Sector-specific guidance on the Foreign Influence Registration Scheme: defence and security (Welsh accessible)
Updated 1 July 2025
Canllawiau Penodol i’r Sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS): Amddiffyn a Diogelwch
Ebrill 2025
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk.
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/foreign-influence-registration-scheme Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk
Rhestr termau allweddol
FIRS
Cynllun Cofrestru Gweithgareddau Tramor a Dylanwad Tramor FIRS. Y Cynllun a gyflwynwyd trwy Ran 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Trefniant
Unrhyw fath o gytundeb, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Gallai gynnwys contract, memorandwm dealltwriaeth (MOU) neu gytundeb neu drefniant anffurfiol quid pro quo.
Pŵer tramor
Mae ganddo’r ystyr a roddir gan Adran 32 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yn adran 1.
Gweithgareddau dylanwad gwleidyddol
Cyfathrebiad, cyfathrebiad cyhoeddus neu ddarpariaeth o arian, nwyddau neu wasanaethau gyda’r bwriad o ddylanwadu ar fater gwleidyddol.
Pŵer tramor penodedig
Pŵer tramor sydd wedi’i bennu trwy reoliadau o dan haen well FIRS.
Gweithgaredd perthnasol
Math o weithgaredd o fewn cwmpas cofrestru o dan haen well FIRS.
Esemptiad rhag cofrestru
Amgylchiad lle nad yw gofynion cofrestru yn berthnasol. Mae manylion pellach yn adran 4.
Eithriad i gyhoeddi
Amgylchiad lle na fydd gwybodaeth a gofrestrwyd o dan FIRS yn cael ei chyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth yn adran 5.
Cofrestrai
Person y mae’n ofynnol iddo gofrestru o dan FIRS.
Hysbysiad gwybodaeth
Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â threfniadau neu weithgareddau y gellir eu cofrestru o dan FIRS.
Ynglŷn â’r Canllawiau hyn
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer y sector amddiffyn a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gwmnïau amddiffyn sydd â chysylltiadau agos â phŵer tramor, yr eithriad “Trefniant Cyrff Coron y DU” yng nghyd-destun amddiffyn a’r amgylchiadau lle gall eithriadau i gyhoeddi fod yn berthnasol am resymau diogelwch cenedlaethol.
Bwriad y ddogfen yw galluogi dealltwriaeth o sut mae gofynion y cynllun yn berthnasol yng nghyd-destun y sector. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion y cynllun yn fwy cyffredinol yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a’r canllawiau ar yr haen uwch. Cynhyrchwyd canllawiau ar wahân hefyd ar y pwerau tramor a’r endidau a reolir gan bwerau tramor a bennir o dan yr haen uwch.
Bwriad y canllawiau hyn yw egluro gofynion allweddol cynllun FIRS, sydd wedi’u cynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb y rhai sydd o fewn cwmpas y cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol eu hunain.
Mae’r DU yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu a chydweithredu tryloyw â phwerau tramor. Mae’r rhai sy’n cofrestru’n llawn ac yn gywir yn cefnogi gwydnwch y DU a’i sefydliadau yn wyneb bygythiadau gan wladwriaethau. Nid yw cofrestru trefniant neu weithgaredd ynddo’i hun yn golygu ei fod o reidrwydd yn anghyfreithlon neu’n annymunol. Nid yw FIRS yn atal unrhyw weithgaredd rhag digwydd; cyn belled â bod y trefniadau’n dryloyw, gall gweithgareddau cysylltiedig fynd rhagddynt fel arfer.
Adran 1: Trosolwg o’r gofynion
1. Mae gofynion y cynllun wedi’u rhannu’n ddwy haen:
-
Yr haen dylanwad gwleidyddol, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau gydag unrhyw bŵer tramor (ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon) i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU;
-
Yr haen uwch, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru trefniadau i gynnal set ehangach o weithgareddau ond dim ond gyda’r pwerau tramor neu endidau a reolir gan bwerau tramor sydd wedi’u pennu mewn rheoliadau
Haen Dylanwad Gwleidyddol
2. Mae’n ofynnol i unigolion a sefydliadau gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol os cânt eu cyfarwyddo gan bŵer tramor i gynnal, neu drefnu i eraill gynnal, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.
3. Pŵer tramor yw unrhyw un o’r canlynol:
a) pennaeth sofran neu bennaeth arall Gwladwriaeth dramor,
b) llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, gweinidogaeth neu adran llywodraeth dramor);
c) asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor,
d) awdurdod sy’n gyfrifol am weinyddu materion ardal o fewn gwlad neu diriogaeth dramor (er enghraifft, awdurdod llywodraeth leol mewn gwlad dramor);
e) plaid wleidyddol sy’n blaid wleidyddol lywodraethol llywodraeth dramor.
4. Dim ond lle mae “cyfarwyddyd” gan bŵer tramor i weithredu y mae gofynion cofrestru yn berthnasol. Nid yw cefnogaeth gan bŵer tramor sy’n galluogi gweithgareddau i ddigwydd (er enghraifft, trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau dylanwad gwleidyddol) ynddo’i hun yn sbarduno gofyniad cofrestru.
5. Mae gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cynnwys rhai gweithgareddau cyfathrebu, gweithgareddau cyfathrebu cyhoeddus neu ddarparu arian, nwyddau neu wasanaethau, lle bwriedir iddynt ddylanwadu ar unrhyw un o’r canlynol:
-
Etholiad neu refferendwm yn y DU;
-
Penderfyniad Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth (gan gynnwys Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon);
-
Trafodion plaid wleidyddol gofrestredig yn y DU (megis eu hymrwymiadau maniffesto);
-
Aelod o Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban neu Senedd Cymru (wrth weithredu yn rhinwedd eu swydd fel y cyfryw)).
6. Gallai gweithgareddau dylanwad gwleidyddol mewn cyd-destun amddiffyn gynnwys:
-
Cyfarfod ag uwch was sifil i ddylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth sy’n ymwneud â seiberddiogelwch;
-
Llythyr at aelod seneddol sy’n ceisio eu hannog i bleidleisio yn erbyn gwelliannau a gynigiwyd i ddeddfwriaeth amddiffyn a diogelwch;
-
Erthygl a gyhoeddwyd i gynulleidfa yn y DU yn cynnig newidiadau polisi i wella amddiffyn neu ddiogelwch y DU (lle nad yw’n cael ei gwneud yn glir bod yr erthygl hon wedi’i chyhoeddi ar gyfarwyddyd y pŵer tramor perthnasol)).
7. Rhaid cofrestru trefniadau o dan yr haen dylanwad gwleidyddol o fewn 28 diwrnod calendr i’r trefniant gael ei wneud. Gall gweithgareddau ddigwydd o fewn y ffenestr 28 diwrnod honno heb gofrestru ymlaen llaw.
8. Y gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofynion yr haen dylanwad gwleidyddol yw 2 flynedd o garchar.
9. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen hon yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol.
Haen Uwch
10. Mae’n ofynnol i unigolion a sefydliadau gofrestru o dan yr haen uwch os cânt eu cyfarwyddo gan bŵer neu endid tramor penodedig i gynnal, neu drefnu i eraill gynnal, ystod ehangach o “weithgareddau perthnasol” yn y DU. Mae’n ofynnol hefyd i endidau penodedig a reolir gan bwerau tramor gofrestru unrhyw “weithgareddau perthnasol” y maent yn eu cynnal eu hunain yn y DU.
11. Mae canllawiau ar wahân wedi’u cynhyrchu sy’n nodi’r pwerau tramor a’r endidau a reolir gan bwerau tramor a bennir o dan yr haen uwch. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn darparu rhagor o fanylion am y “gweithgareddau perthnasol” y mae angen cofrestru amdanynt.
12. Dim ond pan fo “cyfarwyddyd” gan bŵer tramor penodedig, neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor, i weithredu y mae gofynion cofrestru yn berthnasol. Nid yw cymorth gan bŵer tramor ar gyfer gweithgareddau (er enghraifft, trwy ddarparu cyfleusterau neu offer) ynddo’i hun yn sbarduno gofyniad cofrestru.
13. Gallai gweithgareddau “perthnasol” yng nghyd-destun y sector amddiffyn a diogelwch gynnwys:
-
Cynhyrchu neu werthu arfau ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodol a reolir gan bŵer tramor;
-
Ymchwil ar alluoedd synhwyrydd ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodol a reolir gan bŵer tramor;
-
Ymgysylltu â lluoedd arfog y DU ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodedig neu endid penodol a reolir gan bŵer tramor.
14. Mae cofrestru trefniadau o dan yr haen uwch yn ofynnol o fewn 10 diwrnod calendr i’r trefniant gael ei wneud, a chyn cynnal gweithgareddau. Mae’n drosedd cynnal gweithgareddau perthnasol o dan drefniant cofrestradwy heb i’r trefniant gael ei gofrestru yn gyntaf.
15. Y gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofynion yr haen uwch yw 5 mlynedd o garchar.
16. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen hon yn y canllawiau ar yr haen uwch.
Manylion pellach am ofynion cofrestru
17. O dan y ddau haen, mae cofrestru yn ofynnol gan yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud y trefniant cofrestradwy gyda’r pŵer tramor, pŵer tramor penodedig neu endid a reolir gan bŵer tramor. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yn adran 6.
18. Dim ond pan gaiff ei gynnal yn y DU y gellir cofrestru gweithgaredd. O’r herwydd, ni fyddai angen cofrestru unrhyw weithgareddau a gynhelir dramor. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai angen i unigolyn neu sefydliad tramor gofrestru os ydynt yn cynnal gweithgareddau yn y DU, neu’n trefnu i weithgareddau gael eu cynnal yn y DU.
19. Mae cofrestru yn broses syml ac rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o gofrestreion yn cydymffurfio â’r gofynion trwy’r gwasanaeth cofrestru ar-lein FIRS pwrpasol.
Gofynion pellach
20. Lle bo newid sylweddol i drefniant cofrestredig, rhaid diweddaru’r wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru o fewn 14 diwrnod calendr, gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r newid yn dod i rym.
21. Mae’r cynllun hefyd yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi hysbysiadau gwybodaeth i’r rhai sydd wedi cofrestru, neu eraill y credir eu bod yn ymwneud â threfniadau neu weithgareddau cofrestradwy. Rhaid i dderbynwyr hysbysiadau gwybodaeth ymateb gyda’r wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad erbyn y dyddiad a bennir. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yn y canllawiau ar hysbysiadau gwybodaeth.
Adran 2: Enghreifftiau o drefniadau cofrestradwy ac anghofrestradwy
Haen Wleidyddol
Enghraifft 1 (angen cofrestru)
Mae cwmni diogelwch ac awyrofod yn ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Gwlad A. Fel rhan o’r contract, mae’r cwmni’n cytuno i lobïo uwch weision sifil yn y Weinyddiaeth Amddiffyn i hyrwyddo defnyddio technoleg newydd i wella cywirdeb mewn jetiau ymladd y DU. Mae’r cwmni’n mynychu sioe awyr ryngwladol yn y DU ac, ar ymylon y digwyddiad, yn cysylltu ag uwch was sifil yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y DU i dynnu sylw at fanteision y dechnoleg newydd.
Mae’n ofynnol i’r cwmni diogelwch ac awyrofod gofrestru. Mae mewn trefniant gyda Llywodraeth Gwlad A (pŵer tramor) lle mae ganddynt gontract (cyfarwyddyd) i lobïo uwch weision sifil i hyrwyddo defnyddio technoleg newydd mewn jetiau ymladd y DU (gweithgaredd dylanwad gwleidyddol). Nid oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol..
Enghraifft 2 (angen cofrestru
Mae Llywodraeth Gwlad B yn cysylltu â Phrif Swyddog Gweithredol cwmni hedfanaeth ac amddiffyn sydd wedi’i leoli yng Ngwlad B. Mae Llywodraeth Gwlad B yn gofyn iddynt ddefnyddio cysylltiadau yn Llywodraeth y DU i gynyddu cydweithrediad seiberddiogelwch rhwng y ddwy wlad, gan gynnig cyllid ychwanegol i’r cwmni os ydynt yn llwyddo i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Yna, mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn cyfarfod ag ymgynghorwyr arbennig y DU a gweision sifil uwch gan amlinellu’r galluoedd y gall y cwmni eu cynnig ac yn amlinellu cynnig ar gyfer mwy o gydweithrediad a ffyrdd posibl y gallai Llywodraeth y DU dargedu ei chyllid mewn seiberddiogelwch. Mae cyfres o e-byst a chyfarfodydd yn dilyn.
Mae’n ofynnol i’r cwmni hedfanaeth ac amddiffyn gofrestru. Mae mewn trefniant â Llywodraeth Gwlad B (pŵer tramor) lle gofynnir iddynt, gyda chynnig o gyllid ychwanegol ar ôl cydymffurfio (cyfarwyddyd), gyfathrebu ag uwch gysylltiadau Llywodraeth y DU i ddylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth sy’n ymwneud â chydweithrediad seiberddiogelwch (gweithgareddau dylanwad gwleidyddol). Nid oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Enghraifft 3 (nid oes angen cofrestru
Mae cwmni amddiffyn o Wlad C yn gyflenwr offer ar gyfer lluoedd arfog y DU. Er mwyn gwerthu ei nwyddau i’r DU, mae’n gwneud cais am drwydded allforio gan Lywodraeth Gwlad C. Mae’r drwydded allforio yn cael ei chymeradwyo ag amodau ynghylch telerau’r allforio. Yna mae’r cwmni amddiffyn yn ymgysylltu ag uwch was sifil yn y Weinyddiaeth Amddiffyn i esbonio sut y gallai’r cwmni gefnogi hyfforddiant y lluoedd arfog yn yr offer (a cheisio dylanwadu ar benderfyniad posibl gan y Weinyddiaeth sy’n ymwneud â rhaglenni hyfforddi milwrol).
Nid oes angen i’r cwmni amddiffyn gofrestru. Er eu bod yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, nid ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan bŵer tramor. Nid yw cymeradwyo trwydded allforio gan bŵer tramor yn gyfystyr â chyfarwyddyd i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol.
Haen Uwch
Enghraifft 4 (angen cofrestru) (cyfarwyddyd gan bŵer tramor penodedig):
Mae Llywodraeth Gwlad D wedi’i nodi o dan yr haen uwch, gyda’r holl weithgareddau’n ffurfio “gweithgareddau perthnasol”. Mae llysgenhadaeth Gwlad D yn y DU yn ymrwymo i gontract gyda chwmni amddiffyn yn y DU i gynnal ymchwil i sut y gellir addasu tanciau i weithredu’n well mewn tir anodd.
Mae’n ofynnol i’r cwmni amddiffyn gofrestru. Maent mewn trefniant gyda llysgenhadaeth Gwlad D yn y DU (pŵer tramor penodedig) lle maent wedi llofnodi contract (cyfarwyddyd) i gynnal prosiect ymchwil yn y DU (gweithgaredd perthnasol). Nid oes unrhyw esemptiadau’n berthnasol.
Enghraifft 5 (nid oes angen cofrestru) (dim cyfarwyddyd gan bŵer tramor penodol):
Mae cwmni awyrofod yn y DU yn trefnu cynhadledd yn y DU ar dechnolegau AI sy’n dod i’r amlwg a’u defnydd mewn awyrofod. Maent yn gwahodd cyflogeion y Weinyddiaeth Wyddoniaeth a Thechnoleg o Wlad F, sydd wedi’i phennu o dan yr haen uwch, i fynychu’r gynhadledd ac yn noddi eu fisâu yn y DU.
Nid oes angen i’r cwmni awyrofod gofrestru. Er eu bod yn noddi’r fisâu, nid ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan bŵer neu endid tramor penodol.
Adran 3: Senarios cyffredin sy’n effeithio ar y sector amddiffyn a diogelwch
Mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth
22. Nid yw perchnogaeth, cyllid na dull arall o reoli gan bŵer tramor ynddo’i hun yn sbarduno gofyniad cofrestru ar gyfer menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth, ac nid yw’n gwneud menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn bŵer tramor. Dim ond os yw’n cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus (er enghraifft, gweithredu safleoedd milwrol) y byddai endid yn cael ei ystyried yn bŵer tramor, ond nid swyddogaethau sy’n fasnachol yn bennaf (er enghraifft, cynhyrchu neu werthu arfau).
23. Dim ond os yw’n cael ei gyfarwyddo gan bŵer tramor i gynnal, neu drefnu, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU y byddai’n ofynnol i fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth gofrestru o dan yr haen ddylanwad gwleidyddol.
24. Dim ond os yw naill ai:
-
Mae’n endid penodedig a reolir gan bŵer tramor ei hun ac mae’n cynnal gweithgareddau perthnasol yn y DU; neu
-
Mae’n cael ei gyfarwyddo gan bŵer tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor i gynnal gweithgareddau perthnasol yn y DU.
25. Pan fydd menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cynnal gweithgareddau y mae’n penderfynu arnynt ei hun, heb gyfarwyddyd gan bŵer tramor, nid oes angen cofrestru.
Enghraifft 6 (haen dylanwad gwleidyddol) (nid oes angen cofrestru)
Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU yn gwahodd cwmnïau amddiffyn i gynnig am gontract i adnewyddu fflyd o awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol. Mae cwmni sy’n eiddo rhannol i Lywodraeth Gwlad D, ond mae ei weithrediad o ddydd i ddydd yn annibynnol ar y llywodraeth, yn cyflwyno cynnig am y contract. Mae Prif Swyddog Gweithredol y cwmni hefyd yn gwahodd Ysgrifennydd Gwladol y DU i ginio ac yn cyflwyno’r achos pam y dylid dyfarnu’r tendr i’w cwmni.
Nid oes angen i’r cwmni gofrestru. Er bod y cwmni’n eiddo i bŵer tramor ac yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol, mae ei weithrediad o ddydd i ddydd yn annibynnol ar y pŵer tramor ac nid yw’r pŵer tramor wedi’i gyfarwyddo i gynnig am y contract, na chyfathrebu ag Ysgrifennydd Gwladol y DU.
Partneriaethau â mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth (y ddwy haen)
26. Nid oes rhaid i’r rhai sy’n cael eu cyfarwyddo gan fentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU gofrestru. Dim ond pe baent yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan bŵer tramor y byddai’n rhaid iddynt gofrestru o dan yr haen dylanwad gwleidyddol.
27. Lle mae pŵer tramor wedi’i bennu o dan yr haen uwch, nid yw hynny’n golygu bod pob endid sy’n eiddo i’r pŵer tramor hwnnw hefyd wedi’i bennu. Dim ond pe baent wedi’u henwi fel endid penodedig a reolir gan bŵer tramor y byddai’r endidau hyn yn cael eu hystyried yn benodedig. Felly, dim ond pe bai’r endidau eu hunain wedi’u pennu y byddai’n rhaid i’r rhai sy’n cynnal gweithgareddau perthnasol yn y DU ar gyfarwyddyd menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth gofrestru.
28. Fodd bynnag, lle mae rhywun yn gwybod neu mae’n rhesymol y dylai wybod eu bod yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy (er enghraifft, trefniant rhwng pŵer tramor a chwmni sy’n eiddo i’r wladwriaeth), yna dylent wirio bod y trefniant wedi’i gofrestru. Gallai hyn fod yn wir pe bai, er enghraifft, rhywun wedi’i gyfarwyddo gan gwmni sy’n eiddo i’r wladwriaeth i gynnal gweithgareddau sydd yn bennaf er budd pŵer tramor.
Enghraifft 7 (haen dylanwad gwleidyddol)
Mae cwmni amddiffyn o Wlad A mewn cytundeb hirdymor â Gweinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol Gwlad A i negodi er budd amddiffyn Gwlad A, gyda bonysau cyflogeion y cwmni yn cael eu cytuno a’u talu gan y Weinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol. Mae’r cysylltiadau agos rhwng y cwmni a’r Weinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi’n eang a’u cydnabod ar wefan y cwmni ei hun. Mae’r cwmni’n ymrwymo i gontract â chwmni lobïo yn y DU, sy’n cytuno i gyfathrebu ag uwch weision sifil y DU yn y Weinyddiaeth Amddiffyn i gyflwyno’r achos dros i fyddin y DU ddarparu hyfforddiant i luoedd arfog Gwlad B, cynghreiriad agos i Wlad A.
Mae’n ofynnol i’r cwmni amddiffyn gofrestru. Maent mewn trefniant â Gweinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol Gwlad A (pŵer tramor), gyda bonysau cyflogeion y cwmni yn cael eu talu gan y Weinyddiaeth (cyfarwyddyd), i gyfathrebu ag uwch weision sifil i ddylanwadu ar benderfyniad llywodraeth (gweithgareddau dylanwad gwleidyddol). Nid oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.
Nid oes angen i’r cwmni lobïo gofrestru, gan nad ydynt mewn trefniant uniongyrchol â phŵer tramor. Fodd bynnag, o ystyried eu bod yn gweithredu er budd y pŵer tramor a byddai disgwyl iddynt wybod am y cysylltiad rhwng y cwmni a’r Weinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol, dylent wirio bod y cwmni amddiffyn wedi cofrestru cyn cynnal y gweithgareddau dylanwad gwleidyddol neu fel arall gallent fod yn cyflawni trosedd.
Adran 4: Esemptiadau rhag cofrestru
29. Mae esemptiadau rhag cofrestru yn berthnasol i:
-
Trefniadau corff coron y DU (y ddwy haen);
-
Pwerau tramor yn gweithredu’n agored (y ddwy haen);
-
Aelodau o’r teulu diplomyddol (y ddwy haen);
-
Gweithgareddau cyfreithiol a gyflawnir gan gyfreithiwr (y ddwy haen);
-
Cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig (haen dylanwad gwleidyddol yn unig);
-
Cronfeydd cyfoeth sofran sy’n cyflawni gweithgareddau sy’n gysylltiedig â buddsoddi (haen dylanwad gwleidyddol yn unig);
-
Gweithgareddau sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi cenadaethau diplomyddol (haen uwch yn unig);
-
Trefniadau corff cyhoeddus y DU (haen uwch yn unig);
-
Ysgoloriaethau a darparwyr addysg (haen uwch yn unig);
-
Prosesau gweinyddol y llywodraeth (haen uwch yn unig).
30. Yn ogystal â’r esemptiadau hyn, ni fyddai angen cofrestru unrhyw weithgareddau cyfathrebu cyhoeddus lle mae’n rhesymol glir bod y gweithgaredd wedi’i wneud ar gyfarwyddyd pŵer tramor o dan yr haen dylanwad gwleidyddol, oherwydd ni fyddent yn bodloni’r diffiniad o “weithgaredd dylanwad gwleidyddol”. Felly, ni fyddai angen cofrestru unrhyw ymchwil gyhoeddedig a fwriadwyd i ddylanwadu ar broses wleidyddol o dan yr haen dylanwad gwleidyddol, pe bai’n glir ar yr adroddiad ymchwil ei fod wedi’i gwblhau fel rhan o drefniant gyda phŵer tramor. Efallai y bydd angen cofrestru o hyd o dan yr haen uwch, os caiff ei gynnal ar gyfarwyddyd pŵer tramor penodol neu endid penodol a reolir gan bŵer tramor.
31. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am yr holl esemptiadau yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol neu’r canllawiau ar yr haen uwch.
Pwerau Tramor
32. Mae sefydliadau amddiffyn a diogelwch sy’n bodloni’r diffiniad o “bŵer tramor” yn elwa o’r esemptiad ar gyfer pwerau tramor (gweler paragraff 2 o Atodlen 15 i Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023). Gall hyn fod yn wir os yw’r sefydliad yn rhan o lywodraeth dramor, neu’n asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor. Gellir ystyried endid yn “asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor” os yw’r endid yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ar ran y llywodraeth (er enghraifft, gweithredu safleoedd milwrol o fewn y wlad).
33. Fodd bynnag, nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol lle mae sefydliad sy’n bodloni’r diffiniad o bŵer tramor yn gwneud camliwiad am eu gweithgareddau neu’r gallu y maent yn gweithredu ynddo.
34. Gallai sefydliad fodloni’r diffiniad hwn o bŵer tramor mewn perthynas â’i holl weithgareddau neu rai ohonynt yn unig. Er enghraifft, os yw cwmni milwrol yn darparu gwasanaethau ar ran llywodraeth yn un o nifer o feysydd gweithgaredd. Efallai y bydd angen i’r sefydliad gofrestru os yw’n gweithredu ar gyfarwyddyd pŵer tramor y tu allan i’w rôl ei hun fel pŵer tramor.
Enghraifft 8 (mae esemptiad yn berthnasol):
Mae swyddog o’r Asiantaeth Rhwydwaith Seiber ac Amddiffyn (CNDA) o Wlad G, sy’n gyfrifol am greu a darparu atebion seiberddiogelwch ar gyfer seilwaith y wladwriaeth, yn cyfathrebu ag uwch swyddogion y DU, gan geisio dylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth y DU ar rannu data ar faterion seiberddiogelwch gyda Gwlad G.
Nid oes angen i’r Asiantaeth Rhwydwaith Seiber ac Amddiffyn gofrestru. Er bod hyn yn gyfystyr â gweithgaredd dylanwad gwleidyddol, mae’n asiantaeth llywodraeth dramor ac mae’n cynnal y gweithgaredd eu hunain, ac felly’n elwa o’r esemptiad.
Trefniadau Corff Coron y DU (y ddwy haen)
35. Nid oes angen cofrestru trefniadau pan fydd y Deyrnas Unedig yn rhan o’r trefniant hwnnw. Mae hyn yn cynnwys trefniadau lle mae unrhyw unigolyn sy’n gweithredu ar ran y Goron (er enghraifft, gwas sifil), neu unrhyw endid sydd â statws coron, yn rhan o’r trefniant.
36. Mae’r esemptiad yn berthnasol i drefniadau ffurfiol, fel rhaglenni Cydweithrediad Arfau Rhyngwladol a hefyd i drefniadau anffurfiol. Er enghraifft, byddai trefniant anffurfiol gyda Llywodraeth y DU i drafod a negodi telerau partneriaeth ffurfiol hefyd yn gyfystyr â threfniant y DU fel y’i diffinnir yn Atodlen 15 i Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023, y cyfeirir ato yma fel “trefniant corff coron y DU”.
37. Gall cwmnïau amddiffyn elwa o’r esemptiad os ydynt yn gweithredu yn unol â threfniant corff coron y DU, hyd yn oed os nad oeddent yn rhan o’r trefniant o’r cychwyn. Er enghraifft, byddai cwmni amddiffyn sy’n gweithredu yn unol â phartneriaeth amddiffyn ddwyochrog rhwng y DU a gwlad arall yn elwa o’r esemptiad.
Enghraifft 9 (mae esemptiad yn berthnasol):
Mae Llywodraeth y DU yn llofnodi cytundeb gyda dwy wlad arall, X ac Y, i adeiladu a gweithredu llongau tanfor ar y cyd. Mae gwlad X yn cyfarwyddo cwmni amddiffyn i fynychu cyfarfod gyda gweinidogion y DU i drafod manylion penodol y broses adeiladu.
Nid oes angen i’r cwmni amddiffyn gofrestru, gan fod Llywodraeth y DU yn rhan o’r trefniant hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cofrestru gweithgareddau eraill nad ydynt yn ymwneud â’r trefniant hwn y mae Llywodraeth y DU yn rhan ohonynt o hyd.
Enghraifft 10 (mae esemptiad yn berthnasol)
Mae menter sy’n eiddo i’r wladwriaeth yng Ngwlad C yn wneuthurwr arfau gwrth-longau tanfor ac yn gweithio’n agos iawn gyda Gweinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol Gwlad C. Mae’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth a Gweinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol Gwlad C yn cyfarfod ar y cyd ag uwch was sifil yng Ngweinyddiaeth Amddiffyn y DU i nodi’r manteision y gallai hyfforddiant ar y cyd rhwng llynges y DU a llynges Gwlad C eu dwyn, ac maent yn cyflwyno cynnig ar sut y gellid ei gyflwyno. Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol o’r berthynas rhwng y fenter a’r Weinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol, ar ôl llofnodi cytundeb dim datgelu yn cynnwys y ddwy ochr yn flaenorol.
Nid oes angen i’r fenter sy’n eiddo i’r wladwriaeth gofrestru. Er ei bod yn cynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol ynghyd â phŵer tramor, mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn amlwg yn ymwybodol o’r trefniant rhwng y fenter a’r pŵer tramor yn golygu eu bod yn gweithredu fel rhan o drefniant corff coron y DU.
Enghraifft 11 (mae esemptiad yn berthnasol)
Mae cwmni amddiffyn o Wlad D yn gweithredu o dan raglen gymorth milwrol a ddarperir gan Lywodraeth Gwlad D i genhedloedd sy’n gynghreiriaid, gan gynnwys y DU. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Gwlad D yn llofnodi cytundeb sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hon, ac yna mae’r cwmni amddiffyn yn ymwneud â darparu’r cymorth milwrol, sy’n cynnwys rhywfaint o gyfathrebu ag uwch aelodau’r lluoedd arfog i ddylanwadu ar sut mae hyfforddiant milwrol yn cael ei gynnal.
Nid yw’n ofynnol i’r cwmni amddiffyn gofrestru. Er y gallai eu cyfathrebiadau ag uwch aelodau’r lluoedd arfog fod yn weithgareddau dylanwad gwleidyddol, maent yn gweithredu yn unol â threfniant corff coron y DU, felly maent yn elwa o esemptiad.
Adran 5: Eithriadau i gyhoeddi
38. Bydd gwybodaeth benodol a gofrestrwyd sy’n ymwneud â threfniadau i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cael ei chynnwys ar gofrestr gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys trefniadau a gofrestrwyd o dan yr haen dylanwad gwleidyddol, yn ogystal ag unrhyw drefniadau a gofrestrwyd o dan yr haen uwch sy’n ymwneud â chynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol. Ni fydd cofrestriadau eraill o dan yr haen uwch (er enghraifft, y rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau ymchwil yn unig) yn cael eu cyhoeddi.
39. Ni chyhoeddir yr holl wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru. Gweler y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus am agor o fanylion.
40. Mae eithriadau i gyhoeddi yn berthnasol yn y senarios canlynol:
-
Lle mae risg y byddai cyhoeddi yn niweidio diogelwch neu fuddiannau’r DU.
-
Lle mae risg y byddai cyhoeddi yn niweidio atal neu ganfod troseddau, ymchwiliad troseddol neu achosion troseddol;
-
Lle mae risg sylweddol y byddai cyhoeddi yn peryglu diogelwch unrhyw unigolyn yn ddifrifol; neu
-
Lle byddai cyhoeddi yn golygu datgelu gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol.
41. Gall eithriadau i gyhoeddi fod yn berthnasol i gofrestriad cyfan (sy’n golygu nad oes unrhyw fanylion yn cael eu cyhoeddi) neu i wybodaeth benodol yn unig o fewn cofrestriad (sy’n golygu bod y gofrestriad yn cael ei gyhoeddi ond gyda’r wybodaeth honno wedi’i golygu).
42. Bydd cofrestreion sy’n credu bod eithriad i gyhoeddi yn berthnasol yn cael cyfle i ddarparu tystiolaeth i ddangos bod yr eithriad yn berthnasol ar ddiwedd y broses gofrestru.
43. Yr eithriadau sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i’r sectorau amddiffyn a diogelwch yw’r eithriadau ar gyfer lle byddai cyhoeddi yn niweidiol i ddiogelwch neu fuddiannau’r DU, neu lle byddai’n cynnwys datgelu gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am yr eithriadau eraill i gyhoeddi yn y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus.
Eithriad diogelwch neu fuddiannau’r DU
44. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol lle byddai cyhoeddi yn niweidiol i ddiogelwch neu fuddiannau’r DU. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y senarios canlynol:
-
Lle byddai cyhoeddi’n niweidiol i ddiogelwch cenedlaethol y DU (er enghraifft, pe bai’n datgelu manylion polisïau diogelwch cenedlaethol arfaethedig);
-
Lle byddai cyhoeddi’n niweidiol i fuddiannau amddiffyn (er enghraifft, pe bai’n datgelu manylion contractau arfau arfaethedig y Weinyddiaeth Amddiffyn);
-
Lle byddai cyhoeddi’n datgelu unrhyw wybodaeth gan Lywodraeth y DU sydd wedi’i marcio’n amddiffynnol.
Gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol
45. Dylai cyrff amddiffyn a diogelwch sy’n credu bod yr eithriad ar gyfer gwybodaeth sensitif yn fasnachol yn berthnasol ddarparu tystiolaeth wrth gyflwyno eu cofrestriad i arddangos:
-
Mae gwybodaeth a fyddai’n cael ei chyhoeddi yn gyfrinachol; a
-
Mae’n debygol iawn y bydd ei chyhoeddi’n niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn neu endid o ddifrif.
46. Ystyrir bod gwybodaeth yn gyfrinachol os:
-
Nid yw’n hysbys yn gyffredinol i unigolion allanol i’ch sefydliad, nac ar gael iddynt, oni bai bod angen iddynt gael mynediad at y wybodaeth i gyflawni eu rolau (fel y gall fod yn wir gyda rhai contractwyr, cyflenwyr neu bartneriaid busnes); a
-
Mae’n destun mesurau i’w hatal rhag cael ei datgelu y tu allan i’r cylchoedd caeedig hyn (er enghraifft, cyfyngiadau mynediad yn yr ardal lle mae’r wybodaeth yn cael ei storio; neu gytundebau contractiol sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth).
47. Er mwyn i’r eithriad hwn fod yn berthnasol, rhaid bod cysylltiad clir rhwng cyhoeddi a niwed i fuddiannau masnachol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, lle mae manylion penodol a fyddai’n cael eu cyhoeddi a fyddai’n fanteisiol iawn i gystadleuydd.
48. Mae enghreifftiau o fathau o wybodaeth y gellid eu hystyried yn sensitif yn fasnachol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
-
Uno a chaffael sydd ar y gweill;
-
Cyfrinachau masnach, patentau ac eiddo deallusol arall;
-
Dyfeisiadau, technolegau neu ganfyddiadau ymchwil newydd;
-
Prosesau, gweithdrefnau neu dechnegau manwl a ddefnyddir gan gwmni (er enghraifft, prosesau gweithgynhyrchu manwl);
-
Ryseitiau neu fformwlâu (fel yn y diwydiannau cemegol);
-
Cynlluniau ar gyfer datblygu cynhyrchion yn y dyfodol.
49. Gall rhai mathau o wybodaeth am gostau fodloni’r trothwy ar gyfer bodloni’r eithriad hwn, er enghraifft gwariant cyfalaf a threuliau gweithredu, ond dim ond lle gellir rhoi esboniad clir ynghylch sut y byddai’n niweidio buddiannau masnachol o ddifrif. Mae’r un peth yn wir am fathau eraill o ddata a gedwir gan gwmni, megis gwybodaeth am brisiau, rhestrau cyflenwyr a gwybodaeth am gleientiaid.
50. Gallai gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag ymarferion caffael (er enghraifft, cynigion tendr) mewn rhai amgylchiadau fodloni’r meini prawf i’r eithriad fod yn berthnasol. Er enghraifft, gallai gwybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol gan gwmni fel rhan o gynnig tendr niweidio eu buddiannau masnachol pe bai’n cael ei gyhoeddi oherwydd y gallai roi mantais i gystadleuwyr wrth wneud cynnig tebyg.
51. Yn yr un modd, gellid ystyried gwybodaeth, yn benodol, yn sensitif yn fasnachol yn y cyfnod cyn llofnodi contract ffurfiol. Fodd bynnag, mae angen tystiolaeth o hyd i ddangos y canlyniadau posibl o’r cyhoeddiad; er enghraifft, y potensial i gystadleuwyr fanteisio ar y ffaith eu bod yn gwybod bod contract yn cael ei lofnodi.
52. Nid yw risg o niwed i enw da yn digwydd o ganlyniad i gyhoeddi, ynddo’i hun, yn golygu bod yr eithriad i gyhoeddi yn berthnasol. Byddai angen darparu tystiolaeth ynghylch sut y byddai cyhoeddi’n achosi’r niwed i enw da a sut y byddai’n niweidio buddiannau masnachol y cwmni’n ddifrifol.
Adran 6: Ar bwy y mae’r gofynion cofrestru’n disgyn a chyfrifoldebau cyflogeion ac isgontractwyr sy’n cyflawni gweithgareddau
53. Lle bodlonir yr amodau ar gyfer cofrestru o dan y naill haen neu’r llall o FIRS, yr unigolyn neu’r sefydliad sydd yn y trefniant gyda’r pŵer tramor (haen dylanwad gwleidyddol) neu bŵer neu endid tramor penodedig (haen well) sy’n gorfod cofrestru (y cyfeirir ato fel “P” yn y ddeddfwriaeth).
54. Felly, lle mae sefydliad yn ffurfio trefniant cofrestradwy gyda phŵer tramor, y sefydliad sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol i gofrestru.
55. Nid oes rhaid i gyflogeion ac isgontractwyr y sefydliad neu eraill sy’n cyflawni gweithgareddau yn unol â’r trefniant cofrestradwy gofrestru, ond dylent wirio bod y trefniant wedi’i gofrestru cyn cyflawni eu gweithgareddau. Gellir gwneud hyn trwy ofyn am gadarnhad o’r cofrestriad gan y cofrestrai y gellir ei wirio wedyn trwy’r tîm rheoli achosion neu’r porth cofrestru.
56. Nid oes unrhyw ddyletswydd benodol ar unrhyw gyflogeion, isgontractwyr na phersonau eraill sy’n cyflawni gweithgareddau i gynnal diwydrwydd dyladwy yn rhagweithiol i bwy sy’n cyfarwyddo’r gweithgaredd. Yr allwedd yw a oes ganddyn nhw ffeithiau neu wybodaeth ar gael iddyn nhw sy’n awgrymu y gallen nhw fod yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy – ac os oes ganddyn nhw ffeithiau neu wybodaeth o’r fath, yna dylen nhw wirio ei bod wedi’i chofrestru.
57. Mae mesurau diogelu yn y ddeddfwriaeth i amddiffyn unigolion nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd o wybod eu bod nhw’n gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy. Er enghraifft, ni fyddai gan gyflogeion neu isgontractwyr sy’n ymgymryd â gwaith, heb wybod bod pŵer tramor neu bŵer neu endid tramor penodedig wedi cyfarwyddo’r gweithgareddau, unrhyw reswm i wybod eu bod nhw’n gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy. Mae mesurau diogelu tebyg hefyd lle mae’r person wedi cymryd pob cam rhesymol sydd ar gael iddyn nhw i wirio a yw’r trefniant wedi’i gofrestru ai peidio ac yn credu ei fod wedi’i gofrestru (gweler adran 67 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023). Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru (fel y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau) wedi’i nodi ar y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru a’r gofrestr gyhoeddus.
Astudiaeth achos 1 (haen dylanwad gwleidyddol):
Mae Llywodraeth Gwlad F yn cysylltu â chwmni seiberddiogelwch sydd wedi’i leoli yn y DU. Mae Llywodraeth Gwlad F yn gofyn i’r cwmni ddefnyddio cysylltiadau yn Llywodraeth y DU i gynyddu cydweithrediad seiberddiogelwch rhwng y ddwy wlad, gan gynnig cyllid ychwanegol i’r cwmni os ydynt yn llwyddo i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Mae’r cwmni’n llogi ymgynghorwyr llawrydd i gyflwyno i Lywodraeth y DU beth fyddai cydweithrediad seiberddiogelwch yn ei gynnig. Mae’r cwmni’n cynnal cyfarfod briffio gyda’r ymgynghorwyr, ac yn gwahodd Llywodraeth Gwlad F i’r cyfarfod hwn. Mae’r cwmni hefyd yn darparu deunydd hyrwyddo i’r ymgynghorwyr sy’n cynnwys Gwlad F, i’w ddefnyddio yn eu cyflwyniadau i Lywodraeth y DU.
Mae’n ofynnol i’r cwmni seiberddiogelwch gofrestru gan eu bod mewn trefniant cofrestradwy gyda’r pŵer tramor.
Nid oes angen i’r ymgynghorydd llawrydd gofrestru gan nad ydynt yn rhan uniongyrchol o’r trefniant cofrestradwy. Fodd bynnag, o ystyried eu bod yn ymwybodol o gyd-destun yr ymgyrch, ac wedi’u gwahodd i gyfarfod gyda’r pŵer tramor, dylent wybod yn rhesymol eu bod yn gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy. Felly, dylai’r ymgynghorwyr llawrydd wirio bod y cwmni seiberddiogelwch wedi cofrestru’r trefniant.
Astudiaeth achos 2 (haen uwch)
Mae cwmni hedfanaeth ac amddiffyn yn y DU yn llofnodi contract gyda phŵer tramor penodedig ac yn cytuno i gynnal cynhadledd yn y DU.
Mae’r cwmni hedfanaeth ac amddiffyn yn trefnu i gwmni arlwyo ddarparu lluniaeth yn y cyfarfod. Mae hwylusydd y gynhadledd yn rhoi’r teitl, yr amseroedd a nifer y mynychwyr yn y digwyddiad i’r cwmni arlwyo, ond nid oes unrhyw arwydd bod cynnal y gynhadledd wedi’i gyfarwyddo gan bŵer tramor penodedig.
Mae’n ofynnol i’r cwmni hedfanaeth ac amddiffyn gofrestru gan eu bod mewn trefniant cofrestradwy gyda’r pŵer tramor penodedig. Nid oes gofyn i’r cwmni arlwyo gofrestru gan nad ydynt yn rhan uniongyrchol o’r trefniant cofrestradwy. Nid oes ganddynt unrhyw reswm chwaith i wybod bod y digwyddiad wedi’i gyfarwyddo gan bŵer tramor penodedig, felly nid oes gofyn iddynt gymryd unrhyw gamau i gydymffurfio â FIRS.