Canllawiau

Cael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Diweddarwyd 1 September 2020

This canllawiau was withdrawn on

The Eat Out to Help Out Scheme closed on 31 August 2020.

Cofrestru

Pam y dylech ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Bydd yn annog cwsmeriaid i fwyta yn eich bwyty neu sefydliad bwyta arall drwy roi gostyngiad iddynt y gallwch wedyn ei hawlio’n ôl gan y llywodraeth. Mae’r cynllun ar gael ledled y DU a bydd cwsmeriaid yn gallu gweld pwy sy’n cymryd rhan ar GOV.UK. Bydd y cynllun yn denu cwsmeriaid ar ddiwrnodau tawelach yr wythnos ac yn golygu y gallwch adeiladu’ch busnes eto.

Sut mae CThEM yn gwirio’ch cofrestriad

Bydd gwiriadau twyll a chydymffurfio yn cael eu cynnal pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun ac yn gwneud hawliad.

Os ydych yn defnyddio asiant

Ni all asiant wneud cais ar eich rhan.

Byddai creu cynllun sy’n caniatáu i asiantau treth wneud cais ar eich rhan wedi cymryd llawer mwy o amser i’w gyflwyno, ar adeg pan fo angen gweithredu ar frys. Rydym wedi gweithio’n galed i wneud y broses gofrestru a hawlio mor hawdd â phosibl.

Busnesau sy’n gymwys

Sefydliadau sy’n gymwys ar gyfer y cynllun

Y sefydliadau cymwys yw’r rhai lle y caiff bwyd ei werthu i’w fwyta ar unwaith ar y safle. Gallai hyn gynnwys:

  • bwytai

  • caffis

  • tafarndai sy’n gwasanaethu bwyd

  • bwytai mewn gwestai

  • bwytai a chaffis mewn atyniadau twristaidd, safleoedd gwyliau a chyfleusterau hamdden

  • ystafelloedd bwyta o fewn clybiau aelodau

  • ffreuturau yn y gweithle a’r ysgol

Os ydych wedi defnyddio cynlluniau eraill fel Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a Chynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Mae’n dal yn bosibl i chi gofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan os ydych wedi defnyddio cynlluniau eraill.

Os ydych wedi cyflwyno cais i’r Awdurdod Lleol yn ddiweddar i weithredu fel busnes bwyd

Cyn belled â’ch bod wedi cyflwyno’ch cais i’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf 2020, byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Gwerthiannau sy’n gymwys

Gwariant sy’n gymwys ar gyfer y gostyngiad

Gellir defnyddio’r gostyngiad ar fwyd a/neu ddiodydd di-alcohol a brynir i’w fwyta a/neu yfed ar unwaith ar y safle, hyd at uchafswm gostyngiad o £10 fesul person sy’n bwyta (gan gynnwys TAW). Nid oes rhaid gwario swm penodol.

Gwariant sy’n anghymwys am y gostyngiad

Nid yw’r gostyngiad ar gael ar yr eitemau canlynol:

  • diodydd alcohol

  • cynhyrchion tybaco

  • bwyd neu ddiodydd sydd i’w fwyta neu yfed oddi ar y safle

  • bwyd neu ddiodydd sy’n cael eu gwerthu fel rhan o barti preifat, digwyddiad neu dderbyniad sy’n digwydd o fewn sefydliad cymwys

Pryd y dylech gynnig y gostyngiad

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun, disgwylir y byddwch yn ei gynnig yn ystod eich holl oriau agor ar yr holl ddiwrnodau cymwys yr ydych ar agor ac ar bob gwerthiant o fwyd neu ddiod sy’n cymwys.

Os ydych fel arfer ar gau ar ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Mercher

Gallwch ond cynnig y gostyngiad ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher pan fydd eich busnes ar agor.

Os yw cwsmer yn gadael y safle ar ôl archebu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu yfed y tu mewn

Os yw cwsmer yn bwyta y tu mewn ac yna’n mynd â gweddill ei bryd o fwyd i ffwrdd ag ef, bydd y gostyngiad ar gael o hyd.

Os yw cwsmer yn archebu diod di-alcohol yn unig

Mae gostyngiad y cynllun yn berthnasol i fwyd neu ddiodydd di-alcohol i’w fwyta neu yfed y tu mewn.

Cymhwystra ar gyfer bwyta ac yfed ‘ar y safle’

Beth sy’n cyfrif fel ‘ar y safle’

At ddibenion y cynllun hwn, ystyr y term ‘ar y safle’ yw unrhyw ardal sydd wedi’i neilltuo ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diodydd di-alcohol gan gwsmeriaid y sefydliad hwnnw, p’un a allai’r ardal honno gael ei defnyddio gan gwsmeriaid sefydliadau eraill hefyd ai peidio.

Os ydych yn rhedeg gwesty gyda bwyty

Gallwch ddefnyddio’r cynllun ar gyfer bwyd a diodydd a werthir i’w fwyta ac yfed ar unwaith ar safle’r bwyty. Nid yw hyn yn cynnwys bwyd a diodydd a brynir fel rhan o wasanaeth ehangach.

Os ydych yn rhedeg caffi sydd ag ardal seddi yn yr awyr agored

Gallwch ddefnyddio’r cynllun a rhoi’r gostyngiad ar fwyd neu ddiodydd a werthir i’w fwyta neu yfed ar unwaith ar safle’r caffi.

Os ydych yn rhoi bwrdd a chadeiriau ar y palmant y tu allan i’ch tecawê neu fan symudol

Ni allwch ddefnyddio’r cynllun. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch busnes allu cynnig yr opsiwn i fwyta ar y safle. Ni fydd sefydliadau sydd ond â seddi anffurfiol y tu allan mewn ardal nad yw’n perthyn i’r sefydliad a/neu nad yw’n cael ei rhannu â sefydliadau eraill, yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun.

Os ydych yn rhedeg siop mewn canolfan siopa ac yn rhannu ardal fwyta ddynodedig gyda siopau eraill

Gallwch ddefnyddio’r cynllun a rhoi’r gostyngiad ar fwyd neu ddiodydd a werthir i’w fwyta neu yfed ar unwaith yn yr ardal ddynodedig honno.

Os ydych yn rhedeg stondin mewn stadiwm neu atyniad

Gallwch ddefnyddio’r cynllun, cyn belled â bod ardal ddynodedig yn perthyn i chi i’w defnyddio gan eich cwsmeriaid.

Os ydych yn rhedeg gwasanaeth arlwyo ar drenau neu awyrennau

Gallwch ddefnyddio’r cynllun os oes gan y trên ardal neu gerbyd bwyta penodol ar gyfer bwyta. Mae pob math arall o fwyd a diod yn cael ei eithrio.

Ni allwch ddefnyddio’r cynllun ar awyrennau gan nad oes ganddynt ardaloedd bwytai lle y caiff bwyd ei brynu a’i fwyta.

Enghreifftiau penodol

Os ydych yn rhedeg gwesty ac yn darparu gwasanaeth gwely a brecwast

Mae gostyngiad y cynllun ond ar gael i fwyd a diod a werthir i’w fwyta ac yfed ar unwaith ar y safle. Nid yw hyn yn cynnwys bwyd a diod sy’n cael eu gwerthu fel rhan o wasanaeth llety ehangach.

Os ydych yn darparu gwasanaethau arlwyo ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill

Ni allwch ddefnyddio’r cynllun. Mae gostyngiad y cynllun ond ar gael i fwyd a diod a werthir i’w fwyta ac yfed ar unwaith ar y safle. Nid yw hyn yn cynnwys bwyd a diod a werthir fel rhan o wasanaeth arlwyo ehangach.

Os ydych yn fwyty ac yn gwerthu bwyd a diod fel rhan o ddigwyddiadau, derbyniadau a phartïon preifat

Ni allwch rhoi gostyngiad y cynllun ar fwyd a diod sy’n cael eu gwerthu fel rhan o barti preifat, digwyddiad neu dderbyniad. Fodd bynnag, gallwch roi’r gostyngiad ar fwyd a diod a werthir yng nghwrs arferol busnes y bwyty.

Os ydych yn weithredwr ffreutur

Mae’r diffiniad o sefydliad cymwys yn cynnwys ffreuturau yn y gweithle a’r ysgol.

Gellir rhoi gostyngiad y cynllun wedyn ar fwyd a diod a werthir i gyflogeion neu fyfyrwyr i’w fwyta ac yfed ar unwaith ar y safle. Nid yw’r cynllun yn cynnwys bwyd a diod y mae perchennog y safle yn talu amdanynt ac yn eu cyflenwi i gyflogeion neu fyfyrwyr am ddim.

Cynnig y gostyngiad

Os ydych yn cynnwys tâl gwasanaeth ar eich bil

Nid yw’r tâl gwasanaeth yn rhan o ostyngiad y cynllun – dim ond ar gyfer gwariant ar fwyd a diodydd di-alcohol y mae’r gostyngiad ar gael.

Os ydych yn cynnig gostyngiadau eraill i bobl sy’n bwyta

Gallwch ddefnyddio’r cynllun ar y cyd â chynigion a gostyngiadau eraill yr ydych yn eu cynnig. I gyfrifo gwerth y trafodyn a chyflwyno hawliad i CThEM, yn gyntaf mae’n rhaid i chi roi ar waith unrhyw gynigion arbennig, talebau neu gynlluniau gostyngiad y byddwch yn eu hyrwyddo neu eu derbyn ac yna ddidynnu unrhyw dâl gwasanaeth.

Dim ond am y gostyngiadau cymwys a rowch fel rhan o’r cynllun y cewch ad-daliad.

Os nad ydych am gynnig gostyngiad o 50%

Ni allwch newid telerau’r cynllun, mae’n rhaid i chi gynnig gostyngiad o 50%.

Yr hyn sy’n cyfrif fel ‘person sy’n bwyta’

Mae person sy’n bwyta (‘diner’ yn Saesneg) yn berson, oedolyn neu blentyn y prynir bwyd neu ddiod ar ei gyfer i’w fwyta neu yfed ar y safle. Nid oes angen i berson sy’n bwyta fod yn gwsmer sy’n talu.

Rhoi’r cap o £10 yr un ar un bil

Os oes archebion mwy nag un person sy’n bwyta wedi’u nodi ar un bil, nid oes angen cyfrifo’r cap ar gyfer pob person unigol yn seiliedig ar ei archebion penodol. Yn hytrach, dylai’r gostyngiad ar y bil cyfan gael ei gapio ar sail nifer y bobl sy’n bwyta wedi’u lluosi â £10.

Enghraifft o roi’r cap ar fil £60

Mae grŵp o bedwar o bobl sy’n bwyta (2 oedolyn a 2 blentyn) yn gwario £60, gan gynnwys £10 ar ddiodydd alcohol. Mae tâl gwasanaeth o 10% yn dod â’r bil cyn y gostyngiad i £66.

Disgrifiad Pris
Bil cyn tâl gwasanaeth a gostyngiad £60.00
Tâl gwasanaeth £6.00
Cyfanswm y bil £66.00
Swm a wariwyd ar alcohol £10.00
Swm sy’n gallu derbyn y gostyngiad £50.00
Gostyngiad i gwsmeriaid (50% o 50) £25.00
Bil ar ôl i’r gostyngiad gael ei roi £41.00

Cyfanswm y gostyngiad yw £25, sef £6.25 fesul person sy’n bwyta ac mae’n is na’r cap o £10 fesul person sy’n bwyta.

Enghraifft o roi’r cap ar fil £100

Mae grŵp o bedwar o bobl sy’n bwyta (2 oedolyn a 2 blentyn) yn gwario £100, gan gynnwys £10 ar ddiodydd alcohol. Mae tâl gwasanaeth o 10% yn dod â’r bil cyn y gostyngiad i £110.

Disgrifiad Pris
Bil cyn tâl gwasanaeth a gostyngiad £100.00
Tâl gwasanaeth £10.00
Cyfanswm y bil £110.00
Swm a wariwyd ar alcohol £10.00
Swm sy’n gallu derbyn y gostyngiad £90.00
Gostyngiad heb ei gapio i gwsmeriaid (50% o 90) £45.00
Gostyngiad wedi’i gapio (£10 fesul person sy’n bwyta) £40.00
Bil ar ôl i’r gostyngiad gael ei roi £70.00

Y gostyngiad heb ei gapio yw £45, sef £11.25 fesul person sy’n bwyta ac mae’n uwch na’r cap o £10 fesul person sy’n bwyta. Felly mae’r gostyngiad yn cael ei gapio i £40.

Enghraifft o roi’r gostyngiad heb y cap o £10  

Mae un person yn bwyta yn eich sefydliad, a chyfanswm y bil yw £4. Nid oes alcohol yn cael ei brynu.  

Disgrifiad Pris
Cyfanswm y bil £4
Gostyngiad heb ei gapio i gwsmeriaid (50% o 4) £2
Bil ar ôl rhoi’r gostyngiad £2

Y swm y gallwch ei hawlio yw £2.    

Nid yw’r cap o £10 yr un yn berthnasol i’r hawliad hwn.  

Enghraifft o roi’r gostyngiad ar gyfer bil am £50

Mae grŵp o 4 o bobl sy’n bwyta yn cael bil am £50, sy’n cynnwys £8 a wariwyd ar ddiodydd alcoholig, yn eich sefydliad. Ni chodir tâl gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod y cynllun yn berthnasol i £42 yn unig o gyfanswm y bil. 

Disgrifiad Pris
Bil cyn y gostyngiad £50
Swm a wariwyd ar alcohol £8
Swm sy’n gallu derbyn y gostyngiad £42
Gostyngiad heb ei gapio i gwsmeriaid (50% o 42) £21
Bil ar ôl rhoi’r gostyngiad £29

Y swm y gallwch ei hawlio yw £21.

Nid yw’r cap o £10 yr un yn berthnasol i’r hawliad hwn.

Cyswllt, help a chymorth pellach gan CThEM

Cael rhagor o wybodaeth am y cynllun

Rydym yn helpu bwytai drwy ddarparu:

  • arweiniad ar sut i gofrestru ar GOV.UK

  • gweminarau byw yn rhad ac am ddim sy’n esbonio sut mae’r cynllun yn gweithio, gan roi enghreifftiau a chyfle i chi ofyn cwestiynau

  • fideo YouTube sy’n egluro sut mae’r cynllun yn gweithio

  • gwasanaeth sgwrs dros y we - ar gael o 13 Gorffennaf 2020 ymlaen

  • llinell gymorth benodedig ar gyfer bwytai - ar gael o 13 Gorffennaf 2020 ymlaen

  • arweiniad ar sut i wneud hawliad ar gov.uk

Deunydd hyrwyddo i’w ddefnyddio yn eich sefydliad

Gallwch lawrlwytho asedauyn rhad ac am ddim i’ch helpu i hyrwyddo’r cynllun. Byddwn hefyd yn anfon sticer at fwytai sy’n cofrestru i’w arddangos fel y gall pobl weld eu bod yn cymryd rhan. Bydd y llywodraeth hefyd yn hyrwyddo’r cynllun gan ddefnyddio’r radio, y cyfryngau a hysbysebion. Bydd bwytai a sefydliadau sydd wedi cofrestru yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK fel y gall y cyhoedd weld pwy sy’n cymryd rhan.

Defnyddio’ch deunydd hyrwyddo eich hun i hysbysebu eich bod yn defnyddio’r cynllun

Rydym yn ymwybodol bod gan fwytai eu brand a’u sail cleientiaid eu hunain. Rydym yn croesawu bwytai sy’n marchnata’r cynllun eu hunain ond byddem yn eich annog i ddefnyddio logo’r ymgyrch, a fydd yn hoelio sylw’r cwsmer.