Canllawiau

Canllawiau i ddefnyddwyr ar y coronafeirws (COVID-19) a bwyd

Diweddarwyd 25 April 2020

Beth sydd angen i chi ei wybod am y coronafeirws a bwyd

  • Mae’n annhebygol iawn y gallwch chi ddal coronafeirws (COVID-19) o fwyd.

  • Bydd coginio’n drylwyr yn lladd y feirws.

  • Mae COVID-19 yn salwch anadlol (respiratory). Nid yw’n hysbys ei fod yn cael ei drosglwyddo trwy ddod i gysylltiad â bwyd na deunydd pecynnu bwyd.

  • Dylai pawb olchi eu dwylo yn rheolaidd gyda sebon a dŵr, am o leiaf 20 eiliad, er mwyn lleihau’r risg o salwch.

  • Mae’n arbennig o bwysig golchi dwylo cyn trin bwyd neu fwyta.

Hylendid bwyd wrth siopa

Mae’r risg o groeshalogi’r coronafeirws (COVID-19) i ddeunydd pecynnu bwyd a bwyd yn isel iawn. Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau bod ganddynt y prosesau hylendid bwyd a diogelwch bwyd cywir ar waith a bod y rhain yn cael eu dilyn i ddiogelu eu cwsmeriaid.

Mae’n ofynnol i staff sy’n trin bwyd mewn siopau gynnal lefel uchel o lendid personol a gwisgo dillad glân addas. Mae hyn yn cynnwys golchi dwylo’n rheolaidd i gynnal hylendid da.

Mae’n ofynnol bod gan fusnesau bwyd system ar gyfer rheoli diogelwch bwyd, ond nid yw hyn o reidrwydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff wisgo menig wrth weini neu drin bwyd.

Pan fyddwch chi’n prynu bwydydd rhydd fel ffrwythau, llysiau, neu fara mewn becws, ceisiwch gyffwrdd â’r hyn rydych chi’n mynd i’w brynu yn unig.

Cynhyrchion bwyd wedi’u mewnforio

Mae’r risg y bydd bwyd a deunydd pecynnu a fewnforir o wledydd y mae’r coronafeirws yn effeithio arnynt yn cael eu halogi â’r coronafeirws yn annhebygol iawn. Mae hyn gan fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i’r allforiwr ddilyn y rheolaethau cywir yn ystod y broses becynnu a chludo er mwyn sicrhau bod hylendid da yn cael ei gynnal.

Cwpanau y gellir eu hailddefnyddio

Yn flaenorol, roedd cwsmeriaid yn gallu defnyddio cwpanau neu gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio wrth siopa neu brynu diodydd mewn caffis a manwerthwyr eraill. Y busnes unigol sydd i benderfynu a ydynt yn caniatáu defnyddio cwpanau neu gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

Os defnyddir cwpanau neu gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, dylid eu golchi’n drylwyr mewn dŵr poeth â sebon, neu mewn peiriant golchi llestri, os yw’n addas.

Pellter cymdeithasol wrth siopa

Dylech gynnal pellter o 2 fetr rhyngoch chi ac eraill, a phrynu’r hyn sydd ei angen arnoch chi yn unig. Mae hyn er mwyn osgoi cael gormod o bobl mewn un lle ac i greu bylchau digonol rhwng siopwyr eraill a staff.

Gall siopau ac archfarchnadoedd gymryd eu camau eu hunain i sicrhau nad oes gormod o bobl mewn un lle. Gall hyn gynnwys monitro nifer y cwsmeriaid yn y siop a chyfyngu mynediad i osgoi gormod o brysurdeb. Gallant hefyd weithredu systemau rheoli ciw i gyfyngu ar dyrfaoedd yn ymgasglu wrth fynedfeydd ac i gynnal y pellter o 2 fetr.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bellter cymdeithasol ar GOV.UK.

Hylendid bwyd yn y cartref

Er ei bod yn annhebygol iawn bod y coronafeirws yn cael ei drosglwyddo trwy fwyd, bydd coginio’n drylwyr yn lladd y feirws.

Os oes gennych chi symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, neu os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19, gallwch gyfyngu ar ddod i gysylltiad uniongyrchol â bwyd trwy ddefnyddio gefel (tongs) a chyfarpar tebyg.

Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n trin ac yn paratoi bwyd i eraill yn dilyn canllawiau’r Asiantaeth Safon Bwyd ar ddiogelwch a hylendid bwyd.

Dylech bob amser ddefnyddio diheintydd sydd yn ddiogel i’w ddefnyddio gyda bwyd wrth lanhau arwynebau, a dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Os oes prinder cynhyrchion glanhau addas, gallwch ddefnyddio dŵr poeth â sebon i lanhau’r arwynebau hyn.

Deunydd pecynnu bwyd

Os ydych wedi bod yn siopa, ni ddylai fod angen glanweithio deunydd pecynnu allanol bwyd. Mae hyn gan ei bod yn ofynnol i fusnesau bwyd fod â system ar gyfer rheoli diogelwch bwyd, a ddylai gynnwys cadw deunydd pecynnu yn lân. Dylech barhau i ddilyn arfer hylendid da trwy olchi’ch dwylo ar ôl trin unrhyw ddeunydd pecynnu allanol. Os oes gennych chi reswm i gredu bod y deunydd pecynnu wedi’i halogi, dylech ddilyn y canllawiau glanhau a argymhellir.

Bwydydd rhydd

Mae’n annhebygol iawn y gallwch chi ddal coronafeirws o fwyd. Dylech ddilyn arferion hylendid a pharatoi da wrth drin a bwyta ffrwythau amrwd, saladau deiliog a llysiau. Mae hyn yn cynnwys golchi cynnyrch ffres er mwyn helpu i gael gwared ar unrhyw halogiad ar yr arwyneb. Gall plicio haenau neu grwyn allanol rhai ffrwythau a llysiau hefyd helpu i gael gwared ar halogiad ar yr arwyneb. Hoffwn eich atgoffa i beidio â golchi cyw iâr amrwd na chig arall gan fod hyn yn gallu arwain at groeshalogi yn eich cegin.

Mae’n bwysig golchi’ch dwylo â sebon a dŵr, am o leiaf 20 eiliad cyn ac ar ôl i chi baratoi bwyd.

Storio ac ailddefnyddio bwyd gartref

Dylid defnyddio dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’ i sicrhau bod eich bwyd yn ddiogel a’ch bod yn osgoi gwastraff bwyd trwy beidio â thaflu bwyd sy’n iawn i’w fwyta yn ddiangen. Dylech bob amser ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar y deunydd pecynnu.

  • Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd: bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau.

  • Mae’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch: ni ddylid bwyta, coginio na rhewi bwyd ar ôl y dyddiad hwn, oherwydd gallai fod yn anniogel – hyd yn oed os yw wedi’i storio’n gywir a’i fod yn edrych ac yn arogli’n iawn.

Os yw eich bwyd yn ddiogel i’w rewi, gellir ei rewi hyd at ddiwedd y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Mae rhewi yn gweithredu fel ‘botwm saib’ ac yn atal twf bacteriol. Gallwch rewi’r mwyafrif o eitemau bwyd, gan gynnwys cig amrwd a chig wedi’i goginio, ffrwythau ac wyau.

Pan fydd bwyd yn dadmer, mae ei dymheredd craidd yn codi. Mae hyn yn rhoi’r amodau delfrydol i facteria dyfu os cânt eu gadael ar dymheredd yr ystafell. Y peth gorau yw dadmer bwyd yn araf ac yn ddiogel yn yr oergell. Dylid bwyta bwyd o fewn 24 awr ar ôl ei ddadmer.

Bwyd tecawê

Lle bo’n bosibl, dylech chi archebu dros y ffôn, trwy ap neu ar-lein, a chael amser penodol i gasglu’r bwyd.

Os ydych chi’n casglu’ch bwyd yn bersonol o siop tecawê neu fwyty sy’n cynnig gwasanaeth cludo, dylech gadw at y rheolau pellhau cymdeithasol a nodwyd gan y busnes bwyd. Gall hyn gynnwys cael amseroedd casglu gwahanol a defnyddio system rheoli ciw i gynnal y pellter o 2 fetr.

Mae’n ddiogel cael bwyd tecawê wedi’i ddanfon os yw’r busnes rydych chi’n archebu oddi wrtho yn dilyn canllawiau diogelwch y Llywodraeth.

Dylai staff sy’n paratoi eich bwyd olchi eu dwylo yn rheolaidd a chynnal arferion hylendid da mewn meysydd paratoi a thrin bwyd.

Mae cyngor y llywodraeth ar bellhau cymdeithasol yn berthnasol i’r rhai sy’n dosbarthu bwyd hefyd. Dylech leihau’r perygl y bydd y coronafeirws yn lledaenu trwy gynnal pellter o 2 fetr pan fydd y bwyd yn cael ei ddosbarthu.