Canllawiau ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS): Haen Dylanwad Gwleidyddol
Diweddarwyd 28 Gorffennaf 2025
© Hawlfraint y Goron 2025
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/foreign-influence-registration-scheme
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk
Rhestr termau allweddol
FIRS
Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor. Y Cynllun a gyflwynwyd trwy Ran 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Trefniant
Unrhyw fath o gytundeb, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Gallai hyn gynnwys contract, memorandwm dealltwriaeth (MOU) neu gytundeb neu drefniant anffurfiol quid pro quo. Mae rhagor o fanylion ym mhennod 3 amod 1.
Pŵer tramor
Mae ganddo’r ystyr a roddir gan Adran 32 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023. Mae rhagor o fanylion ym mhennod 3 amod 1.
Gweithgareddau dylanwad gwleidyddol
Cyfathrebiad, cyfathrebiad cyhoeddus neu ddarpariaeth o arian, nwyddau neu wasanaethau gyda’r bwriad o ddylanwadu ar fater gwleidyddol. Mae rhagor o fanylion ym mhennod 3 amod 3.
Esemptiad rhag cofrestru
Amgylchiad lle nad yw gofynion cofrestru yn berthnasol. Mae rhagor o fanylion ym mhennod 15.
Person
Unigolyn neu berson arall nad yw’n unigolyn, fel cwmni.
Cofrestrai
Person y mae’n ofynnol iddo gofrestru o dan FIRS.
Hysbysiad gwybodaeth
Hysbysiad a gyhoeddir o dan adran 75 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â threfniadau neu weithgareddau y gellir eu cofrestru o dan FIRS.
Pŵer tramor penodedig
Pŵer tramor sydd wedi’i bennu drwy reoliadau o dan haen uwch FIRS.
Endid penodedig dan reolaeth pŵer tramor (FPCE)
Endid sy’n cael ei reoli gan bŵer tramor, ac sydd wedi’i bennu drwy reoliadau o dan haen uwch FIRS.
Pennod 1: Ynglŷn â’r Canllawiau hyn
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn gynllun dwy haen sy’n sicrhau tryloywder dylanwad tramor yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gweithgareddau rhai pwerau neu endidau tramor a allai beri risg i ddiogelwch a buddiannau’r DU. Fe’i cynhwysir yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro gofynion haen dylanwad gwleidyddol FIRS. Fe’i bwriedir ar gyfer y rhai a allai fod o fewn cwmpas haen dylanwad gwleidyddol y cynllun i helpu i benderfynu a yw’r gofynion cofrestru yn berthnasol iddynt, ac os felly sut.
Darparwyd canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar gyfer y sectorau busnes, y cyfryngau, y byd academaid, elusennau ac amddiffyn.
Cynhyrchwyd canllawiau ar wahân ar gyfer yr haen uwch. Lle byddai trefniant yn dod o fewn cwmpas yr haen dylanwad gwleidyddol a’r haen uwch, oherwydd ei fod yn cynnwys cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol ar ran pŵer tramor penodedig, dim ond cofrestru o dan yr haen uwch sydd ei angen.
Mae canllawiau hefyd ar gael ar y wybodaeth sydd ei hangen wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus, hysbysiadau gwybodaeth, ac ar sut mae’r cynllun yn cael ei weinyddu.
Bwriad y canllawiau hyn yw egluro gofynion allweddol cynllun FIRS, sydd wedi’u cynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb y rhai sydd o fewn cwmpas y cynllun i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol eu hunai.
Pennod 2: Cyflwyniad i’r Haen Dylanwad Gwleidyddol
1. Nod yr haen dylanwad gwleidyddol yw cynyddu tryloywder dylanwad pŵer tramor mewn materion gwleidyddol y DU. Mae’r haen hon yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU ar gyfarwyddyd pŵer tramor. Mae’n berthnasol i drefniadau gyda phob pŵer tramor ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon.
2. Mae’r wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru yn bwysig wrth roi darlun clir o ddylanwad gwleidyddol a gyfeirir gan bŵer tramor yn y DU.
3. Bydd gwybodaeth benodol a gofrestrir o dan yr haen hon yn cael ei chynnwys ar gofrestr gyhoeddus. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y gofrestr gyhoeddus yn y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus.
4. Mae’r DU yn parhau i groesawu ymgysylltiad agored a thryloyw gan bwerau tramor. Nid yw cofrestru trefniant, ynddo’i hun, yn golygu ei fod yn anghyfreithlon neu fod y gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sy’n digwydd fel rhan ohono o reidrwydd yn annymunol. Ni ddylid ystyried y rhai sy’n cofrestru’n llawn ac yn gywir yn risg diogelwch cenedlaethol, ond fel rhai sy’n cefnogi gwydnwch y DU a’i sefydliadau yn wyneb bygythiadau gan y wladwriaeth.
Pennod 3: Gofynion yr haen dylanwad gwleidyddol
Amodau ar gyfer cofrestru
5. Yn unol ag adran 69 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023, mae’n ofynnol i berson gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol pan fydd yr holl bedwar amod isod yn cael eu bodloni. Argymhellir cwblhau cofrestru ar borth cofrestru ar-lein FIRS. (Mae ffurfiau cofrestru eraill ar gael hefyd, gan gynnwys ar gyfer amgylchiadau lle byddai cofrestru yn cynnwys manylion sensitif nad ydynt yn addas ar gyfer y porth cofrestru ar-lein.)
Amod 1: Mae person yn gwneud trefniant (boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol) gyda “phŵer tramor”.
Amod 2: Mae’r trefniant yn cynnwys “cyfarwyddyd” gan y pŵer tramor.
Amod 3: Y cyfarwyddyd yw cynnal “gweithgareddau dylanwad gwleidyddol” yn y DU (boed gan y cofrestrydd, neu gyda neu drwy rywun arall).
Amod 4: Nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol i’r trefniant na’r gweithgareddau.
6. O dan y cynllun, y trefniant y mae’n rhaid ei gofrestru, nid pob gweithgaredd unigol a fydd yn cael ei gynnal. Mae’n ofynnol i gofrestreion ddiweddaru eu cofrestriad pan fydd “newid sylweddol” i’r wybodaeth (gweler pennod 9) a chydymffurfio ag unrhyw hysbysiadau gwybodaeth
Amod 1 – Trefniant gyda “phŵer tramor”
7. Mae “trefniant” yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
- Trefniant ffurfiol fel contract;
- Cytundeb nad yw’n gyfreithiol rwymol fel Memorandwm o Ddealltwriaeth;
- Gorchymyn (neu gytundeb tebyg) am nwydd neu wasanaeth, i’w ddilyn gan fil neu anfoneb;
- Cytundeb quid pro quo anffurfiol.
8. Nid oes angen cofrestru sgyrsiau na gohebiaeth â phŵer tramor nad ydynt yn arwain at drefniant neu gytundeb i gynnal gweithgareddau cofrestradwy yn y DU.
9. Diffinnir pŵer tramor yn Neddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 (adran 32) fel unrhyw un o’r canlynol:
a) pennaeth sofran neu bennaeth arall Gwladwriaeth dramor;
b) llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, gweinidogaeth neu adran llywodraeth dramor);
c) asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor;
d) awdurdod sy’n gyfrifol am weinyddu materion ardal o fewn gwlad neu diriogaeth dramor (er enghraifft, awdurdod llywodraeth leol mewn gwlad dramor);
e) plaid wleidyddol sy’n blaid wleidyddol lywodraethol llywodraeth dramor.
10. Os ffurfir trefniant gyda chyflogai un o’r uchod wrth weithredu yn y swyddogaeth hon, caiff ei drin fel trefniant gyda phŵer tramor. Er enghraifft, os yw person yn ymrwymo i drefniant gyda gwas sifil tramor mewn perthynas â’i rôl fel gwas sifil, byddai’r amod yn cael ei fodloni. Ni fyddai person sy’n ymrwymo i drefniant gyda gwas sifil tramor ar fater nad yw’n gysylltiedig â’i rôl fel gwas sifil (e.e. os ydynt ar wahân yn ymddiriedolwr elusen) yn bodloni’r amod.
11. Gellid ystyried aelod unigol o blaid wleidyddol lywodraethol yn bŵer tramor, ond dim ond pan fyddant yn dal swydd sy’n rhoi awdurdod iddynt weithredu ar ran y blaid (er enghraifft, trysorydd plaid). Dim ond pan fyddant yn gweithredu yn y swyddogaeth hon y byddai trefniadau gyda nhw yn gofrestradwy. Er enghraifft, dim ond os caiff ei wneud yn eu swyddogaeth fel ysgrifennydd plaid (ac nid fel cyfarwyddwr y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth) y byddai angen cofrestru trefniant gydag ysgrifennydd plaid sydd hefyd yn gyfarwyddwr menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth.
12. Nid yw Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel (Ynysoedd y Sianel yw Beiliaeth Jersey, Beiliaeth Guernsey a Sark) a Thiriogaethau Tramor Prydain (Tiriogaethau Tramor Prydain yw Akrotiri a Dhekelia, Anguilla, Bermwda, Tiriogaeth Antarctig Prydain, Tiriogaeth Cefnfor India Prydain, Ynysoedd y Wyryf Prydeinig, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Gibraltar, Montserrat, Ynysoedd Pitcairn, Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha, De Georgia ac Ynysoedd De Sandwich ac Ynysoedd Turks a Caicos) yn cael eu hystyried yn bwerau tramor.
13. Ni ystyrir grwpiau o wledydd neu sefydliadau rhynglywodraethol, fel yr Undeb Ewropeaidd (UE) a Chymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia (ASEAN), yn bwerau tramor. Fodd bynnag, mae gwledydd unigol sy’n rhan o’r grwpiau neu’r sefydliadau rhynglywodraethol hyn yn bwerau tramor. Yn unol â hynny, os yw person yn ymrwymo i drefniant gyda’r UE (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Senedd Ewrop, Cyngor Ewrop, Cyngor yr UE, y Comisiwn Ewropeaidd ac asiantaethau datganoledig yr UE fel y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau) ni fyddai’r amod hwn yn cael ei fodloni. Byddai’r amod yn cael ei fodloni pe bai’r trefniant gydag aelod-wladwriaeth o’r UE.
14. Gellir ystyried bod endid yn “asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor” os yw’r endid yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ar ran y llywodraeth, er enghraifft:
- mae’r endid yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediad penderfyniadau, polisïau neu ddeddfau’r llywodraeth (er enghraifft, rheoleiddwyr diwydiant neu gyrff gosod safonau); neu
- mae’r endid yn gyfrifol am orfodi deddfau (er enghraifft, yr heddlu); neu
- mae’r endid yn cyflawni gwaith ymarferol neu weinyddol y llywodraeth (er enghraifft, cyhoeddi pasbortau neu weithredu carchardai).
15. Nid yw cwmnïau sy’n eiddo i, neu dan reolaeth, llywodraethau tramor (fel y gall fod yn wir gyda menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth) yn bwerau tramor yn rhinwedd y berchnogaeth neu’r rheolaeth hon. Nid oes angen cofrestru trefniadau gydag endidau masnachol, hyd yn oed os yw’r endidau hyn yn eiddo i’r wladwriaeth. Dim ond trefniadau gyda phŵer tramor sydd o fewn cwmpas haen dylanwad gwleidyddol FIRS. Gweler pennod 11 am ragor o fanylion.
16. Mae plaid wleidyddol yn blaid wleidyddol lywodraethol llywodraeth dramor os yw naill ai’n golygu:
a) Mae unigolion sy’n gweithio i’r llywodraeth yn dal eu swyddi o ganlyniad i fod yn aelodau o’r blaid wleidyddol honno; neu
b) Mae’r blaid wleidyddol yn cyfarwyddo neu’n rheoli’r rhai sy’n gweithio i’r llywodraeth wrth gyflawni eu swyddogaethau swyddogol.
17. Nid yw pleidiau gwleidyddol tramor nad ydynt yn blaid lywodraethol gwlad dramor yn bwerau tramor.
18. Ni fyddai undebau na chymdeithasau eraill sy’n gysylltiedig â phlaid wleidyddol lywodraethol yn cael eu hystyried yn bŵer tramor yn rhinwedd y cysylltiad hwn yn unig. Byddai angen iddynt fod wedi cael yr awdurdod i weithredu ar ran y blaid cyn iddynt gael eu hystyried yn bwerau tramor.
19. Nid oes unrhyw rwymedigaethau ar bwerau tramor eu hunain (gan gynnwys pobl a gyflogir yn uniongyrchol gan bwerau tramor) i gofrestru, ar yr amod nad ydynt yn gwneud camliwiad am eu gweithgareddau na’r swyddogaeth y maent yn gweithredu ynddi. Dim ond y rhai sydd mewn trefniant gyda phŵer tramor y gellir ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru.
20. Nid oes gan yr amodau yn Atodlen 13 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 (sy’n gysylltiedig â rheolaeth gan bŵer tramor) unrhyw berthnasedd i’r diffiniad o bŵer tramor ac felly nid ydynt yn berthnasol i’r amod hwn na’r haen dylanwad gwleidyddol o’r cynllun.
Amod 2 – Ystyr “cyfarwyddyd”
21. Mae “cyfarwyddyd” yn orchymyn neu’n gyfarwyddyd i weithredu y mae’n rhaid neu’n orfodol i berson gydymffurfio ag ef, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol.
22. Gall y canlynol fod yn enghreifftiau o “gyfarwyddyd” gan bŵer tramor:
- Contract wedi’i lofnodi â phŵer tramor sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithgareddau gael eu cynnal yn y DU;
- Gorfodaeth neu bwysau eraill gan bŵer tramor i gynnal gweithgareddau yn y DU (er enghraifft, lle gallai fod canlyniadau negyddol am beidio â chynnal y gweithgaredd).
23. Gellir ystyried bod cais gan bŵer tramor yn gyfarwyddyd os, er enghraifft, mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gan y pŵer tramor bŵer neu awdurdod dros y cofrestrydd;
- mae elfen o reolaeth i’r cais;
- mae budd neu ad-daliad (er enghraifft, taliad, iawndal, ad-daliad costau teithio neu gynhaliaeth, cyflogaeth, anrhydeddau academaidd neu driniaeth ffafriol yn y dyfodol) i’w dderbyn o ganlyniad i’r cofrestrydd gydymffurfio â’r cais;
- mae gorfodaeth neu fygythiad ochr yn ochr â’r cais; neu
- mae risg o ganlyniadau negyddol sy’n gysylltiedig â methu â chydymffurfio â’r cais (e.e. colled sylweddol o refeniw).
24. Bydd angen cysylltiad rhwng y cyfarwyddyd a’r gweithgaredd dylanwad gwleidyddol (amod 3) er mwyn i’r amod hwn gael ei fodloni. Er enghraifft, os yw cwmni’n derbyn cyfarwyddyd cyffredinol neu gyllid gan bŵer tramor ac yn dewis cyflawni dylanwad gwleidyddol nad yw’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r cyfarwyddyd neu’r cyllid yna ni fyddai’r amod yn cael ei fodloni.
25. Nid yw’r ffaith bod gan bŵer tramor y gallu neu’r hawl i gyfarwyddo gweithgareddau unigolyn neu sefydliad (fel y gall fod yn wir o fewn system gyfreithiol rhai gwledydd) yn sbarduno gofyniad cofrestru. Dim ond lle mae gweithgareddau’n cael eu cyfarwyddo mewn gwirionedd y bydd yr amod hwn yn cael ei fodloni.
26. Er nad yw cyllid gan bŵer tramor, ynddo’i hun, yn gyfystyr â chyfarwyddyd, gall ffurfio rhan o gyfarwyddyd os oes amodau ynghlwm wrtho i’w ddefnyddio mewn ffordd benodol. Ni ystyrir bod grantiau anghyfyngedig sy’n rhoi’r ymreolaeth i dderbynydd y grant ddefnyddio’r cyllid yn y ffordd y maent yn ei gweld yn briodol yn gyfarwyddyd. Pan fydd unigolyn neu sefydliad yn gwneud cais am fath o gyllid (er enghraifft, grant) gan bŵer tramor, a bod y grant hwnnw’n cael ei gymeradwyo heb osod amodau penodol ar y gweithgareddau, ni fyddai hyn ynddo’i hun yn gyfystyr â chyfarwyddyd.
27. Pan ddarperir cyllid i gefnogi gwaith sefydliad yn gyffredinol, heb amodau y dylid ei ddefnyddio at ddiben penodol, ni fyddai hyn yn galw am gofrestru. Yn yr un modd, pan ddarperir cyllid gan bŵer tramor i gefnogi prosiect neu fenter sy’n digwydd beth bynnag, ac nad yw’r cyllid hwnnw’n dylanwadu ar sut mae’r prosiect neu’r fenter yn cael ei chynnal, nid yw hynny’n gyfystyr â chyfarwyddyd.
28. Nid yw perchnogaeth, neu ran-berchnogaeth o endid gan bŵer tramor, o reidrwydd yn golygu bod gweithgareddau endidau o’r fath yn cael eu cyfarwyddo gan bŵer tramor. Dylai endidau sy’n eiddo i bwerau tramor weld pennod 10.
29. Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn i endidau gofrestru lle rhoddir cyfarwyddyd cyffredinol iddynt gan y pŵer tramor, a bod cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU (amod 3) yn rhan anochel o’r cyfarwyddyd hwnnw. Er enghraifft:
- Efallai y bydd gofyn i endid sy’n cael cyfarwyddyd cyffredinol gan y pŵer tramor i geisio tariffau masnach is ar gyfer busnesau o’r wlad gofrestru, gan fod angen iddynt yn anochel gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol fel rhan o’u cyfarwyddyd cyffredinol.
- Efallai na fydd gofyn i fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth sy’n cael cyfarwyddyd cyffredinol gan y pŵer tramor i fuddsoddi yn y DU gofrestru, gan nad oes rhaid iddynt o reidrwydd gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol i gyflawni eu cyfarwyddyd cyffredinol.
30. Ni fydd cyfathrebu na chysylltu rhwng pleidiau gwleidyddol y DU a phleidiau gwleidyddol gwledydd eraill neu sefydliadau gwleidyddol (hyd yn oed lle mae plaid o’r fath yn bŵer tramor) yn gyfystyr â “chyfarwyddyd”, os nad oes gorchymyn na chyfarwyddyd i weithredu. Er enghraifft, ni fydd hyfforddiant ar y cyd sy’n cynnwys pleidiau gwleidyddol chwaer o fewn cwmpas y gofynion cofrestru.
31. Efallai y bydd gofyn i sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, ieithyddol neu economaidd sydd â chysylltiadau â phŵer tramor gofrestru os yw’r pŵer tramor yn darparu cyfarwyddyd cyffredinol i’r sefydliad i hyrwyddo agenda benodol, ac mae gweithgareddau dylanwad gwleidyddol (amod 3) yn rhan anochel o gyflawni eu hamcanion. Yn yr achosion hyn, mae’n debygol y bydd y sefydliad yn gwneud un gofrestriad sy’n gysylltiedig â’u trefniant cyffredinol gyda’r pŵer tramor, y mae’n ei ddiweddaru os bydd natur y trefniant neu’r gweithgareddau’n newid (gweler pennod 9).
Amod 3 – Diffiniad o “weithgareddau dylanwad gwleidyddol”
32. Ystyrir bod gweithgaredd yn “weithgaredd dylanwad gwleidyddol” (adran 70 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023) os yw’n bodloni’r ddau faen prawf isod.
Maen Prawf 1: Mae’r gweithgaredd yn un o’r canlynol:
- Cyfathrebiad (er enghraifft, e-bost, llythyr neu gyfarfod) at uwch swyddog cyhoeddus neu wleidydd (gweler Atodiad A)
- Cyfathrebiad cyhoeddus (er enghraifft, cyhoeddi neu gynhyrchu erthygl) ac eithrio lle mae’n rhesymol glir ei fod wedi’i wneud ar gyfarwyddyd pŵer tramor (er enghraifft, os yw erthygl wedi’i labelu mewn ffordd sy’n gwneud y ffaith hon yn glir, neu os yw’r awdur yn sôn am y ffaith hon yn yr erthygl ei hun);
- Darparu arian, nwyddau neu wasanaethau i unigolyn neu endid yn y DU (er enghraifft, darparu gwasanaethau ymgynghori i fusnes yn y DU).
- Dim ond os cânt eu cynnal yn y DU y mae gweithgareddau o fewn cwmpas FIRS).
Maen prawf 2: Diben, neu un o ddibenion, y gweithgaredd yw dylanwadu ar un o’r canlynol:
- Etholiad neu refferendwm yn y DU;
- Penderfyniad Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth (gan gynnwys Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon);
- Trafodion plaid wleidyddol gofrestredig yn y DU (megis ymrwymiadau eu maniffesto);
- Aelod o Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban neu Senedd Cymru (wrth weithredu yn rhinwedd eu swydd fel y cyfryw).
33. Nid oes angen cofrestru ymatebion ffurfiol i ymgynghoriadau llywodraeth y DU na gwahoddiadau i dendro, gan nad ydynt yn gyfathrebiad uniongyrchol i uwch swyddog cyhoeddus na gwleidydd (gweler Atodiad A). Efallai y bydd angen cofrestru cyfathrebiadau eraill y tu allan i’r ymateb ffurfiol o hyd os cânt eu gwneud i unigolyn perthnasol.
34. At ddiben maen prawf 1, gallai cyfathrebiad cyhoeddus gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
- Erthygl mewn papur newydd, cylchgrawn neu gyfnodolyn (boed ar gael i gynulleidfa eang neu i danysgrifwyr yn unig);
- Gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan;
- Dogfen sydd ar gael i’w lawrlwytho ar wefan;
- Postiad cyfryngau cymdeithasol;
- Postiad blog ar-lein;
- Araith a draddodir mewn lleoliad cyhoeddus.
Byddai’n rhaid i’r cyfathrebiad gael ei wneud mewn cyhoeddiad yn y DU, neu ei fwriadu ar gyfer cynulleidfa yn y DU, cyn y gellir ystyried ei fod yn digwydd yn y DU.
35. At ddiben maen prawf 2, mae “etholiad” yn cynnwys:
- Etholiadau cyffredinol ac Etholiadau Seneddol eraill y DU;
- Etholiadau i Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon;
- Etholiadau llywodraeth leol;
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu;
- Etholiadau maerol awdurdodau cyfunol;
- Etholiadau maerol Awdurdodau Sirol cyfunol;
- Etholiadau maerol lleol;
- Etholiadau maerol Llundain ac Awdurdod Llundain Fwyaf.
36. At ddiben maen prawf 2, mae “penderfyniad” Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, benderfyniadau gweinyddol neu weithredol (er enghraifft y penderfyniad i gymeradwyo cais am fisa) neu benderfyniadau ynghylch polisi, deddfwriaeth neu wariant y Llywodraeth. Nid yw’n cynnwys penderfyniadau sydd y tu hwnt i faes y Llywodraeth, er enghraifft, penderfyniadau a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan reoleiddiwr annibynnol.
37. At ddiben maen prawf 2, mae “Adran o’r Llywodraeth” yn cynnwys adrannau gweinidogol ac adrannau anweinidogol, fel y’u rhestrir yma. Mae hefyd yn cynnwys cyfarwyddiaethau Llywodraeth yr Alban, grwpiau o Lywodraeth Cymru ac adrannau o Lywodraeth Gogledd Iwerddon. Nid yw’n cynnwys cyrff cyhoeddus eraill, megis cynghorau lleol.
38. Dyma enghreifftiau o weithgareddau dylanwad gwleidyddol:
- Llythyr at Weinidog yn eu hannog i osod rheoliadau llymach ar ddiwydiant penodol;
- Cyfarfod ag Aelod Seneddol yn ceisio eu perswadio i bleidleisio mewn ffordd benodol yn y Senedd;
- E-bost at Weinidog yn yr Alban gyda’r bwriad o’u perswadio i gynyddu addysgu celf a cherddoriaeth mewn ysgolion cynradd yn yr Alban;
- Llythyr at Bennaeth plaid wleidyddol yn eu hannog i beidio â gwneud ymrwymiad polisi penodol;
- Erthygl papur newydd yn gwneud argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth y DU, lle nad yw’n rhesymol glir ei bod wedi’i hysgrifennu neu ei chyhoeddi ar gyfarwyddyd pŵer tramor;
- Buddsoddi arian yn etholaeth AS gyda’r bwriad o ddylanwadu ar weithredoedd neu bleidleisiau’r AS.
39. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau nad ydynt yn cael eu hystyried yn weithgareddau dylanwad gwleidyddol:
- E-bost at flwch post “ymholiadau cyffredinol” adran o’r llywodraeth yn amlinellu’r achos pam y dylid ystyried cais yn ffafriol (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 1, gan nad yw’r cyfathrebiad yn cael ei wneud at uwch swyddog cyhoeddus na gwleidydd);
- Erthygl a gyhoeddwyd yn ceisio dylanwadu ar benderfyniad llywodraeth y DU, lle mae wedi’i labelu’n glir ei fod wedi’i ysgrifennu neu ei gyhoeddi ar gyfarwyddyd llywodraeth dramor (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 1 gan ei bod yn rhesymol glir ei fod wedi’i wneud ar gyfarwyddyd pŵer tramor);
- Cyfarfod â maer etholedig neu gynghorydd, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar benderfyniad llywodraeth leol (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 2 oni bai ei fod hefyd wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar benderfyniad llywodraeth genedlaethol);
- E-bost at Brif Gwnstabl yr heddlu sy’n cynnig gwasanaethau fel cyflenwr offer diogelwch newydd ar gyfer eu gorsafoedd heddlu (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 2 gan nad yw penderfyniadau heddluoedd o fewn y cwmpas);
- Erthygl a gyhoeddwyd yn annog twristiaid Prydeinig i ymweld â gwlad dramor (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 2 gan nad yw’n ceisio dylanwadu ar fater gwleidyddol);
- Derbyniad gyda’r nos gyda’r bwriad o annog dinasyddion y DU i fuddsoddi mewn gwlad dramor (ni fyddai hyn yn bodloni maen prawf 2 gan nad yw’n ceisio dylanwadu ar fater gwleidyddol).
40. Dim ond pan gynhelir gweithgaredd yn y DU y mae angen cofrestru (er enghraifft, pan gynhelir cyfarfod ag Aelod Seneddol yn y DU). Nid oes ots a wneir y trefniant yn y DU neu dramor, neu ble mae partïon y trefniant wedi’u lleoli. Pan fydd gweithgaredd yn cychwyn dramor, ond yn cael effaith yn y DU, gall hyn fod o fewn cwmpas y gofynion cofrestru. Er enghraifft:
- E-bost a anfonir o dramor yn ceisio dylanwadu ar Weinidog Llywodraeth y DU;
- Taliad a anfonir o dramor i berson yn y DU er mwyn dylanwadu ar fater gwleidyddol;
- Erthygl, a ysgrifennir gan unigolyn dramor i’w chyhoeddi gan bapur newydd yn y DU, yn ceisio dylanwadu ar y cyhoedd ynghylch etholiad yn y DU lle nad yw’n glir bod yr erthygl wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd pŵer tramor;
- Gwybodaeth a bostir ar wefan dramor ond sydd wedi’i thargedu’n glir at gynulleidfa yn y DU (er enghraifft, gwybodaeth sydd wedi’i thargedu’n benodol at bleidleiswyr y DU);
- Cyfarfod a gynhelir yn rhithwir lle mae unigolion dramor yn ceisio dylanwadu ar uwch weision sifil yn y DU ynghylch penderfyniad y llywodraeth.
41. Fodd bynnag, lle mae gweithgaredd yn digwydd yn gyfan gwbl dramor (er enghraifft, cyfarfod â Gweinidog y DU yn ystod ymweliad dramor), nid yw hyn o fewn cwmpas y gofynion cofrestru. Mae Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor Prydain yn cyfrif fel “dramor” at y dibenion hyn.
42. Nid oes angen cofrestru gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sydd wedi’u targedu at swyddogion tramor yn y DU (er enghraifft, llysgennad gwlad dramor yn y DU) sy’n bwriadu dylanwadu ar faterion gwleidyddol yn y wlad honno.
43. Lle rhoddir cyfarwyddyd cyffredinol i sefydliad i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol ar draws sawl awdurdodaeth, mae’n debygol y bydd amod 3 yn cael ei fodloni os cynhelir rhai o’r gweithgareddau hynny yn y DU. Fodd bynnag, mewn achosion o’r fath, dim ond mewn perthynas â gweithgareddau a gynhelir yn y DU y byddai angen cofrestru.
44. Mae’n bosibl y gallai rhai gweithgareddau sy’n ceisio dylanwadu ar bolisïau amlochrog y mae’r DU yn rhan ohonynt fod angen cofrestru, o ystyried bod y polisïau hyn yn dal i fod yn golygu penderfyniad Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, byddai’n dal yn angenrheidiol i weithgareddau dylanwad gwleidyddol ddigwydd yn y DU cyn bod angen cofrestru.
Amod 4 – Esemptiadau o’r haen dylanwad gwleidyddol
45. Mae nifer o esemptiadau o’r gofynion i gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol (mae’r rhain wedi’u nodi yn Atodlen 15 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 ac mewn rheoliadau):
- Unrhyw un sy’n gweithredu fel rhan o drefniant y mae Corff Coron y DU yn rhan ohono (er enghraifft, y rhai mewn trefniant amlochrog gyda llywodraeth y DU a llywodraethau tramor);
- Unigolion sy’n gweithredu dros bŵer tramor yn eu swyddogaeth swyddogol fel cyflogeion, er enghraifft staff cenadaethau diplomyddol a swyddi consylaidd sydd wedi’u lleoli yn y DU;
- Aelodau o’r teulu (gan gynnwys partneriaid di-briod) staff cenadaethau diplomyddol, swyddi consylaidd neu genadaethau parhaol sefydliadau rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU, lle maent yn cefnogi gweithgareddau swyddogol aelod o’u teulu;
- Cyfreithwyr, wrth iddynt ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i bwerau tramor (er enghraifft, y rhai sy’n cynrychioli llywodraethau tramor mewn achos llys yn erbyn Llywodraeth y DU);
- Cyhoeddwyr newyddion domestig a rhyngwladol (ar yr amod eu bod yn bodloni’r diffiniad o “Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig”);
- Cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus sy’n cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau’r DU.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mhennod 15.
Pennod 4: Amseriad cofrestru
46. Yn unol ag adran 69 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023, rhaid cofrestru ‘trefniadau dylanwad tramor’ o dan yr haen dylanwad gwleidyddol o fewn 28 diwrnod calendr, gan ddechrau ar y diwrnod y gwneir y trefniant. Er enghraifft, os ffurfir trefniant ar 1 Ionawr, rhaid ei gofrestru erbyn 28 Ionawr. Gall gweithgareddau ddigwydd o fewn y ffenestr gofrestru 28 diwrnod heb gofrestru ymlaen llaw. Mae amserlenni gwahanol yn berthnasol i’r haen uwch.
47. Yn achos contract neu gytundeb ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan y ddwy ochr, mae’r diwrnod y gwneir y trefniant yn cyfeirio at y dyddiad y mae’r parti olaf yn llofnodi ac yn dychwelyd y contract neu’r cytundeb.
48. Yn achos cytundeb llafar anffurfiol, mae’r diwrnod y gwneir y trefniant yn cyfeirio at y dyddiad y gwnaed y cytundeb i gynnal gweithgaredd yn y DU. Nid yw sgyrsiau neu ohebiaeth nad ydynt yn troi’n gytundeb i gynnal gweithgareddau yn y DU yn drefniadau y gellir eu cofrestru.
49. Daw gofynion y cynllun i rym ar 1 Gorffennaf 2025. Dylai’r rhai sydd mewn trefniadau parhaus a ddechreuodd cyn y dyddiad hwnnw weld y Canllawiau ar Drefniadau a oedd yn Bodoli Eisoes. Nid oes gofyniad i gofrestru trefniadau blaenorol a ddaeth i ben cyn 1 Gorffennaf 2025.
50. Lle nad yw trefniant yn bodloni’r amodau ar gyfer cofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol i ddechrau, ond yn dod yn gofrestradwy wedi hynny, rhaid cofrestru’r trefniant o fewn 28 diwrnod calendr iddo ddod yn gofrestradwy. Er enghraifft, lle mae cyfarwyddyd gan bŵer tramor yn ymwneud yn wreiddiol â chynnal gweithgareddau nad ydynt yn bodloni’r diffiniad o weithgareddau dylanwad gwleidyddol, ond yn esblygu wedi hynny i gynnwys gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, bydd angen cofrestru’r trefniant o fewn 28 diwrnod i’r cytundeb i gynnal neu drefnu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol.
51. Ystyrir bod cofrestriad wedi’i gwblhau cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno. Nid oes angen aros am unrhyw gyfathrebiad neu gymeradwyaeth bellach gan y Llywodraeth cyn dechrau’r gweithgareddau y cyfeirir atynt wrth gofrestru. Fodd bynnag, lle cyflwynir cofrestriad drwy’r gwasanaeth cofrestru ar-lein, anfonir e-bost cadarnhau i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â chyfrif FIRS y cofrestrydd ar adeg cyflwyno’r cofrestriad.
Pennod 5: Ar bwy y mae’r gofynion cofrestru yn disgyn
52. Pan fo’r amodau ar gyfer cofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol yn cael eu bodloni, yr unigolyn neu’r sefydliad sydd yn y trefniant gyda’r pŵer tramor sy’n ofynnol i gofrestru (y cyfeirir ato fel “P” yn Neddf Diogelwch Cenedlaethol 2023).
53. Gall yr unigolyn neu’r sefydliad yn y trefniant cofrestradwy ymddiried i drydydd parti gwblhau’r ffurflen gofrestru os dymunant; fodd bynnag, nid yw hynny’n trosglwyddo’r cyfrifoldeb cyfreithiol am gydymffurfio.
54. Pan fo sawl parti uniongyrchol i drefniant cofrestradwy, bydd angen i bob parti gofrestru ar wahân. Er enghraifft, pan fo dau sefydliad ar wahân ill dau yn bartïon i drefniant gyda phŵer tramor, bydd angen iddynt ill dau gofrestru ar wahân. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid i gyflogeion lluosog sy’n ymwneud â threfniant cofrestradwy ar gyfer un sefydliad gofrestru; bydd un cofrestriad a wneir gan y sefydliad yn ddigonol yn yr achosion hyn.
55. Pan fydd sefydliad yn gwneud trefniant gyda phŵer tramor, y sefydliad (yn hytrach na’i cyflogeion) sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol i gofrestru. Gall unrhyw gyflogai o fewn y sefydliad sydd wedi’i awdurdodi i wneud hynny lenwi’r ffurflen gofrestru. Os na chydymffurfir, bydd yr atebolrwydd troseddol yn disgyn ar yr endid yn hytrach na’r unigolyn a gwblhaodd y ffurflen gofrestru (er gweler adrannau 35 ac 81(1) o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 sy’n darparu y gallai swyddog cwmni fod yn atebol am weithredoedd y cwmni mewn rhai amgylchiadau). Gweler pennod 13 am fanylion pellach. Dylai cyflogeion yr endid weld pennod 6.
56. Pan fydd cyflogai sefydliad yn gwneud trefniant gyda phŵer tramor sydd y tu allan i gwmpas eu cyflogaeth, y cyflogai sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol i gofrestru fel unigolyn. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i gyflogai cwmni sydd hefyd yn flogiwr yn ei swyddogaeth breifat gofrestru os ydynt yn gwneud trefniant sy’n ymwneud â’u gweithgareddau blogio.
Pennod 6: Canllawiau i gyflogeion ac isgontractwyr sy’n cyflawni gweithgareddau o fewn cwmpas FIRS
57. Mae’r cyfrifoldeb i gofrestru yn gorwedd gyda’r unigolyn neu’r endid sy’n gwneud y trefniant gyda’r pŵer tramor (gweler pennod 5). Fodd bynnag, lle nad yw trefniant wedi’i gofrestru mewn pryd (gweler pennod 4), mae’n drosedd i unrhyw un gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn unol â’r trefniant hwnnw.
58. Dylai cyflogeion ac isgontractwyr sydd wedi cael y dasg o gynnal gweithgaredd yn unol â threfniant cofrestradwy wirio yn gyntaf gyda’u cyflogwr neu gorff contractio a ydynt wedi cofrestru’r trefniant. Gall cyflogeion neu isgontractwyr hefyd wirio’r gofrestr gyhoeddus; fodd bynnag, dylent gofio nad yw cofrestru’n cael ei gyhoeddi ar unwaith ac, mewn rhai amgylchiadau, gall eithriadau rhag cyhoeddi fod yn berthnasol. Mae mesurau diogelu yn y ddeddfwriaeth lle mae’r person wedi cymryd pob cam rhesymol sydd ar gael iddynt i wirio a yw’r trefniant wedi’i gofrestru ai peidio ac yn credu ei fod wedi’i gofrestru (gweler adran 71 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023).
59. Dylai unrhyw gyflogeion neu isgontractwyr sy’n credu bod gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol wedi’i darparu wrth gofrestru gysylltu â’r cofrestrai i ofyn iddynt gywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd wrth gofrestru. Ni ddylent fwrw ymlaen â gweithgareddau nes bod y wybodaeth hon wedi’i diweddaru neu ei chywiro.
60. Nid oes dyletswydd benodol ar unrhyw gyflogeion, isgontractwyr na phersonau eraill sy’n cynnal gweithgareddau i gynnal diwydrwydd dyladwy yn rhagweithiol i weld pwy sy’n cyfarwyddo’r gweithgaredd. Y peth allweddol yw a oes gan y bobl sy’n cynnal y gweithgareddau wybodaeth neu wybodaeth ar gael iddynt sy’n awgrymu eu bod yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy - ac os oes ganddynt wybodaeth neu wybodaeth o’r fath, yna dylent wirio bod y trefniant wedi’i gofrestru.
61. Ni fyddai cyflogeion na isgontractwyr yn cyflawni trosedd pe na bai ganddynt unrhyw ffordd o wybod eu bod yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy; er enghraifft, lle:
- Mae’r cyflogeion neu’r isgontractwyr yn gwybod bod yr endid y maent yn gweithio gydag ef yn eiddo i’r wladwriaeth, yn cael ei reoli gan y wladwriaeth neu’n gysylltiedig yn agos â’r wladwriaeth fel arall, ond nid oes ganddynt unrhyw reswm i wybod bod y wladwriaeth wedi cyfarwyddo’r gweithgareddau dylanwad gwleidyddol y maent yn eu cynnal mewn gwirionedd; neu
- Nid amcanion strategol na gwleidyddol y wladwriaeth yw’r amcanion y maent yn ceisio’u cyflawni trwy eu gweithgareddau, ond yn hytrach amcanion yr endid penodol y maent yn gweithio gydag ef, ac nid oes ganddynt unrhyw wybodaeth i awgrymu bod y wladwriaeth wedi cyfarwyddo’r gweithgareddau hyn.
62. Mae darpariaethau gwahanol yn bodoli mewn perthynas â chyflogeion ac isgontractwyr sy’n cyflawni gweithgareddau y gellir eu cofrestru o dan haen uwch y cynllun. Felly, bydd angen i gyflogeion ac isgontractwyr sefydlu pa haen o’r cynllun y mae’r gweithgaredd y maent yn ei gyflawni yn ymwneud ag ef, os ydynt yn credu bod y gweithgaredd yn rhan o drefniant y gellir ei gofrestru.
Pennod 7: Enghreifftiau o drefniadau sy’n ei gwneud yn ofynnol (a heb ei gwneud yn ofynnol) cofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol
Enghraifft 1 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae diplomydd o Wlad A yn cysylltu ag ymgynghorydd, sydd ag ystod eang o gysylltiadau uwch o fewn Gwasanaeth Sifil y DU. Mae’r diplomydd yn ei annog i gyflwyno achos i uwch weision sifil dros i ddinasyddion Gwlad A gael statws di-fisa i ymweld â’r DU. Yn gyfnewid, mae’r diplomydd yn cynnig cyfle i’r ymgynghorydd fynychu (gyda’r holl gostau wedi’u talu) cynhadledd a drefnir gan y llywodraeth yng Ngwlad A, gan helpu i adeiladu ei broffil gyda dynion busnes uchel eu statws. Mae’r ymgynghorydd yn anfon e-bost at uwch was sifil yn y Swyddfa Gartref yn nodi’r achos dros statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod y diplomydd, y mae’r ymgynghorydd mewn trefniant ag ef, yn swyddog pŵer tramor (Llywodraeth Gwlad A).
Mae Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y diplomydd yn annog yr ymgynghorydd i geisio statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A, ac yn cynnig gwobr iddo am wneud hynny.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod yr ymgynghorydd yn gwneud cyfathrebiad ag aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil at ddiben dylanwadu ar benderfyniad adran o’r llywodraeth.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r ymgynghorydd gofrestru.
Enghraifft 2 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae cwmni lobïo yn llofnodi contract gyda’r Weinyddiaeth Diogelwch o Wlad B. Fel rhan o’r contract hwnnw, mae’r cwmni lobïo yn cytuno i lobïo Llywodraeth y DU i ddarparu arfau i wladwriaeth sydd wedi’i rhwygo gan ryfel. Yna, mae’r cwmni lobïo yn cysylltu â Gweinidog y DU yn amlinellu cynnig ar gyfer darparu a chludo arfau i’r wlad.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod y Weinyddiaeth Diogelwch o Wlad B, y mae’r cwmni lobïo mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 wedi’i fodloni gan fod contract yn cael ei lofnodi rhwng y Weinyddiaeth Diogelwch a’r cwmni lobïo.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y cwmni lobïo yn gwneud cyfathrebiad â Gweinidog i ddylanwadu ar benderfyniad i’w wneud ganddynt.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo gofrestru.
Enghraifft 3a (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae elusen yn cael cyllid gan Adran Materion Gwledig Gwlad C i lobïo pleidiau gwleidyddol y DU i gymryd camau pellach sy’n gysylltiedig â chadwraeth bywyd gwyllt. Mae’r elusen, y mae ei dibenion yn cynnwys cefnogaeth a chadwraeth bywyd gwyllt, wedi hynny’n trefnu i arbenigwr bywyd gwyllt gyfarfod â Phenaethiaid Polisi pob un o brif bleidiau gwleidyddol y DU gyda’r bwriad o’u perswadio i gynnwys adran ar eu maniffesto etholiadol am eu polisïau ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt.
Enghraifft 3b (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor): Mae Adran Materion Gwledig Gwlad C yn darparu rhoddion rheolaidd i gefnogi gwaith elusen ond nid yw’n gosod amodau ar sut y dylid defnyddio’r rhoddion. Mae’r elusen, y mae ei dibenion yn cynnwys cefnogaeth a chadwraeth bywyd gwyllt, yn cynnal ymgyrch i geisio codi ymwybyddiaeth o’i gwaith ymhlith pleidiau gwleidyddol y DU. Mae’r elusen yn trefnu i arbenigwr bywyd gwyllt gyfarfod â Phenaethiaid Polisi ym mhob un o brif bleidiau gwleidyddol y DU gyda’r bwriad o’u perswadio i gynnwys adran ar eu maniffesto etholiadol am eu polisïau ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni yn y ddwy enghraifft gan fod Adran Materion Gwledig Gwlad C, y mae’r elusen mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2
-
wedi’i fodloni yn enghraifft 3a gan fod yr elusen yn cael cyllid gan yr Adran Materion Gwledig ac yn cael ei chyfarwyddo i’w ddefnyddio mewn ffordd benodol.
-
heb ei fodloni yn enghraifft 3b gan, er bod yr Adran Materion Gwledig yn darparu rhoddion rheolaidd i’r elusen, nid ydynt yn cael eu cyfarwyddo i’w ddefnyddio mewn ffordd benodol.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni yn y ddwy enghraifft gan fod yr arbenigwr bywyd gwyllt yn gwneud cyfathrebiad i bennaeth plaid wleidyddol i ddylanwadu ar drafodion y blaid (yn yr achos hwn, y polisi y bydd y blaid yn ei fabwysiadu).
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol. Yn enghraifft 3a, mae’n ofynnol i’r elusen gofrestru. Nid oes angen i’r arbenigwr bywyd gwyllt gofrestru, ond dylai wirio bod yr elusen wedi cofrestru’r trefniant os ydynt yn gwybod, neu os dylent wybod yn rhesymol, eu bod yn gweithredu yn unol â threfniant gyda phŵer tramor.
Nid oes angen cofrestru yn enghraifft 3b gan nad yw amod 2 wedi’i fodloni.
Enghraifft 4 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae swyddog o Weinyddiaeth Diogelwch Gwlad D yn cysylltu ag unigolyn yn y DU, sy’n aelod proffil uchel o ddiaspora Gwlad D. Maent yn gofyn i’r unigolyn ymgysylltu ag ASau er mwyn dylanwadu ar eu cyfraniadau mewn dadl seneddol sydd â goblygiadau i berthynas y DU â Gwlad D. Mae tad yr unigolyn yn aros yng Ngwlad D, ac mae bygythiad ymhlyg y byddai’n dioddef canlyniadau yn y gwaith os na chydymffurfir â’r cais. Mae’r unigolyn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o ASau gan geisio iddynt gymryd barn sy’n gydymdeimladol â buddiannau Gwlad D.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod Weinyddiaeth Diogelwch Gwlad D, y mae’r unigolyn mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y pŵer tramor yn gwneud cais i unigolyn, gyda chanlyniadau ymhlyg i’w dad os na fydd yn cydymffurfio.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod yr unigolyn yn gwneud cyfathrebiad ag AS i ddylanwadu arnynt.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol. Felly mae’n ofynnol i’r unigolyn gofrestru.
Os byddai cyhoeddi’r cofrestriad hwn yn peri risg sylweddol o niwed difrifol i dad yr unigolyn, neu unigolyn arall, yna byddai eithriad i’r cyhoeddiad yn berthnasol. Gweler y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus am fwy o fanylion.
Enghraifft 5 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Gofynnir i gennad o Wlad E, a fu gynt yn aelod uchel ei safle o’r Llywodraeth, gan Bennaeth Gwladwriaeth Gwlad E hyrwyddo Cytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng y DU a Gwlad E. Mae’r gennad yn mynychu cynhadledd ac yn siarad â Gweinidog y DU am fanteision FTA. Mae Llywodraeth Gwlad E yn talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â mynychu’r gynhadledd.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod Pennaeth Gwladwriaeth Gwlad E, y mae’r gennad mewn trefniant ag ef, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 yn cael ei fodloni gan fod Pennaeth y Wladwriaeth yn gofyn i’r gennad draddodi araith a bod Llywodraeth Gwlad E yn talu’r treuliau.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod y gennad yn gwneud cyfathrebiad i Weinidog i ddylanwadu ar ei benderfyniad.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r gennad gofrestru.
Enghraifft 6 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae endid yng Ngwlad F yn gyfrifol am roi cynllun atal twyll ar waith yn y wlad ac mae’n atebol i adran o’r llywodraeth am ei gynnydd. Mae’r endid yn ymrwymo i gontract gyda chwmni lobïo, sy’n cytuno i lobïo gweinidogion y llywodraeth i geisio’r achos dros greu cynlluniau atal twyll tebyg yn y DU.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod yr endid, y mae’r cwmni lobïo mewn trefniant ag ef, yn arfer swyddogaethau cyhoeddus ar ran y llywodraeth (sy’n gysylltiedig â chynllun atal twyll), ac felly’n golygu asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor.
Mae Amod 2 yn cael ei fodloni gan fod y cwmni lobïo yn ymrwymo i gontract gyda phŵer tramor.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod y cwmni lobïo yn cyfathrebu â gweinidogion y llywodraeth i ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol. Felly mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo gofrestru.
Enghraifft 7 (angen cofrestru) (cyfathrebu): Mae sefydliad iaith a diwylliant sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Gwlad G yn derbyn cyllid gan y Llywodraeth i hyrwyddo addysgu iaith Gwlad G mewn ysgolion uwchradd yn y DU. Mae’r sefydliad yn cysylltu ag uwch swyddogion o’r Adran Addysg gan geisio dylanwadu arnynt i gynyddu addysgu iaith Gwlad G mewn ysgolion uwchradd yn y DU, ac yn cynnig adnoddau iddynt wneud hynny.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod Llywodraeth Gwlad G, y mae’r sefydliad gwleidyddol a diwylliannol mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 yn cael ei fodloni gan fod Llywodraeth Gwlad G wedi rhoi cyfarwyddyd cyffredinol i’r sefydliad i hyrwyddo achos, sy’n anochel yn cynnwys cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod y sefydliad yn gwneud cyfathrebiad i uwch weision sifil er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau adran o’r llywodraeth.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r sefydliad iaith a diwylliant gofrestru.
Enghraifft 8 (angen cofrestru) (cyfathrebiad cyhoeddus): Mae cwmni lobïo yn ymrwymo i gontract gyda’r Weinyddiaeth Materion Amgylcheddol yng Ngwlad H, sy’n gobeithio perswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno polisi newydd. Fel rhan o’r contract, cyfarwyddir y cwmni lobïo i baratoi a chyhoeddi erthyglau sy’n amlinellu’r achos dros y polisi newydd hwn. Maent yn ysgrifennu’r erthyglau, heb gyfeirio at eu trefniant gyda’r Weinyddiaeth Materion Amgylcheddol.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod y Weinyddiaeth Materion Amgylcheddol yng Ngwlad H, y mae’r cwmni lobïo mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 yn cael ei fodloni gan fod contract yn cael ei lofnodi rhwng y Weinyddiaeth Materion Amgylcheddol a’r cwmni lobïo.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod y cwmni lobïo yn gwneud cyfathrebiad cyhoeddus i ddylanwadu ar benderfyniad llywodraeth (ac nid yw’n rhesymol glir bod y cyfathrebiad yn cael ei wneud ar gyfarwyddyd pŵer tramor).
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo gofrestru. Pe byddent wedi nodi’n glir ar yr erthyglau bod eu cyhoeddiad wedi’i gyfarwyddo gan y Weinyddiaeth Materion Amgylcheddol, yna ni fyddai angen iddynt gofrestru.
Enghraifft 9 (angen cofrestru) (darparu arian, nwyddau neu wasanaethau): Mae Swyddfa Materion Tramor Gwlad I yn cysylltu ag entrepreneur yn y DU i ofyn iddo ddefnyddio perthnasoedd i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth ar faterion masnach a fydd yn effeithio ar fuddsoddiad o Wlad I yn y DU. Mae’r Swyddfa Materion Tramor yn cynnig symiau sylweddol o arian iddo am wneud hynny, y mae’n eu buddsoddi mewn adeiladu canolfan ddiwylliannol newydd, sydd wedi bod yn uchelgais hirhoedlog i’r AS lleol. Bwriad yr entrepreneur, trwy wneud hynny, yw meithrin perthynas â’r AS er mwyn dylanwadu ar bleidleisio ar y materion sy’n ymwneud â Gwlad I yn y ddeddfwriaeth.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod Swyddfa Materion Tramor Gwlad I, y mae’r entrepreneur mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 yn cael ei fodloni gan fod y Swyddfa Materion Tramor yn gwneud cais i’r entrepreneur ac yn cynnig arian i gefnogi ei weithgareddau.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod yr entrepreneur yn darparu nwyddau a gwasanaethau i unigolion yn etholaeth yr AS gyda’r bwriad o ddylanwadu ar yr AS.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau yn berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r entrepreneur gofrestru.
Enghraifft 10 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor): Mae myfyriwr tramor yn derbyn ysgoloriaeth a ariennir gan Lywodraeth Gwlad J i astudio PhD yn y DU. Tra yn y DU, mae’r myfyriwr yn cydweithio â melin drafod, gan eu cynorthwyo i ddatblygu cyfres o argymhellion polisi cyhoeddus, y maent yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn cynhadledd.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni gan fod Llywodraeth Gwlad J, y mae’r myfyriwr mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Nid yw Amod 2 yn cael ei fodloni oherwydd, er bod y pŵer tramor yn ariannu’r astudiaethau PhD, nad yw’r myfyriwr wedi cael cyfarwyddyd gan y pŵer tramor i gymryd rhan yng ngweithgaredd y melin drafod.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni gan fod y myfyriwr (ar y cyd â’r melin drafod) yn gwneud cyfathrebiad i Lywodraeth y DU i ddylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth a newidiadau polisi.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.
Gan nad yw amod 2 yn cael ei fodloni, nid oes angen i’r myfyriwr gofrestru.
Enghraifft 11 (nid oes angen cofrestru) (dim trefniant gyda, na chyfarwyddyd gan, bŵer tramor): Mae busnes tramor preifat yn ceisio buddsoddi yn y DU ac yn dymuno i reoleiddio’r DU yn y diwydiant y mae’n gweithredu ynddo gael ei leihau. Mae’n llofnodi contract gyda chwmni lobïo, ar y cytundeb y bydd y cwmni lobïo yn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU i lacio rheoliadau yn y diwydiant. Mae’r cwmni lobïo yn ymgysylltu â Gweinidog a Chynghorydd Arbennig mewn cynhadledd diwydiant ac yn tynnu sylw at y materion a achosir gan y rheoliadau.
Nid yw Amod 1 wedi’i fodloni gan fod y cwmni lobïo mewn trefniant gyda busnes tramor preifat, nid pŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw gyfarwyddyd gan bŵer tramor, ond yn hytrach busnes tramor preifat.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y cwmni lobïo yn cyfathrebu â Gweinidog a Chynghorydd Arbennig er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth ar reoliadau.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Gan nad yw amodau 1 a 2 wedi’u bodloni, nid oes angen i’r cwmni lobïo gofrestru.
Enghraifft 12 (nid oes angen cofrestru) (dim trefniant gyda, na chyfarwyddyd gan, bŵer tramor): Mae sefydliad amlochrog yn cynnal cynhadledd yn y DU, gyda’r nod o annog llywodraethau sy’n mynychu i ddatblygu polisïau mwy effeithiol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd. Mae’r sefydliad amlochrog yn cydweithio â melin drafod i gytuno ar argymhellion polisi i’w cyflwyno yn y gynhadledd. Yna mae’n gwahodd cynrychiolydd o’r melin drafod i draddodi araith ac amlinellu’r argymhellion polisi hyn ar gyfer llywodraethau sy’n mynychu (gan gynnwys Llywodraeth y DU), yn gyfnewid am daliad untro.
Nid yw Amod 1 wedi’i fodloni gan nad yw’r sefydliad amlochrog yn bŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni oherwydd, er bod y sefydliad amlochrog yn cyfarwyddo’r cynrychiolydd o’r melin drafod, nad oes unrhyw gyfarwyddyd gan bŵer tramor.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod cynrychiolydd y melin drafod yn gwneud cyfathrebiad i Lywodraeth y DU i ddylanwadu ar benderfyniadau ar bolisi.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol. Gan nad yw amodau 1 a 2 wedi’u bodloni, nid oes angen i gynrychiolydd y melin drafod gofrestru.
Enghraifft 13 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor): Gwahoddir cwmni gweithgynhyrchu bwyd i gynhadledd a gynhelir gan lysgenhadaeth Gwlad K yn y DU sy’n ymwneud â risgiau iechyd rhai mathau o fwydydd. Mae’r cwmni’n siarad â Gweinidog Gwladol Amaethyddiaeth a Bwyd y DU (sydd hefyd yn mynychu’r gynhadledd) yn tynnu sylw at fanteision iechyd eu brandiau eu hunain ac yn ceisio sicrhau nad oes rheoleiddio pellach yn cael ei orfodi yn erbyn eu diwydiant.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod llysgenhadaeth Gwlad K, y mae’r cwmni gweithgynhyrchu bwyd mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni gan, er bod y gynhadledd yn cael ei chynnal gan bŵer tramor, nad oes unrhyw gyfarwyddyd gan y pŵer tramor i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y cwmni gweithgynhyrchu bwyd yn gwneud cyfathrebiad at Weinidog yn ceisio dylanwadu ar benderfyniad llywodraeth sy’n ymwneud â rheoleiddio ar y diwydiant bwyd.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Gan nad yw amod 2 wedi’i fodloni, nid oes angen i’r cwmni gofrestru.
Enghraifft 14 (nid oes angen cofrestru) (gweithgareddau nad ydynt yn digwydd yn y DU): Mae ymgynghorydd yn dod i drefniant gyda’r Adran Iechyd yng Ngwlad L, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth yn fyd-eang am glefyd sy’n effeithio ar blant yn y wlad. Mae’r ymgynghorydd yn cytuno i lobïo cysylltiadau yn fyd-eang a byddai’n cael comisiwn pe bai’n llwyddo i negodi cyflwyno brechlyn yn rhyngwladol i atal lledaeniad y clefyd. Mae’r ymgynghorydd yn mynychu cynhadledd yng Ngwlad L lle mae gweinidogion llywodraeth y DU a gweinidogion llywodraeth eraill yn bresennol ac yn cyflwyno pam y dylid defnyddio’r brechlyn fel brechlyn safonol ar gyfer babanod newydd-anedig o fewn gwasanaethau iechyd a redir gan y wladwriaeth.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod yr Adran Iechyd yng Ngwlad L, y mae’r ymgynghorydd mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 wedi’i fodloni gan fod yr ymgynghorydd wedi’i gyfarwyddo i godi ymwybyddiaeth am y clefyd ac yn cael comisiwn am ei weithgareddau.
Nid yw Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cael eu cynnal yng Ngwlad B ac nid yn y DU.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.
Gan nad yw amod 3 wedi’i fodloni, nid oes angen i’r ymgynghorydd gofrestru. Fodd bynnag, pe bai unrhyw weithgareddau dylanwad gwleidyddol dilynol yn cael eu cynnal yn y DU, yna byddai amod 3 yn cael ei fodloni a byddai’n ofynnol i’r ymgynghorydd gofrestru.
Pennod 8: Gwybodaeth sydd ei hangen wrth gofrestru
63. Mae’r wybodaeth sydd ei hangen wrth gofrestru (fel y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau) wedi’i nodi yn y canllawiau ar y wybodaeth sydd ei hangen wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus. Bydd y wybodaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar union amgylchiadau’r cofrestrai, y trefniant a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal. Bydd y ffurflen gofrestru ar-lein yn cyfeirio cofrestreion i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain.
64. Bydd angen y wybodaeth ganlynol ym mhob achos:
- Disgrifiad o natur a ffurf y trefniant;
- Enw’r pŵer tramor sy’n cyfarwyddo’r gweithgaredd;
- Disgrifiad o’r gweithgareddau i’w cynnal, gan gynnwys eu natur, eu pwrpas ac unrhyw ganlyniadau a geisir;
- Manylion dyddiadau cychwyn a gorffen y gweithgareddau;
- Manylion yr unigolion neu’r endidau a fydd yn cynnal y gweithgareddau; a
- Manylion sy’n ymwneud â’r cofrestrai (gan gynnwys cyfeiriad a manylion cyswllt).
Pennod 9: Gofynion i ddiweddaru cofrestru pan fydd “newid sylweddol”
65. Yn unol ag adran 74(5) o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023, lle mae newid sylweddol i drefniant cofrestredig, rhaid diweddaru’r wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru o fewn 14 diwrnod calendr, gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r newid yn dod i rym. Er enghraifft, os yw’r newid yn dod i rym ar 1 Ionawr, rhaid cofrestru’r newid erbyn 14 Ionawr.
66. Fodd bynnag, nid yw’r gofyniad hwn o reidrwydd yn golygu bod angen diweddaru cofrestriadau bob tro y trefnir neu y cynhelir gweithgaredd newydd. Pan fo gweithgaredd yn cael ei ailadrodd a’i gynnal yn yr un ffordd ac at yr un diben â’r gweithgaredd gwreiddiol a gofrestrwyd, nid yw hynny’n sbarduno gofyniad i gofrestru newid sylweddol.
67. Dyma enghreifftiau o amgylchiadau sy’n gyfystyr â newid sylweddol:
- Newid yn natur neu ffurf y trefniant, er enghraifft lle mae trefniant quid pro quo anffurfiol yn cael ei ffurfioli trwy gontract.
- Lle mae math newydd o weithgaredd (o fewn y rhai a restrir ym maen prawf 1 o amod 3) yn cael ei gynnal. Er enghraifft, lle roedd trefniant cofrestredig yn wreiddiol yn ymwneud â gweithgareddau cyfathrebu yn unig, ond a esblygodd wedi hynny i gynnwys darparu arian, nwyddau neu wasanaethau hefyd.
- Newid yn y materion neu’r personau y mae’r gweithgaredd yn ceisio dylanwadu arnynt (er enghraifft, lle roedd gweithgareddau cofrestredig yn ymwneud yn benodol â darn unigol o ddeddfwriaeth, ond a esblygodd wedi hynny i gynnwys maes polisi gwahanol).
- Newid yn yr unigolyn neu’r endid sy’n cynnal y gweithgareddau.
- Newid sylweddol yn y dyddiad cychwyn neu orffen disgwyliedig ar gyfer gweithgareddau (er enghraifft, oedi neu estyniad sylweddol i weithgareddau, wrth ystyried hyd cyffredinol y gweithgareddau).
- Daw pŵer tramor ychwanegol o wlad wahanol yn rhan o’r trefniant.
68. Nid yw’r amgylchiadau canlynol yn gyfystyr â newid sylweddol:
- Cyfathrebiad i olynydd swyddog cyhoeddus, lle mae cyfathrebiad i’r swyddog cyhoeddus gwreiddiol eisoes wedi’i gofrestru.
- Mae swyddog cyhoeddus ychwanegol yn cael ei gopïo i mewn i, neu ei gynnwys mewn, gweithgaredd cyfathrebu sydd eisoes wedi’i gofrestru.
- Math gwahanol o gyfathrebiad ar yr un mater (er enghraifft, lle mae gohebiaeth e-bost yn esblygu i gynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb).
- Math gwahanol o ddosbarthiad (er enghraifft, lle mae taliadau ariannol yn esblygu i gynnwys darparu gwasanaethau hefyd).
- Trosglwyddo’r trefniant o un rhan o’r pŵer tramor i ran arall, lle mae’r ddwy ran o’r pŵer tramor yn yr un wlad (er enghraifft, trosglwyddo’r trefniant o Adran Lywodraeth A Gwlad X i Adran Lywodraeth B Gwlad X).
69. Diben y gofyniad i ddiweddaru gwybodaeth pan fydd newid sylweddol yw sicrhau bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gywir ac yn gyflawn. Felly, ni fyddai newidiadau i drefniant neu weithgareddau cofrestradwy yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrai ddiweddaru newid sylweddol, os yw’r wybodaeth a ddarparwyd wrth gofrestru yn dal i fod yn gywir ac yn gyflawn. Er enghraifft, nid yw newidiadau bach i fanylion y trefniant yn sbarduno gofyniad i ddiweddaru newid sylweddol, os yw’r disgrifiad cyffredinol o’r trefniant a ddarparwyd wrth gofrestru yn parhau i fod yn gywir. Wrth gofrestru, argymhellir eich bod yn ystyried sut y gall gweithgareddau esblygu dros amser wrth ddisgrifio eich gweithgareddau, er mwyn sicrhau nad yw’r wybodaeth yn dyddio’n hawdd.
Enghreifftiau o gydymffurfiaeth
Achos 1 (cofrestriad untro heb unrhyw ddiweddariadau angenrheidiol) (yn seiliedig ar enghraifft 1 o bennod 7):
Mae’r ymgynghorydd yn cofrestru ei drefniant gyda diplomydd Gwlad A, gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol wrth gofrestru:
Natur a ffurf y trefniant: Trefniant quid-pro quo anffurfiol gyda’r cynnig o gyfle i fynychu cynhadledd â’r holl gostau wedi’u talu yng Ngwlad A.
Gweithgareddau i’w cynnal: Cyfathrebu ag uwch weision sifil drwy e-bost.
Diben a chanlyniad a geisir o’r gweithgareddau: I gyflwyno’r achos dros statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A.
Yna mae’r ymgynghorydd yn cynnal y gweithgareddau isod:
Mae’r ymgynghorydd yn anfon e-bost at uwch was sifil yn y Swyddfa Gartref yn cyflwyno’r achos dros statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i grybwyll yn benodol wrth gofrestru, felly nid oes angen unrhyw gamau pellach i gydymffurfio â FIRS.
Yn dilyn yr e-bost, mae’r uwch was sifil yn cytuno i gyfarfod â’r ymgynghorydd i drafod mater fisâu i ddinasyddion Gwlad A. Er nad yw’r gweithgaredd hwn wedi’i grybwyll yn benodol wrth gofrestru, mae math a phwrpas cyffredinol y gweithgaredd yn cyd-fynd â’r wybodaeth a ddarparwyd wrth gofrestru. Felly nid yw hwn yn newid sylweddol, felly nid oes angen unrhyw gamau pellach i gydymffurfio â FIRS.
Yn dilyn y cyfarfod, mae’r ymgynghorydd yn ysgrifennu llythyr at uwch was sifil a chynghorydd arbennig yn y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu, gan amlinellu manteision statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i grybwyll yn benodol wrth gofrestru, felly nid oes angen unrhyw gamau pellach i gydymffurfio â FIRS.
Yn yr enghraifft hon, mae cofrestriad untro (heb unrhyw ddiweddariadau i’r cofrestriad na chofrestriadau ailadroddus) yn gyfystyr â chydymffurfiaeth.
Achos 2 (diweddariadau i’r trefniant a’r gweithgareddau) (yn seiliedig ar enghraifft 2 o bennod 7):
Mae’r cwmni lobïo yn cofrestru eu trefniant gyda’r Weinyddiaeth Diogelwch o Wlad B, gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol wrth gofrestru:
Natur a ffurf y trefniant: Contract gyda £3200 i’w dalu ar ôl cwblhau’r gweithgareddau.
Gweithgareddau i’w cynnal: Cyfathrebu â gweinidogion a gwleidyddion trwy lythyrau, e-byst a chyfarfodydd.
Diben a chanlyniad a geisir o weithgareddau: Nodi’r angen i’r DU gefnogi ymdrechion rhyfel Gwlad X.
Yna mae’r cwmni lobïo yn cynnal y gweithgareddau isod:
Mae’r cwmni lobïo yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn yn amlinellu’r bygythiad y mae Gwlad X yn ei wynebu a’r arfau y gallai’r DU eu darparu i wrthweithio’r bygythiad hwnnw. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i grybwyll yn benodol wrth gofrestru, felly nid oes angen unrhyw gamau pellach i gydymffurfio â FIRS.
Mae’r cwmni lobïo yn ymwybodol bod plaid wleidyddol yr wrthblaid yn cefnogi ymdrechion rhyfel Gwlad X. Felly mae’r cwmni’n dymuno ceisio dylanwadu ar etholwyr y DU i bleidleisio dros y blaid wleidyddol honno. Felly mae’n ysgrifennu erthygl i’w chyhoeddi ym mhapur newydd y DU yn nodi sut y byddai pleidleisio dros yr wrthblaid mewn etholiad sydd ar ddod yn gwella diogelwch cenedlaethol y DU. Nid yw’n nodi yn yr erthygl ei fod mewn trefniant gyda phŵer tramor. Gan fod hwn yn fath newydd o weithgaredd sydd bellach yn ceisio dylanwadu ar fater gwahanol (etholiad), mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd wrth gofrestru.
Mae cyflogai newydd yn ymuno â’r cwmni lobïo ac yn cael ei ddynodi’n brif lobïwr ar gyfer y contract. Er bod hyn yn cynrychioli newid yn yr unigolion sy’n cyflawni’r gweithgareddau, nid yw’n cynrychioli newid yn yr endid sy’n cyflawni’r gweithgareddau. Felly nid oes angen unrhyw gamau pellach i gydymffurfio â FIRS.
Mae’r cwmni lobïo a’r Weinyddiaeth Diogelwch o Wlad B yn cytuno i ymestyn y contract am flwyddyn arall. Rhaid i’r cwmni lobïo ddiweddaru dyddiad gorffen y trefniant a ddarparwyd wrth gofrestru.
Yn yr enghraifft hon, mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd wrth gofrestru ar adegau priodol.
Pennod 10: Canllawiau ar gyfer mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth
70. Mae’r adran hon ar gyfer mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth ac endidau tebyg. Dylai’r rhai sy’n gweithio mewn partneriaethau â mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth weld pennod 11.
71. Nid yw perchnogaeth, cyllid na dull arall o reoli gan bŵer tramor ynddo’i hun yn sbarduno gofyniad cofrestru ar gyfer y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth, ac nid yw’n gwneud y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn bŵer tramor. Dim ond pan fydd menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cael ei chyfarwyddo gan bŵer tramor i gynnal, neu drefnu, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU y bydd gofyn iddynt gofrestru.
72. Pan fydd cyflogeion pŵer tramor (er enghraifft, gweision sifil) yn rhan o fwrdd y cwmni, a bod y bwrdd (yn ei gyfanrwydd) yn cyfarwyddo’r fenter i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol:
- Nid oes angen cofrestru os yw’r gweithgareddau dylanwad gwleidyddol hynny er budd masnachol y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth ei hun ac nad oes cyfarwyddyd penodol gan y pŵer tramor.
- Efallai y bydd angen cofrestru os yw’r gweithgareddau dylanwad gwleidyddol hynny’n bennaf i hyrwyddo buddiannau’r pŵer tramor.
- Efallai y bydd angen cofrestru os yw system wleidyddol gwlad y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn caniatáu i’r Llywodraeth gael rheolaeth effeithiol dros y bwrdd (er enghraifft, os gall aelodau’r Llywodraeth o’r bwrdd ddiystyru pleidleisiau aelodau eraill y bwrdd), a bod y Llywodraeth mewn gwirionedd yn arfer y rheolaeth hon i gyfarwyddo gweithgareddau yn y DU neu os yw’r bygythiad iddynt arfer y rheolaeth hon yn dylanwadu ar benderfyniad y bwrdd.
73. Pan fydd menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cynnal gweithgareddau y mae’n penderfynu arnynt ei hun, heb gyfarwyddyd gan bŵer tramor, nid oes angen cofrestru.
Enghraifft 15a (nid oes angen cofrestru) (cyfarwyddyd gan y bwrdd heb fod yn gyfarwyddyd gan bŵer tramor): Prif fusnes menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth o Wlad M yw cynhyrchu a gosod paneli solar. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun newydd sy’n caniatáu i aelwydydd dderbyn cyllid ar gyfer paneli solar ar eu cartrefi, a fyddai’n cael eu gosod gan gyflenwr a gymeradwywyd gan y llywodraeth. Mae’r bwrdd, sydd ag aelodau o Lywodraeth Gwlad M arno, yn cyfarwyddo’r cwmni i wneud cais i ddod yn gyflenwr ar gyfer y cynllun. Mae’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cyflwyno ei chais ac, ar wahân, yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net i amlinellu sut y byddai’r cwmni’n darparu gwasanaeth rhagorol.
Enghraifft 15b (angen cofrestru) (cyfarwyddyd gan y bwrdd sy’n gyfarwyddyd gan y pŵer tramor): Prif fusnes menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth o Wlad M yw cynhyrchu a gosod paneli solar ac mae gweithwyr Llywodraeth Gwlad M yn eistedd ar fwrdd y cwmni. Mae’r gweithwyr hyn o Lywodraeth Gwlad M yn cyfarwyddo’r cwmni i lobïo Llywodraeth y DU i ddileu sancsiynau yn erbyn Gwlad M, ac mae gweddill y bwrdd yn cytuno. Yna mae cyfloai y cwmni’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor yn nodi’r achos dros godi sancsiynau.
Mae Amod 1 yn cael ei fodloni yn y ddau enghraifft gan fod y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn eiddo i, ac felly mewn trefniant gyda, Llywodraeth Gwlad M sy’n bŵer tramor.
Amod 2:
- nid yw’n cael ei fodloni yn enghraifft 15a gan fod y cyfarwyddyd yn dod o’r bwrdd cyfan, yn hytrach na Llywodraeth Gwlad M yn benodol, ac mae’r gweithgareddau’n bennaf er budd masnachol y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth ei hun;
- mae’n cael ei fodloni yn enghraifft 15b gan fod y cyfarwyddyd yn dod o aelodau’r bwrdd sy’n rhan o’r llywodraeth ac mae er budd y llywodraeth yn hytrach na budd y cwmni.
Mae Amod 3 yn cael ei fodloni yn y ddwy enghraifft gan fod y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn gwneud cyfathrebiad i weinidogion Llywodraeth y DU i ddylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth.
Mae Amod 4 yn cael ei fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Yn enghraifft 15b, mae’n ofynnol i’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth gofrestru. Nid oes angen cofrestru yn enghraifft 15a gan nad yw amod 2 yn cael ei fodloni.
Enghraifft 16 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor): Mae menter, sy’n eiddo i Lywodraeth Gwlad O ond sy’n gweithredu’n annibynnol arni, yn mynychu cynhadledd yn y DU lle mae uwch lunwyr polisi’r DU yn bresennol. Yn y gynhadledd, mae cynrychiolwyr o’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn siarad â Gweinidog o’r DU i dynnu sylw at fater mewn rheoleiddio’r DU sy’n effeithio ar eu diwydiant ac yn awgrymu newidiadau polisi posibl.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod y fenter yn eiddo i, ac felly mewn trefniant â, Llywodraeth Gwlad O, sy’n bŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn gweithredu’n annibynnol ar y pŵer tramor. Nid yw perchnogaeth na chyllid gan bŵer tramor, ynddo’i hun, yn gyfystyr â chyfarwyddyd.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod cynrychiolwyr y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn gwneud cyfathrebiad i Weinidog o’r DU er mwyn dylanwadu ar benderfyniad ganddynt ynghylch rheoliadau.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol
Gan nad yw amod 2 wedi’i fodloni, nid oes angen i’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth gofrestru.
Pennod 11: Canllawiau i’r rhai sy’n gweithio gyda mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth ac endidau eraill sydd â chysylltiadau agos â phwerau tramor
74. Nid oes rhaid i’r rhai sy’n cael eu cyfarwyddo gan fentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU gofrestru. Dim ond pe baent yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan bŵer tramor y byddai’n rhaid iddynt gofrestru.
75. Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar yr hyn sy’n gyfystyr â phŵer tramor ym mhennod 3 (gweler amod 1).
76. Dylai’r rhai sy’n gweithredu yn unol â threfniant dylanwad tramor rhwng pŵer tramor a menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth weld pennod 6.
Enghraifft 17 (nid oes angen cofrestru) (trefniant gyda menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth): Mae menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yng Ngwlad P yn gyfrifol am gynhyrchu a gwerthu cydrannau ar gyfer adeiladu rheilffyrdd. Mae’n ymrwymo i gontract gydag ymgynghorydd, sy’n cytuno i lobïo gweinidogion Llywodraeth y DU i gyflwyno’r achos dros gyfranogiad y fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth mewn prosiect rheilffordd cyflym yn y DU.
Nid yw Amod 1 wedi’i fodloni gan fod yr ymgynghorydd mewn trefniant gyda menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth, yn hytrach na phŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y cyfarwyddyd yn dod o fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth, yn hytrach na phŵer tramor.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod yr ymgynghorydd yn gwneud cais i gyfathrebu â gweinidogion Llywodraeth y DU i ddylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth ynghylch y prosiect rheilffordd cyflym.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol. Gan nad yw amodau 1 a 2 wedi’u bodloni, nid oes angen i’r ymgynghorydd gofrestru.
Pennod 12: Canllawiau sy’n ymwneud â chynadleddau a byrddau crwn sy’n llunio polisïau
77. Gellir ystyried bod y rhai sy’n rhoi cyflwyniadau neu’n gwneud areithiau mewn byrddau crwn neu gynadleddau sy’n llunio polisïau yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, os oes uwch swyddog cyhoeddus neu wleidydd yn y gynulleidfa.
78. Fodd bynnag, dim ond os yw’r cyflwyniad neu’r araith yn rhan o drefniant ehangach gyda phŵer tramor i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU (neu fater gwleidyddol arall) y byddai angen iddynt gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol. Byddai angen iddynt wybod, neu ddisgwyl yn rhesymol, bod uwch swyddog cyhoeddus neu wleidydd yn y gynulleidfa a bwriadu iddynt gael eu dylanwadu fel rhan o’r cytundeb ehangach hwnnw cyn i ofynion cofrestru fod yn berthnasol.
Enghraifft 18 (angen cofrestru) (mae mynychu’r bwrdd crwn yn rhan o drefniant cofrestru ehangach): Mae llysgenhadaeth Gwlad Q yn y DU wedi comisiynu melin drafod yn ffurfiol i gynnal prosiect ymchwil â thâl, sy’n cynnig opsiynau rheoleiddio AI posibl ar gyfer llywodraeth y DU. Gan fod gan Wlad Q ddiwydiant AI mawr, mae’r llysgenhadaeth yn gobeithio y bydd y prosiect yn argyhoeddi’r llywodraeth i gymryd mesurau mwy targedig yn erbyn meysydd penodol o AI, yn hytrach na rheoleiddio’r diwydiant cyfan. Mae’r felin drafod yn cyflwyno canfyddiadau eu hymchwil i uwch weision sifil y DU mewn cynhadledd a gynhelir gan y llysgenhadaeth.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod llysgenhadaeth Gwlad Q yn y DU, y mae’r melin drafod mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y felin drafod yn cael ei chomisiynu’n ffurfiol i gynnal prosiect ymchwil â thâl.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y felin drafod yn cyfathrebu ag uwch weision sifil i ddylanwadu ar reoleiddio AI.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Felly mae’n ofynnol i’r felin drafod gofrestru eu trefniant ehangach (i gynnal ymchwil a’i gyflwyno i uwch weision sifil i ddylanwadu ar reoleiddio AI).
Enghraifft 19 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor): Mae llysgenhadaeth Gwlad R yn y DU yn cynnal cynhadledd yn y DU ar reoleiddio AI, ac mae’n gwahodd uwch swyddogion y DU a melin drafod i roi cyflwyniadau iddi. Yn ystod cyflwyniad y felin drafod, maent yn cyflwyno canfyddiadau o’u hymchwil diweddar ac yn cynnig opsiynau rheoleiddio AI posibl ar gyfer llywodraethau sy’n mynychu.
Mae Amod 1 wedi’i fodloni gan fod llysgenhadaeth Gwlad R yn y DU, y mae’r felin drafod mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Nid yw Amod 2 wedi’i fodloni gan fod y felin drafod yn cael ei gwahodd i roi cyflwyniad yn unig, yn hytrach na chael ei chyfarwyddo i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn ffordd benodol.
Mae Amod 3 wedi’i fodloni gan fod y felin drafod yn gwneud cyfathrebiad ag uwch swyddogion y DU i ddylanwadu ar reoleiddio AI.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni gan nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.
Gan nad yw amod 2 wedi’i fodloni, nid oes angen i’r melin drafod gofrestru.
Hwyluswyr trydydd parti cynadleddau
79. Efallai y bydd yn rhaid i drefnwyr trydydd parti cynadleddau ar gyfer pwerau tramor gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol os ydynt yn chwarae rhan weithredol wrth drefnu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, er enghraifft, pe byddent yn trefnu siaradwyr i roi cyflwyniadau at ddibenion cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol yn y DU.
80. Ni fyddai angen i drefnwyr trydydd parti cynadleddau sydd ond yn darparu llwyfan ar gyfer y gynhadledd (er enghraifft, trwy drefnu lleoliad, gwasanaethau arlwyo a chyfleusterau cyffredinol) gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol.
Enghraifft 20a (angen cofrestru) (hwylusydd cynhadledd yn trefnu i weithgareddau dylanwad gwleidyddol ddigwydd): Mae llysgenhadaeth Gwlad S yn y DU yn contractio hwylusydd cynhadledd i drefnu digwyddiad gyda llywodraethau, rheoleiddwyr a busnesau yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, er mwyn trafod sut i atal argyfyngau ariannol yn y dyfodol. Mae hwylusydd y gynhadledd yn nodi nifer o siaradwyr i gyflwyno yn y gynhadledd ac, ar y cyd â’r llysgenhadaeth, yn cysylltu â’r siaradwyr i gytuno ar bynciau cyflwyno. Mae’r areithiau i gynnwys cyflwyniad cynigion polisi a dylai uwch weision sifil y DU fynychu’r gynhadledd.
Enghraifft 20b (nid oes angen cofrestru) (darparu cyfleusterau nad ydynt yn gyfystyr â threfnu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol): Mae llysgenhadaeth Gwlad S yn y DU yn contractio hwylusydd cynhadledd i drefnu digwyddiad gyda llywodraethau, rheoleiddwyr a busnesau yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, er mwyn trafod sut i atal argyfyngau ariannol yn y dyfodol. Mae hwylusydd y gynhadledd yn trefnu’r logisteg ar gyfer y digwyddiad, gan ddarparu cyfleusterau cyflwyno a gwasanaethau arlwyo, fodd bynnag, mae’r siaradwyr a’r pynciau wedi’u trefnu gan lysgenhadaeth Gwlad S.
Mae Amod 1 yn y ddwy enghraifft gan fod llysgenhadaeth Gwlad S, y mae hwylusydd y gynhadledd mewn trefniant â hi, yn bŵer tramor.
Mae Amod 2 wedi’i fodloni yn y ddau enghraifft wrth i’r llysgenhadaeth lofnodi contract gyda hwylusydd y gynhadledd.
Amod 3:
Mae wedi’i fodloni yn enghraifft 20a wrth i hwylusydd y gynhadledd drefnu i gyfathrebiadau ddigwydd, gyda gweision sifil uwch yn y gynulleidfa, sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth.
Nid yw wedi’i fodloni yn enghraifft 20b gan nad yw darparu cyfleusterau cynhadledd yn gyfystyr â threfnu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol.
Mae Amod 4 wedi’i fodloni yn y ddau enghraifft gan nad oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Yn enghraifft 20a, mae’n ofynnol i hwylusydd y gynhadledd gofrestru. Nid oes angen cofrestru yn enghraifft 20b gan nad yw amod 3 wedi’i fodloni.
Pennod 13: Troseddau a chosbau
81. Mae’r troseddau canlynol o dan yr haen dylanwad gwleidyddol yn gosbadwy o hyd at 2 flynedd o garchar a/neu ddirwy:
- Methu â chofrestru trefniant cofrestradwy (adran 69(5) o’r ddeddfwriaeth);
- Cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, neu drefnu i eraill gynnal y gweithgareddau hyn, yn unol â threfniant cofrestradwy, lle nad yw gofynion cofrestru wedi’u bodloni (adran 71);
- Cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol heb eu cofrestru ar gyfer pŵer tramor wrth weithredu o dan gamliwiad (adran 72);
- Methu â diweddaru cofrestriad o fewn 14 diwrnod lle mae newid sylweddol i’r wybodaeth a gofrestrwyd (adran 74(8));
- Methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth (adran 75(8));
- Darparu gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol (adran 77);
- Cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, neu drefnu i eraill gynnal y gweithgareddau hyn, yn unol â threfniant cofrestradwy, lle mae gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol wedi’i darparu (adran 78(2)).
82. Dim ond pan fo’r person y mae’n ofynnol iddo gofrestru yn gwybod bod y trefniant o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol i gofrestru y mae’r drosedd o dan adran 69(5) yn berthnasol. Pan nad oedd y person yn gwybod bod hyn yn wir (er enghraifft, os nad oeddent yn gwybod bod y person yr oeddent yn y trefniant gydag ef yn bŵer tramor), yna ni fyddant yn cyflawni’r drosedd.
83. Dim ond pan fo’r person sy’n cynnal neu’n trefnu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn gwybod, neu, o ystyried materion eraill y mae’n hysbys iddynt yn rhesymol, y dylai wybod, bod y gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn rhan o drefniant cofrestradwy y mae’r drosedd o dan adran 71 yn berthnasol.
84. Mewn achosion llys sy’n ymwneud â’r troseddau o dan adrannau 71 a 72, mae’n amddiffyniad i’r person dan sylw arddangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol ymarferol i wirio bod y trefniant neu’r gweithgareddau wedi’u cofrestru ac, o ganlyniad, eu bod yn credu’n rhesymol ei fod wedi’i gofrestru. Mae rhagor o fanylion i’w cael ym mhennod 6.
85. Dim ond pan fydd y person sy’n darparu’r wybodaeth yn gwybod, neu, o ystyried materion eraill y mae’n hysbys iddo yn rhesymol, y dylai wybod, fod y wybodaeth yn ffug, yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol y mae’r troseddau o dan adran 77 yn berthnasol.
86. Dim ond pan fydd y person yn gwybod, neu, o ystyried materion eraill y mae’n hysbys iddo yn rhesymol, y dylai wybod, fod y trefniant o fath sy’n gofyn am gofrestru a bod gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol wedi’i darparu y mae’r drosedd o dan 78(2) yn berthnasol. Os na allai’r person fod wedi gwybod bod y wybodaeth a ddarparwyd yn ffug, yn anghywir neu’n gamarweiniol, yna ni fydd yn cyflawni’r drosedd. Ni fyddai’r drosedd yn berthnasol pe bai’r wybodaeth yn cael ei diweddaru o fewn y ffenestr 14 diwrnod ar gyfer diweddaru newid sylweddol.
Pennod 14: Rhyngweithio rhwng y Cynllun a Deddf Tryloywder Lobïo 2014 / Cofrestr Lobïwyr Ymgynghorol
87. Mae gofynion FIRS a gofynion Deddf Tryloywder Lobïo 2014 ar wahân ac yn wahanol. Mae haen dylanwad gwleidyddol FIRS yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau gyda phwerau tramor i gynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol yn y DU, tra bod Deddf Tryloywder Lobïo 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion neu sefydliadau gofrestru os ydynt yn dymuno ymgymryd â lobïo ymgynghorol â thâl ar ran unrhyw drydydd parti.
88. Mae’r Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol yn ddeiliad swydd annibynnol sy’n gyfrifol am gadw a chyhoeddi’r Gofrestr Lobïwyr Ymgynghorol a gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar wefan Swyddfa’r Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol.
89. Pan fo trefniadau neu weithgareddau unigolyn neu endid yn bodloni gofynion y ddau gynllun, mae angen iddynt gofrestru gyda FIRS a’r Gofrestr Lobïwyr Ymgynghorol ar wahân.
Pennod 15: Esemptiadau rhag cofrestru
90. Fel y nodir yn Atodlen 15 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023, gall esemptiadau rhag cofrestru fod yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol.
Esemptiad 1: Y rhai sy’n rhan o drefniant Corff y Goron yn y DU (Atodlen 15 paragraff 1)
91. Nid oes angen cofrestru trefniadau pan fo’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r trefniant hwnnw. Mae hyn yn cynnwys trefniadau lle mae unrhyw unigolyn sy’n gweithredu ar ran y Goron (er enghraifft, gwas sifil), neu unrhyw endid sydd â statws y goron, yn rhan o’r trefniant hwnnw, gan gynnwys:
- Llywodraeth y DU,
- llywodraeth ddatganoledig (gan gynnwys llywodraethau’r Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon),
- adran o Lywodraeth y DU neu Lywodraeth ddatganoledig (gan gynnwys adrannau anweinidogol fel yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol a’r Swyddfa Twyll Difrifol),
- swyddog llywodraeth y DU neu lywodraeth ddatganoledig.
92. Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i drefniadau gyda chyrff cyhoeddus nad oes ganddynt Statws y Goron (megis Ymchwil ac Arloesi’r DU).
93. Dim ond pan fydd y Deyrnas Unedig yn barti gwirioneddol i’r trefniant gyda’r pŵer tramor y mae’r esemptiad yn berthnasol (er enghraifft, pe bai’n gytundeb amlochrog sy’n cynnwys y DU a’r pŵer tramor). Nid yw cyfranogiad Llywodraeth y DU yn y gweithgareddau yn golygu bod yr esemptiad yn berthnasol, oni bai bod Llywodraeth y DU hefyd yn barti i’r trefniant.
94. Yn yr un modd, lle mae Corff Coron y DU yn barti i ran o drefniant yn unig, efallai y bydd angen cofrestru’r rhan arall o’r trefniant o hyd. Er enghraifft, lle mae gan drefniant gyda phŵer tramor elfennau ffurfiol ac anffurfiol, a bod Corff Coron y DU yn barti i’r elfen ffurfiol yn unig, efallai y bydd angen cofrestru elfennau anffurfiol y trefniant o hyd os bodlonir yr holl amodau.
Enghreifftiau o amgylchiadau lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol
Enghraifft 21 (mae esemptiad yn berthnasol): Gwahoddir Pennaeth y Wladwriaeth o Wlad T i ymweld â’r DU ar ymweliad gwladol, yng nghwmni dirprwyaeth fusnes. Mae’r Weinyddiaeth Fasnach o Wlad T yn gwahodd cwmni modurol i fod yn rhan o’r ddirprwyaeth fusnes, gyda’r disgwyliad y bydd yn defnyddio’r cyfle i siarad ag uwch weision sifil y DU a chynghorwyr arbennig ynghylch yr angen am newidiadau polisi i ganiatáu cyflwyno cerbydau hunan-yrru ar draffyrdd y DU. Mae Llywodraeth y DU yn cymeradwyo’r gwahoddiad i gynrychiolwyr y cwmni modurol fod yn rhan o’r ddirprwyaeth fusnes. Er bod y cwmni modurol yn cael ei gyfarwyddo i gynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol gan bŵer tramor, mae’r DU yn rhan o’r trefniant hwn, ac felly nid oes angen i’r cwmni modurol gofrestru.
Enghraifft 22 (mae esemptiad yn berthnasol): Cynhelir fforwm blynyddol sefydliad amlochrog yn y DU, gyda gweinidogion a swyddogion uwch y DU yn bresennol. Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i bob Llywodraeth sy’n mynychu enwebu mynychwyr a siaradwyr i’w cynrychioli. Mae Llywodraeth Gwlad U yn enwebu NGO sy’n canolbwyntio ar leddfu tlodi plant i gyflwyno yn y fforwm, gan ofyn iddynt lobïo’r Llywodraethau sy’n mynychu am gymorth ychwanegol. Mae Llywodraeth y DU yn derbyn yr enwebiad hwn. Mae’r NGO yn cyflwyno yn y fforwm gan dynnu sylw at ddioddefaint plant yng Ngwlad U ac yn nodi’r achos pam y dylai llywodraethau (gan gynnwys llywodraeth y DU) ddarparu cymorth ychwanegol. Er bod y NGO wedi cael ei gyfarwyddo i gynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol gan bŵer tramor, mae’r DU yn rhan o’r trefniant hwn, ac felly nid oes angen i’r NGO gofrestru.
Enghraifft 23 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae Gweinyddiaeth Diogelwch Gwlad V yn ymrwymo i gontract gyda melin drafod, sy’n cytuno i gyflwyno’r achos i Lywodraeth y DU ynghylch pam y dylai grŵp gwahanol yng Ngwlad V gael ei wahardd gan Lywodraeth y DU fel grŵp terfysgol. Mae’r felin drafod yn anfon darn diweddar o ymchwil a gynhaliwyd ar y grŵp gwahanol at Weinidog y DU, sy’n derbyn gwahoddiad i gyfarfod â’r felin drafod i drafod eu hymchwil. Er bod Gweinidog y DU wedi derbyn y gwahoddiad i gyfarfod â’r felin drafod ac yn rhan o’r gweithgareddau, nid ydynt yn rhan o’r trefniant rhwng y felin drafod a Gweinyddiaeth Diogelwch Gwlad V, felly nid yw’r esemptiad yn berthnasol.
Esemptiad 2: Pwerau tramor (Atodlen 15 paragraff 2)
95. Nid yw’n ofynnol i bwerau tramor (yn ogystal â’u cyflogeion a’u deiliaid swyddi) gofrestru eu gweithgareddau eu hunain, ar yr amod eu bod yn agored ac yn onest ynglŷn â phwy y maent yn ei gynrychioli. Gweler pennod 3 amod 1 o’r canllawiau hyn am y diffiniad o bŵer tramor.
96. Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae person sy’n gweithredu ar ran y pŵer tramor yn gwneud camliwiad ynghylch pwy ydynt, neu’r swyddogaeth y maent yn gweithredu ynddi. Mae camliwiad yn cynnwys lle mae’r unigolyn yn honni ei fod yn rhywun arall, yn cynrychioli rhywun arall neu’n bod mewn rôl sy’n wahanol i’r un y maent ynddi. Gellir ei wneud trwy wneud datganiad neu drwy unrhyw fath arall o ymddygiad (gan gynnwys hepgoriad), a gall fod yn benodol neu’n oblygedig. Gallai hefyd gynnwys cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyfystyr â chamliwio, hyd yn oed os yw rhywfaint neu’r holl wybodaeth yn wir. Gallai hyn fod yn wir pe bai, er enghraifft, rhywun yn agored eu bod yn gweithio i bŵer tramor, ond heb sôn eu bod yn swyddog cudd-wybodaeth.
97. Mae gweithgareddau a gyflawnir yn uniongyrchol gan genhadaethau diplomyddol, swyddfeydd consylaidd a chenhadaethau parhaol gwladwriaethau tramor sydd wedi’u lleoli yn y DU i sefydliad rhyngwladol sydd wedi’i leoli yn y DU, yn ogystal â gweithgareddau swyddogol eu diplomyddion ac aelodau staff sy’n gweithio’n lleol, wedi’u cynnwys yn yr esemptiad hwn.
Enghreifftiau o amgylchiadau lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol
Enghraifft 24 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae swyddog o asiantaeth Llywodraeth Gwlad W yn cyfathrebu ag uwch swyddogion y DU, gan geisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch fisa i unigolyn proffil uchel o Wlad W ymweld â’r DU. Er bod hyn yn gyfystyr â gweithgaredd dylanwad gwleidyddol, nid oes angen cofrestru gan fod y gweithgaredd yn cael ei gyflawni gan y pŵer tramor ei hun.
Enghraifft 25 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae swyddog cudd-wybodaeth gudd sy’n gweithio i Lywodraeth Gwlad X yn mynychu cynhadledd yn y DU ac yn cyflwyno ei hun fel dyn busnes i gwmni preifat. Mae’n siarad ag Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn y gynhadledd ac yn ceisio dylanwadu ar eu penderfyniad pleidleisio ar ddarn o ddeddfwriaeth sy’n cael ei ystyried gan y Senedd ar y pryd. Er bod y swyddog yn cael ei gyflogi gan bŵer tramor, nid yw’n agored ac yn onest ynglŷn â’r swyddogaeth y mae’n gweithredu ynddi, felly nid yw’r esemptiad yn berthnasol.
Esemptiad 3: Priodau, partneriaid ac aelodau teulu staff cenadaethau diplomyddol, swyddi consylaidd a chenadaethau parhaol i sefydliadau rhyngwladol yn y DU (paragraff Atodlen 15) 3(2)-(5))
98. Mae’r esemptiad hwn yn berthnasol i unigolyn lle mae’r ddau amod A a B yn cael eu bodloni.
Amodau ar gyfer cymhwyso’r esemptiad
Amod A: Mae’r unigolyn yn aelod o deulu (gan gynnwys partner di-briod mewn perthynas deuluol barhaus) “prif berson”.
Amod B: Mae’r unigolyn yn gwneud trefniant i gefnogi gweithgareddau neu ddyletswyddau swyddogol y prif berson. Mae “prif berson” yn aelod o staff cenhadaeth ddiplomyddol, swydd gonsylaidd neu’r genhadaeth barhaol i sefydliad rhyngwladol yn y DU sy’n aelod o’r sefydliad.
99. Ni fyddai’r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae’r aelod o’r teulu yn gwneud trefniant wrth weithredu yn ei swyddogaeth bersonol, neu fel rhan o unrhyw waith arall y mae’n ei wneud nad yw’n gysylltiedig â gwaith y prif berson.
Enghreifftiau o amgylchiadau lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol
Enghraifft 26 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae llysgennad llywodraeth dramor yn y DU yn cynnal derbyniad y mae ei bartner yn ei fynychu, yn ogystal â nifer o uwch swyddogion a chynghorwyr arbennig y DU. Yn ystod y digwyddiad, mae partner y llysgennad (ar ran y llysgennad) yn siarad â’r uwch swyddogion a’r cynghorwyr arbennig, gan geisio sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiect ymchwil ar y cyd i dechnoleg 6G. Er bod partner y llysgennad yn cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar ran pŵer tramor, nid oes angen iddynt gofrestru gan fod esemptiad yn berthnasol.
Enghraifft 27 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae priod diplomydd o fewn llysgenhadaeth Gwlad Y sydd wedi’i lleoli yn y DU yn cael ei gyflogi gan gwmni ymgynghori sy’n arbenigo yn y diwydiant AI. Mae’r cwmni ymgynghori yn gweithio mewn cysylltiad agos â Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gwlad Y, sy’n darparu cyllid iddo i gynnal gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu yn y DU. Mae Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gwlad Y yn cyfarwyddo’r cwmni ymgynghori i lobïo cynghorwyr arbennig yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar gyflwyno AI o fewn llawdriniaeth ar yr ymennydd. Mae priod y diplomydd yn cynnal y gweithgareddau lobïo, fodd bynnag nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan nad yw’r gweithgareddau’n cefnogi dyletswyddau’r diplomydd.
Esemptiad 4: Gweithgareddau cyfreithiol (paragraff Atodlen 15 6)
100. Pan fo trefniant gyda phŵer tramor neu endid penodedig yn ymwneud â chyflawni gweithgaredd cyfreithiol gan gyfreithiwr, bydd y trefniant hwn wedi’i esemptio rhag gofynion cofrestru.
101. Pan fo cyfreithiwr yn cyflawni gweithgaredd nad yw’n gyfreithiol, er enghraifft yn ei swyddogaeth bersonol, ni fydd hwn yn elwa o’r esemptiad hwn. Yn yr un modd, pan fo trefniant yn ymwneud â chyflawni gweithgaredd cyfreithiol gan unigolyn nad yw’n bodloni’r diffiniad o “gyfreithiwr”, ni fydd yr esemptiad yn berthnasol.
102. Ystyr “Cyfreithiwr” yw (gweler paragraff 6(3)):
a) person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n gyfystyr â gweithgaredd cyfreithiol neilltuedig (o fewn ystyr y Ddeddf honno),
b) cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon,
c) cyfreithiwr neu eiriolwr yn yr Alban, neu
d) person sy’n aelod, ac sydd â hawl i ymarfer fel y cyfryw, o broffesiwn cyfreithiol a reoleiddir mewn awdurdodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
103. Mae “gweithgaredd cyfreithiol” yn golygu (gweler paragraff 6(4)):
a) yng Nghymru a Lloegr, gweithgaredd cyfreithiol o fewn ystyr adran 12 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007,
b) yng Ngogledd Iwerddon, gweithgaredd cyfreithiol o fewn ystyr yr adran honno, ond darllen y cyfeiriad at weithgaredd sy’n weithgaredd cyfreithiol neilltuedig fel cyfeiriad at weithgaredd sy’n cyfateb i weithgaredd cyfreithiol neilltuedig,
c) yn yr Alban, darparu gwasanaethau cyfreithiol o fewn ystyr adran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol (Yr Alban) 2010, neu
d) gweithredu fel cymrodeddwr neu gyfryngwr.
Enghreifftiau o amgylchiadau lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol (ac nad yw’n berthnasol)
Enghraifft 28 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae fisa unigolyn proffil uchel o Wlad Z wedi cael ei ddirymu gan y Swyddfa Gartref yn ddiweddar. Mae Llywodraeth Gwlad Z yn cyfarwyddo cyfreithiwr i apelio yn erbyn y penderfyniad. I gychwyn yr apêl, mae’r cyfreithiwr yn ysgrifennu at uwch swyddogion a gweinidogion perthnasol y Swyddfa Gartref yn nodi ei fod yn bwriadu lansio adolygiad barnwrol yn erbyn y penderfyniad, gan ddadlau pam y cafodd ei wneud yn anghywir. Er bod y cyfreithiwr yn cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar gyfarwyddyd pŵer tramor, nid oes gofyn iddynt gofrestru gan eu bod yn elwa o’r esemptiad.
Enghraifft 29 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae Gweinyddiaeth Diogelwch Gwlad A yn cyfarfod â chyfreithiwr sy’n byw yn y DU ac sy’n ffrind i Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y DU. Maent yn gofyn iddo siarad â’r Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol i geisio ei berswadio o’r angen i’r DU ddarparu arfau i’w defnyddio gan Wlad A mewn rhyfel rhanbarthol, gan gynnig arian os bydd yn llwyddo i sicrhau cytundeb. Mae’r cyfreithiwr yn cyfarfod â’r Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol dros ginio ac yn nodi’r achos pam y dylid darparu arfau o’r fath. Er bod yr unigolyn sy’n gwneud y trefniant gyda’r pŵer tramor yn gyfreithiwr, nid yw’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn weithgareddau cyfreithiol ac felly nid yw’r esemptiad yn berthnaslo.
Esemptiad 5: Cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig (paragraffau Atodlen 15 4-5)
104. Mae cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig wedi’u hesemptio rhag cofrestru unrhyw drefniadau a wnânt gyda phwerau tramor i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol. Mae’r esemptiad hwn hefyd yn berthnasol i gyflogeion cyhoeddwyr newyddion cofrestredig, wrth weithredu yn rhinwedd eu swydd fel cyflogai.
105. Nid oes gan Gyhoeddwyr Newydd Cydnabyddedig na’u cyflogeion esemptiad penodol o dan yr haen uwch ac efallai y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru o dan yr haen honno o hyd os bodlonir yr amodau perthnasol. Cyfeiriwch at y canllawiau haen uwch am ragor o fanylion.
106. Mae “cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig” yn cynnwys y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Sianel Pedwar Cymru, a deiliad trwydded o dan Ddeddf Darlledu 1990 neu 1996 sy’n cyhoeddi deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion mewn cysylltiad â’r gweithgareddau darlledu a awdurdodwyd o dan y drwydded. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw endid sy’n bodloni’r holl amodau isod.
Amodau ar gyfer statws fel “cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig”
Amod A: Prif bwrpas yr endid yw cyhoeddi deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion, ac mae deunydd o’r fath (i) yn cael ei greu gan wahanol bersonau, a (ii) yn ddarostyngedig i reolaeth olygyddol.
Amod B: Mae’r endid yn cyhoeddi deunydd o’r fath wrth gynnal busnes (p’un a yw’n cael ei gynnal gyda’r bwriad o wneud elw ai peidio).
Amod C: Mae’r endid yn ddarostyngedig i god safonau.
Amod D: Mae gan yr endid bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer trin a datrys cwynion.
Amod E: Mae gan yr endid swyddfa gofrestredig neu gyfeiriad busnes arall y mae’n ei gyhoeddi.
Amod F: Mae gan yr endid gyfrifoldeb cyfreithiol am ddeunydd a gyhoeddir ganddo yn y Deyrnas Unedig.
Amod G: Mae’r endid yn cyhoeddi ei enw, cyfeiriad, rhif cofrestredig (os o gwbl) ac enw a chyfeiriad unrhyw berson sy’n rheoli’r endid (gan gynnwys, lle mae person o’r fath yn endid, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person hwnnw a rhif cofrestredig y person hwnnw (os o gwbl).
Amod H: Nid yw’r endid yn “endid wedi’i eithrio” nac yn “endid wedi’i gosbi” (gweler isod).
Mae “endid wedi’i eithrio” yn endid sy’n sefydliad gwaharddedig o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, neu’n endid y mae ei brif bwrpas yn cefnogi sefydliad gwaharddedig o dan y Ddeddf honno.
Mae “endid wedi’i sancsiynu” yn endid a ddynodwyd o dan adrannau 1 neu 13 o Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-Wyngalchu Arian 2018.
107. At ddiben amod A, mae “deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion” yn golygu deunydd sy’n cynnwys:
- newyddion neu wybodaeth am faterion cyfoes,
- barn am faterion sy’n ymwneud â’r newyddion neu faterion cyfoes, neu
- clecs am enwogion, ffigurau cyhoeddus eraill neu bobl eraill yn y newyddion.
108. At ddiben amod C, ystyr “cod safonau” yw:
- cod safonau sy’n rheoleiddio ymddygiad cyhoeddwyr, a gyhoeddir gan reoleiddiwr annibynnol, neu
- cod safonau sy’n rheoleiddio ymddygiad yr endid dan sylw, a gyhoeddir gan yr endid ei hun.
Enghraifft o amgylchiad lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol
Enghraifft 30 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig yn dod i drefniant gyda Llywodraeth Gwlad B, sy’n eu cyfarwyddo i gyhoeddi erthygl farn sy’n cynnwys beirniadaeth o wariant llywodraeth y DU ar gymorth tramor. Mae’r llywodraeth dramor, drwy wneud hynny, yn bwriadu y gall Llywodraeth y DU gyfeirio ei chyllid at wlad benodol ar gyfer gwaith ailadeiladu economaidd yn dilyn rhyfel cartref. Er bod y cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig yn cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar gyfarwyddyd pŵer tramor, nid oes angen iddo gofrestru gan ei fod yn elwa o esemptiad.
Esemptiad 6: Cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus
109. Mae cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus wedi’u hesemptio rhag cofrestru, lle maent yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sy’n gysylltiedig â’u buddsoddiadau yn y DU. Ni fyddai’r esemptiad yn berthnasol pe byddent yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol nad ydynt yn gysylltiedig â’u buddsoddiadau.
110. Mae’r esemptiad hefyd yn berthnasol i drefniadau rhwng cronfa gyfoeth sofran, neu gronfa bensiwn gyhoeddus, a’u pŵer tramor cartref. Ni fyddai trefniadau rhwng cronfa a phŵer tramor o wlad wahanol wedi’u hesemptio.
111. I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad, byddai angen i gronfa gyfoeth sofran fodloni’r holl amodau isod (gan gynnwys naill ai amod 1a neu 1b):
Amodau i fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad
Amod 1A: Mae’r pŵer tramor:
- yn dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, 100% o’r cyfranddaliadau yn y Gronfa; neu
- yn dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, 100% o’r hawliau pleidleisio yn y Gronfa, neu
- yn dal yr hawl, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i benodi neu ddiswyddo mwyafrif o swyddogion y Gronfa.
Neu
Amod 1B: Mae’r pŵer tramor yn cyfarwyddo neu’n rheoli gweithgareddau ymddiriedolaeth, partneriaeth, cymdeithas anghorfforedig neu endid arall, sydd:
- â’r hawl i gyfarwyddo neu reoli, neu’n cyfarwyddo neu’n rheoli mewn gwirionedd, gweithgareddau’r Gronfa (yn gyfan gwbl neu’n rhannol); neu
- yn dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, 100% o’r cyfranddaliadau yn y Gronfa; neu
- yn dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, 100% o’r hawliau pleidleisio yn y Gronfa; neu
- yn dal yr hawl, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i benodi neu ddiswyddo mwyafrif o swyddogion y Gronfa.
A’R cyfan o
Amod 2 yw mai prif weithgaredd y Gronfa yw gwneud neu reoli buddsoddiadau, gan gynnwys mewn gwledydd neu diriogaethau eraill.
Amod 3 yw bod y cronfeydd ar gyfer y buddsoddiadau tramor yn cael eu darparu naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan y pŵer tramor.
Amod 4 yw mai pwrpas y buddsoddiadau tramor yw naill ai:
- Bod o fudd i’r pŵer tramor (er enghraifft, codi arian i’r Llywodraeth); neu
- Galluogi talu pensiynau i ddinasyddion y pŵer tramor.
Dim ond os yw eu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn gysylltiedig â’u buddsoddiadau yn y DU y byddai Cronfa sy’n bodloni’r holl amodau hyn yn cael ei hesemptio.
112. Ni fydd yn ofynnol i endidau dal buddsoddiadau neu gynghori sy’n cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau ar gyfer cronfa gyfoeth sofran esemptiedig gofrestru, a byddant yn gallu parhau â’u gweithgareddau heb gyfyngiad. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw eu hendid eu hunain y tu allan i gwmpas yr esemptiad. Dim ond pe baent hwy eu hunain mewn trefniant â phŵer tramor (yn annibynnol ar gronfa gyfoeth sofran esemptiedig) a phe baent yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol ar gyfarwyddyd y pŵer tramor hwnnw y byddai’n ofynnol i’r endidau hyn gofrestru.
Enghreifftiau o amgylchiadau lle mae’r esemptiad hwn yn berthnasol (ac nad yw’n berthnasol))
Enghraifft 31 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae cronfa gyfoeth sofran (sy’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod) o Wlad C yn cael ei chyfarwyddo gan Lywodraeth Gwlad C i lobïo gweinidogion a gweision sifil uwch yn Nhrysorlys EF i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi buddsoddiad y Gronfa mewn gorsaf bŵer niwclear. Er bod y rhain yn weithgareddau dylanwad gwleidyddol, nid oes angen cofrestru gan fod y gronfa gyfoeth sofran wedi’i hesemptio gan fod eu gweithgareddau’n gysylltiedig â’u buddsoddiadau yn y DU.
Enghraifft 32 (mae’r esemptiad yn berthnasol): Mae cronfa gyfoeth sofran (sy’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod) o Wlad D yn cael ei chyfarwyddo gan Lywodraeth Gwlad D i lobïo gweinidogion a gweision sifil uwch yn Nhrysorlys EF i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi buddsoddiad y Gronfa mewn gorsaf bŵer niwclear. Mae endid ymgynghorol sy’n eiddo i’r gronfa gyfoeth sofran yn cael y dasg o reoli buddsoddiad y Gronfa, ac yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn nodi’r achos pam y dylai Llywodraeth y DU gefnogi’r buddsoddiad.
Nid oes angen i’r gronfa gyfoeth sofran na’r endid ymgynghorol gofrestru, gan fod esemptiad yn berthnasol i’r trefniant rhwng y pŵer tramor a’r cronfeydd cyfoeth sofran.
Enghraifft 33 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae cronfa gyfoeth sofran (sy’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod) o Wlad E yn cael ei chyfarwyddo gan Lywodraeth Gwlad E i lobïo gweinidogion a gweision sifil uwch i wneud yr achos dros ganiatáu i ddinasyddion Gwlad E deithio i’r DU heb fisa. Er bod y Gronfa’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod, nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan nad yw eu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn gysylltiedig â buddsoddiadau’r Gronfa.
Enghraifft 34 (nid yw’r esemptiad yn berthnasol): Mae cronfa bensiwn gyhoeddus (sy’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod) o Wlad F yn cael ei chyfarwyddo gan Lywodraeth Gwlad G, sy’n gynghreiriad agos i Wlad F, i gyflwyno’r achos dros ollwng sancsiynau yn erbyn Gwlad G. Yna mae’r gronfa’n ysgrifennu at y Canghellor, gan gyflwyno’r achos economaidd pam y dylid gollwng sancsiynau. Er bod y Gronfa’n bodloni’r holl amodau a nodir uchod, nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan eu bod yn cael eu cyfarwyddo gan bŵer tramor nad yw o’u gwlad eu hunain, ac nid yw eu gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn gysylltiedig â buddsoddiadau’r Gronfa.
Gweithgareddau cyfathrebu cyhoeddus lle mae’r trefniant gyda’r pŵer tramor eisoes yn dryloyw
113. Er nad yw’n “esemptiad” mewn deddfwriaeth, ni fyddai angen cofrestru unrhyw weithgareddau cyfathrebu cyhoeddus lle mae’n rhesymol glir eu bod wedi’u gwneud ar gyfarwyddyd pŵer tramor, gan na fyddent yn bodloni’r diffiniad o “weithgareddau dylanwad gwleidyddol”. Gweler pennod 3 amod 3 am ragor o fanylion.
Atodiad A: Rhestr o swyddogion cyhoeddus a gwleidyddion
Mae Atodlen 14 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 yn rhestru’r unigolion y gellir ystyried cyfathrebiadau â nhw yn weithgareddau dylanwad gwleidyddol. Dyma nhw:
Gweinidogion
- Gweinidog y Goron.
- Gweinidog Gogledd Iwerddon.
- Gweinidog yr Alban.
- Gweinidog Cymru.
ASau ac ati
- Aelod o’r naill Dŷ neu’r llall o’r Senedd.
- Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon.
- Aelod o Senedd yr Alban.
- Aelod o Senedd Cymru.
- Cyflogai neu aelod arall o staff person neu unrhyw un o’r unigolion uchod.
Llywodraeth leol
- Maer Llundain.
- Maer Swydd Gaergrawnt a Peterborough.
- Maer Manceinion Fwyaf.
- Maer Dinas-Ranbarth Lerpwl.
- Maer Gogledd Tyne.
- Maer De Swydd Efrog.
- Maer Dyffryn Tees.
- Maer Gorllewin Canolbarth Lloegr.
- Maer Gorlewin Lloegr.
- Maer Gorllewin Swydd Efrog.
- Maer Gogledd-ddwyrain Lloegr.
Nid yw meiri eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr uchod o fewn y cwmpas.
Pleidiau gwleidyddol
- Swyddog, ymddiriedolwr neu asiant plaid wleidyddol gofrestredig yn y DU.
- Aelod o blaid wleidyddol o’r fath sy’n arfer swyddogaethau gweithredol ar ran y blaid (er enghraifft, aelodau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â threfnu neu gyflwyno ymgyrchoedd ar ran y blaid).
Ymgeiswyr etholiad
Ymgeiswyr ar gyfer unrhyw un o’r etholiadau canlynol:
- Etholiadau cyffredinol ac Etholiadau Seneddol eraill y DU;
- Etholiadau i Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon;
- Etholiadau awdurdodau lleol;
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu;
- Etholiadau maerol awdurdodau cyfunol;
- Etholiadau maerol Awdurdodau Sirol cyfunol;
- Etholiadau maerol lleol;
- Etholiadau maerol Llundain ac Awdurdod Llundain Fwyaf.
Gweision sifil
- Aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil (er enghraifft, Ysgrifennydd Parhaol, Cyfarwyddwr Cyffredinol neu Ddirprwy Gyfarwyddwr adran o lywodraeth y DU). Mae hyn hefyd yn cynnwys uwch was sifil yn Llywodraethau Cymru neu’r Alban;
- Aelod o Uwch Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon;
- Aelod o Strwythur Rheoli Uwch Wasanaeth Diplomyddol Ei Fawrhydi.
- Cynghorydd arbennig o fewn Gwasanaeth Sifil y DU (Cynghorydd Arbennig yw rhywun a benodir yn bersonol gan Weinidog ac sy’n bodloni’r amodau a nodir yn adran 15 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010, gan gynnwys bod tymor eu penodiad yn gysylltiedig yn uniongyrchol â thymor y Gweinidog).
- Cynghorydd arbennig o fewn Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.
Personél milwrol
- Swyddog y lluoedd arfog sydd o reng comodor, brigadydd neu gomodor awyr neu uwchlaw hynny.
Yr Heddlu
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl heddlu.
- Comisiynydd yr heddlu a throseddu.
- Comisiynydd, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Cynorthwyol neu Ddirprwy Gomisiwn Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitanaidd.
- Comisiynydd neu Gomisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu ar gyfer Dinas Llundain.
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl Gwasanaeth yr Heddlu Gogledd Iwerddon.
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl Gwasanaeth Heddlu’r Alban.
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
- Prif gwnstabl neu ddirprwy brif gwnstabl yr Heddlu Niwclear Sifil.
- Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
Nid yw’r cynllun yn gosod unrhyw ofynion ar y rhai y cyfathrebir atynt neu y darperir arian, nwyddau neu wasanaethau iddynt.
Nid yw’r ffaith bod cofrestriad wedi’i wneud mewn perthynas â chyfathrebiadau sydd wedi’u targedu at un o’r unigolion uchod yn golygu eu bod wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Mae’n bosibl nad ydynt wedi ymgysylltu â’r cyfathrebiad.
Atodiad B: Tabl o enghreifftiau
Mae’r tabl isod yn nodi’r holl enghreifftiau sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau uchod, gan gynnwys a oes angen cofrestru ai peidio a pha rai o’r amodau perthnasol sy’n cael eu bodloni.
Pennod 7 (enghreifftiau cyffredinol)
Enghraifft | Crynodeb | 1 | 2 | 3 | 4 | Angen cofrestru |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | Ymgynghorydd mewn trefniant gyda phŵer tramor i gynnal gweithgareddau i berswadio Llywodraeth y DU i roi statws di-fisa i ddinasyddion Gwlad A sy’n ymweld â’r DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
2 | Cwmni lobïo mewn trefniant gyda phŵer tramor i lobïo Llywodraeth y DU i ddarparu arfau i wladwriaeth sydd wedi’i rhwygo gan ryfel. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
3a | Elusen mewn trefniant gyda phŵer tramor i drefnu i arbenigwr bywyd gwyllt ddylanwadu ar ymrwymiadau maniffesto plaid wleidyddol yn y DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
3b | Mae elusen yn cael ei hariannu gan bŵer tramor, ond nid yw ei gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn uniongyrchol gysylltiedig ag amodau’r cyllid. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
4 | Unigolyn mewn trefniant gyda phŵer tramor i ddylanwadu ar gyfraniadau AS mewn dadl seneddol, gyda chanlyniadau posibl am fethu â chydymffurfio. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
5 | Cennad mewn trefniant gyda phŵer tramor i hyrwyddo’r syniad o gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Gwlad E i Weinidog y DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
6 | Cwmni lobïo mewn trefniant gydag asiantaeth llywodraeth dramor i lobïo Llywodraeth y DU i roi cynllun atal twyll ar waith. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
7 | Sefydliad iaith a diwylliant mewn trefniant â phŵer tramor i hyrwyddo addysgu iaith Gwlad G mewn ysgolion uwchradd yn y DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
8 | Cwmni lobïo mewn trefniant â phŵer tramor i wneud cyfathrebiadau cyhoeddus i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
9 | Entrepreneur mewn trefniant gyda phŵer tramor i wneud buddsoddiadau i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar fasnach â Gwlad I. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
10 | Mae myfyriwr PhD yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol nad ydynt yn gysylltiedig â chyfarwyddyd gan y pŵer tramor. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
11 | Cwmni lobïo mewn trefniant gyda busnes preifat dramor i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i ysgafnhau rheoliadau sy’n effeithio ar eu sector. | Nac ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
12 | Melin drafod mewn trefniant gyda sefydliad amlochrog i gynnig argymhellion polisi i Lywodraeth y DU mewn cynhadledd. | Nac ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
13 | Cwmni gweithgynhyrchu bwyd sy’n mynychu cynhadledd a gynhelir gan bŵer tramor ac yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y gynhadledd nad ydynt yn cael eu cyfarwyddo gan y pŵer tramor. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
14 | Ymgynghorydd mewn trefniant gyda phŵer tramor i drafod cyflwyno brechlyn, ond mae’r holl weithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cael eu cynnal y tu allan i’r DU. | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Nac oes |
Pennod 10 (menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth)
Enghraifft | Crynodeb | 1 | 2 | 3 | 4 | Angen cofrestru |
---|---|---|---|---|---|---|
15a | Menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cael ei chyfarwyddo gan ei bwrdd i wneud cais i ddod yn gyflenwr ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU, ond heb unrhyw gyfarwyddyd gan y pŵer tramor. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
15b | Menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cael ei chyfarwyddo gan bŵer tramor trwy ei bwrdd i lobïo Llywodraeth y DU i ddileu sancsiynau yn erbyn y wlad. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
16 | Menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cynnig newidiadau i reoliadau i weinidogion Llywodraeth y DU, heb unrhyw gyfarwyddyd gan y pŵer tramor. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
Pennod 11 (y rhai sy’n gweithio gyda mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth)
Enghraifft | Crynodeb | 1 | 2 | 3 | 4 | Angen cofrestru |
---|---|---|---|---|---|---|
17 | Ymgynghorydd mewn trefniant gyda menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth i lobïo Llywodraeth y DU i lacio rheoliadau yn y diwydiant. | Nac ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
Pennod 12 (cynadleddau llunio polisi a byrddau crwn)
Enghraifft | Crynodeb | 1 | 2 | 3 | 4 | Angen cofrestru |
---|---|---|---|---|---|---|
18 | Melin drafod mewn trefniant gyda phŵer tramor i gyflwyno opsiynau rheoleiddio deallusrwydd artiffisial i Lywodraeth y DU mewn cynhadledd. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
19 | Melin drafod yn mynychu cynhadledd a gynhelir gan bŵer tramor ac yn cyflwyno opsiynau rheoleiddio AI i Lywodraeth y DU, ond heb gyfarwyddyd gan y pŵer tramor. | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac oes |
20a | Hwylusydd cynhadledd mewn trefniant gyda phŵer tramor, ac yn trefnu i weithgareddau dylanwad gwleidyddol gael eu cynnal fel rhan o’r trefniant hwnnw. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
20b | Hwylusydd cynhadledd mewn trefniant gyda phŵer tramor ac yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynhadledd, ond heb drefnu’r gweithgareddau dylanwad gwleidyddol. | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Nac oes |
Pennod 15 (esemptiadau rhag cofrestru)
Enghraifft | Crynodeb | 1 | 2 | 3 | 4 | Angen cofrestru |
---|---|---|---|---|---|---|
21 | Cwmni modurol mewn trefniant gyda phŵer tramor i fod yn rhan o ddirprwyaeth fusnes a chyfathrebu ag uwch weision sifil y DU a chynghorwyr arbennig ynghylch polisi ar gerbydau hunan-yrru, a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo eu cyfranogiad yn y ddirprwyaeth. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
22 | NGO mewn trefniant gyda phŵer tramor i lobïo Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i Wlad U mewn cynhadledd amlochrog a gynhelir yn y DU, a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo eu cyfranogiad yn y gynhadledd. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
23 | Melin drafod mewn trefniant gyda phŵer tramor i berswadio Llywodraeth y DU i wahardd grŵp ymwahan fel grŵp terfysgol. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
24 | Swyddog o bŵer tramor yn cyfathrebu ag uwch weision sifil y DU i ddylanwadu ar benderfyniad ynghylch fisa. | Nac ydyn | Nac ydyn | Yes | Nac ydyn | Nac oes |
25 | Swyddog cudd-wybodaeth cudd pŵer tramor yn cyflwyno ei hun fel dyn busnes ac yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau pleidleisio aelodau Tŷ’r Arglwyddi. Mae hon yn enghraifft o gamliwio sy’n gofyn am gofrestru, ta waeth a yw amodau 1 a 2 yn cael eu bodloni ai peidio. | Nac ydyn | Nac ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
26 | Partner llysgennad yn cyfathrebu ag uwch swyddogion a chynghorwyr arbennig i geisio cyllid ar gyfer prosiect ymchwil ar y cyd i dechnoleg 6G. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
27 | Priod diplomydd yn cyfathrebu ag uwch swyddogion i ddylanwadu ar gyflwyno deallusrwydd artiffisial mewn llawdriniaeth ar yr ymennydd, ond yn gweithredu fel rhan o’u rôl mewn cwmni ymgynghori, yn hytrach nag i gefnogi dyletswyddau swyddogol y diplomydd. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
28 | Cyfreithiwr mewn trefniant â phŵer tramor i lansio adolygiad barnwrol ar ran unigolyn. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
29 | Cyfreithiwr mewn trefniant gyda phŵer tramor i gyflwyno’r achos dros i’r DU ddarparu arfau i Wlad A. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
30 | Cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig mewn trefniant â phŵer tramor i berswadio Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer gwaith adeiladu economaidd yn dilyn ffordd sifil yng Ngwlad B. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
31 | Cronfa gyfoeth sofran wedi’i chyfarwyddo gan ei phŵer tramor cartref i lobïo gweinidogion ac uwch weision sifil i ddarparu cyllid i ychwanegu at fuddsoddiad mewn gorsaf bŵer niwclear. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
32 | Cronfa gyfoeth sofran wedi’i chyfarwyddo gan ei phŵer tramor cartref i drefnu i endid ymgynghorol lobïo gweinidogion a gweision sifil uwch i ddarparu cyllid i ychwanegu at fuddsoddiad mewn gorsaf bŵer niwclear. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Nac ydyn | Nac oes |
33 | Cronfa gyfoeth sofran wedi’i chyfarwyddo gan Lywodraeth Gwlad E i lobïo gweinidogion a gweision sifil uwch i alluogi teithio heb fisa i’r DU i ddinasyddion Gwlad E. Nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan nad yw’r gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn gysylltiedig â buddsoddiadau’r Gronfa yn y DU. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |
34 | Cronfa bensiwn gyhoeddus o Wlad F mewn trefniant gyda Llywodraeth Gwlad G i gyflwyno’r achos dros ollwng sancsiynau yn erbyn Gwlad G. Nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan nad yw’r trefniant gyda phŵer tramor cartref y Gronfa. | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Ydyn | Oes |