Canllawiau

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cyn-clirio mewndirol tollau

Diweddarwyd 13 April 2022

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi gan ein bod wedi dechrau gwiriad cyn-clirio mewndirol tollau. Cadwch hi’n ddiogel — efallai y bydd yn rhaid i chi gyfeirio ati yn ystod ein gwiriad.

Nid ydym yn cynnal y gwiriadau hyn dros y ffôn.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ynglŷn â gwiriad cyn-clirio mewndirol tollau

Rydym yn cynnal gwiriadau cyn-clirio er mwyn sicrhau bod yr holl faterion sy’n ymwneud â’ch datganiadau tollau yn gywir cyn i ni glirio’r nwyddau i’w rhyddhau. Gall y gwiriadau hyn gynnwys y canlynol:

  • archwilio’ch datganiad a dogfennau atodol
  • archwilio’r nwyddau
  • profi’r nwyddau

Os bydd angen i ni wneud unrhyw wiriadau ar ôl clirio’r gwiriadau hyn, bydd hyn yn cynnwys ymweld â’ch busnes neu eiddo.

Mae rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio ar ôl clirio gwiriad ar gael yn nhaflen wybodaeth CC/FS1g, ‘Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio ar gyfer materion tollau a masnach ryngwladol’.

I gael rhagor o arweiniad, ewch i www.gov.uk a chwiliwch am ‘when we select your goods for inland pre-clearance checks’.

Yn ystod y gwiriad cydymffurfio

Byddwn yn rhoi gwybod i chi ble a phryd y byddwn yn archwilio’ch nwyddau.

Gallwch fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad os dymunwch wneud hynny. Gallwch hefyd:

  • fod yn bresennol gyda chynrychiolydd
  • anfon rhywun i’ch cynrychioli chi
  • dewis peidio â bod yn bresennol

Os dewiswch fod yn bresennol neu anfon cynrychiolydd, byddwn yn trefnu amser a dyddiad addas ar gyfer cynnal yr archwiliad. Bydd hyn cyn gynted â phosibl.

Rhowch enwau llawn y sawl a fydd yn bresennol, yn ogystal â llun adnabod ar gyfer pob person.

Sylwer — bydd angen i chi hefyd ddod â’ch cyfarpar diogelu personol eich hun, gan gynnwys esgidiau diogelwch a fest neu siaced llachar. Os na wnewch hyn, ni fyddwch yn gallu bod yn bresennol yn ystod yr archwiliad.

Os dewiswch beidio â bod yn bresennol neu os nad ydych yn ateb, ni fydd hyn yn atal yr archwiliad rhag cael ei gynnal.

Os oes gennych gwestiynau ar unrhyw adeg, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad. Gallwn ond ateb cwestiynau ynghylch archwilio’r llwyth dan sylw. Os oes gennych gwestiynau ynghylch llwythi eraill, bydd angen i chi gysylltu â: importenquiries.hmrcisbc@hmrc.gov.uk.

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi yr hyn rydym yn ei wirio, ac efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni sydd eu hangen arnom. Os nad ydych yn sicr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth, gofynnwch i ni a byddwn yn egluro pam.

Os na allwch wneud yr hyn rydym yn gofyn amdano, neu os ydych o’r farn nad yw rhywbeth rydym wedi gofyn amdano’n rhesymol nac yn berthnasol i’r gwiriad, rhowch wybod i ni. Byddwn yn ystyried eich rhesymau’n ofalus, ac os ydym yn dal i fod o’r farn bod angen yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam.

Yn ystod gwiriad cyn-clirio, mae’n bosibl y byddwn yn:

  • gofyn cwestiynau am y math o gynrychiolaeth sy’n cael ei defnyddio
  • gofyn cwestiynau am elfennau amrywiol y datganiad neu’r nwyddau
  • archwilio unrhyw gofnodion sy’n gysylltiedig â’r datganiad
  • cymryd manylion o’r datganiad a’r dogfennau
  • cymryd samplau er mwyn helpu i ddosbarthu ac adnabod y nwyddau
  • rhoi nodyn ar nwyddau, dogfennau neu eitemau er mwyn dangos ein bod wedi’u harchwilio
  • gofyn am eich help wrth gynnal archwiliad ar y safle
  • cadw neu atafaelu nwyddau sydd gennych y pennir eu bod yn groes i’r gyfraith tollau

Gall adrannau eraill y llywodraeth wirio’r nwyddau hefyd.

Os ydym yn ystyried bod gwarantau ariannol yn ddyledus mewn perthynas â’ch datganiad, bydd angen i chi dalu hyn cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau. Gweler yr adran isod sy’n egluro beth sy’n digwydd ar ddiwedd gwiriad cyn-clirio.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses gwirio cydymffurfiad, ewch i www.gov.uk/guidance/hmrc-compliance-checks-help-and-support.cy.

Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gall CThEM arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Os oes angen rhagor o amser arnoch

Os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen mwy o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiatáu amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Gwybodaeth a dogfennau y gallwn ofyn amdanynt

Gallwn archwilio unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r busnes. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio data.

Rhaid i chi roi i ni unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gofynnwn amdanynt sy’n ymwneud â’r busnes. Os byddwch yn methu â rhoi’r wybodaeth neu’r dogfennau, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Mae gennym yr hawl i fynd ag unrhyw gofnodion. Os byddwn yn mynd ag unrhyw gofnodion gwreiddiol, byddwn yn rhoi derbynneb i chi, yn cadw’r cofnodion yn ddiogel ac yn eu dychwelyd i chi cyn gynted ag y gallwn. Os bydd angen i chi’u cael yn ôl yn gynt, gwnawn gopïau a rhown y rhain i chi.

Ymholiadau trydydd parti

Weithiau, efallai y bydd angen gwybodaeth arnom oddi wrth bobl eraill sy’n berthnasol i’ch nwyddau neu’ch gwasanaethau. Os felly, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth amdanoch yn ychwanegol i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Ynglŷn â’r cosbau y gallwn eu codi

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os canfyddir eich bod wedi torri cyfraith tollau’r Undeb Ewropeaidd a’r DU o ran mewnforio, allforio a dal neu brosesu nwyddau sydd o dan oruchwyliaeth tollau. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • torri rheoliadau tollau
  • methiant i gydymffurfio ag unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sy’n ymwneud â thollau
  • camddatganiadau
  • methiant i gydymffurfio â gweithdrefn tollau
  • methiant i roi gwybodaeth
  • methiant i gadw cofnodion
  • Ffurflenni Treth neu ddogfennau gwallus
  • mynd â nwyddau o oruchwyliaeth tollau heb awdurdod

Ceir rhagor o wybodaeth am gosbau yn:

  • Hysbysiad 300: customs civil investigation of suspected evasion
  • Hysbysiad 301: civil penalties for contraventions of customs law

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘Notice 300’ neu ‘Notice 301’.

Os ydych yn anghytuno

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw gamau a gymerir, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad yr hyn rydych yn anghytuno yn ei gylch a pham.

Cyn cyflwyno penderfyniad (ac eithrio atafaeliadau), fel arfer byddwn yn ysgrifennu atoch gan esbonio ein penderfyniad a’r rhesymau dros hyn. Mae gennych 30 diwrnod i ymateb os anghytunwch. Pan fyddwn wedi cael eich ateb, neu ar ôl 30 diwrnod (p’un bynnag yw’r cynharaf), byddwn yn gwneud ein penderfyniad, gan ystyried unrhyw wybodaeth bellach a roddir neu faterion a godir.

Os ydym yn penderfynu atafaelu’ch nwyddau, byddwn yn eich cyfeirio at Hysbysiad 12A: ‘What you can do if things are seized’ sy’n egluro’r hyn y gallwch ei wneud.

Os caiff nwyddau eu hatafaelu, weithiau gallwn ofyn am daliad o warantau cyn rhyddhau’r nwyddau. Ni fyddai hyn yn effeithio ar eich hawliau i ofyn am adolygiad neu apelio unwaith yr anfonir y penderfyniad ffurfiol.

Caiff nwyddau eu rhyddhau ar yr amod nad oes unrhyw broblemau eraill o ran tollau wedi’u nodi a bod y taliad wedi’i brosesu’n llawn.

Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o’r penderfyniadau a wnawn. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod pan fyddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn. Byddwn hefyd yn esbonio’r penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno.

Gallwch ddarllen rhagor:

  • yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’ ewch i www.gov.uk a chwiliwch am ‘HMRC1’
  • os yw’r penderfyniad yn ymwneud â dychwelyd nwyddau a atafaelwyd i chi, ewch i www.gov.uk/customs-seizures

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir

Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, os byddwch yn:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch awdurdodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan, ond ni fyddwn yn gohirio cynnal ein gwiriad (mewn rhai achosion byddwn yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig i ddelio â’’ch cynrychiolydd ond chi fydd yn dal i fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol gyfrifol am ddatganiadau a wneir yn eich enw)
  • yr hawl i siarad ag ymgynghorydd — byddwn yn caniatáu amser rhesymol i chi wneud hynny, ond mae’r hyn a ystyrir yn rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn − os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir
  • dyletswydd i’n caniatáu i gynnal archwiliad a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen

Byddwn yn diogelu unrhyw wybodaeth amdanoch rydym yn ei chael neu sydd yn ein meddiant.

Mae gennym yr hawl i gynnal gwiriad mewn modd rhesymol a chymesur. Os ydych yn teimlo nad yw ein gwiriad yn rhesymol nac yn gymesur, rhowch wybod pam i ni.

Mae ‘Siarter CThEM’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/hmrc-charter.cy.

Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:

  • Ardoll Gwrth-ddympio
  • Toll Dramor
  • Ardoll Amaethyddol
  • Trwyddedau Mewnforio ac Allforio
  • Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • TAW mewnforio
  • Tramwy’r Gymuned
  • Cytundebau Masnach Ffafriol
  • Llog Digolledu
  • Nwyddau wedi’u Gwahardd a Nwyddau o dan Gyfyngiadau
  • Toll Wrthbwyso

Rhagor o wybodaeth

Gohebiaeth drwy e-bost

Gallwn ysgrifennu atoch drwy e-bost, ond ni fyddwn yn gwneud hynny hyd nes y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni ymlaen llaw ac wedi derbyn y peryglon yn ffurfiol.

Nid yw e-byst yn ddiogel. Os byddwch yn dewis anfon, drwy e-bost, gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol am eich cwmni neu’i fusnes, byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hunan. Yn yr un modd, os byddwch yn gofyn i ni anfon y fath wybodaeth atoch drwy e-bost, mae hyn hefyd ar eich risg eich hunan.

Ceir rhagor o wybodaeth am bolisi e-bost CThEM yn ein harweiniad ar we-rwydo a sgamiau. Ewch i www.gov.uk/government/publications/genuine-hmrc-contact-and-recognising-phishing-emails.cy.

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.