Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB 2021

Dyma bumed adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB. Mae’n seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2021 ac mae’n cyflawni ein gofynion adrodd, yn dadansoddi'r ffigurau'n fwy manwl ac yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Applies to England, Northern Ireland and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r ASB yn defnyddio graddau’r Gwasanaeth Sifil sy’n amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae graddau’n amrywio yn ôl lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn ôl gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth fo’r rhyw.

Mae gan bob gradd, ac eithrio’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS), ystod gyflog Llundain ac ystod Genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 1310 o bobl yn gweithio i’r ASB, sef cynnydd o 45 ers 31 Mawrth 2020. Arhosodd canran y menywod ar 40%. Gwnaeth nifer yr Uwch Weision Sifil sy’n fenywod ostwng o 42% i 41%.

Cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth rhyw ar bob gradd yn yr adroddiad.

Cyhoeddwyd ar 29 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 July 2022 + show all updates
  1. Adding correct Welsh version

  2. Added translation