Pwerau penodol Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: Rwsia
Yn nodi'r pwerau a'r sefydliadau tramor o Rwsia sydd wedi'u pennu ar haen uwch y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi rhagor o fanylion am y pwerau tramor a’r sefydliadau a reolir gan bwerau tramor Rwsiaidd sydd wedi’u pennu ar hyn o bryd o dan y FIRS.