Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: cofrestru a chofrestr gyhoeddus
Yn nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol wrth gofrestru a manylion y gofrestr gyhoeddus o'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r wybodaeth sydd ei hangen pan fyddwch chi’n cofrestru gyda FIRS. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y gofrestr gyhoeddus gan gynnwys:
- y trefniadau penodol a fydd yn cael eu cyhoeddi
- yr amgylchiadau y gall eithriadau i gyhoeddi fod yn berthnasol
- hyd yr amser y cedwir gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus