Ffurflen

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Addysg Cymru

Diweddarwyd 19 Ionawr 2026

Yn berthnasol i Gymru

Mae’r Siambr Apeliadau Gweinyddol yn rhan o’r Uwch Dribiwnlys. Mae’n penderfynu ar apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol o benderfyniadau Tribiwnlys Addysg Cymru. Mae’r Uwch Dribiwnlys yn cynnwys barnwyr Uchel Lys a barnwyr arbenigol eraill a benodwyd gan y Brenin.

Dylid defnyddio Ffurflen UT9 i wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Addysg Cymru. Dylid hefyd ei defnyddio i apelio i’r Uwch Dribiwnlys os yw Tribiwnlys Addysg Cymru eisoes wedi rhoi caniatâd i apelio.

Dylid cyflwyno Ffurflen UT9 (h.y. anfon neu ddarparu) i Swyddfa Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys er mwyn ei derbyn dim hwyrach na mis ar ôl y dyddiad wnaeth Tribiwnlys Addysg Cymru anfon hysbysiad atoch yn gwrthod neu’n rhoi caniatâd i apelio. Os ydych chi’n hwyr yn gwneud hyn, rhaid i chi esbonio pam yn Rhan G o’r ffurflen.

Cyn gwneud cais, rhaid i chi wneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ganiatâd i apelio. Dylech fod wedi derbyn gwybodaeth gan Dribiwnlys Addysg Cymru ynglŷn â sut a phryd i wneud hyn.

Y ceisydd neu’r apelydd

Ceisydd yw unigolyn sy’n gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys. Apelydd yw unigolyn sydd wedi derbyn caniatâd i apelio ac sydd nawr yn apelio i’r Uwch Dribiwnlys. Mae Ffurflen UT9 i’w defnyddio gan y ceisydd a’r apelydd.

Dylech roi tic yn y blwch priodol i nodi pa un a ydych yn gwneud cais am ganiatâd neu’n apelio fel rhiant y plentyn neu’r unigolyn gyda chyfrifoldeb rhiant neu fel yr awdurdod lleol.

Y plentyn

Dylai pwy bynnag sy’n llenwi’r ffurflen hon fel ceisydd neu apelydd lenwi Rhan B yn rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani am y plentyn sy’n destun yr apêl.

Y rhiant neu’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant

Dylai pwy bynnag sy’n llenwi’r ffurflen hon fel ceisydd neu apelydd lenwi Rhan C yn rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani am y rhiant neu’r unigolyn â chyfrifoldeb rhiant.

Cynrychiolydd y rhiant

Os ydych yn rhiant (neu’r unigolyn â chyfrifoldeb rhiant) a’ch bod yn gwneud cais am ganiatâd i apelio neu yn apelio, nid ydych angen cynrychiolydd. Gallwch lenwi’r ffurflen hon eich hun a bydd swyddfa’r Uwch Dribiwnlys yn gohebu gyda chi.

Fodd bynnag, mae’n agored i chi gael eich cynrychioli gan gyfreithiwr neu unrhyw un arall. Os oes gennych gynrychiolydd, dylech roi eu manylion yn y blychau a ddarparwyd yn Rhan D. Yna, bydd swyddfa’r Uwch Dribiwnlys yn gohebu â’ch cynrychiolydd yn unig.

Yr awdurdod lleol

Dylai pwy bynnag sy’n llenwi’r ffurflen hon fel ceisydd neu apelydd lenwi Rhan E yn rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol.

Tribiwnlys Addysg Cymru a benderfynodd ar eich achos

Dylai’r lleoliad ble gwrandawyd apêl neu hawliad Tribiwnlys Addysg Cymru, dyddiad y penderfyniad a rhif yr apêl neu’r hawliad i gyd fod ar benderfyniad ysgrifenedig y tribiwnlys.

Rhesymau dros unrhyw oedi

Dylech fod wedi gwneud cais ysgrifenedig i Dribiwnlys Addysg Cymru am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys er mwyn ei dderbyn yn swyddfeydd Tribiwnlys Addysg Cymru dim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i chi dderbyn rhesymau ysgrifenedig am benderfyniad y tribiwnlys (neu hysbysiad o resymau diwygiedig neu gywiriad yn dilyn adolygiad neu hysbysiad nad oedd cais i adolygu yn llwyddiannus).

Dylid anfon neu mynd â Ffurflen UT9 i Swyddfa Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys er mwyn ei derbyn dim hwyrach na mis ar ôl i Dribiwnlys Addysg Cymru anfon hysbysiad atoch yn gwrthod neu’n rhoi caniatâd i apelio.

Os bydd eich cais neu apêl i’r Uwch Dribiwnlys yn hwyr rhaid i chi ofyn am estyniad amser ac egluro’r oedi yn Rhan F o’r ffurflen. Mae’n rhaid i chi ddangos rheswm da i’r Uwch Dribiwnlys dderbyn eich cais.

Os cafodd eich cais am ganiatâd i apelio ei wrthod gan Dribiwnlys Addysg Cymru oherwydd ei fod yn hwyr dylech egluro’r oedi yn Rhan F o’r ffurflen. Mae’n bosib y bydd yr Uwch Dribiwnlys yn rhoi ystyriaeth i hyd yr oedi a materion eraill megis pwysigrwydd posib yr achos, felly, gallwch gynnwys rhain fel rhesymau hefyd.

Defnyddiwch y blwch sydd ar y ffurflen, neu ddalen arall o bapur os oes angen. Os byddwch yn defnyddio darn o bapur ar wahân, rhowch eich enw a rhif apêl neu hawliad Tribiwnlys Addysg Cymru arno a’i gysylltu’n ddiogel i’r ffurflen.

Rhesymau dros apelio

Mae’n rhaid i chi egluro pam rydych yn meddwl bod penderfyniad Tribiwnlys Addysg Cymru yn anghywir yn gyfreithiol. Mae enghreifftiau o wallau cyfreithiol yn cynnwys bod y tribiwnlys:

  • heb gymhwyso’r gyfraith gywir neu wedi dehongli’r gyfraith yn anghywir.
  • wedi gwneud gwall gweithdrefnol
  • heb unrhyw dystiolaeth, neu ddigon o dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad.
  • heb roi rhesymau digonol (yn ei benderfyniad ysgrifenedig neu’r datganiad ysgrifenedig o’i resymau)

Enghreifftiau’n unig yw’r rhain a gall penderfyniad Tribiwnlys Addysg Cymru fod yn anghywir yn y gyfraith am reswm arall. Dylech esbonio mor fanwl â phosib pam bod y penderfyniad yn eich achos penodol chi yn anghywir yn gyfreithiol. Os oes gennych gynrychiolydd, byddant yn eich cynghori ac efallai yn llenwi’r ffurflen i chi. Ni ddylech fethu’r terfyn amser o fis ar gyfer anfon eich ffurflen gais.

Bydd yr hyn a ddywedwyd gennych ar ffurflen UT9 yn cael ei drin fel eich prif fanylion ar yr apêl (hyd yn oed os ydych nawr ond yn ymgeisio am ganiatâd i apelio). Felly, dylech sicrhau eich bod yn dweud popeth rydych eisiau ei ddweud ar y cam hwn. Ar y llaw arall, cofiwch gall manylion clir byr fod yn fwy effeithiol na rhai maith ailadroddus.

Gallwch ddefnyddio darn o bapur ar wahân os dymunwch, ond rhowch eich enw a chyfeirnod eich apêl arno a’i gysylltu’n ddiogel i’r ffurflen.

Os wnaeth Tribiwnlys Addysg Cymru roi caniatâd i chi apelio ar seiliau cyfyngedig a’ch bod nawr yn apelio, nodwch a ydych hefyd yn dymuno gwneud cais am ganiatâd ar sail ychwanegol a rhoi tic yn y ddau flwch yn Rhan J o ffurflen UT9.

Cais am wrandawiad llafar

Os ydych yn gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio a’ch bod chi neu eich cynrychiolydd yn dymuno ymddangos gerbron barnwr Uwch Dribiwnlys mewn gwrandawiad llafar o’ch cais, llenwch y blychau perthnasol yn Rhan I.

Os gwrthodir caniatâd ichi apelio (neu rhoddir caniatâd ar seiliau cyfyngedig neu yn destun amodau) heb wrandawiad llafar ac nad yw’r barnwr wedi tystio’r cyfan neu ran o’ch cais fel un sy’n gwbl deilwng, rhoddir y cyfle i chi ofyn (o fewn 14 diwrnod) i’r penderfyniad hwnnw gael ei ailystyried mewn gwrandawiad llafar.

Gallai gwrandawiad llafar fod wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn. Bydd gwrandawiadau fel arfer yn cael eu cynnal mewn lleoliadau rhanbarthol ar draws Cymru. Os byddwch eisiau eich gwrandawiad yn y Gymraeg, dywedwch wrthym yn y blwch a ddarparwyd. Anfonir gwybodaeth bellach atoch os bydd barnwr yr Uwch Dribiwnlys yn caniatáu eich cais am wrandawiad llafar.

Peidiwch â llenwi’r blychau am wrandawiad llafar os yw Tribiwnlys Addysg Cymru wedi rhoi caniatâd ichi apelio. Yn yr achos hwnnw, neu os rhoddir caniatâd i chi apelio gan yr Uwch Dribiwnlys, cewch gyfle i ofyn am wrandawiad llafar o’ch apêl yn nes ymlaen.

Cais neu apelio i’r Uwch Dribiwnlys

Hyd yn oed os oes gennych gynrychiolydd, mae’n rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ei hun lofnodi’r ffurflen yn Rhan J. Bydd eich llofnod yn dangos eich bod yn rhoi awdurdod i’r cynrychiolydd a enwir yn Rhan D i weithredu ar eich rhan. Yr unig eithriad i’r rheol hon yw pan fo’r cynrychiolydd yn gyfreithiwr.

Cymerir yn ganiataol bod cyfreithiwr yn gweithredu yn ôl cyfarwyddiadau, a gall lofnodi’r ffurflen ar ran y ceisydd neu’r apelydd.

Ble i anfon y ffurflen

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth E-Ffeilio i anfon ffurflen UT9 a’r dogfennau gofynnol i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) os:

  • cynrychiolir chi’n gyfreithiol
  • ydych yn gwneud cais neu’n apelio ar ran yr awdurdod addysg lleol neu’r corff sy’n gyfrifol

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaeth E-Ffeilio.

Os ydych yn cynrychioli eich hun yn y llys, dylech ddefnyddio gwasanaeth E-ffeilio GLlTEF. Os nad ydych yn gallu gwneud hynny, dylech e-bostio neu anfon y ffurflen UT9 i:

Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys
Canolfan Gyfiawnder Sifil
2 Stryd y Parc
Caerdydd
CF10 1ET

Os ydych yn hwyr yn anfon, gallwch dal anfon eich ffurflen ond mae’n rhaid i chi esbonio’r oedi yn Rhan G y ffurflen.

Rhaid i chi atodi’r dogfennau a restrir ar ddiwedd y ffurflen. Fel arall, efallai y bydd eich cais neu apêl yn cael ei (g)ohirio ac efallai na fydd yn cael ei g(ch)caniatáu.

Cadwch y nodiadau hyn mewn lle diogel fel bod gennych gofnod o gyfeiriad swyddfa’r Uwch Dribiwnlys.

Cysylltwch â’r swyddfa os na roddir gwybod i chi o fewn wythnos bod y ffurflen wedi cyrraedd.