Guidance

Sector-specific guidance on the Foreign Influence Registration Scheme: media (Welsh accessible)

Updated 1 July 2025

Canllawiau Penodol i’r Sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS): Y Cyfryngau

Ebrill 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/foreign-influence-registration-scheme Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk

Rhestr termau allweddol

FIRS

Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor. Y Cynllun a gyflwynwyd trwy Ran 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

Trefniant

Unrhyw fath o gytundeb, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Gallai gynnwys contract, memorandwm dealltwriaeth (MOU) neu gytundeb neu drefniant anffurfiol quid pro quo. Nid yw’n cynnwys sgyrsiau nad ydynt yn troi’n gytundeb neu drefniant.

Pŵer tramor

Mae iddo’r ystyr a roddir gan Adran 32 o Ddeddf Diogelwch Gwladol 2023. Ceir rhagor o fanylion yn adran 1.

Gweithgareddau dylanwad gwleidyddol

Cyfathrebiad, cyfathrebiad cyhoeddus neu ddarpariaeth o arian, nwyddau neu wasanaethau a fwriedir i ddylanwadu ar fater gwleidyddol.

Pŵer tramor penodedig

Pŵer tramor sydd wedi’i bennu trwy reoliadau o dan haen uwch FIRS.

Gweithgaredd perthnasol

Math o weithgaredd o fewn cwmpas cofrestru o dan haen uwch FIRS.

Esemptiad rhag cofrestru

Amgylchiad lle nad yw gofynion cofrestru yn berthnasol. Mae rhagor o fanylion yn adran 4.

Eithriad i gyhoeddi

Amgylchiad lle na fydd gwybodaeth a gofrestrwyd o dan FIRS yn cael ei chyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth yn adran 5.

Cofrestrai

Person y mae’n ofynnol iddo gofrestru o dan FIRS.

Hysbysiad gwybodaeth

Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â threfniadau neu weithgareddau y gellir eu cofrestru o dan FIRS.

Ynglŷn â’r Canllawiau hyn

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer y cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar yr eithriad ar gyfer Cyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig a’u cyflogeion a newyddiadurwyr llawrydd.

Bwriad y ddogfen yw galluogi dealltwriaeth o sut mae gofynion y cynllun yn berthnasol yng nghyd-destun y sector. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion y cynllun yn fwy cyffredinol yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a’r canllawiau ar yr haen uwch. Cynhyrchwyd canllawiau ar wahân hefyd ar y pwerau tramor a’r endidau a reolir gan bwerau tramor a bennir o dan yr haen uwch.

Bwriad y canllawiau hyn yw egluro gofynion allweddol cynllun FIRS, sydd wedi’u cynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb y rhai sydd o fewn cwmpas y cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol eu hunain.

Mae’r DU yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu a chydweithredu tryloyw â phwerau tramor. Mae’r rhai sy’n cofrestru’n llawn ac yn gywir yn cefnogi gwydnwch y DU a’i sefydliadau yn wyneb bygythiadau gan y wladwriaeth. Nid yw cofrestru trefniant neu weithgaredd ynddo’i hun yn golygu ei fod o reidrwydd yn anghyfreithlon neu’n annymunol. Nid yw FIRS yn atal unrhyw weithgaredd rhag digwydd; cyn belled â bod y trefniadau’n dryloyw, gall gweithgareddau cysylltiedig fynd rhagddynt fel arfer.

Adran 1: Trosolwg o’r gofynion

1. Mae gofynion y cynllun wedi’u rhannu’n ddwy haen:

  • Yr haen dylanwad gwleidyddol, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau gydag unrhyw bŵer tramor (ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon) i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU;

  • Yr haen uwch, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau i gynnal set ehangach o weithgareddau ond dim ond gyda’r pwerau tramor neu endidau a reolir gan bwerau tramor sydd wedi’u pennu mewn rheoliadau.

Haen Dylanwad Gwleidyddol

2. Mae’n ofynnol i unigolion a sefydliadau gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol os cânt eu cyfarwyddo gan bŵer tramor i gynnal, neu drefnu i eraill gynnal, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.

3. Fodd bynnag, mae esemptiad o’r haen dylanwad gwleidyddol ar gyfer Cyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig. Mae rhagor o wybodaeth am yr eithriad hwn ar gael yn adran 2.

4. Dylai cyrff cyfryngau nad ydynt yn Gyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig gyfeirio at y canllawiau haen wleidyddol os ydynt yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol.

Haen Uwch

5. Nid yw’r esemptiad yn berthnasol o dan yr haen uwch. Felly, efallai y bydd angen i Gyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig gofrestru o dan yr haen hon o hyd.

6. Mae’n ofynnol i unigolion a sefydliadau (gan gynnwys cyhoeddwyr newyddion a newyddiadurwyr) gofrestru o dan yr haen uwch os cânt eu cyfarwyddo gan bŵer neu endid tramor penodedig i gynnal, neu drefnu i eraill gynnal, ystod ehangach o “weithgareddau perthnasol” yn y DU. Mae’n ofynnol hefyd i endidau penodedig a reolir gan bŵer tramor gofrestru unrhyw “weithgareddau perthnasol” y maent yn eu cyflawni eu hunain yn y DU.

7. Mae canllawiau ar wahân wedi’u cynhyrchu yn nodi’r pwerau tramor a’r endidau a reolir gan bŵer tramor a bennir o dan yr haen uwch. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn darparu rhagor o fanylion am y “gweithgareddau perthnasol” y mae angen cofrestru arnynt.

8. Dim ond lle mae “cyfarwyddyd” gan bŵer tramor penodedig, neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor, i weithredu y mae gofynion cofrestru yn berthnasol.

9. Mae “gweithgareddau perthnasol” yng nghyd-destun y cyfryngau yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i,:

  • Cynnal neu drefnu cyfweliadau ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor;

  • Cyhoeddi adroddiadau newyddion ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor;

  • Creu adroddiadau fideo ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodedg a reolir gan bŵer tramor;

  • Gweithgareddau newyddiaduraeth ymchwiliol ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor.

10. Pan fydd RNP yn ymgymryd â gweithgareddau dylanwadu gwleidyddol ar gyfer pŵer tramor penodedig, bydd angen i’r RNP gofrestru o dan yr haen uwch.

11. Mae angen cofrestru trefniadau o dan yr haen uwch o fewn 10 diwrnod calendr i’r trefniant gael ei wneud, a chyn cynnal gweithgareddau. Mae’n drosedd cynnal gweithgareddau perthnasol o dan drefniant cofrestradwy heb i’r trefniant gael ei gofrestru yn gyntaf.

12. Mae angen cofrestru gan yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud y trefniant cofrestradwy gyda’r pŵer tramor penodedig neu’r endid penodedig a reolir gan bŵer tramor.

13. Dim ond pan gaiff ei gynnal yn y DU y gellir cofrestru gweithgaredd. O’r herwydd, ni fyddai angen cofrestru unrhyw weithgareddau a gynhelir dramor. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai angen i unigolyn neu sefydliad tramor gofrestru os ydynt yn cynnal gweithgareddau yn y DU, neu’n trefnu i weithgareddau gael eu cynnal yn y DU. Yng nghyd-destun y sector cyfryngau, ystyrir bod erthygl a gyhoeddir dramor ond a fwriadwyd ar gyfer cynulleidfa yn y DU yn weithgaredd yn y DU.

14. Mae cofrestru yn broses syml ac rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o gofrestreion yn cydymffurfio â’r gofynion drwy’r gwasanaeth cofrestru ar-lein FIRS pwrpasol.

15. Y gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofynion yr haen uwch yw 5 mlynedd o garchar.

16. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen hon yn y canllawiau ar yr haen uwch.

Gofynion pellachs

17. Lle bo newid sylweddol i drefniant cofrestredig, rhaid diweddaru’r wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru o fewn 14 diwrnod calendr, gan ddechrau gyda’r diwrnod y daw’r newid i rym.

18. Mae’r cynllun hefyd yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi hysbysiadau gwybodaeth i’r rhai sydd wedi cofrestru, neu eraill y credir eu bod yn ymwneud â threfniadau neu weithgareddau cofrestradwy. Rhaid i dderbynwyr hysbysiadau gwybodaeth ymateb gyda’r wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad erbyn y dyddiad a bennir. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yn y canllawiau ar hysbysiadau gwybodaeth.

Adran 2: Esemptiad o’r Haen Dylanwad Gwleidyddol ar gyfer Cyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig

19. Mae Cyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig wedi’u hesemptio rhag cofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol (gweler paragraff 4 o Atodlen 15 i Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023). Mae’r esemptiad hwn hefyd yn berthnasol mewn perthynas â chyflogeion cyhoeddwyr newyddion cofrestredig, wrth weithredu yn rhinwedd eu swydd fel gweithiwr.

20. Mae “cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig” yn cynnwys y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Sianel Pedwar Cymru, a deiliad trwydded o dan Ddeddf Darlledu 1990 neu 1996 sy’n cyhoeddi deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion mewn cysylltiad â’r gweithgareddau darlledu a awdurdodir o dan y drwydded. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw endid sy’n bodloni’r holl amodau isod.

Amodau ar gyfer statws fel “cyhoeddwr newyddion cydnabyddedig”

Amod A

Prif bwrpas yr endid yw cyhoeddi deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion, ac mae deunydd o’r fath— (i) yn cael ei greu gan wahanol bersonau, a (ii) yn ddarostyngedig i reolaeth olygyddol.

Amod B

Mae’r endid yn cyhoeddi deunydd o’r fath wrth gynnal busnes (p’un a yw’n cael ei gynnal gyda’r bwriad o wneud elw ai peidio).

Amod C

Mae’r endid yn ddarostyngedig i god safonau.

Amod D

Mae gan yr endid bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer trin a datrys cwynion.

Amod E

Mae gan yr endid swyddfa gofrestredig neu gyfeiriad busnes arall y mae’n ei gyhoeddi.

Amod F

Mae gan yr endid gyfrifoldeb cyfreithiol am ddeunydd a gyhoeddir ganddo yn y Deyrnas Unedig.

Amod G

Mae’r endid yn cyhoeddi ei enw, cyfeiriad, rhif cofrestredig (os o gwbl) ac enw a chyfeiriad unrhyw berson sy’n rheoli’r endid (gan gynnwys, lle mae person o’r fath yn endid, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person hwnnw a rhif cofrestredig y person hwnnw (os o gwbl)).

Amod H

Nid yw’r endid yn “endid eithriedig” nac yn “endid wedi’i sancsiynu” (gweler isod).

Mae “endid eithriedig” yn endid sy’n sefydliad gwaharddedig o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, neu’n endid y mae ei bwrpas yn cefnogi sefydliad gwaharddedig o dan y Ddeddf honno.

Mae “endid wedi’i sancsiynu” yn endid a ddynodwyd o dan adrannau 1 neu 13 o Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-Wyngalchu Arian 2018.

21. At ddiben amod A, mae “deunydd sy’n gysylltiedig â newyddion” yn golygu deunydd sy’n cynnwys:

  • newyddion neu wybodaeth am faterion cyfoes,

  • barn am faterion sy’n ymwneud â’r newyddion neu faterion cyfoes, neu

  • clecs am enwogion, ffigurau cyhoeddus eraill neu bobl eraill yn y newyddion.

22. At ddiben amod C, ystyr “cod safonau” yw:

  • cod safonau sy’n rheoleiddio ymddygiad cyhoeddwyr, a gyhoeddir gan reoleiddiwr annibynnol, neu

  • cod safonau sy’n rheoleiddio ymddygiad yr endid dan sylw, a gyhoeddir gan yr endid ei hun.

23. Efallai y bydd angen i endidau nad ydynt yn bodloni’r holl amodau uchod gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol, hyd yn oed os bodlonir rhai o’r amodau.

24. Fodd bynnag, dylid nodi nad oes angen cofrestru gweithgareddau cyfathrebu cyhoeddus os yw’r trefniant gyda’r pŵer tramor yn rhesymol glir o’r cyfathrebiad. Er enghraifft, ni fyddai angen cofrestru erthygl newyddiadurol a oedd yn nodi’n glir ei bod wedi’i chyfarwyddo gan bŵer tramor, hyd yn oed os nad oedd yr endid a’i cyhoeddodd yn gymwys fel Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig.

Canllawiau i gyflogeion cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig a newyddiadurwyr llawrydd

25. Mae newyddiadurwyr yn elwa o’r esemptiad ar gyfer Cyhoeddwyr Newyddion Cydnabyddedig o dan yr haen dylanwad gwleidyddol os:

a) Maent yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig ac, fel rhan o’u cyflogaeth, yn gweithredu yn unol â threfniant a wnaed rhwng pŵer tramor a’r cyhoeddwr; neu

b) Maent yn newyddiadurwr llawrydd ac yn gweithredu yn unol â threfniant a wnaed rhwng pŵer tramor a Chyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig.

26. Fodd bynnag, byddai’n ofynnol i newyddiadurwyr gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol os ydynt yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn unol â threfniant gyda phŵer tramor a:

a) Nid yw eu cyflogwr yn bodloni’r diffiniad o Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig; neu

b) Maent yn gweithredu y tu allan i’w swyddogaeth fel cyflogai i Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig; neu

c) Maent yn newyddiadurwr llawrydd sy’n gwneud trefniant gyda phŵer tramor i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, ac nid yw’r Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig y mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig ag ef yn rhan o’r trefniant hwn.

Adran 3: Enghreifftiau o drefniadau cofrestradwy ac anghofrestradwy

Haen Wleidyddol

Enghraifft 1 (nid oes angen cofrestru) (mae esemptiad yn berthnasol)

Mae Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn cael ei gyfarwyddo gan Weinyddiaeth Materion Tramor (MFA) gwlad M i gyhoeddi erthygl sy’n ceisio dylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU, heb ddatgan ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd yr MFA. Mae’r erthygl wedi’i hysgrifennu gan newyddiadurwr a gyflogir gan y cyhoeddwr.

Mae’r esemptiad yn berthnasol gan fod y Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig wedi’i esemptio rhag cofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol a bod y newyddiadurwr sy’n ysgrifennu’r erthygl yn cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y cyhoeddwr.

Enghraifft 2 (nid oes angen cofrestru) (mae esemptiad yn berthnasol)

Mae Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn cael ei gyfarwyddo gan Weinyddiaeth Materion Tramor (MFA) gwlad M i gyhoeddi erthygl sy’n ceisio dylanwadu ar bolisi llywodraeth y DU, heb ddatgan ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd yr MFA. Mae’r erthygl wedi’i hysgrifennu gan newyddiadurwr llawrydd sy’n ohebydd tramor y cyhoeddwr yn y DU.

Mae’r Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig (fel endid) yn elwa’n uniongyrchol o’r esemptiad ac nid yw’r newyddiadurwr yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy (gan fod y cyhoeddwr wedi’i esemptio). Felly, nid oes angen i’r Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig na’r newyddiadurwr gofrestru.

Enghraifft 3 (angen cofrestru) (Nid yw’r Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn rhan o’r trefniant gyda’r pŵer tramor)

Mae gohebydd Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn y DU yn newyddiadurwr llawrydd nad yw’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y cyhoeddwr. Mae’r newyddiadurwr yn cael ei gyfarwyddo gan Weinyddiaeth Materion Tramor (MFA) gwlad M i ysgrifennu erthygl i’w chyhoeddi sy’n ceisio dylanwadu ar bolisi llywodraeth y DU. Nid yw’r Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig ei hun yn rhan o drefniant y newyddiadurwr gyda’r MFA. Mae’r newyddiadurwr yn ysgrifennu’r erthygl, sydd wedyn yn cael ei chyhoeddi ac nid yw’n nodi ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd pŵer tramor.

Felly mae’n ofynnol i’r newyddiadurwr gofrestru. Mae hyn oherwydd, er eu bod yn ohebydd i Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig, maent yn gwneud trefniant gyda phŵer tramor yn annibynnol ar y cyhoeddwr, ac fel rhan o’r trefniant hwn maent yn cael eu cyfarwyddo gan y pŵer tramor i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.

Pe bai’r newyddiadurwr wedi datgan yn yr erthygl ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd MFA Gwlad M, yna ni fyddai’n ofynnol iddynt gofrestru. Yn yr un modd, pe bai’r trefniant gyda’r MFA wedi’i wneud gan neu ar ran y Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig, yna ni fyddai’n ofynnol iddynt gofrestru chwaith.

Haen Uwch

Enghraifft 4 (angen cofrestru) (cyfarwyddyd gan bŵer tramor penodedig)

Mae Llywodraeth Gwlad X wedi’i phennu o dan yr haen uwch ac mae cynhyrchu adroddiadau cyfryngau yn gyfystyr â “gweithgaredd perthnasol”. Yn ddiweddar bu adroddiadau cyfryngau helaeth am orthrwm yn erbyn grŵp ethnig penodol o fewn gwlad X gan ei llywodraeth. Mae llysgenhadaeth Gwlad X yn y DU yn ceisio gwrthbrofi’r honiadau hyn ac, o ganlyniad, mae’n dod i drefniant gyda phapur newydd yn y DU sy’n cytuno i gyhoeddi erthygl yn amlinellu safbwynt llywodraeth gwlad X o ran y gormes a adroddwyd. Mae’r llysgenhadaeth yn talu’r papur newydd am gynhyrchu a chyhoeddi’r erthygl ac mae hyn yn cael ei egluro yn yr erthygl ei hun.

Mae’n ofynnol i’r papur newydd yn y DU gofrestru. Maent mewn trefniant gyda llysgenhadaeth Gwlad X yn y DU (pŵer tramor penodedig) ac maent yn cael eu talu (cyfarwyddyd) i gyhoeddi erthygl yn y DU (gweithgareddau perthnasol). Nid oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol. Gan fod y trefniant yn gofrestradwy o dan yr haen uwch, nid yw’r ffaith bod y newyddiadurwr wedi datgan bod yr erthygl wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd y pŵer tramor yn negyddu’r angen i gofrestru.

Enghraifft 5 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor penodedig)

Mae Llywodraeth Gwlad X wedi’i phennu o dan yr haen uwch ac mae cynhyrchu adroddiadau i’r cyfryngau yn gyfystyr â “gweithgaredd perthnasol”. Mae papur newydd yn y DU yn ysgrifennu erthygl ynghylch gormes grŵp ethnig penodol o fewn gwlad X gan ei lywodraeth. Mae’n cysylltu â llysgenhadaeth gwlad X yn y DU i gael datganiad, y mae’n ei gynnwys yn yr erthygl.

Nid oes angen i’r papur newydd y DU gofrestru. Er eu bod yn ffurfio trefniant gyda phŵer tramor penodedig, nid ydynt yn cael eu cyfarwyddo gan y pŵer tramor penodedig hwnnw gan fod yr erthygl y mae’r papur newydd yn ei chyhoeddi yn weithgaredd a hunangyfarwyddir.

Enghraifft 6 (angen cofrestru) (nid yw’r esemptiad yn berthnasol)

Mae Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn cael ei gyfarwyddo gan Weinyddiaeth Materion Tramor (MFA) gwlad M - pŵer tramor penodedig - i gyhoeddi erthygl sy’n ceisio dylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU, heb ddatgan ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfarwyddyd yr MFA. Mae’r erthygl wedi’i hysgrifennu gan newyddiadurwr a gyflogir gan y cyhoeddwr. Nid yw’r esemptiad yn berthnasol gan fod y Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn ymgymryd â gweithgaredd dylanwadu gwleidyddol ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig.

Adran 4: Esemptiadau rhag cofrestru

27. Yr esemptiad mwyaf perthnasol i’r sector cyfryngau yw’r esemptiad Cyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig, fel y manylir yn adran 2.

28. Dyma’r esemptiadau eraill o’r cynllun:

  • Trefniadau corff coron y DU (y ddwy haen);

  • Pwerau tramor yn gweithredu’n agored (y ddwy haen);

  • Aelodau o’r teulu diplomyddol (y ddwy haen);

  • Gweithgareddau cyfreithiol a gyflawnir gan gyfreithiwr (y ddwy haen);

  • Cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig (haen dylanwad gwleidyddol yn unig);

  • Cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus sy’n cyflawni gweithgareddau sy’n gysylltiedig â buddsoddi (haen dylanwad gwleidyddol yn unig);

  • Gweithgareddau sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi cenadaethau diplomyddol (haen uwch yn unig);

  • Trefniadau corff cyhoeddus y DU (haen uwch yn unig);

  • Ysgoloriaethau a darparwyr addysg (haen uwch yn unig);

  • Prosesau gweinyddol y llywodraeth (haen uwch yn unig).

29. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am yr holl esemptiadau yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol neu’r canllawiau ar yr haen uwch.

Adran 5: Y gofrestr gyhoeddus ac eithriadau i gyhoeddi

30. Bydd gwybodaeth benodol a gofrestrwyd sy’n ymwneud â threfniadau i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cael ei chynnwys ar gofrestr gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys trefniadau a gofrestrwyd o dan yr haen dylanwad gwleidyddol, yn ogystal ag unrhyw drefniadau a gofrestrwyd o dan yr haen uwch sy’n ymwneud â chynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol. Ni fydd cofrestriadau eraill o dan yr haen uwch (er enghraifft, y rhai sy’n ymwneud ag adrodd nad yw’n ceisio dylanwadu ar broses wleidyddol yn y DU) yn cael eu cyhoeddi.

31. Ni chyhoeddir yr holl wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru. Gweler y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus am ragor o fanylion.

32. Mae eithriadau i gyhoeddi yn berthnasol yn y senarios canlynol:

  • Lle mae risg y byddai cyhoeddi yn niweidio diogelwch neu fuddiannau’r DU.

  • Lle mae risg y byddai cyhoeddi yn niweidio atal neu ganfod troseddau, ymchwiliad troseddol neu achosion troseddol;

  • Lle mae risg sylweddol y byddai cyhoeddi yn peryglu diogelwch unrhyw unigolyn yn ddifrifol.

  • Lle byddai cyhoeddi yn golygu datgelu gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol.

33. Gall eithriadau i gyhoeddi fod yn berthnasol i gofrestriad cyfan (sy’n golygu nad oes unrhyw fanylion yn cael eu cyhoeddi) neu i wybodaeth benodol yn unig o fewn cofrestriad (sy’n golygu bod y gofrestriad yn cael ei gyhoeddi ond gyda’r wybodaeth honno wedi’i golygu).

34. Bydd cofrestreion sy’n credu bod eithriad i gyhoeddi yn berthnasol yn cael y cyfle i ddarparu tystiolaeth i ddangos bod yr eithriad yn berthnasol fel rhan o’r broses gofrestru.

35. Yr eithriadau sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i’r sector cyfryngau yw’r eithriad ar gyfer lle byddai cyhoeddi yn rhoi unigolyn mewn perygl o niwed difrifol a lle byddai’n cynnwys datgelu gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am yr eithriadau eraill i gyhoeddi yn y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus.

36. Ni fydd risgiau sydd o natur hollol ddamcaniaethol heb dystiolaeth i’w cefnogi yn bodloni’r trothwy i’r eithriad hwn fod yn berthnasol. Er enghraifft, ni fyddai risg ddamcaniaethol y gallai adnabod unigolyn drwy’r gofrestr gyhoeddus arwain at aflonyddu arnynt yn ddigonol, pe na bai unrhyw dystiolaeth o aflonyddu’n digwydd i’r unigolyn hwnnw, unigolion sy’n perthyn i’r un grŵp, neu unigolion sy’n cyflawni gweithgareddau tebyg wedi’i nodi.

Gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol

37. Dylai cyrff cyfryngau sy’n credu bod yr eithriad ar gyfer gwybodaeth sensitif yn fasnachol yn berthnasol ddarparu tystiolaeth wrth gyflwyno eu cofrestriad i ddangos:

  • Mae gwybodaeth a fyddai’n cael ei chyhoeddi yn gyfrinachol; a

  • Mae’n debygol iawn y bydd ei chyhoeddi’n niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn neu endid o ddifrif.

38. Ystyrir bod gwybodaeth yn gyfrinachol os:

  • Nid yw’n hysbys yn gyffredinol i unigolion allanol i’ch sefydliad, nac ar gael iddynt, oni bai bod angen iddynt gael mynediad at y wybodaeth i gyflawni eu rolau (fel y gall fod yn wir gyda rhai contractwyr neu bartneriaid ymchwil); a

  • Mae’n destun mesurau i’w hatal rhag cael ei datgelu y tu allan i’r cylchoedd caeedig hyn (er enghraifft, cyfyngiadau mynediad yn yr ardal lle mae’r wybodaeth yn cael ei storio; neu gytundebau contractiol sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth).

39. Er mwyn i’r eithriad hwn fod yn gymwys, rhaid bod cysylltiad clir rhwng cyhoeddi a niwed i fuddiannau masnachol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, lle mae manylion penodol a fyddai’n cael eu cyhoeddi a fyddai’n fanteisiol iawn i gystadleuydd.

40. Er y bydd y dystiolaeth sy’n dderbyniol i ddangos eithriad yn amrywio ym mhob achos, gellid darparu’r mathau canlynol o dystiolaeth (os yw’n briodol ac yn berthnasol):

  • Copïau o Gytundebau Dim Datgelu neu fanylion rhwymedigaethau cytundebol,

  • Ceisiadau patent neu ddogfennau diogelu eiddo deallusol eraill,

  • Asesiadau arbenigol o werth masnachol y wybodaeth.

41. Nid yw risg o niwed i enw da o ganlyniad i gyhoeddi, ynddo’i hun, yn golygu bod yr eithriad i gyhoeddi yn berthnasol. Byddai angen darparu tystiolaeth ynghylch sut y byddai cyhoeddi yn achosi’r niwed hwnnw i enw da a sut y byddai’n niweidio buddiannau masnachol y sefydliad yn ddifrifol.

Diogelwch unigolion

42. Gall yr eithriad hwn fod yn berthnasol, yn benodol, i’r rhai sy’n adrodd ar faterion hawliau dynol, lle gallai nhw, eu teuluoedd neu eu cydweithwyr gael eu rhoi mewn perygl yn eu mamwlad o ganlyniad i ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus, neu lle gallai cyhoeddi arwain at fygythiad marwolaeth neu fygythiad o anaf sy’n peryglu bywyd. Gall rhai risgiau iechyd meddwl gyrraedd trothwy niwed difrifol, er enghraifft, lle gallai cyhoeddi arwain at orfodaeth, aflonyddu neu stelcio.

43. Mae’r eithriad yn berthnasol lle mae’r risg o niwed yn berthnasol i unrhyw unigolyn - mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y cofrestrai, unrhyw unigolion eraill a enwir yn y gofrestriad, neu eu teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Gall hyn gynnwys bygythiad i bobl dramor.

44. Dylai tystiolaeth i gefnogi’r eithriad hwn, lle bo modd, gynnwys tystiolaeth o risg i unigolyn a enwir. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gall tystiolaeth o risgiau i grŵp penodol yn deillio o weithgareddau tebyg yn y gorffennol fod yn dystiolaeth ategol dderbyniol.

45. Gallai tystiolaeth dderbyniol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y canlynol:

  • rhif digwyddiad yr heddlu os yw ymosodiad blaenorol wedi digwydd;

  • tystiolaeth ddogfennol o fygythiad neu ymosodiad, fel lluniau neu recordiadau;

  • enghreifftiau o amgylchiadau lle mae unigolion sy’n perthyn i’r un grŵp neu sy’n cyflawni gweithgareddau tebyg wedi bod yn destun risgiau diogelwch personol (gallai hyn gynnwys adroddiadau newyddion am yr amgylchiadau hyn);

  • tystiolaeth o gyflogaeth mewn sefydliad (er enghraifft, sefydliad hawliau dynol) sy’n rhoi unigolyn mewn perygl penodol;

  • tystiolaeth o feddu ar nodwedd benodol neu berthyn i grŵp penodol (er enghraifft, grŵp crefyddol) sy’n eich rhoi chi mewn perygl penodol.

46. Mae’n bosibl y gellid defnyddio esboniadau yn unig, heb dystiolaeth ddogfennol, i ddangos bod yr eithriad hwn yn berthnasol. Fodd bynnag, byddai angen i’r esboniad ddarparu digon o fanylion i ddangos lefel y risg, y person neu’r mathau o berson a fyddai’n cael eu rhoi mewn perygl, natur y niwed a allai gael ei achosi a pham y gallai cyhoeddi arwain at y niwed hwn.

Adran 6: Materion ychwanegol sy’n berthnasol i’r sector

Deunydd newyddiadurol cyfrinachol

47. Lle mae angen cofrestru, ni fydd yn ofynnol i gofrestreion ddatgelu “deunydd newyddiadurol cyfrinachol” (fel y’i diffinnir gan adran 264 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016) na nodi neu gadarnhau ffynhonnell gwybodaeth newyddiadurol (fel y’i diffinnir gan adran 263 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016). Nid oes gofyn i gofrestreion ddarparu’r wybodaeth hon hyd yn oed pe bai’n ateb naturiol i gwestiwn ar y ffurflen gofrestru neu ar hysbysiad gwybodaeth.

48. Mae deunydd yn gyfystyr â “deunydd newyddiadurol cyfrinachol” os yw’n cael ei gadw’n gyfrinachol ac os yw wedi’i greu neu ei gaffael at ddibenion newyddiaduraeth. Mae’n cynnwys deunydd sydd wedi’i anfon at rywun arall, ar yr amod bod yr anfonwr yn bwriadu i’r derbynnydd gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol

49. Ystyrir bod deunydd yn cael ei gadw’n gyfrinachol os yw naill ai:

a) mae’r person yn ei ddal yn amodol ar ymrwymiad penodol neu ymhlyg i’w ddal yn gyfrinachol (er enghraifft, cytundeb peidio â datgelu ffurfiol neu delerau cyfeirio anffurfiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei dal yn gyfrinachol), neu

b) mae’r person yn ei ddal yn amodol ar gyfyngiad cyfreithiol ar ddatgelu neu rwymedigaeth gyfreithiol o gyfrinachedd sydd wedi’i chynnwys mewn deddfiad (er enghraifft, os oes deddf ar waith sy’n nodi na chaniateir datgelu deunydd o’r math hwn).

50. Mae “ffynhonnell gwybodaeth newyddiadurol” yn unigolyn sy’n darparu deunydd gyda’r bwriad i’r derbynnydd ei ddefnyddio at ddibenion newyddiaduraeth neu gan wybod ei bod yn debygol y caiff ei ddefnyddio felly.

Astudiaeth achos (yn seiliedig ar enghraifft 4 o adran 3)

Er y byddai’n ofynnol i bapur newydd y DU gofrestru a darparu manylion y trefniant gyda llysgenhadaeth Gwlad X yn y DU a’u gweithgareddau, ni fyddai’n ofynnol iddynt ddatgelu wrth gofrestru unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan y llysgenhadaeth at ddibenion newyddiadurol ac a fwriadwyd i’w chadw’n gyfrinachol. Ni fyddai’n ofynnol i bapur newydd y DU ddarparu unrhyw fanylion am yr unigolyn o fewn y llysgenhadaeth a roddodd y wybodaeth hon iddynt chwaith.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod papur newydd y DU wedi’i esemptio rhag cofrestru. Byddai’n dal yn ofynnol iddynt ddarparu disgrifiad o’u trefniant gyda’r llysgenhadaeth ac o’r gweithgareddau y maent i’w cyflawni, gan hepgor y manylion a oedd yn gyfystyr â “deunydd newyddiadurol cyfrinachol”.