflenwi i’r defnyddiwr terfynol, ac yn cynnwys mannau dosbarthu, safleoedd arlwyo, ffreuturau ffatrïoedd, arlwyo sefydliadol, bwytai a gweithrediadau gwasanaeth bwyd tebyg, siopau, canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd a safleoedd cyfanwerthu.
- Offal: mae’r term hwn yn golygu cig ffres heblaw cig y carcas, gan gynnwys organau perfeddol a gwaed:
- Mae “Offal Gwyrdd” yn golygu stumog, coluddion a meinweoedd cysylltiedig cyrff yr anifeiliaid hela gwyllt, sef cynnwys ceudod yr abdomen yng nghyrff yr anifeiliaid hela gwyllt.
- Mae “Offal Coch” yn golygu rhannau eraill o offal nad ydynt yn dod o dan diffiniad offal gwyrdd, gan gynnwys yr afu, y galon, yr ysgyfaint ac ati.
- Organau perfeddol: mae’r term hwn yn golygu organau’r ceudodau thorasig, abdomenol a phelfig, yn ogystal â’r tracea a’r oesoffagws, ac, mewn adar, y grombil.
- Person hyfforddedig: mae’r term hwn yn cyfeirio at berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol i allu cynnal archwiliad cychwynnol o’r anifeiliaid hela gwyllt yn y cae, i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd.
- Perygl: mae’r term hwn yn golygu sylwedd biolegol, cemegol neu ffisegol mewn bwyd, neu fwyd anifeiliaid, neu gyflwr mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, a allai achosi effaith andwyol ar iechyd.
- Prosesu: mae’r term hwn yn golygu unrhyw weithred sy’n newid y cynnyrch cychwynnol yn sylweddol, gan gynnwys gwresogi, trin â mwg, halltu, aeddfedu, sychu, marineiddio, echdynnu, allwthio neu gyfuniad o’r prosesau hynny.
- Pwyntiau Rheoli Critigol: mae’r term hwn yn golygu unrhyw gam mewn proses lle gellir atal, dileu neu leihau peryglon i lefelau derbyniol. Gall enghreifftiau o bwyntiau rheoli critigol gynnwys oeri, profi a choginio.
- Rhoi ar y farchnad: mae’r term hwn yn golygu cadw bwyd neu fwyd anifeiliaid i’w gwerthu, gan gynnwys cynnig eu gwerthu neu unrhyw fath arall o drosglwyddo, boed yn rhad ac am ddim ai peidio, a’r gwerthu, dosbarthu, a’r mathau eraill o drosglwyddo eu hunain.
- Sefydliad trin helgig cymeradwy (AGHE): mae’r term hwn yn golygu sefydliad cymeradwy lle mae anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt sy’n cyraedd ar ôl hela yn cael eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad. Mae gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ddiberfeddu, blingo a/neu blycio sy’n paratoi’r anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad.
- Sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP): mae’r term hwn yn golygu cyrff cyfan o anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid, nad ydynt i’w bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelleodd, embryonau a semen. Cyfeiriwch at Adran 9 am fwy o wybodaeth.
- Symiau bach: ystyrir bod ‘symiau bach’ yn hunan-ddiffiniedig oherwydd bod y galw am anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt gan ddefnyddwyr terfynol a manwerthwyr lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol yn gyfyngedig.
- System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS): mae’r term hwn yn golygu gweithdrefn barhaol a roddir ar waith gan weithredwr busnes bwyd, yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), ac a ddefnyddir fel adnodd i helpu gweithredwyr busnesau bwyd i gyrraedd safon uwch o ddiogelwch bwyd.
-
Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004 yn diffinio sefydliadau trin helgig fel unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a helgig a geir ar ôl hela eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad (mae hyn yn cyfeirio at sefydliadau cymeradwy a chofrestredig). Mae’r cyfeiriad at sefydliadau trin helgig ‘cymeradwy’ yn helpu i ddangos y gwahaniaeth yn y gweithgareddau y caiff sefydliad eu cynnal. ↩